Neidio i'r prif gynnwy

Defnyddiwch Bàs COVID y GIG i brofi eich bod chi wedi cael cwrs llawn y brechlyn neu wedi cael prawf negatif i fynd i ddigwyddiadau mawr, clybiau nos a lleoliadau tebyg.

Cyhoeddwyd gyntaf:
6 Hydref 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Os ydych am fynd i leoliadau mawrio mae'n rhaid ichi ddangos eich Pàs COVID y GIG i ddangos eich bod chi wedi cael cwrs llawn y brechlyn neu wedi cael prawf negatif.

Mae hyn yn berthnasol i:

  • glybiau nos a lleoliadau tebyg
  • lleoliadau dan do heb seddi, gyda mwy na 500 o bobl yn y gynulleidfa 
  • unrhyw leoliadau awyr agored neu dan do heb seddi gyda lle i fwy na 4,000 o bobl
  • unrhyw ddigwyddiad, o unrhyw fath, gyda mwy na 10,000 o bobl yn bresennol

Gallwch gael Pàs COVID y GIG os ydych chi dros 16 oeda bod un o'r canlynol yn berthnasol i chi:

  • eich bod wedi cael cwrs llawn y brechlyn COVID-19
  • eich bod wedi cael prawf COVID-19 negatif (prawf llif unffordd 48 awr cyn mynd i’r digwyddiad neu leoliad)

Cael eich pàs COVID y GIG.

Profi eich bod wedi cael prawf negatif

I brofi eich bod chi wedi cael prawf COVID-19 negatif o fewn 48 awr cyn mynd i’r digwyddiad neu leoliad:

  1. cymerwch brawf llif unffordd, am ddim
  2. cofnodwch ganlyniad eich prawf (ar GOV.UK) 

Bydd canlyniadau sy’n cael eu hanfon dros e-bost neu neges destun hefyd yn cael eu hystyried yn dystiolaeth o brawf negatif.

Os cawsoch eich brechu tu allan i'r DU

Bydd unigolion o'r gwledydd canlynol yn gallu darparu tystysgrifau sy'n dangos eu bod wedi cael eu brechu'n llawn:

  • UDA
  • gwlad ewropeaidd gymwys (EU27, EFTA a microstatau Ewropeaidd Andorra, Monaco, San Marino a Vatican City State)
  • Albania
  • Awstralia
  • Antigua a Barbuda
  • Bahamas
  • Bangladesh
  • Barbados
  • Bahrain
  • Bosnia a Herzegovina
  • Brasil
  • Brunei
  • Canada
  • Chile
  • Colombia
  • Dominica
  • Aifft
  • Georgia
  • Ghana
  • Grenada
  • Hong Kong
  • Israel
  • India
  • Indonesia
  • Jamaica
  • Japan
  • Jordan
  • Kenya
  • Kosovo
  • Kuwait
  • Malaysia
  • Maldives
  • Moldova
  • Montenegro
  • Moroco
  • Namita
  • Seland Newydd
  • Nigeria
  • Gogledd Macedonia
  • Oman
  • Pacistan
  • Philippines
  • Qatar
  • Saudi Arabia
  • Serbia
  • Singapore
  • De Affrica
  • De Korea
  • St Kitts a Nevis St Lucia
  • St Vincent a'r Grenadines
  • Taiwan
  • Gwlad Thai
  • Twrci
  • Ukrain
  • yr Emiradau Arabaidd Unedig (UAE)
  • Vietnam

Bydd angen i bob un arall sy'n bresennol ddarparu prawf llif unffordd negyddol.