Neidio i'r prif gynnwy

Bydd rhagor o ysgolion yn y Cymoedd yn cael mynediad at brosiect bwyd lwyddiannus, sydd wedi ennill gwobrau, sy’n defnyddio chynhwysydd cludo yn ganolbwynt ar gyfer dysgu’n uniongyrchol am fwyd a hefyd yn fan i deuluoedd sydd ar incwm isel ddod i gasglu nwyddau am ddim neu am bris gostyngol.

Cyhoeddwyd gyntaf:
26 Ionawr 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae’r prosiect Big Bocs Bwyd yn ardal Tasglu’r Cymoedd yn helpu plant i ddatblygu dealltwriaeth gynnar am ddewis bwyd iachus gan gynnig bwyd fforddiadwy i deuluoedd yn y gymuned sydd efallai angen cymorth.

Mae Llywodraeth Cymru yn rhoi £100,000 i sefydlu pump o gynwysyddion cludo BBB ychwanegol ar draws y cymoedd, gan weithio mewn partneriaeth â Pharc Rhanbarthol y Cymoedd.

Yn wreiddiol, cychwynnwyd y cynllun yn Ysgol Tregatwg ac Ysgol Gynradd Oak Field, y Barri, diolch i waith caled y Pennaeth Gweithredol, Janet Hayward, a thimau staff o’r ddwy ysgol. Mae’r prosiect yn gweithredu o gynwysyddion cludo ar dir yr ysgol. Caiff bwyd roi gan archfarchnadoedd a siopau lleol. Mae elusennau megis FareShare, sy’n anelu at leihau tlodi bwyd drwy ailddosbarthu bwyd o ansawdd sydd dros ben gan y diwydiant bwyd, hefyd yn rhan o’r cynllun.

Bydd yr ysgolion canlynol bellach yn elwa ar gist llongau BBB: Ysgol Gynradd Parc Cyfarthfa ym Merthyr; Ysgol Gynradd Gatholig y Santes Margaret, Ysgol Gynradd Cwmfelin ac Ysgol Gynradd Garth yn ardal Maesteg; ac Ysgol Feithrin Rhydaman, Ysgol Bro Banw, ac Ysgol Gynradd Rhydaman yn ardal Rhydaman.

Dywedodd Pennaeth Gweithredol Ysgol Tregatwg ac Ysgol Gynradd Oak Field, Janet Hayward, a fydd yn goruchwylio’r gwaith o weithredu’r rhaglen:

“Mae’n fraint gallu rhannu llwyddiant y prosiect hwn gyda’r ysgolion eraill hyn a’r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu. Mae’r syniad wedi datblygu dros amser i ni, ond bellach mae’n gysyniad y mae modd ei drosglwyddo’n hawdd i leoliadau eraill. Yn ogystal ag ‘ailgylchu’ bwyd o archfarchnadoedd a fyddai’n cael ei daflu fel arall, mae’r prosiect yn cefnogi nifer o agweddau ar y cwricwlwm Iechyd a Lles.

Dywedodd Lee Waters, Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth:

“Mae manteision y prosiect arloesol Big Bocs Bwyd i’w gweld yn glir. Mae datblygu gwell dealltwriaeth am fwyd ymhlith plant yn allweddol er mwyn meithrin hyder ynghylch sut i brosesu a choginio gwahanol fwydydd, a bydd yr adnoddau dysgu sy’n cael eu cynnig yn helpu’r plant i ddeall a gwerthfawrogi’r cysylltiadau rhwng bwyd, natur a’r economi.

“Mae’r prosiect hwn hefyd yn bwysig fel ffordd o gynnig cynnyrch da i deuluoedd yn rhad ac am ddim neu am brisiau fforddiadwy, a fydd o fudd i iechyd a lles pobl.

“Mae’r prosiect eisoes wedi bod yn llwyddiant yn y Barri, ac rwy’n falch iawn bod y cyllid gan Lywodraeth Cymru yn caniatáu i ni gyflwyno’r prosiect hwn yn ehangach yn ardal Tasglu’r Cymoedd.

“Diben y Tasglu yw gwneud gwahaniaeth go iawn i gymunedau ac mae hwn yn un o gyfres o brosiectau, fel ein Cynllun Grantiau Cartrefi Gwag sy’n caniatáu i gartrefi gwag gael eu defnyddio eto, a’r Fenter Trawsnewid Trefi gan Dasglu’r Cymoedd sy’n ceisio adfywio ein stryd fawr. Diben y gwaith hwn yw creu gwaddol a fydd yn gwella bywyd pobl sy’n byw yn ein cymoedd.