Neidio i'r prif gynnwy

Cyd-destun a throsolwg

Mae'r cyngor iechyd y cyhoedd hwn yn berthnasol i Gymru ac mae wedi'i anelu at bob gweithle, sefydliad a safle (gan gynnwys gweithredwyr trafnidiaeth).

Er bod y cyngor hwn yn ymdrin â mesurau rheoli iechyd y cyhoedd y gellid eu rhoi ar waith i leihau'r risg o drosglwyddo, bwriedir iddo gael ei ddefnyddio fel canllaw ar gyfer lliniaru'n ddiogel yn erbyn y clefydau trosglwyddadwy mwyaf cyffredin gan gynnwys COVID-19, y ffliw, a norofeirws).

Mae’r gofynion cyfreithiol a oedd ar waith wedi’u dileu. Fodd bynnag, mae COVID-19 yn parhau beri pryder o ran iechyd y cyhoedd. Am y rheswm hwn, mae'n parhau'n bwysig i ystyried yr hyn y gellir ei wneud i leihau lledaeniad y feirws, a diogelu gweithwyr a chwsmeriaid, gan gynnwys unrhyw amddiffyniadau ychwanegol ar gyfer y rhai sy’n fwy agored i niwed, gan gynnwys y rhai sy’n imiwnoataliedig neu’r rhai sy’n byw gyda rhywun sy’n agored i niwed. Rydym yn argymell yn gryf eich bod yn cynnal asesiad risg o’ch safle ac yn cymryd camau synhwyrol i leihau’r risg o drosglwyddo haint.

Gyda niferoedd cynyddol o bobl wedi'u brechu a diolch i ymdrechion parhaus pawb, nid yw’r gofynion cyfreithiol sy'n benodol i'r coronafeirws yn gymwys mwyach.  Dylid ystyried y risgiau o’r coronafeirws yn yr un cyd-destun â risgiau clefydau trosglwyddadwy (er enghraifft, y ffliw a norofeirws).

Wedi'i gwmpasu yn y cyngor

Nid yw'r cyngor iechyd y cyhoedd hwn yn disodli cyfrifoldebau statudol busnesau a chyflogwyr ac mae’n bwysig eich bod yn parhau i gydymffurfio â’ch rhwymedigaethau cyfreithiol sy’n ymwneud â Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith etc 1974, Rheoliadau Gweithle (Iechyd, Diogelwch a Lles) 1992, Rheoliadau Adeiladu (Dylunio a Rheoli) 2015, Deddf Cydraddoldeb 2010 ac unrhyw reoliadau cyflogaeth eraill.

Mae'r cyngor hwn yn ymdrin â mesurau rheoli iechyd y cyhoedd (y cyfeiriwyd atynt yn flaenorol fel “mesurau rhesymol”) sydd wedi bod yn effeithiol o ran lliniaru risgiau yn ystod y pandemig.

Mae hyn yn cynnwys:

  • awyru digonol
  • arferion glanhau a hylendid personol cadarn
  • hyfforddiant rheolaidd
  • cadw pellter corfforol
  • galluogi gweithio gartref
  • eithrio unigolion symptomatig a'r rhai sydd wedi profi'n bositif am y coronafeirws
  • cynorthwyo pobl i fanteisio ar y cynnig i gael eu brechu

Asesu risg

Nid yw bellach yn ofynnol yn gyfreithiol i chi gynnal asesiad risg penodol ar gyfer y coronafeirws. Dylech ystyried y risgiau sy'n gysylltiedig â’r coronafeirws ochr yn ochr â chlefydau trosglwyddadwy eraill gan gynnwys y ffliw a norofeirws.

Fodd bynnag, oherwydd nad yw’r coronafeirws wedi diflannu, gallwch barhau i gynnal asesiad risg penodol ar gyfer y coronafeirws os yw hyn yn gweithio orau ar gyfer eich amgylchiadau.

Nid yw'r cyngor iechyd y cyhoedd hwn yn ymdrin yn fanwl ag asesiadau risg. Mae canllawiau cynhwysfawr ar asesiadau risg cyffredinol ar gyfer gweithleoedd ar gael gan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch.

 

Y sefyllfa gyfreithiol mewn perthynas ag Iechyd a diogelwch yn y gweithle

Mae gan gyflogwyr gyfrifoldeb cyfreithiol cyffredinol i ofalu am iechyd a diogelwch a lles gweithwyr, ac eraill sy'n mynychu eu safle (ar hse.gov.uk). Nid yw’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch bellach yn disgwyl i bob busnes ystyried COVID-19 yn eu hasesiad risg na rhoi mesurau penodol ar waith. Gall cyflogwyr ddewis parhau i gynnwys COVID-19 yn eu hasesiadau risg.

Fodd bynnag, rydym yn cynghori pob busnes, cyflogwr a threfnydd digwyddiadau i barhau i weithredu mesurau rheoli iechyd y cyhoedd effeithiol i ddiogelu eich gweithwyr, eich contractwyr, eich ymwelwyr a’ch  cwsmeriaid. Gall busnesau a chyflogwyr benderfynu pa fesurau rheoli iechyd y cyhoedd a nodir yn y cyngor hwn y dylid eu defnyddio yn eu safleoedd.

Darperir rhestr wirio i’ch helpu i wneud penderfyniadau ynghylch pa fesurau rheoli sy'n gymesur i’ch amgylchiadau.

Mae gwneud hynny nid yn unig er budd eich staff, eich contractwyr a’ch ymwelwyr, ond mae hefyd er budd gorau eich busnes. Mae cadw eich gweithlu yn ddiogel ac yn iach yn helpu i leihau risgiau o gynhyrchiant is ac absenoldeb oherwydd salwch a fyddai’n arwain at oblygiadau ariannol.

Rhaid i gyflogwyr sy'n gweithio'n benodol gyda’r coronafeirws, megis mewn labordai neu weithwyr iechyd a gofal cymdeithasol sy’n gofalu am gleifion sydd wedi’u heintio, barhau i gynnal asesiad risg sy'n ystyried y coronafeirws, o dan Reoliadau Rheoli Sylweddau Peryglus i Iechyd  (COSHH) 2002. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma: Coronafeirws (COVID-19) – Cyngor i weithleoedd (hse.gov.uk)    

Nid yw Rheoliadau COSHH 2002 yn cwmpasu trosglwyddiad cyffredinol yn y gweithle o un gweithiwr i'r llall (dim ond pan fo risgiau galwedigaethol yn cael eu creu yn y gweithle neu drwy weithgarwch gwaith).

Dylai cyflogwyr barhau i gydymffurfio â'r gofynion ar gyfer cyfleusterau glanhau, awyru a lles yn Rheoliadau'r Gweithle (Iechyd, Diogelwch a Lles) 1992 neu Reoliadau Adeiladu (Dylunio a Rheoli) 2015 i reoli risgiau iechyd a diogelwch galwedigaethol.

Mae gan gyflogwyr ddyletswydd i ymgynghori â'u gweithwyr, neu eu cynrychiolwyr, ar faterion iechyd a diogelwch. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn: Ymgynghori a chynnwys eich gweithwyr.

Bydd yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch ac awdurdodau lleol yn ymdrin â threfniadau i orfodi cyfraith iechyd a diogelwch mewn gweithleoedd o ran rheoli risgiau a gaiff eu creu'n uniongyrchol gan y gweithgaredd gwaith yn yr un modd ag y maent wedi bod yn ei wneud erioed.

Mesurau rheoli iechyd y cyhoedd

Er nad yw'r mesurau rheoli iechyd y cyhoedd canlynol yn ofynnol yn ôl y gyfraith (i'r graddau y mae lleihau'r risg o drosglwyddo clefydau trosglwyddadwy dan sylw), rydym yn cynghori busnesau, cyflogwyr a threfnwyr digwyddiadau i ystyried parhau i'w gweithredu lle bynnag y bo'n ymarferol i wneud hynny. Gwyddom, o brofiad a gafwyd cyn y pandemig ac yn ystod y pandemig, eu bod yn lliniaru'n effeithiol yn erbyn amrywiaeth o glefydau trosglwyddadwy gan gynnwys y coronafeirws, y ffliw a norofeirws.

Cydnabyddir ei fod yn bosibl na fydd yn rhesymol ymarferol i bob busnes a chyflogwr weithredu'r holl fesurau rheoli iechyd y cyhoedd isod (er enghraifft, ni all pawb weithio gartref). Fodd bynnag, gofynnwn ichi ystyried yr ystod o fesurau rheoli iechyd y cyhoedd a'u rhoi ar waith lle bo hynny'n rhesymol ymarferol.

Nid yw'r mesurau hyn ar gyfer rheoli iechyd y cyhoedd yn newydd, ac felly dylent fod yn gyfarwydd i bawb gan eu bod wedi cael eu defnyddio fel modd o leihau’r risg o ddod i gysylltiad â'r coronafeirws a'i ledaenu drwy gydol y pandemig.

Fel y nodir uchod, bydd gweithlu diogel ac iach yn sicrhau bod cynhyrchiant yn parhau. Gallai gweithredu'r holl fesurau rheoli iechyd y cyhoedd isod neu ddim ond rhai ohonynt, yn ogystal â'r rhai sy'n ofynnol yn ôl y gyfraith, leihau cyfraddau absenoldeb oherwydd salwch sy'n gysylltiedig â chlefydau trosglwyddadwy.

Nodir isod rai o'r mesurau rheoli iechyd y cyhoedd mwyaf effeithiol y dylid eu hystyried a'u rhoi ar waith lle bo'n bosibl er mwyn lliniaru yn erbyn y risg o ddod i gysylltiad ag unrhyw glefyd trosglwyddadwy neu ei ledaenu. Nid ydynt yn benodol i’r coronafeirws yn unig:

  • awyru digonol
  • arferion cadarn o ran glanhau, hylendid personol a golchi dwylo
  • hyfforddiant rheolaidd
  • gweithio gartref
  • eithrio unigolion symptomatig
  • cynorthwyo pobl i fanteisio ar y cynnig i gael eu brechu

Awyru digonol

Mae darparu awyru digonol yn fesur arbennig o bwysig wrth liniaru yn erbyn y risg o ddod i gysylltiad â chlefydau trosglwyddadwy neu eu lledaenu. Mae hyn yn arbennig o berthnasol i reoli heintiau anadlol. Bydd cynnal gweithgareddau yn yr awyr agored yn darparu awyru naturiol. Gellid darparu awyru naturiol dan do drwy agor drysau a ffenestri os nad yw hyn yn mynd yn groes i ofynion diogelwch tân. Os oes angen gwelliannau o ran awyru mecanyddol, bydd gwneud y gwelliannau hynny hefyd yn helpu i leihau risgiau os cânt eu gwneud yn effeithiol.

Gall awyru weithio ar y cyd â mesurau eraill megis lleihau hyd gweithgareddau neu gyfyngu arnynt, a gwell defnydd o orchuddion wyneb mewn lleoliadau sydd â risg uwch o drosglwyddiad drwy aerosol.

Mae'n bwysig nodi ardaloedd nad ydynt wedi'u hawyru'n dda ac ymdrin â nhw. Y mwyaf o bobl sydd mewn ardal sydd wedi'i hawyru'n wael, a'r hiraf y maent yn aros ynddi, y mwyaf yw'r risg o ledaenu unrhyw glefyd trosglwyddadwy.

Gallwch ddod ag awyr iach i le drwy:

  • awyru naturiol
  • awyru mecanyddol
  • cyfuniad o awyru naturiol a mecanyddol.

Dylech hefyd ystyried y canlynol:

  • awyru awyr iach effeithiol, ochr yn ochr â gorchuddion wyneb, cadw pellter ac arferion hylendid gwell
  • lleihau hyd gweithgareddau dan do neu gyfyngu arnynt
  • cynllun yr ystafell
  • defnyddio ystafelloedd ag awyru da ac osgoi defnyddio'r rhai sydd heb hynny
  • asesu lefelau awyru gyda dyfeisiau monitro (fel synwyryddion carbon deuocsid) a gweithredu i ddatrys unrhyw broblemau a nodir
  • sicrhau bod systemau awyru mecanyddol yn cael eu cynnal a’u cadw yn unol â chyfarwyddiadau’r gwneuthurwyr
  • osgoi awyru sydd ond yn ailgylchu aer
  • os na ellir osgoi ffaniau bwrdd neu bedestal, sicrhau nad yw aer yn cael ei chwythu oddi wrth un person (neu grwpiau o bobl) at berson arall (neu grŵp o bobl) drwy ddod ag aer i mewn o'r tu allan yn rheolaidd drwy agor ffenestri neu ddrysau. Ni ddylech ddefnyddio ffaniau bwrdd neu bedestal os yw'r awyru'n annigonol.
  • defnyddio ffaniau nenfwd ac awyr iach i wella cylchrediad aer o'r tu allan ac osgoi pocedi o aer segur sy'n ffurfio dan do.

Dylai cyflogwyr roi arweiniad clir i weithwyr ar awyru, pam y mae'n bwysig, a chyfarwyddyd ar sut i sicrhau a chynnal awyru naturiol da neu ar sut i weithredu’r systemau os yw’r dyfeisiau rheoli yn rhai y mae modd i’r staff eu defnyddio.

Ceir cyngor ac arweiniad pellach i gyflogwyr, rheolwyr adeiladu a'r rhai sy'n gyfrifol am weithleoedd, adeiladau cyhoeddus annomestig isod:

Arferion cadarn o ran glanhau, hylendid personol a golchi dwylo

Mae glanhau a diheintio effeithiol ac amserol yn un o egwyddorion pwysig atal a rheoli heintiau a bydd yn helpu i leihau trosglwyddiad clefydau trosglwyddadwy ymhellach, yn enwedig y norofeirws. Dylai amserlen lanhau gynnwys manylion am ddulliau glanhau (cyfraddau gwanediad ac amseroedd cyswllt), y cemegion i'w defnyddio, amlder glanhau'r amgylchedd a’r cyfarpar. Dylid glanhau a diheintio arwynebau y bydd dwylo’n cyffwrdd â hwy, fel dolenni drysau, tapiau, switsys golau a phadiau gwthio, a thoiledau sy'n peri mwy o risg o drosglwyddo, mor aml ag y bo’n ymarferol i'w wneud.

Mae golchi dwylo gyda sebon a dŵr, neu ddefnyddio hylif diheintio dwylo yn rheolaidd pan nad oes sebon a dŵr ar gael, yn helpu i atal feirysau rhag lledaenu, a dyma un o’r mesurau rheoli pwysicaf i helpu i leihau lledaeniad unrhyw glefyd trosglwyddadwy. Mae ein dwylo'n cyffwrdd â llawer o arwynebau drwy gydol y dydd, a gall hyn helpu feirysau i symud o gwmpas. Os oes gennych feirws ar eich dwylo, gallwch ei drosglwyddo i arwynebau eraill neu i'ch llygaid, eich trwyn neu'ch ceg. Dyma un ffordd y gall feirysau fynd i mewn i'ch corff a heintio pobl. Mae golchi neu ddiheintio eich dwylo yn cael gwared ar feirysau a germau eraill, felly rydych yn llai tebygol o'u lledaenu neu o gael eich heintio.

I gefnogi golchi dwylo’n rheolaidd a thrylwyr, dylai dŵr poeth ac oer neu gynnes, sebon a thyweli glân neu ddulliau eraill o lanhau neu sychu fod ar gael mewn cyfleusterau ymolchi. Os yw'n ofynnol yn ôl y math o waith, dylid darparu cawodydd hefyd.

Hyfforddiant

Mae'n bwysig bod pawb sy'n ymwneud â gweithle neu weithgarwch busnes yn ymwybodol o bwysigrwydd gweithredu lefel gymesur o fesurau rheoli iechyd y cyhoedd i helpu i leihau’r risg o drosglwyddo heintiau.

Bydd gwybodaeth, cyfarwyddyd a lefel briodol o hyfforddiant yn helpu i weithredu'r mesurau rheoli hynny'n gadarn ac yn helpu i ddiogelu pawb. Bydd hyd yn oed ychydig bach o hyfforddiant yn rhoi'r wybodaeth a'r sgiliau sydd eu hangen ar y rhai sy’n cymryd rhan i weithredu'r mesurau iechyd cyhoeddus a fabwysiadwyd yn eu gweithle neu weithgarwch busnes.

Gweithio gartref      

Y ffordd fwyaf effeithiol o leihau’r risg o ddod i gysylltiad ag unrhyw glefyd trosglwyddadwy yn y gweithle yw galluogi rhai aelodau o’r staff, neu bob un, i weithio o’u cartrefi mor aml â phosibl, yn enwedig yn ystod cyfnodau pan fo nifer yr achosion yn uchel (megis tymor yr hydref/gaeaf).

Cydnabyddir nad yw gweithio gartref bob amser yn opsiwn, boed hynny oherwydd angen busnes neu oherwydd amgylchiadau personol staff a fyddai'n gwneud gweithio gartref yn anymarferol.

Mae galluogi pobl i weithio gartref a gwneud addasiadau angenrheidiol yn gallu cael ei nodi yn fesur rheoli iechyd y cyhoedd. Gall hyn gynnwys rhoi cyfarpar TG i staff (gliniaduron, monitorau, bysellfyrddau), dodrefn swyddfa, ffonau symudol a hwyluso cyfathrebu rhwng y gwahanol leoliadau.

Cofiwch, fel cyflogwr, fod gennych yr un cyfrifoldebau iechyd a diogelwch ar gyfer pobl sy'n gweithio gartref ag ar gyfer unrhyw weithiwr arall. Gellir gweld y canllawiau manwl hyn ar wefan HSE.

Dylai cyflogwyr sy’n ystyried ei gwneud yn ofynnol i staff ddychwelyd i’r gweithle asesu i ddechrau a oes modd gwneud trefniadau amgen i ddiwallu’r rhan fwyaf o anghenion y busnes, er mwyn lleihau’r risg o ddod i gysylltiad â chlefydau trosglwyddadwy neu eu lledaenu. Dylid trafod hyn gydag undebau llafur lle maent yn bresennol neu gyda'r gweithlu a'u cynrychiolwyr.

Wrth benderfynu a ddylid gofyn i staff ddychwelyd i weithle ar ôl cyfnod o weithio gartref, dylai cyflogwyr hefyd ystyried a fyddai unrhyw effaith negyddol benodol ar les unigolion yn sgil hynny. Mae hyn yn cynnwys y rhai a oedd gynt ar y Rhestr Cleifion a Warchodir (gan gynnwys pobl y mae eu system imiwnedd yn golygu eu bod yn wynebu risg uwch o salwch difrifol yn sgil COVID-19 er eu bod wedi cael eu brechu), neu oherwydd y byddai dychwelyd i'r gweithle yn achosi gorbryder difrifol iddynt. 

Yn yr un modd, mae’n bosibl y bydd aelodau o staff yn dymuno dychwelyd i’r gweithle neu’n dymuno peidio â gweithio gartref ar unrhyw adeg. O dan yr amgylchiadau hyn, mae lles staff yn ystyriaeth berthnasol.   

Eithrio unigolion symptomatig ac unigolion sydd â chlefydau trosglwyddadwy

Y ffordd orau o atal lledaeniad unrhyw glefyd trosglwyddadwy mewn unrhyw safle yw lleihau'r risg y bydd y feirws ar y safle yn y lle cyntaf.

Dylai cyflogwyr ystyried pa gamau y dylent eu cymryd os yw aelod o staff yn arddangos unrhyw symptomau o glefyd trosglwyddadwy (fel y ffliw, y coronafeirws neu’r norofeirws) neu wedi profi'n bositif am y coronafeirws.

Mewn rhai amgylchiadau, gall fod yn rhesymol cymryd camau i'w gwneud yn ofynnol i berson o’r fath i beidio â bod yn bresennol mewn safle neu ei alluogi i beidio â bod yn bresennol. Bydd p'un a yw hyn yn rhesymol ai peidio yn dibynnu ar nifer o ffactorau, gan gynnwys, mewn perthynas ag a yw'n ymarferol i'r gwaith gael ei wneud gartref (gweler hefyd y cyngor iechyd y cyhoedd uchod ar weithio gartref); y risg y gallai'r gweithiwr ei achosi i weithwyr eraill, gan gynnwys y rhai a oedd gynt ar y Rhestr Cleifion a Warchodir; y math o weithgaredd y maent yn ymgymryd ag ef, yn enwedig os ydynt mewn cysylltiad uniongyrchol â gweithwyr, ymwelwyr, cleientiaid neu gwsmeriaid sy'n agored i niwed os ydynt yn parhau i weithio yn y safle.

Brechu

Mae brechu yn parhau i fod yn rhan hanfodol o'n hymateb i’r coronafeirws a dyma'r peth pwysicaf y gall unigolyn ei wneud i amddiffyn ei hun ac eraill. Datblygwyd brechlynnau yn gyflym ac yn ddiogel yn ystod y pandemig, Maent wedi achub miloedd o fywydau, ac wedi gwanhau'r cysylltiad rhwng yr haint, y clefyd difrifol, cyfnodau yn yr ysbyty a marwolaeth yn sylweddol. Dyna pam ei bod mor bwysig i bawb sy'n gymwys fanteisio ar y cynnig o frechlyn a sicrhau eu bod yn cael yr amddiffyniad y mae'n ei gynnig rhag amrywiolion presennol ac yn y dyfodol.

Gall y ffliw fod yn ddifrifol iawn. Fel Coronafeirws, mae'n cael ei achosi gan feirws a gall arwain at afiechydon fel broncitis a niwmonia, ac mae’n bosibl y gallai arwain at yr angen am driniaeth yn yr ysbyty. Mae'r ffliw yn fwy tebygol o fod yn ddifrifol i weithwyr sydd â chyflwr iechyd hirdymor, sy'n feichiog, neu'n hŷn. Yn gyffredinol, mae'r bobl sy’n wynebu risg uwch o’r coronafeirws yr un rhai ag sy’n wynebu risg uwch o fynd yn sâl iawn gyda'r ffliw. Bob blwyddyn, mae cannoedd o bobl yn cael eu derbyn i'r ysbyty neu unedau gofal dwys gyda'r ffliw. Cael brechlyn rhag y ffliw bob blwyddyn yw un o'r ffyrdd mwyaf effeithiol o amddiffyn rhag y ffliw.

Dylai cyflogwyr ystyried hyrwyddo manteision brechu ac annog staff, lle gallant wneud hynny, i fanteisio ar y cynnig (gan gynnwys unrhyw frechiadau atgyfnerthu) pan gânt eu gwahodd i wneud hynny.

Dylech ystyried cyfeirio staff at wybodaeth Llywodraeth Cymru ar frechlynnau coronafeirws a gwybodaeth Iechyd Cyhoeddus Cymru ar frechlynnau ffliw.

Dylech ystyried galluogi staff i gymryd amser i ffwrdd ar gyfer eu hapwyntiadau brechu.

Gweithwyr sy’n agored i niwed

Gweithwyr anabl a gweithwyr â chyflyrau iechyd

O dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010, mae gan gyflogwyr ddyletswydd gyfreithiol i wneud addasiadau rhesymol i sicrhau nad yw gweithwyr anabl neu weithwyr â chyflyrau iechyd o dan anfantais sylweddol yn y gweithle.

Dylech drafod unrhyw ofynion, gan gynnwys addasiadau rhesymol a allai fod eu hangen i weithwyr anabl a gweithwyr sydd â chyflyrau iechyd ddychwelyd i'r gweithle.

Fe'ch cynghorir yn gryf i ddefnyddio’r adnodd asesu risg ar gyfer y gweithlu gyda'ch gweithiwr i nodi unrhyw ffactorau risg personol. Gall yr offeryn hwn hefyd awgrymu addasiadau rhesymol y gellir eu gweithredu i helpu'ch gweithiwr i gadw'n ddiogel.

Gweithwyr beichiog 

Dylai cyflogwyr fabwysiadu dull gweithredu unigol ar gyfer gweithwyr beichiog drwy'r broses asesu risg iechyd galwedigaethol.

Dylid cynnal trafodaethau gyda gweithwyr beichiog yn gynnar fel y gallwch gyd-gynhyrchu'r asesiad risg, gan ei adolygu drwy gydol y beichiogrwydd er mwyn sicrhau bod mesurau lliniaru priodol yn cael eu rhoi ar waith mewn modd amserol.

Mae brechu yn erbyn y coronafeirws yn parhau i fod yn eithriadol o bwysig o ran diogelu gweithwyr beichiog a dylid ei hyrwyddo fel rhan o'r broses hon. Mae hyn hefyd yn berthnasol i glefydau eraill y gellir eu hatal drwy frechu, yn enwedig y ffliw. 

Wrth ymgymryd â'r broses asesu risg, ochr yn ochr â statws brechu'r unigolyn, bydd angen i'r broses Iechyd Galwedigaethol ystyried perthnasedd unrhyw gyflyrau iechyd sy’n bodoli eisoes, a rôl benodol y gweithiwr.

Fel rhan o'r broses hon, os penderfynir na all gweithiwr beichiog barhau yn ei rôl bresennol neu os na ellir pennu dyletswyddau eraill yn rhesymol, dylai cyflogwyr atal dros dro y gweithiwr beichiog ar gyflog llawn. Mae hyn yn unol â'r gofynion arferol.

Gweler cyngor pellach ar iechyd a diogelwch i weithwyr beichiog gan HSE.

 

Mesurau eraill ar gyfer rheoli iechyd y cyhoedd

Cadw cofnodion staff neu ymwelwyr

Mae cadw cofnodion staff neu ymwelwyr sydd wedi bod ar y safle ar unrhyw adeg neu ddyddiad penodol er mwyn eu hysbysu y gallent fod wedi dod i gysylltiad â rhywun sydd naill ai wedi datblygu symptomau o glefydau trosglwyddadwy (gan gynnwys y ffliw, y coronafeirws neu’r norofeirws) neu sydd wedi profi'n bositif am y coronafeirws yn enghraifft o fesur lliniarol y mae busnesau wedi'i ddefnyddio yn eu hymateb i'r coronafeirws. Gellid ystyried camau o'r fath yn awr fel rhan o'u mesurau parhaus i helpu i leihau'r risg o ledaenu unrhyw glefydau trosglwyddadwy yn y lleoliadau hynny a'u rheoli. Byddai hyn yn helpu i leihau lledaeniad pellach clefyd trosglwyddadwy, gan y gallai'r rhai a hysbyswyd gymryd rhagofalon ychwanegol, yn enwedig os ydynt mewn cysylltiad â phobl sy'n agored i niwed, gan gynnwys y rhai a oedd gynt ar y Rhestr Cleifion a Warchodir.

Dylai busnesau fod yn dryloyw eu bod yn casglu'r wybodaeth ar gyfer olrhain cysylltiadau. Rhaid i unrhyw ddata personol rydych yn eu casglu gael eu storio'n ddiogel a'u defnyddio at y dibenion a nodir yn eich hysbysiad preifatrwydd yn unig. Er enghraifft, ni ellir defnyddio data rydych yn eu casglu yn benodol ar gyfer rheoli clefydau trosglwyddadwy at ddibenion marchnata. Ni ddylid cadw data personol am fwy o amser nag y bo’n gwbl angenrheidiol a rhaid eu gwaredu (neu eu dileu) yn ddiogel 21 diwrnod o ddyddiad pob achos ar wahân lle y byddai person wedi bod ar y safle, a fyddai’n galluogi olrhain cysylltiadau, pe bai angen. Mae gwybodaeth fanylach am ddiogelu data a chamau y gellir eu rheoli y gallwch eu cymryd i gydymffurfio yng Nghanllawiau Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) ac yn: Cadw cofnodion ynghylch staff, cwsmeriaid ac ymwelwyr: Profi, Olrhain, Diogelu.

Gorchuddion wyneb

Nid yw gorchuddion wyneb bellach yn ofynnol yn ôl y gyfraith mewn unrhyw fannau cyhoeddus dan do.

Efallai y bydd busnesau, cyflogwyr a threfnwyr digwyddiadau yn dymuno ei gwneud yn ofynnol i’w staff, ymwelwyr a chwsmeriaid wisgo gorchudd wyneb pan fyddant ar eu safle, er nad yw hynny’n ofynnol yn gyfreithiol. Mae’n bwysig parchu’r bobl hynny nad ydynt yn gallu gwisgo gorchudd wyneb a pharchu dewisiadau pobl eraill, pa un a ydynt yn dewis gwisgo gorchudd wyneb neu beidio.

Gallai mesurau rheoli pellach a allai fod yn rhesymol eu defnyddio gynnwys yr isod:

  • ystyried natur rhyngweithio'r gweithiwyr â'r cyhoedd ac a allai dyletswyddau amgen fod yn briodol i leihau'r risg o drosglwyddo posibl
  • annog gweithwyr i hysbysu eu cyflogwr os cânt eu nodi fel cyswllt agos â rhywun sy'n arddangos symptomau clefyd trosglwyddadwy (gan gynnwys y ffliw, y coronafeirws neu’r norofeirws), er mwyn gallu ystyried addasiadau rhesymol priodol a mesurau lliniaru megis cadw pellter corfforol a gwisgo cyfarpar diogelu personol neu orchuddion wyneb
  • atgyfnerthu pwysigrwydd yr unigolyn yn dilyn cyngor ar gyfer cysylltiadau agos a gyhoeddwyd yn y canllawiau i bobl â symptomau o haint anadlol, gan gynnwys COVID-19
  • nodi gweithwyr a oedd gynt ar y Rhestr Cleifion a Warchodir a cheisio osgoi unrhyw gysylltiad agos ag achos sydd â symptomau clefyd trosglwyddadwy yn gweithio'n agos atynt
  • ystyried a ddylid rhoi gwybod i eraill os yw person wedi bod mewn cysylltiad agos â rhywun sydd â symptomau unrhyw glefyd trosglwyddadwy

Crynodeb

I grynhoi, dylai pobl sy'n gyfrifol am safleoedd barhau i gydymffurfio â gofynion cyfreithiol iechyd a diogelwch. Yn ogystal, dylent ystyried y mesurau iechyd y cyhoedd hyn a nodir yn y cyngor hwn a'u rhoi ar waith lle bo hynny'n rhesymol ymarferol. Bydd hyn yn helpu i leihau risg o ddod i gysylltiad â chlefydau trosglwyddadwy (gan gynnwys y ffliw, coronafeirws a norofeirws) a'u lledaenu yn y gweithle.