Neidio i'r prif gynnwy

Dechrau’n Deg yw rhaglen Blynyddoedd Cynnar Llywodraeth Cymru. Ei nod yw gwella canlyniadau i deuluoedd sydd â phlant o dan 4 oed yn rhai o’r ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru.

Pwrpas y datganiad ystadegol hwn yw darparu tystiolaeth ar gyfer datblygu polisi; caniatáu i awdurdodau lleol fonitro a meincnodi eu darpariaeth gwasanaeth yn erbyn awdurdodau lleol eraill yng Nghymru; a rhoi gwybod i’r cyhoedd am ddarpariaeth rhaglen Dechrau’n Deg.

Y brif ffynhonnell ddata a ddefnyddir yn y datganiad ystadegol hwn yw gwybodaeth reoli a gesglir drwy Ffurflen Monitro Data Dechrau’n Deg Llywodraeth Cymru yn uniongyrchol gan awdurdodau lleol. Dechreuodd y gwaith casglu data hwn yn 2012-13.  Daw’r data atodol o’r Gronfa Ddata Genedlaethol ar Iechyd Plant Cymunedol, y Cyfrifiad Ysgolion Blynyddol ar Lefel Disgyblion, y Rhaglen Mesur Plant, a’r adroddiad Gwerthusiad Cyflym o Roi Brechiadau (COVER).

Er nad oedd pandemig COVID-19 wedi effeithio ar y rhan fwyaf o’r flwyddyn ariannol, roedd newidiadau sylweddol i’r ffordd roedd gwasanaethau Dechrau’n Deg yn cael eu cynnig ym mis Mawrth 2020. Mae gofyn ystyried hyn wrth ddefnyddio data eleni. Mae rhagor o fanylion ar gael yn yr adran gwybodaeth am ansawdd a methodoleg.

Plant sy’n derbyn gwasanaethau Dechrau’n Deg

Image
Mae nifer y plant sy’n elwa wedi cynyddu o 23,579 yn 2012-13 i 37,725 yn 2019-20, ac mae wedi rhagori ar y niferoedd disgwyliedig ym mhob blwyddyn o’r rhaglen.

Roedd disgwyl i 36,215 o blant dderbyn gwasanaethau Dechrau’n Deg yn 2019-20. Mae Siart 1 yn dangos bod 37,725 o blant yn derbyn gwasanaethau Dechrau’n Deg ledled Cymru yn ystod 2019-20 (Tabl 1). Roedd hyn yn uwch na’r nifer disgwyliedig ond yn ostyngiad o 1% ar nifer y plant a oedd yn derbyn gwasanaethau yn 2018-19. Yn 2018-19, derbyniodd 38,120 (diwygiwyd ers y cyhoeddiad diwethaf) o blant wasanaethau Dechrau’n Deg.

Mae nifer a chanran y plant ar lwyth achosion ymwelwyr iechyd Dechrau’n Deg yn amrywio yn ôl ardal awdurdod lleol. Mae (Tabl 1) yn dangos bod 38% o blant o dan 4 oed ym Merthyr Tudful ar lwyth achosion ymwelwyr iechyd Dechrau’n Deg (yr uchaf yng Nghymru), o’i gymharu ag 16% yn Sir Fynwy (yr isaf yng Nghymru).

Nodwch y bydd nifer y plant 4 oed ac iau yn y boblogaeth gyffredinol yn effeithio ar gyfanswm nifer y plant sy’n derbyn gwasanaethau dechrau’n deg, ac mae’r ffigur hwn wedi gostwng ym mhob awdurdod lleol bron yn y blynyddoedd diwethaf.

Nodwch hefyd y gall plant symud i mewn neu allan o ardaloedd Dechrau’n Deg yn ystod y flwyddyn, felly nid yw cyfanswm nifer y plant sy’n derbyn gwasanaethau Dechrau’n Deg yn cyfateb i nifer y plant sy’n derbyn gwasanaethau Dechrau’n Deg drwy gydol y flwyddyn gyfan.

Tabl 1: Dangosyddion dethol rhaglen Dechrau’n Deg yn ôl awdurdod lleol, poblogaeth a llwyth achosion, 2018-19 a 2019-20 (MS Excel)

Gwasanaeth ymwelwyr iechyd Dechrau’n Deg

Cafodd plant Dechrau’n Deg hyd at 4 oed a oedd ar lwyth achosion ymwelwyr iechyd eu gweld 4.5 gwaith ar gyfartaledd gan ymwelwyr iechyd yn ystod 2019-20, ac 1.4 gwaith arall gan aelodau’r tîm iechyd ehangach. Roedd hyn yn ostyngiad bychan ers 2018-19 (Tabl 2).

Yn 2019-20, roedd hyn yn amrywio yn ôl awdurdod lleol o 3.3 o ymweliadau ymwelwyr iechyd fesul plentyn yn Abertawe a Sir Ddinbych i 5.8 ym Mhen-y-bont ar Ogwr; a 0.3 o ymweliadau tîm iechyd ehangach fesul plentyn yn Rhondda Cynon Taf i 3.9 yng Nghastell-nedd Port Talbot.

Caiff llwyth achosion ymwelwyr iechyd Dechrau’n Deg eu capio ar 110 o blant tra gall ymwelwyr iechyd sy’n gweithio y tu allan i Dechrau’n Deg gael hyd at 350 o blant ar eu llwyth achosion.

Tabl 2: Dangosyddion dethol rhaglen Dechrau’n Deg yn ôl awdurdod lleol, cysylltiadau wyneb yn wyneb, 2018-19 a 2019-20 (MS Excel)

Gofal plant

Y cynnig craidd ar gyfer gofal plant Dechrau’n Deg yw bod gofal plant o ansawdd yn cael ei gynnig i bob plentyn 2-3 oed sy’n gymwys, a hynny am 2½ awr y diwrnod, 5 niwrnod yr wythnos am 39 wythnos y flwyddyn. Hefyd, dylai fod darpariaeth o 15 sesiwn o leiaf ar gyfer y teulu adeg gwyliau ysgol. Gall teulu ddewis naill ai fanteisio ar y cynnig llawn neu gynnig llai, os mai dim ond rhai o’r sesiynau sydd eu hangen arnynt.

Image
Siart yn dangos canran y plant cymwys a gafodd gynnig gofal plant a ddarperir gan Dechrau’n Deg ar gyfer y blynyddoedd 2012-13 i 2019-20. Mae’r ganran wedi aros yn weddol gyson gan amrywio rhwng 94% a 99%.

Mae canran y plant cymwys sy’n cael cynnig gofal plant a ddarperir gan Dechrau’n Deg wedi cynyddu ychydig yn ystod y tair blynedd diwethaf ac roedd yn 99% yn 2019-20.

Gwnaed cynigion gofal plant i dros 95% o blant cymwys mewn 21 awdurdod lleol. Roedd hyn yn amrywio rhwng awdurdodau lleol gydag 16 awdurdod lleol yn cynnig gofal plant i bob plentyn cymwys, a Wrecsam yn cynnig gofal plant i 94% o blant cymwys (yr isaf yng Nghymru).

Er bod cynigion gofal plant yn cael eu gwneud gan awdurdodau lleol, dewis y rhieni/gwarcheidwaid yw derbyn y cynnig ai peidio.

Image
Siart yn dangos bod canran y plant sy’n manteisio ar ofal plant a ddarperir gan Dechrau’n Deg wedi aros yn weddol gyson yn y pum mlynedd diwethaf, ychydig yn is na’r ffigur uchaf o 90% a welwyd ym mlwyddyn gyntaf y rhaglen.

Mae canran y plant sy’n manteisio ar ofal plant a ddarperir gan Dechrau’n Deg wedi aros yn weddol gyson yn y tair blynedd diwethaf, ychydig yn is na’r ffigur uchaf o 90% a welwyd ym mlwyddyn gyntaf y rhaglen.

Yn 2019-20, roedd hyn yn amrywio yn ôl awdurdod lleol o 100% o blant yn manteisio ar ofal plant a ddarperir gan Dechrau’n Deg yng Nghonwy a Sir Fynwy (y cyfraddau uchaf yng Nghymru) i 52% yn Sir Ddinbych (y gyfradd isaf yng Nghymru).

Tabl 3: Dangosyddion dethol rhaglen Dechrau’n Deg yn ôl awdurdod lleol, gofal plant, 2018-19 a 2019-20 (MS Excel)

Magu plant a lleferydd, iaith a chyfathrebu

Rhaid i bob teulu sydd â phlentyn Dechrau’n Deg gael cynnig cymorth ffurfiol ar gyfer magu plant o leiaf unwaith y flwyddyn. Yn ogystal â’r cynnig magu plant ffurfiol, gellir darparu mathau eraill o gymorth magu plant. Gall hyn gynnwys cymorth magu plant anffurfiol, sesiynau un-i-un pwrpasol, fwy manwl a sesiynau galw heibio anffurfiol, yn dibynnu ar angen. Diffinnir cyrsiau strwythuredig ffurfiol ac anffurfiol fel rhai gyda chwricwlwm strwythuredig a dyddiad dechrau a gorffen penodol.

Yn 2019-20, roedd y nifer a oedd yn dilyn cyrsiau a gynigiwyd i Blant Dechrau’n Deg yn 70% ar gyfer cyrsiau magu plant strwythuredig ffurfiol a 60% ar gyfer cyrsiau magu plant/lleferydd, iaith a chyfathrebu strwythuredig anffurfiol.

Tabl 4: Cyrsiau magu plant a gynigiwyd yn ôl awdurdod lleol, 2019-20 (MS Excel)

Genedigaethau mewn ardaloedd Dechrau’n Deg

Yn 2019, roedd 24% o’r genedigaethau byw yng Nghymru yn enedigaethau i famau a oedd yn byw mewn ardaloedd Dechrau’n Deg. Roedd hyn wedi gostwng rhywfaint ers 2018.

Yn 2019, roedd canran y genedigaethau byw i famau a oedd yn byw mewn ardaloedd Dechrau’n Deg yn amrywio rhwng 42% ym Merthyr Tudful (yr uchaf yng Nghymru) a 15% yn Sir Fynwy (yr isaf yng Nghymru). Ar y cyfan, mae hyn yn adlewyrchu cwmpas y rhaglen ym mhob awdurdod lleol.

Tabl 5: Genedigaethau byw i drigolion Cymru mewn ardaloedd Dechrau’n Deg ac ardaloedd nad ydynt yn rhan o Dechrau’n Deg, 2018 a 2019 (MS Excel)

Canlyniadau iechyd: bwydo babanod

Cydnabyddir bod bwydo ar y fron yn hollbwysig i iechyd babanod a’u mamau. Mae canran y babanod sy’n cael eu bwydo ar y fron pan fyddant yn 10 diwrnod oed yn un o’r dangosyddion mamolaeth a ddefnyddir i feincnodi gwasanaethau mamolaeth byrddau iechyd lleol.

Image
Mae cyfran y babanod sy’n cael eu geni i famau sy’n byw mewn ardaloedd Dechrau’n Deg ac sy’n cael unrhyw laeth o’r fron wedi cynyddu yn gyson dros y chwe blynedd (o 48% i 53%) fel y mae cyfran y babanod sy’n cael eu geni i famau sy’n byw mewn ardaloedd nad ydynt yn rhan o Dechrau’n Deg (o 32% i 38%).

Yn 2019, roedd dros draean (38%) o’r babanod a gafodd eu geni i famau a oedd yn byw mewn ardaloedd Dechrau’n Deg wedi cael unrhyw laeth o’r fron pan oedd yn 10 diwrnod oed, o’i gymharu â dros hanner (53%) y rhai a oedd yn byw mewn ardaloedd nad oeddent yn rhan o Dechrau’n Deg.

Mae canran y babanod sy’n cael eu geni i famau sy’n byw mewn ardaloedd Dechrau’n Deg ac sy’n yn cael unrhyw laeth o’r fron wedi cynyddu ychydig dros y tair blynedd diwethaf, fel y mae cyfran y babanod sy’n cael eu geni i famau sy’n byw mewn ardaloedd nad ydynt yn rhan o Dechrau’n Deg.

Roedd canran y mamau a oedd yn byw mewn ardaloedd Dechrau’n Deg ac a oedd yn bwydo ar y fron pan oedd y baban yn 10 diwrnod oed yn amrywio yn ôl awdurdod lleol o 59% yng Ngheredigion (yr uchaf yng Nghymru) i 25% ym Merthyr Tudful (yr isaf yng Nghymru).

Tabl 6: Nifer a chanran y babanod sy’n cael eu geni i famau sy’n byw mewn ardaloedd Dechrau’n Deg / ardaloedd nad ydynt yn rhan o Dechrau’n Deg, sy’n derbyn unrhyw laeth o’r fron pan fyddant yn 10 diwrnod oed, yn ôl awdurdod lleol, 2019 (MS Excel)

Canlyniadau iechyd: y nifer sy’n dewis imiwneiddio eu plant yn rheolaidd

Mae brechlynnau’n cael eu cynnig i bob plentyn, fel rhan o’r amserlen imiwneiddio rheolaidd i blant, i’w hamddiffyn rhag Difftheria, Tetanws, Pertwsis, Polio, Haemoffilws ffliw (Hib), y Frech Goch, Clwy’r Pennau, Rwbela, Llid yr Ymennydd C a haint Niwmococol (PCV). Mae brechiadau’n cael eu rhoi yn unol ag amserlen imiwneiddio rheolaidd i blant sy’n dechrau 8 wythnos ar ôl iddynt gael eu geni. Y nod yw bod pob plentyn wedi cael ei imiwneiddio’n llawn erbyn ei ben-blwydd yn bedair oed.

Image
Mae’r siart yn dangos canran y plant mewn ardaloedd Dechrau’n Deg ac ardaloedd nad ydynt yn rhan o Dechrau’n Deg sydd wedi cael eu himiwneiddio’n llawn erbyn eu pen-blwydd yn 4 oed, yng Nghymru rhwng 2011-12 a 2019-20 Mae’r cyfraddau derbyn yn gyson uwch ar gyfer plant sy’n byw mewn ardaloedd nad ydynt yn rhan o Dechrau’n Deg na’r plant sy’n byw mewn ardaloedd Dechrau’n Deg.

Yn 2019-20, roedd 84% o blant a oedd yn byw mewn ardaloedd Dechrau’n Deg wedi cael eu himiwneiddio’n llwyr erbyn pan oeddent yn 4 oed o’i gymharu ag 89% o blant a oedd yn byw mewn ardaloedd nad oeddent yn rhan o Dechrau’n Deg.

Roedd canran y plant a oedd yn byw mewn ardaloedd Dechrau’n Deg ac a oedd wedi cael eu himiwneiddio’n llawn erbyn pan oeddent yn 4 oed yn amrywio yn ôl awdurdod lleol o 96% yn Ynys Môn (yr uchaf yng Nghymru) i 77% ym Mhen-y-bont ar Ogwr (yr isaf yng Nghymru).

Yn y rhan fwyaf o awdurdodau lleol (19 o 22) roedd y cyfraddau imiwneiddio yn uwch ar gyfer plant a oedd yn byw mewn ardaloedd nad oeddent yn rhan o Dechrau’n Deg nag mewn ardaloedd Dechrau’n Deg.

Tabl 7: Nifer a chanran y plant sy’n byw mewn ardaloedd Dechrau’n Deg / ardaloedd nad ydynt yn rhan o Dechrau’n Deg sydd wedi cael eu himiwneiddio’n llawn erbyn eu pen-blwydd yn 4 oed, yn ôl awdurdod lleol 2018-19 a 2019-20 (MS Excel)

Canlyniadau iechyd: pwysau iach

Mae Rhaglen Mesur Plant Cymru yn rhaglen cadw gwyliadwriaeth a sefydlwyd yn 2011 pan ofynnodd Llywodraeth Cymru i Iechyd Cyhoeddus Cymru ymgymryd â rhaglen genedlaethol i fesur taldra a phwysau yng Nghymru, er mwyn cael gwell dealltwriaeth o sut mae plant yng Nghymru yn tyfu. Mae’r rhaglen yn safoni’r ffordd y mae plant ysgolion cynradd (rhwng 4 a 5 oed) yn cael eu mesur ar draws Cymru.

Image
Mae’r siart yn dangos nifer achosion y plant mewn categorïau ‘pwysau iach’ ar gyfer plant 4-5 oed sy’n byw mewn ardaloedd Dechrau’n Deg ac ardaloedd nad ydynt yn rhan o Dechrau’n Deg, Cymru, rhwng 2012/13 a 2017/18.

Mae data o’r Rhaglen Mesur Plant yn dangos bod canran y plant sy’n byw mewn ardaloedd Dechrau’n Deg sydd â phwysau iach wedi bod yn gyson is na phlant sy’n byw mewn ardaloedd nad ydynt yn rhan o Dechrau’n Deg ers dechrau casglu’r data.

Mae’r data diweddaraf sydd ar gael ar gyfer blynyddoedd academaidd 2016/17 a 2017/2018 gyda’i gilydd. Nid oedd modd prosesu na dadansoddi data 2018/19 o ganlyniad i newidiadau sefydliadol yn Iechyd Cyhoeddus Cymru oherwydd pandemig Covid-19. Dyma pryd cafodd aelodau tîm y Rhaglen Mesur Plant eu symud i weithio ar yr ymateb i COVID.

Mae’r data diweddaraf yn dangos bod gan 71% o blant 4-5 oed sy’n byw mewn ardaloedd Dechrau’n Deg bwysau iach o’i gymharu â 74% o blant sy’n byw mewn ardaloedd nad ydynt yn rhan o Dechrau’n Deg.

Mae’r data’n dangos nad oes fawr o wahaniaeth rhwng canran y bechgyn a’r merched sydd â phwysau iach mewn ardaloedd Dechrau’n Deg ac ardaloedd nad ydynt yn rhan o Dechrau’n Deg.

Tabl 8: Nifer achosion y plant mewn categorïau ‘pwysau iach’ ar gyfer plant 4 i 5 oed sy’n byw mewn ardaloedd Dechrau’n Deg ac ardaloedd nad ydynt yn rhan o Dechrau’n Deg, 2016/17 a 2017/18 (MS Excel)

Addysg: plant sydd wedi'u cofrestru mewn ysgol a gynhelir

Mae nifer y plant Dechrau’n Deg sy’n dechrau’r Cyfnod Sylfaen (y cwricwlwm statudol ar gyfer pob plentyn 3-7 oed yng Nghymru mewn ysgolion a gynhelir ac ysgolion nas cynhelir) yn mesur i ba raddau y mae plant Dechrau’n Deg yn manteisio ar gyfleoedd addysg blynyddoedd cynnar.

Yn 2019-20, cafodd 91% o blant 3 oed a oedd yn byw mewn ardaloedd Dechrau’n Deg eu cofrestru mewn ysgol a gynhelir, o’i gymharu ag 85% o blant 3 oed a oedd yn byw mewn ardaloedd nad oeddent yn rhan o Dechrau’n Deg.

Mae canran y plant sy’n byw mewn ardaloedd Dechrau’n Deg ac sydd ar gofrestr ysgol a gynhelir wedi aros yn weddol gyson drwy gydol y rhaglen, gan amrywio rhwng 91% a 94%.

Tabl 9: Nifer a chanran y plant 3 oed sy’n byw mewn ardaloedd Dechrau’n Deg / ardaloedd nad ydynt yn rhan o Dechrau’n Deg a gofrestrwyd mewn ysgol a gynhelir yn y CYBLD ym mis Ionawr 2019 ac ym mis Ionawr 2020 (oedran yr un fath â’r blaenorol ar 31 Awst) (MS Excel)

Gwybodaeth am ansawdd a methodoleg

Cyhoeddir adroddiad ansawdd llawn ochr yn ochr â’r datganiad ystadegol hwn.

Er nad oedd pandemig COVID-19 wedi effeithio ar y rhan fwyaf o 2019-20, daeth y cyfyngiadau symud cenedlaethol cyntaf i rym ym mis Mawrth 2020. Felly, effeithiwyd ar y gwasanaethau a oedd yn cael eu cynnig a’r data a oedd yn cael eu casglu mewn sawl ffordd, gan gynnwys:

  • nid oedd modd cwblhau rhai rhaglenni magu plant a lleferydd, iaith a chyfathrebu
  • presenoldeb mewn sesiynau gofal plant gan fod rhai rhieni wedi dewis peidio â manteisio ar y gofal plant y gallent fod wedi’i dderbyn cyn y pandemig, ac yn ddiweddarach yn y mis, y cyfyngiadau symud a orfodwyd
  • cafodd rhai ymwelwyr iechyd eu symud i rolau gwahanol i helpu gyda’r pandemig
  • byddai rhai staff Dechrau’n Deg wedi bod yn hunanynysu, gan effeithio ar y gwasanaeth a oedd yn cael ei gynnig
  • mae’n bosibl bod rhai cysylltiadau a gofnodwyd fel cysylltiadau wyneb yn wyneb wedi digwydd dros y ffôn neu’n rhithiol
  • ni chaniatawyd ymweliadau cartref na chlinigau yn ystod yr wythnos yn dechrau 16 Mawrth 2020
  • ni ddatryswyd materion TGCh cyffredinol mewn awdurdodau lleol yn ystod camau cynnar y pandemig gan fod mwy o bwysau ar adnoddau

Mae angen ystyried y ffactorau hyn wrth ddefnyddio data ar gyfer 2019-20.

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yn ymwneud â gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’r Ddeddf yn rhoi saith nod llesiant ar waith ar gyfer Cymru. Dyma’r nodau: Cymru fwy cyfartal, llewyrchus, cydnerth, iachach a chyfrifol ar lefel fyd-eang, gyda chymunedau cydlynus a diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu. O dan adran (10)(1) y Ddeddf, mae’n rhaid i Weinidogion Cymru wneud y canlynol: (a) cyhoeddi dangosyddion (“dangosyddion cenedlaethol”) y mae’n rhaid eu gweithredu at ddibenion mesur cynnydd tuag at gyflawni'r nodau Llesiant; a (b) gosod copi o'r dangosyddion cenedlaethol gerbron Senedd Cymru. Gosodwyd y 46 o ddangosyddion cenedlaethol ym mis Mawrth 2016.

Mae gwybodaeth am y dangosyddion, ynghyd â naratif ar gyfer pob un o’r nodau llesiant a’r wybodaeth dechnegol gysylltiedig, ar gael yn adroddiad Llesiant Cymru.

Rhagor o wybodaeth am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Gallai’r ystadegau sydd wedi’u cynnwys yn y datganiad hwn hefyd ddarparu naratif ategol i’r dangosyddion cenedlaethol a gallai byrddau gwasanaethau cyhoeddus eu defnyddio mewn perthynas â’u hasesiadau llesiant lleol a’u cynlluniau llesiant lleol.

Manylion cyswllt

Ystadegydd: Craig Thomas
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Ffôn: 0300 025 5050
E-bost: ystadegau.iechyd@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099

SFR: 56/2021