Neidio i'r prif gynnwy

Jane Hutt AC, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Tachwedd 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn glir y byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi pobl yng Nghymru wrth iddynt wynebu’r argyfwng costau byw. Dyna pam rwy’n cyhoeddi heddiw y bydd £38m ar gael i gefnogi aelwydydd drwy Gynllun Cymorth Tanwydd Gaeaf. Bydd y cynllun hwn yn helpu teuluoedd yn uniongyrchol i dalu eu costau ynni a chadw eu cartrefi’n gynnes y gaeaf hwn.

Bydd aelwydydd cymwys sy'n derbyn budd-daliadau oedran gweithio sy’n dibynnu ar brawf modd yn gallu hawlio taliad untro o £100 tuag at dalu eu biliau tanwydd gaeaf. Bydd y taliad hwn ar gael i bob cwsmer ynni cymwys p'un a ydynt yn talu am eu tanwydd ar fesurydd rhagdalu, drwy ddebyd uniongyrchol neu drwy dalu bil bob chwarter.

Bydd awdurdodau lleol yn ysgrifennu at aelwydydd cymwys y maent yn gwybod amdanynt, gan ofyn am wybodaeth sylfaenol i gefnogi'r hawliad ynghyd â manylion i alluogi'r taliad. Fel arall, bydd unigolion sy'n gymwys i gael y cymorth hwn yn gallu cyflwyno hawliad drwy eu hawdurdod lleol rhwng 13 Rhagfyr 2021 a 18 Chwefror 2022. 

Ar wahân, rwyf hefyd wedi penderfynu darparu dros £1.1m i gefnogi a chryfhau banciau bwyd, partneriaethau bwyd cymunedol a chanolfannau cymunedol, i’w helpu i fynd i'r afael â thlodi bwyd ac ansicrwydd bwyd a darparu ystod ehangach o wasanaethau i helpu unigolion a theuluoedd i wneud y mwyaf o'u hincwm. Mae hyn hefyd yn cynnwys ymestyn y prosiect Bocs Bwyd Mawr llwyddiannus i 25 ysgol arall.

Gwyddom y bydd y pwysau ar incwm aelwydydd yn gorfodi teuluoedd sydd mewn trafferthion i chwilio am gredyd beth bynnag yw’r gost er mwyn ceisio rheoli cyllideb eu haelwyd. Felly, rwy’n neilltuo arian i godi ymwybyddiaeth o gredyd fforddiadwy, er mwyn helpu i liniaru'r risg sylweddol y bydd pobl sydd â hanes credyd gwael yn troi at fenthycwyr cost uchel neu fenthycwyr anghyfreithlon gan na allant gael mynediad at gredyd prif ffrwd ac nad ydynt yn ymwybodol o ddarparwyr fforddiadwy fel undebau credyd.

Byddaf hefyd yn treialu cynllun cymorth trafnidiaeth gyhoeddus ar gyfer ceiswyr lloches i alluogi mwy o fynediad at gyfleoedd addysg a gwirfoddoli. Yn ogystal, byddaf yn defnyddio arian i ddatblygu Grŵp Cymorth Roma sy'n canolbwyntio ar rieni Roma sydd â phlant oedran ysgol, gan roi cymorth i ysgolion, gweithwyr cymdeithasol a gweithwyr ieuenctid i’w helpu i ddatblygu dealltwriaeth ac arbenigedd o ran cefnogi disgyblion Roma sydd ymhlith y plant mwyaf difreintiedig.

Mae'r uchod yn rhan o becyn ehangach gwerth £50 miliwn i helpu aelwydydd incwm isel i ddelio â’r pwysau ar gostau byw y gaeaf hwn. Mae’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol wedi cyhoeddi y bydd dros £50 yn cael ei ryddhau o gronfeydd wrth gefn, ac rwyf wedi gweithio gyda chydweithwyr gweinidogol i nodi blaenoriaethau ar gyfer y cyllid hwn, a fydd yn cael eu cyhoeddi maes o law.

Mae gennym ystod o fesurau eisoes. Er enghraifft, rydym yn parhau i ariannu hyblygrwydd y Gronfa Cymorth Dewisol i roi cymorth am resymau’n ymwneud â Covid dros y gaeaf, ac rydym wedi ymestyn y cymorth hwn i hawlwyr y Credyd Cynhwysol sydd wedi’u heffeithio gan y penderfyniad i dynnu’r cynnydd wythnosol o £20 yn ôl. Rydym hefyd yn darparu cymorth ychwanegol drwy'r gronfa hon i gleientiaid tanwydd sydd oddi ar y grid ac yn parhau i fuddsoddi yn ein Rhaglen Cartrefi Cynnes, fel rhan o'n cynllun i fynd i'r afael â thlodi tanwydd a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2021.

Rydym hefyd yn gweithio'n galed i adael mwy o arian ym mhocedi dinasyddion Cymru drwy fentrau fel ein Cynnig Gofal Plant, Cynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor a Phresgripsiynau am Ddim.

Rydym wedi clywed droeon dros y misoedd diwethaf am y trafferthion y mae pobl ar draws Cymru yn eu hwynebu wrth geisio talu costau byw sylfaenol. Nid yw Llywodraeth y DU wedi cymryd camau ystyrlon i fynd i'r afael â hyn ac maent yn gwrthod deall realiti llwm y penderfyniadau a'r heriau y mae pobl yn gorfod eu hwynebu bob dydd. Ar adegau o angen mawr, boed hynny i gynhesu cartrefi pobl, rhoi bwyd ar y bwrdd neu dalu am hanfodion i'w plant, mae Llywodraeth y DU wedi tynnu cefnogaeth i ffwrdd yn hytrach na bod yn rhwyd ddiogelwch.  

Nid yw'r cyllid prin a gyhoeddwyd fel rhan o’r cyllid canlyniadol a gafwyd gan Lywodraeth y DU drwy Grant Byw i Aelwydydd yn ddigon i wneud iawn am yr arian y mae dros 270,000 o deuluoedd yng Nghymru wedi’i golli. Mae tynnu’r cynnydd o £20 yr wythnos yn y Credyd Cynhwysol, y Credyd Treth Gwaith, ffyrlo a chymorth COVID ynghyd â chynnydd arfaethedig yn yr Yswiriant Gwladol a chostau bwyd a thanwydd cynyddol wedi ein rhoi mewn argyfwng o ran costau byw.

Gwyddom fod pobl ledled Cymru yn wynebu heriau digynsail, ac am y rheswm hwnnw rydym wedi ymrwymo i wneud popeth o fewn ein gallu i leddfu pwysau ariannol a helpu aelwydydd gyda'u costau byw – gan gefnogi teuluoedd, busnesau a chymunedau drwy'r cyfnod digynsail hwn.