Neidio i'r prif gynnwy

Dylai'r grynodeb ehangu ar y teitl fel bod defnyddwyr yn gallu bod yn siŵr eu bod wedi dod o hyd i'r cynnwys maen nhw eisiau.

Gall y grynodeb fod yr un peth â'r bachyn.

Cadwch grynodebau'n gryno. Ceisiwch gadw at 160 nod neu'n llai fel bod chwilotwyr yn dangos yr holl destun.

Dylai crynodebau:

  • ddefnyddio iaith y bydd ein defnyddwyr yn deall
  • roi gwybodaeth nad yw eisoes yn y teitl
  • fod yn unigryw
  • orffen gydag atalnod llawn

Ceisiwch osgoi ddefnyddio cyflwyniadau diangen, er enghraifft:

  • mae'r cyhoeddiad hwn ynghylch
  • diben y canllawiau hyn yw

Defnyddiwch iaith weithredol fel:

  • sut i
  • pryd i
  • gwnewch gais am
  • beth i'w wneud

Er enghraifft:

Teitl: Fframwaith awdioleg 2017 i 2020
Crynodeb: Sut y byddwn yn darparu gofal a chymorth i bobl sy'n fyddar neu'n byw â nam ar eu clyw.

Gwnewch yn siŵr bod crynodebau yn gwneud synnwyr heb gyd-destun. Er enghraifft, peidiwch â defnyddio 'darganfod os ydych yn gymwys a gwneud cais am grant'. Gwnewch yn fwy penodol 'darganfod os ydych yn gymwys a gwneud cais i blannu coed ar dir fferm'.

Defnyddiwch declynnau allweddeiriau fel Google Trends i ddod o hyd i'r iaith y mae defnyddwyr yn ei defnyddio i chwilio.

Defnyddiwch Gymraeg clir i ysgrifennu eich crynodeb fel bod defnyddwyr yn deall beth yw'r cynnwys. Ni ddylai crynodebau fod yn anodd iawn ei ddarllen (wedi ei farcio'n goch) yn Hemingway Editor yn Saesneg. Peidiwch â gludo gwybodaeth sensitif sydd heb ei gyhoeddi yn Hemingway, mae'n risg diogelwch. Yn hytrach, defnyddiwch y teclyn lefel darllen Flesch-Kincaid (ar Microsoft).