Clefyd feirysol hynod heintus yw ffliw adar. Mae’n effeithio ar systemau anadlu, treulio a nerfol llawer o rywogaethau o adar.
Cynnwys
Y wybodaeth ddiweddaraf
O 16 Chwefror 2024, caniateir crynoadau o’r holl ddofednod ac adar caeth, ac eithrio adar Anseriforme (hwyaid, gwyddau, elyrch), ar yr amod eich bod yn:
- bodloni gofynion y drwydded gyffredinol crynoadau dofednod neu'r drwydded gyffredinol ar gyfer crynoadau adar caeth
- rhoi gwybod i'r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA) am y crynhoad o leiaf 7 diwrnod cyn y digwyddiad
Gallwch ddarganfod mwyyn nogfennau'r drwydded gyffredinol:
- Casgliadau adar: trwydded gyffredinol ar gyfer adar caeth
- Casgliadau adar: trwydded gyffredinol ar gyfer dofednod
Mae'r rhain yn cael eu hadolygu'n gyson.
Cafodd y Parth Atal Ffliw Adar (AIPZ) ei ddirymu ar 4 Gorffennaf 2023, ac nid yw bellach ar waith.
Mae ceidwaid adar yn cael eu cynghori i barhau i gwblhau’r rhestr wirio hunan-asesu bioddiogelwch. Bioddiogelwch digyfaddawd yw’r ffordd fwyaf effeithiol o reoli’r clefyd. Er bod y risg i adar caeth wedi gostwng, dylai pob ceidwad adar ddilyn mesurau bioddiogelwch llym ar bob adeg i atal y risg o’r clefyd yn dychwelyd yn y dyfodol. Dilynwch ein canllawiau: Bioddiogelwch ac atal afiechyd mewn adar caeth.
Rhowch wybod am amheuaeth
Cysylltwch â swyddfa leol yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA) ar unwaith ar 0300 303 8268 os ydych yn amau bod achos o Ffliw adar.
Bydd milfeddygon APHA yn ymchwilio i unrhyw achosion a amheuir.
Er mai clefyd adar yw ffliw adar, mewn achosion prin gall heintio pobl. Mae rhai mathau o ffliw adar yn lledaenu’n rhwydd a chyflym rhwng adar ac yn achosi cyfraddau marwolaethau uchel.
Mae’n rhaid i bawb sy’n cadw adar:
- barhau i gadw at y lefelau uchaf o fioddiogelwch
- bod yn wyliadwrus o unrhyw arwyddion o’r clefyd
Dylech gofrestru eich dofednod, hyd yn oed adar anwes, er mwyn i APHA gysylltu â chi pe bai achos o’r clefyd. Mae hyn yn ofyniad cyfreithiol os oes gennych 50 neu fwy o adar.
Arwyddion clinigol
Dyma rai o’r arwyddion clinigol:
- pen chwyddedig
- y gwddf yn troi’n las
- diffyg archwaeth
- anhawster i anadlu, er enghraifft: y pig led ar agor, peswch/tisian
- dolur rhydd
- dodwy llai o wyau
- cyfraddau marwolaethau yn cynyddu
Trosglwyddo ac atal
Er mai clefyd adar yw ffliw adar, mewn achosion prin gall heintio pobl. Mae rhai mathau o ffliw adar yn lledaenu’n rhwydd a chyflym rhwng adar ac yn achosi cyfraddau marwolaethau uchel.
Mae’n rhaid i bawb sy’n cadw adar:
- barhau i gadw at y lefelau uchaf o fioddiogelwch
- bod yn wyliadwrus o unrhyw arwyddion o’r clefyd
Dylech gofrestru eich dofednod (am gov.uk), hyd yn oed adar anwes, er mwyn i APHA gysylltu â chi pe bai achos o’r clefyd. Mae hyn yn ofyniad cyfreithiol os oes gennych 50 neu fwy o adar.
Cyngor ar Fioddiogelwch
Anogir pawb sy’n cadw adar i gynnal lefelau uchel o fioddiogelwch; boed mewn perthynas ag ychydig o adar anwes, neu haid fasnachol fawr.
I sicrhau lefelau uchel o fioddiogelwch, dylai pawb sy’n cadw dofednod:
- sicrhau bod cyn lleied o bobl â phosibl yn mynd a dod o’r mannau caeedig lle y cedwir adar
- glanhau a diheintio esgidiau gan ddefnyddio diheintydd a gymeradwyir gan y llywodraeth, a chadw’r mannau lle mae’r adar yn byw yn lân a thaclus
- sicrhau nad yw’r ardaloedd lle y cedwir yr adar yn ddeniadol i adar gwyllt, er enghraifft, drwy osod rhwydi dros byllau dŵr a rhwystro’r adar hynny rhag cyrraedd y ffynonellau bwyd
- cadw eich adar ar wahân a sicrhau nad oes ganddynt fynediad at ardaloedd lle mae adar eraill, yn arbennig gwyddau, hwyaid a gwylanod, yn bresennol
- rhoi bwyd a dŵr i’r adar mewn ardal gaeedig i osgoi denu adar gwyllt
- glanhau a diheintio cerbydau ac offer sy’n dod i gysylltiad â dofednod, a lleihau unrhyw halogiad sy’n bresennol drwy lanhau a diheintio ardaloedd concrît
- cadw golwg fanwl ar yr adar am unrhyw arwyddion o glefyd a sôn wrth eich milfeddyg neu APHA am unrhyw adar sy’n sâl neu am farwolaethau anesboniadwy
Y feirws Ffliw Adar Pathogenig Iawn (HPAI)
Mae’r risg o’r feirws HPAI (ffliw adar) yn cynyddu yn ystod y gaeaf. Rydym wedi nodi ei bod hi’n debygol mai adar y dŵr a gwylanod mudol sy’n gyfrifol am yr HPAI. (Mae adar y dŵr mudol yn cynnwys hwyaid, gwyddau ac elyrch.) Mae hyn yn seiliedig ar brofiad dros y ddau aeaf diwethaf, ynghyd â barn wyddonol a milfeddygol.
Deddfwriaeth
Mae’r ddeddfwriaeth ynghylch ffliw adar yng Nghymru ar wefan legislation.gov.uk yn cynnwys:
The Avian Influenza and Influenza of Avian Origin (Wales) (No. 2) Order 2006 (Saesneg yn unig)
Gorchymyn Ffliw Adar (Cymru) (Diwygio a Dirymu) 2022
The Avian Influenza (H5N1 in Wild Birds) (Wales) Order 2006 (Saesneg yn unig)
Gorchymyn Ffliw Adar (H5N1 mewn Adar Gwyllt) (Cynru) (Diwygio) 2021
Rheoliadau Ffliw Adar (Mesurau Atal) (Cymru) 2006
Rheoliadau Ffliw Adar (Brechu) (Cymru) (Rhif 2) 2006
Gorchymyn Clefydau Anifeiliaid (Diheintyddion a Gymeradwywyd) (Cymru) 2007
Gorchymyn Cludo Anifeiliaid (Glanhau a Diheintio) (Cymru) (Rhif 3) 2003
I gael rhagor o fanylion am ddeddfwriaeth ynghylch ffliw adar yn:
- Lloegr - gweler gwefan Llywodraeth y DU
- Yr Alban - gweler gwefan Llywodraeth yr Alban
- Gogledd Iwerddon - gweler gwefan DAERA-NI