Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Dechrau’n Deg yw rhaglen Blynyddoedd Cynnar Llywodraeth Cymru. Ei nod yw gwella canlyniadau i deuluoedd sydd â phlant o dan 4 oed yn rhai o’r ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru.

Pwrpas y datganiad ystadegol hwn yw darparu tystiolaeth ar gyfer datblygu polisi; caniatáu i awdurdodau lleol fonitro a meincnodi eu darpariaeth gwasanaeth yn erbyn awdurdodau lleol eraill yng Nghymru; a rhoi gwybod i’r cyhoedd am ddarpariaeth rhaglen Dechrau’n Deg.

Y brif ffynhonnell ddata a ddefnyddir yn y datganiad ystadegol hwn yw gwybodaeth reoli a gesglir drwy Ffurflen Monitro Data Dechrau’n Deg Llywodraeth Cymru yn uniongyrchol gan awdurdodau lleol. Dechreuodd y gwaith casglu data hwn yn 2012-13.  Daw’r data atodol o’r Gronfa Ddata Genedlaethol ar Iechyd Plant Cymunedol, y Cyfrifiad Ysgolion Blynyddol ar Lefel Disgyblion, y Rhaglen Mesur Plant, a’r adroddiad Gwerthusiad Cyflym o Roi Brechiadau (COVER).

Effeithiodd y pandemig COVID-19 ar flwyddyn ariannol 2020-21. Arweiniodd hyn at newidiadau sylweddol yn y ffordd roedd gwasanaethau Dechrau’n Deg yn cael eu cynnig, yn ogystal ag o ran gofynion casglu data, a oedd yn seiliedig ar ganllawiau Llywodraeth Cymru. Mae gofyn ystyried hyn wrth ddefnyddio data eleni, a byddai’n ddoeth bod yn ofalus wrth gymharu â blynyddoedd blaenorol. Mae rhagor o fanylion ar gael yn yr adran gwybodaeth am ansawdd a methodoleg.

Plant sy’n derbyn gwasanaethau Dechrau’n Deg

Image
Siart yn dangos nifer y plant sy’n elwa o wasanaethau Dechrau’n Deg yng Nghymru, yn ogystal â’r niferoedd disgwyliedig, rhwng 2012-13 a 2020-21. Mae nifer y plant sy’n elwa wedi cynyddu o 23,579 yn 2012-13 i 40,832 yn 2020-21, ac mae wedi rhagori ar y niferoedd disgwyliedig ym mhob blwyddyn o’r rhaglen.

Ers 2015-16, mae nifer y plant y mae disgwyl iddynt dderbyn gwasanaethau Dechrau’n Deg, yn ôl diffiniad canllawiau rhaglen Dechrau’n Deg, wedi parhau yr un fath ar 36,215. Mae Siart 1 yn dangos bod 31,832 o blant yn derbyn gwasanaethau Dechrau’n Deg ledled Cymru yn ystod 2020-21 (yr effeithiwyd arni gan y pandemig) (Tabl 1). Roedd hyn yn is na’r nifer disgwyliedig ac yn ostyngiad o 16% ar nifer y plant a oedd yn derbyn gwasanaethau yn 2019-20.

Mae’r pandemig wedi effeithio ar nifer y plant sy’n derbyn gwasanaethau Dechrau’n Deg ledled Cymru, ond mae ychydig o dan ddwy ran o dair (64%) o’r newid blynyddol yn ymwneud ag awdurdodau lleol Torfaen, Caerdydd ac Abertawe.

Mae nifer a chanran y plant ar lwyth achosion ymwelwyr iechyd Dechrau’n Deg yn amrywio yn ôl ardal awdurdod lleol. Mae (Tabl 1) yn dangos bod 41% o blant o dan 4 oed ym Merthyr Tudful ar lwyth achosion ymwelwyr iechyd Dechrau’n Deg (yr uchaf yng Nghymru), o’i gymharu ag 14% yn Rhondda Cynon Taf (yr isaf yng Nghymru).

Bydd nifer y plant 4 oed ac iau ym mhoblogaeth gyffredinol Cymru yn effeithio ar gyfanswm nifer y plant sy’n derbyn gwasanaethau Dechrau’n Deg, ac mae’r ffigur hwn wedi gostwng rhwng 1.2% a 2.5% bob blwyddyn ers 2016.

Gan y gall plant symud i mewn neu allan o ardaloedd Dechrau’n Deg yn ystod y flwyddyn, efallai na fydd cyfanswm nifer y plant y cyfrifir eu bod yn derbyn gwasanaethau Dechrau’n Deg yn derbyn y gwasanaethau drwy gydol y flwyddyn gyfan.

Tabl 1: Dangosyddion dethol rhaglen Dechrau’n Deg yn ôl awdurdod lleol, poblogaeth a llwyth achosion, 2019-20 and 2020-21 (MS Excel)

Gwasanaeth ymwelwyr iechyd Dechrau’n Deg

Cafodd plant Dechrau’n Deg hyd at 4 oed a oedd ar lwyth achosion ymwelwyr iechyd eu gweld 5.1 gwaith ar gyfartaledd gan ymwelwyr iechyd yn ystod 2020-21, ac 2.1 gwaith arall gan aelodau’r tîm iechyd ehangach. Roedd hyn yn gynnydd ers 2019-20 (Tabl 2). Yn gyffredinol, gwelwyd bron i 24,000 (neu 12%) yn fwy o gysylltiadau yn 2020-21 nag yn 2019-20.

Yn 2020-21, roedd hyn yn amrywio yn ôl awdurdod lleol o 1.8 o ymweliadau ymwelwyr iechyd fesul plentyn yn Sir Ddinbych i 7.5 yng Ngwynedd, a 0.1 o ymweliadau tîm iechyd ehangach fesul plentyn yn Sir Ddinbych i 9.2 ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Mae Rhondda Cynon Taf yn treialu model newydd ar gyfer ymweliadau iechyd, ac nid yw’r data ar gyfer ymweliadau fesul plentyn yn cyfateb i ddata awdurdodau lleol eraill. Gweler yr adran wybodaeth am ansawdd a methodoleg i gael mwy o fanylion.

Caiff llwyth achosion ymwelwyr iechyd Dechrau’n Deg eu capio ar 110 o blant tra gall ymwelwyr iechyd sy’n gweithio y tu allan i Dechrau’n Deg gael hyd at 350 o blant ar eu llwyth achosion.

Mae data ar rai o nodweddion plant a theuluoedd plant llwyth achosion Dechrau’n Deg yn cael ei gasglu gan awdurdodau lleol ac mae wedi'i gynnwys yn y datganiad am y tro cyntaf eleni.

Tabl 2: Dangosyddion dethol rhaglen Dechrau’n Deg yn ôl awdurdod lleol, cysylltiadau wyneb yn wyneb, 2019-20 and 2020-21 (MS Excel)

Image
Siart yn dangos canran y llwyth achosion lle roedd y plant o gefndir ethnig lleiafrifol, lle roedd y plant o deuluoedd sy'n siarad Cymraeg fel iaith gyntaf yn ogystal â theuluoedd nad Cymraeg na Saesneg yw eu hiaith gyntaf, a lle roedd gan y plant riant/gofalwr anabl neu lle roedd gan y plant eu hunain anabledd. Ychydig iawn o amrywiad a welir dros y pum mlynedd a ddangosir.

Ar lefel Cymru, ychydig o newid a welwyd ar gyfer y rhan fwyaf o gategorïau dros y pum mlynedd diwethaf. Canran y llwyth achosion o gefndiroedd ethnig lleiafrifol sydd wedi cynyddu fwyaf, ond cynnydd bychan ydyw.

Yng Nghymru, yn 2020-21

Canran y llwyth achosion lle'r oedd plant o gefndir ethnig lleiafrifol oedd 14%. Mae hyn 1 pwynt canran yn fwy na'r flwyddyn flaenorol. At bwrpas cymharu, amcangyfrifodd Cyfrifiad 2011 fod 8% o blant 0-4 oed yng Nghymru o leiafrif ethnig. Hefyd, mae data’r Gronfa Ddata Genedlaethol ar Iechyd Plant Cymunedol yn amcangyfrif bod rhwng 10% ac 11% o’r babanod a anwyd yng Nghymru rhwng 2018 a 2020 o leiafrif ethnig.

Canran y llwyth achosion lle'r oedd plant yn dod o deuluoedd lle mae'r Gymraeg yn iaith gyntaf oedd 3%. Nid yw hyn wedi newid ryw lawer ers y flwyddyn flaenorol.

Canran y llwyth achosion lle'r oedd plant yn dod o deuluoedd lle nad y Gymraeg na’r Saesneg yw'r iaith gyntaf oedd 6%. Mae hyn yr un fath â'r flwyddyn flaenorol.

Canran y llwyth achosion lle mae gan blant riant/gofalwr anabl oedd 2%. Nid yw hyn wedi newid ryw lawer ers y flwyddyn flaenorol.

Canran y llwyth achosion lle mae gan blant anabledd oedd 2%. Mae hyn yr un fath â'r flwyddyn flaenorol.

Mae mwy o amrywiaeth ar lefel yr awdurdod lleol, sy'n dangos y patrymau dosbarthu arferol ar gyfer cefndir ethnig lleiafrifol a'r Gymraeg. Mae data ar gyfer pob awdurdod lleol wedi'i gynnwys yn Nhabl 3, ac mae data blynyddoedd blaenorol ar gael yn Atodiad Tabl 1.

Tabl 3: Dangosyddion dethol rhaglen Dechrau'n Deg yn ôl awdurdod lleol, llwyth achosion, 2019-20 a 2020-21 (MS Excel)

Tablau'r Atodiad: Dangosyddion dethol rhaglen Dechrau'n Deg yn ôl awdurdod lleol, llwyth achosion, 2016-17 i 2018-19 (MS Excel)

Gofal plant

Y cynnig craidd ar gyfer gofal plant Dechrau’n Deg yw bod gofal plant o ansawdd yn cael ei gynnig i bob plentyn 2-3 oed sy’n gymwys, a hynny am 2½ awr y diwrnod, 5 niwrnod yr wythnos am 39 wythnos y flwyddyn. Hefyd, dylai fod darpariaeth o 15 sesiwn o leiaf ar gyfer y teulu adeg gwyliau ysgol. Gall teulu ddewis naill ai fanteisio ar y cynnig llawn neu gynnig llai, os mai dim ond rhai o’r sesiynau sydd eu hangen arnynt.

Image
Siart yn dangos canran y plant cymwys a gafodd gynnig gofal plant a ddarperir gan Dechrau’n Deg ar gyfer y blynyddoedd 2012-13 i 2020-21. Mae’r ganran wedi aros yn weddol gyson gan amrywio rhwng 94% a 99%.

Mae canran y plant cymwys sy’n cael cynnig gofal plant a ddarperir gan Dechrau’n Deg wedi gostwng ers llynedd ac roedd yn 96% yn 2020-21.

Gwnaed cynigion gofal plant i dros 95% o blant cymwys mewn 18 awdurdod lleol. Roedd hyn yn amrywio rhwng awdurdodau lleol gydag 13 awdurdod lleol yn cynnig gofal plant i bob plentyn cymwys, a Casnewydd yn cynnig gofal plant i 74% o blant cymwys (yr isaf yng Nghymru).

Er bod cynigion gofal plant yn cael eu gwneud gan awdurdodau lleol, dewis y rhieni/gwarcheidwaid yw derbyn y cynnig ai peidio.

Image
Siart yn dangos bod canran y plant sy’n manteisio ar ofal plant a ddarperir gan Dechrau’n Deg wedi aros yn weddol gyson yn y chwe blynedd diwethaf, ychydig yn is na’r ffigur uchaf o 90% a welwyd ym mlwyddyn gyntaf y rhaglen.

Mae canran y plant sy’n manteisio ar ofal plant a ddarperir gan Dechrau’n Deg wedi gostwng ychydig dros y tair blynedd diwethaf. 84% oedd yn ffigur yn 2020-21.

Roedd hyn yn amrywio yn ôl awdurdod lleol o 100% o blant yn manteisio ar ofal plant a ddarperir gan Dechrau’n Deg yng Nghonwy, Castell-Nedd a Sir Fynwy (y cyfraddau uchaf yng Nghymru) i 49% yng Ngheredigion (y gyfradd isaf yng Nghymru).

Mae’r data ar gyfer pob awdurdod lleol wedi’i gynnwys yn Nhabl 4: Dangosyddion dethol rhaglen Dechrau’n Deg yn ôl awdurdod lleol, gofal plant, 2019-20 and 2020-21 (MS Excel).

Magu plant a lleferydd, iaith a chyfathrebu

Rhaid i bob teulu sydd â phlentyn Dechrau’n Deg gael cynnig cymorth ffurfiol ar gyfer magu plant o leiaf unwaith y flwyddyn. Yn ogystal â’r cynnig magu plant ffurfiol, gellir darparu mathau eraill o gymorth magu plant. Gall hyn gynnwys cymorth magu plant anffurfiol, sesiynau un-i-un pwrpasol, fwy manwl a sesiynau galw heibio anffurfiol, yn dibynnu ar angen. Diffinnir cyrsiau strwythuredig ffurfiol ac anffurfiol fel rhai gyda chwricwlwm strwythuredig a dyddiad dechrau a gorffen penodol.

Yn 2020-21, roedd y nifer a oedd yn dilyn cyrsiau a gynigiwyd i rieni plant Dechrau’n Deg yn 69% ar gyfer cyrsiau magu plant strwythuredig ffurfiol a 79% ar gyfer cyrsiau magu plant/lleferydd, iaith a chyfathrebu strwythuredig anffurfiol.

Mae data awdurdodau lleol ar gael yn Nhabl 5: Cyrsiau magu plant a gynigiwyd yn ôl awdurdod lleol, 2020-21 (MS Excel).

Genedigaethau mewn ardaloedd Dechrau’n Deg

Yn 2020, roedd 24% o’r genedigaethau byw yng Nghymru yn enedigaethau i famau a oedd yn byw mewn ardaloedd Dechrau’n Deg, dim newid ers 2019.

Yn 2020, roedd canran y genedigaethau byw i famau a oedd yn byw mewn ardaloedd Dechrau’n Deg yn amrywio rhwng 39% ym Merthyr Tudful (yr uchaf yng Nghymru) a 14% yn Sir Fynwy (yr isaf yng Nghymru). Ar y cyfan, mae hyn yn adlewyrchu cwmpas y rhaglen ym mhob awdurdod lleol.

Mae data awdurdodau lleol ar gael yn Nhabl 6: Genedigaethau byw i drigolion Cymru mewn ardaloedd Dechrau’n Deg ac ardaloedd nad ydynt yn rhan o Dechrau’n Deg, 2019 a 2020 (MS Excel).

Canlyniadau iechyd: bwydo babanod

Cydnabyddir bod bwydo ar y fron yn hollbwysig i iechyd babanod a’u mamau. Mae canran y babanod sy’n cael eu bwydo ar y fron pan fyddant yn 10 diwrnod oed yn un o’r dangosyddion mamolaeth a ddefnyddir i feincnodi gwasanaethau mamolaeth byrddau iechyd lleol.

Image
 Mae cyfran y babanod sy’n cael eu geni i famau sy’n byw mewn ardaloedd Dechrau’n Deg ac sy’n cael unrhyw laeth o’r fron wedi cynyddu yn gyson dros y chwe blynedd (o 48% i 55%) fel y mae cyfran y babanod sy’n cael eu geni i famau sy’n byw mewn ardaloedd nad ydynt yn rhan o Dechrau’n Deg (o 32% i 40%).

Yn 2020, roedd pedwar o bob deg (40%) o’r babanod a gafodd eu geni i famau a oedd yn byw mewn ardaloedd Dechrau’n Deg wedi cael unrhyw laeth o’r fron pan oedd yn 10 diwrnod oed, o’i gymharu â dros hanner (55%) y rhai a oedd yn byw mewn ardaloedd nad oeddent yn rhan o Dechrau’n Deg.

Mae cyfradd y babanod sy’n bwydo ar y fron pan fyddant yn 10 diwrnod oed wedi bod yn cynyddu mewn ffordd debyg ymhlith babanod ardaloedd Dechrau’n Deg ac ardaloedd nad ydynt yn rhan o Dechrau’n Deg. Dros y cyfnod saith mlynedd, mae’r bwlch rhwng y ddau grŵp wedi parhau’n gymharol sefydlog, gyda chyfradd o 15 neu 16 pwynt canran yn is yn ardaloedd Dechrau’n Deg.

Roedd canran y mamau a oedd yn byw mewn ardaloedd Dechrau’n Deg ac a oedd yn bwydo ar y fron pan oedd y baban yn 10 diwrnod oed yn amrywio yn ôl awdurdod lleol o 59% yng Ngheredigion (yr uchaf yng Nghymru) i 24% yn Wrecsam (yr isaf yng Nghymru).

Mae data awdurdodau lleol ar gael yn Nhabl 7: Nifer a chanran y babanod sy’n cael eu geni i famau sy’n byw mewn ardaloedd Dechrau’n Deg / ardaloedd nad ydynt yn rhan o Dechrau’n Deg, sy’n derbyn unrhyw laeth o’r fron pan fyddant yn 10 diwrnod oed, yn ôl awdurdod lleol, 2020 (MS Excel).

Canlyniadau iechyd: y nifer sy’n dewis imiwneiddio eu plant yn rheolaidd

Mae brechlynnau’n cael eu cynnig i bob plentyn, fel rhan o’r amserlen imiwneiddio rheolaidd i blant, i’w hamddiffyn rhag Difftheria, Tetanws, Pertwsis, Polio, Haemoffilws ffliw (Hib), y Frech Goch, Clwy’r Pennau, Rwbela, Llid yr Ymennydd C a haint Niwmococol (PCV). Mae brechiadau’n cael eu rhoi yn unol ag amserlen imiwneiddio rheolaidd i blant sy’n dechrau 8 wythnos ar ôl iddynt gael eu geni. Y nod yw bod pob plentyn wedi cael ei imiwneiddio’n llawn erbyn ei ben-blwydd yn bedair oed.

Image
Mae’r siart yn dangos canran y plant mewn ardaloedd Dechrau’n Deg ac ardaloedd nad ydynt yn rhan o Dechrau’n Deg sydd wedi cael eu himiwneiddio’n llawn erbyn eu pen-blwydd yn 4 oed, yng Nghymru rhwng 2011-12 a 2020-21 Mae’r cyfraddau derbyn yn gyson uwch ar gyfer plant sy’n byw mewn ardaloedd nad ydynt yn rhan o Dechrau’n Deg na’r plant sy’n byw mewn ardaloedd Dechrau’n Deg.

Yn 2020-21, roedd 83% o blant a oedd yn byw mewn ardaloedd Dechrau’n Deg wedi cael eu himiwneiddio’n llwyr erbyn pan oeddent yn 4 oed o’i gymharu ag 89% o blant a oedd yn byw mewn ardaloedd nad oeddent yn rhan o Dechrau’n Deg.

Roedd canran y plant a oedd yn byw mewn ardaloedd Dechrau’n Deg ac a oedd wedi cael eu himiwneiddio’n llawn erbyn pan oeddent yn 4 oed yn amrywio yn ôl awdurdod lleol o 93% yn Ynys Môn (yr uchaf yng Nghymru) i 74% yng Nghaerdydd (yr isaf yng Nghymru).

Yn y rhan fwyaf o awdurdodau lleol (20 o 22) roedd y cyfraddau imiwneiddio yn uwch ar gyfer plant a oedd yn byw mewn ardaloedd nad oeddent yn rhan o Dechrau’n Deg nag mewn ardaloedd Dechrau’n Deg.

Mae data awdurdodau lleol ar gael yn Nhabl 8: Nifer a chanran y plant sy’n byw mewn ardaloedd Dechrau’n Deg / ardaloedd nad ydynt yn rhan o Dechrau’n Deg sydd wedi cael eu himiwneiddio’n llawn erbyn eu pen-blwydd yn 4 oed, yn ôl awdurdod lleol, 2019-20 a 2020-21 (MS Excel).

Canlyniadau iechyd: pwysau iach

Mae Rhaglen Mesur Plant Cymru (GIG Cymru) yn rhaglen cadw gwyliadwriaeth a sefydlwyd yn 2011 pan ofynnodd Llywodraeth Cymru i Iechyd Cyhoeddus Cymru ymgymryd â rhaglen genedlaethol i fesur taldra a phwysau yng Nghymru, er mwyn cael gwell dealltwriaeth o sut mae plant yng Nghymru yn tyfu. Mae’r rhaglen yn safoni’r ffordd y mae plant ysgolion cynradd (rhwng 4 a 5 oed) yn cael eu mesur ar draws Cymru.

Image
Mae’r siart yn dangos nifer achosion y plant mewn categorïau ‘pwysau iach’ ar gyfer plant 4-5 oed sy’n byw mewn ardaloedd Dechrau’n Deg ac ardaloedd nad ydynt yn rhan o Dechrau’n Deg, Cymru, rhwng 2012/13 a 2018/19.

Mae data o’r Rhaglen Mesur Plant yn dangos bod canran y plant sy’n byw mewn ardaloedd Dechrau’n Deg sydd â phwysau iach wedi bod yn gyson is na phlant sy’n byw mewn ardaloedd nad ydynt yn rhan o Dechrau’n Deg ers dechrau casglu’r data.

Yn sgil newidiadau trefniadol o fewn Iechyd Cyhoeddus Cymru mewn ymateb i’r pandemig, mae’r data diweddaraf sydd ar gael ar gyfer blynyddoedd academaidd 2017/2018 a 2018/19 gyda’i gilydd.

Mae’r data diweddaraf yn dangos bod gan 70% o blant 4-5 oed sy’n byw mewn ardaloedd Dechrau’n Deg bwysau iach o’i gymharu â 74% o blant sy’n byw mewn ardaloedd nad ydynt yn rhan o Dechrau’n Deg.

Mae’r data’n dangos nad oes fawr o wahaniaeth rhwng canran y bechgyn a’r merched sydd â phwysau iach mewn ardaloedd Dechrau’n Deg ac ardaloedd nad ydynt yn rhan o Dechrau’n Deg.

Mae data awdurdodau lleol, wedi’u dadansoddi yn ôl rhyw, ar gael yn Nhabl 9: Nifer achosion y plant mewn categorïau ‘pwysau iach’ ar gyfer plant 4 i 5 oed sy’n byw mewn ardaloedd Dechrau’n Deg ac ardaloedd nad ydynt yn rhan o Dechrau’n Deg, 2017/18 a 2018/19 (MS Excel).

Addysg: plant sydd wedi'u cofrestru mewn ysgol a gynhelir

Mae nifer y plant Dechrau’n Deg sy’n dechrau’r Cyfnod Sylfaen (y cwricwlwm statudol ar gyfer pob plentyn 3-7 oed yng Nghymru mewn ysgolion a gynhelir ac ysgolion nas cynhelir) yn mesur i ba raddau y mae plant Dechrau’n Deg yn manteisio ar gyfleoedd addysg blynyddoedd cynnar.

Yn 2020-21, cafodd 91% o blant tair oed a oedd yn byw mewn ardaloedd Dechrau’n Deg eu cofrestru mewn ysgol a gynhelir, o’i gymharu ag 87% o blant tair oed a oedd yn byw mewn ardaloedd nad oeddent yn rhan o Dechrau’n Deg.

Mae canran y plant sy’n byw mewn ardaloedd Dechrau’n Deg ac sydd ar gofrestr ysgol a gynhelir wedi aros yn weddol gyson drwy gydol y rhaglen, gan amrywio rhwng 91% a 94%.

Mae data awdurdodau lleol ar gael yn Nhabl 10: Nifer a chanran y plant 3 oed sy’n byw mewn ardaloedd Dechrau’n Deg / ardaloedd nad ydynt yn rhan o Dechrau’n Deg a gofrestrwyd mewn ysgol a gynhelir yn y CYBLD ym mis Ionawr 2020 ac ym mis Ionawr 2021 (oedran yr un fath â’r blaenorol ar 31 Awst) (MS Excel).

Gwybodaeth am ansawdd a methodoleg

Cyhoeddir adroddiad ansawdd llawn ochr yn ochr â’r datganiad ystadegol hwn.

Effeithiodd y pandemig COVID-19 ar 2020-21 i gyd, a gwelwyd cyfyngiadau symud o 24 wythnos. Effeithiwyd ar y gwasanaethau a oedd yn cael eu cynnig a’r data a oedd yn cael eu casglu mewn sawl ffordd, gan gynnwys:

  • nid oedd modd cwblhau rhai rhaglenni magu plant a lleferydd, iaith a chyfathrebu
  • dewisodd rhai rhieni beidio â manteisio ar y gofal plant y gallent fod wedi’i dderbyn cyn y pandemig
  • cafodd rhai ymwelwyr iechyd eu symud i rolau gwahanol i helpu gyda’r pandemig
  • byddai rhai staff Dechrau’n Deg wedi bod yn hunanynysu, yn hunanwarchod neu’n sâl, gan effeithio ar y gwasanaeth a oedd yn cael ei gynnig
  • mae’n bosibl bod rhai cysylltiadau a gofnodwyd fel cysylltiadau wyneb yn wyneb wedi digwydd dros y ffôn neu’n rhithiol
  • nid oedd gan rai teuluoedd y dechnoleg i fanteisio ar wasanaethau rhithiol Dechrau’n Deg i ddechrau
  • lleihawyd nifer y cysylltiadau ag ymwelwyr iechyd Dechrau’n Deg yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru
  • ni chaniatawyd ymweliadau cartref na chlinigau yn ystod cyfnodau’r cyfyngiadau symud
  • ni ddatryswyd materion TGCh cyffredinol mewn awdurdodau lleol yn ystod camau cynnar y pandemig gan fod mwy o bwysau ar adnoddau

Mae angen ystyried y ffactorau hyn wrth ddefnyddio data ar gyfer 2020-21 a byddai’n ddoeth bod yn ofalus wrth gymharu â blynyddoedd blaenorol.

Ymweliadau Iechyd yn Rhondda Cynon Taf

Mae Rhondda Cynon Taf yn treialu model newydd ar gyfer ymweliadau iechyd, sy’n golygu bod data 2020-21 yn cael ei gasglu ar sail wahanol i flynyddoedd blaenorol. Byddai’n ddoeth bod yn ofalus wrth gymharu data Rhondda Cynon Taf â data blynyddoedd blaenorol, ac wrth gymharu â data awdurdodau lleol eraill yn 2020-21. Mae mwy o fanylion yn yr adroddiad ansawdd.

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yn ymwneud â gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’r Ddeddf yn rhoi saith nod llesiant ar waith ar gyfer Cymru. Dyma’r nodau: Cymru fwy cyfartal, llewyrchus, cydnerth, iachach a chyfrifol ar lefel fyd-eang, gyda chymunedau cydlynus a diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu. O dan adran (10)(1) y Ddeddf, mae’n rhaid i Weinidogion Cymru wneud y canlynol: (a) cyhoeddi dangosyddion (“dangosyddion cenedlaethol”) y mae’n rhaid eu gweithredu at ddibenion mesur cynnydd tuag at gyflawni'r nodau Llesiant; a (b) gosod copi o'r dangosyddion cenedlaethol gerbron Senedd Cymru. Gosodwyd y 46 o ddangosyddion cenedlaethol ym mis Mawrth 2016.

Mae gwybodaeth am y dangosyddion, ynghyd â naratif ar gyfer pob un o’r nodau llesiant a’r wybodaeth dechnegol gysylltiedig, ar gael yn adroddiad Llesiant Cymru.

Rhagor o wybodaeth am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Gallai’r ystadegau sydd wedi’u cynnwys yn y datganiad hwn hefyd ddarparu naratif ategol i’r dangosyddion cenedlaethol a gallai byrddau gwasanaethau cyhoeddus eu defnyddio mewn perthynas â’u hasesiadau llesiant lleol a’u cynlluniau llesiant lleol.

Manylion cyswllt

Ystadegydd: Craig Thomas
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Ffôn: 0300 025 5050
E-bost: ystadegau.iechyd@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099

SFR: 364/2021