Neidio i'r prif gynnwy

Manylion cyswllt y gweinidogion. Esbonio sut mae eich gohebiaeth yn cael ei thrin.

Cyfathrebu gyda gweinidogion

Gallwch gysylltu â Gweinidogion Llywodraeth Cymru drwy e-bost neu drwy'r post. Nid oes angen defnyddio'r ddwy ffordd. Sylwer y bydd yn cymryd mwy o amser inni ymateb i ymholiadau drwy'r post. Felly, rydym yn argymell eich bod yn defnyddio e-bost i gael ymateb yn gynt. Os byddwch yn darparu cyfeiriad e-bost, byddwn yn ymateb drwy e-bost yn unig, hyd yn oed os gwnaethoch gysylltu â ni drwy'r post i ddechrau.

Efallai na fyddwn yn gallu darparu ymateb os yw eich gohebiaeth:

  • yn cynnwys iaith anweddus, neu o natur ymosodol neu dreisgar.
  • yn aneglur neu na ellir ei darllen/deall.
  • yn gwerthu neu'n hyrwyddo cynnyrch.
  • yn ymwneud â mater sydd heb ei ddatganoli i Lywodraeth Cymru neu nad yw'n gofyn unrhyw gwestiynau i Lywodraeth Cymru.
  • yn cynnwys dolen yn unig. Oherwydd pryderon yn ymwneud â seibergadernid, bydd negeseuon e-bost nad ydynt ond yn cynnwys dolenni neu gyfarwyddiadau i wylio fideos yn cael eu dileu yn awtomatig.
  • yn ohebiaeth a anfonwyd atom fel copi (na chaiff ond ei darllen, ei ffeilio a'i chadw fel arfer)

Amser ymateb

Byddwn yn anelu at eich ateb cyn pen 17 diwrnod gwaith. Fodd bynnag, os yw eich gohebiaeth yn gymhleth neu'n cael ei hanfon ar adeg pan ddaw nifer uchel o ohebiaeth i law, gall gymryd mwy o amser. I gael gwybodaeth sy'n gysylltiedig â'r canlynol, edrychwch ar ein tudalennau canllaw cyn cysylltu â ni, gan y gallant ateb eich cwestiynau yn barod.

Polisi un ymateb

Cofiwch mai un ymateb a gewch gan Lywodraeth Cymru. Felly, anfonwch eich e-bost at un Gweinidog yn unig i sicrhau eich bod yn cael ymateb cynhwysfawr ac amserol. Ni fyddwch yn cael ymateb cyflymach, nac ymatebion ychwanegol, drwy anfon e-bost at nifer o Weinidogion.

Cyfrifoldebau allweddol

Mae tudalen pob Gweinidog yn rhestru'r meysydd y maent yn gyfrifol amdanynt. Gallwch ddod o hyd i ddolenni i'r tudalennau hyn o dan bennawd pob Gweinidog isod. Ar gyfer materion sydd heb eu datganoli, cysylltwch â'r adrannau perthnasol yn Llywodraeth y DU.

Cysylltu â’r Aelod o’r Senedd ar gyfer eich etholaeth

Os hoffech gysylltu â gweinidog yn ei rôl fel Aelod o’r Senedd ar gyfer eich etholaeth, cewch ei fanylion cyswllt ar wefan Senedd Cymru.

E-bost

Prif Weinidog Cymru
Eluned Morgan: Cyswllt

Y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
Huw Irranca-Davies: Cyswllt

Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai
Jayne Bryant: Cyswllt

Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg
Mark Drakeford: Cyswllt

Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio
Rebecca Evans: Cyswllt

Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip
Jane Hutt: Cyswllt

Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Jeremy Miles: Cyswllt

Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg
Lynne Neagle: Cyswllt

Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru
Ken Skates: Cyswllt

Y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol
Dawn Bowden: Cyswllt

Y Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch
Vikki Howells: Cyswllt

Y Darpar Gwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Cyflawni 
Julie James: Cyswllt

Y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant
Sarah Murphy: Cyswllt

Y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol
Jack Sargeant: Cyswllt

Neu drwy’r post

Ysgrifennydd y Cabinet / Y Gweinidog...

Llywodraeth Cymru
5ed Llawr
Tŷ Hywel
Bae Caerdydd
CF99 1SN

Gohebiaeth oddi wrth gynrychiolwyr etholedig

Anfon cais am gyfarfod neu wahoddiad i weinidog