Neidio i'r prif gynnwy

Sut i ysgrifennu teitlau ar gyfer cynnwys ar LLYW.CYMRU.

Cyhoeddwyd gyntaf:
12 Chwefror 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Ysgrifennu teitl da

Dylai'r teitl (ynghyd â'r grynodeb) ddweud wrth y defnyddwyr os mai'r cynnwys ar y dudalen yw'r cynnwys y maent yn chwilio amdano.

Defnyddiwch iaith y bydd defnyddwyr yn deall. Efallai na fydd y cyhoedd yn gwybod ein henw swyddogol ni am rywbeth.

Cadwch deitlau yn fyr. Anelwch i gael 65 nod neu'n llai oherwydd:

  • nad yw peiriannau chwilio yn dangos unrhyw beth ar ôl 65 nod
  • bod teitlau hirach yn anos eu deall

Defnyddiwch deitlau gweithredol pan fyddwch yn gofyn i ddefnyddwyr wneud rhywbeth, er enghraifft:

  • gwnewch gais am
  • gwiriwch
  • tanysgrifiwch i
  • dewch o hyd i
  • cofrestrwch ar gyfer
  • mewngofnodwch

Defnyddiwch declynnau allweddeiriau fel Google Trends i ddod o hyd i'r iaith y mae defnyddwyr yn ei defnyddio i chwilio.

Gwnewch yn siŵr bod teitlau yn unigryw ac yn gwneud synnwyr heb gyd-destun. Dyw hi ddim yn ddefnyddiol i ddefnyddwyr i weld nifer o dudalennau gyda'r un teitl, er enghraifft 'ffurflen gais'. Gwnewch hyn yn fwy penodol, er enghraifft 'Ffurflen gais grant cyfleusterau cludo nwyddau ar y rheilffyrdd'.

Ceisiwch osgoi gorsymleiddio. Er enghraifft, 'Cysylltwch â'r Arolygaeth Gynllunio' yn hytrach na 'Cysylltwch â ni'.

Dylai'r geiriau pwysicaf fod ar ddechrau'r teitlau bob tro.

Ystyriwch ddefnyddio colon:

  • i helpu defnyddwyr i gysylltu grwpiau bychain o gynnwys sy'n berthnasol i'w gilydd
  • i roi'r geiriau pwysicaf ar ddechrau teitlau

Os oes nifer o dudalennau yn cynnwys yr un frawddeg, newidiwch y teitl fel bod y brif eitem yn dod yn gyntaf. Er enghraifft, mae 'Safonau lles defaid' a 'Safonau lles buchod' yn newid yn 'Defaid: safonau lles', a 'Buchod: safonau lles'.

Nid oes atalnod llawn ar ddiwedd teitlau.

Teitlau tudalennau cyhoeddiadau

Gall teitlau fod yn wahanol i deitl swyddogol y ddogfen. Gallwch ddefnyddio'r teitl swyddogol ar gyfer yr atodiad neu sôn amdano yn y grynodeb neu gopi'r dudalen os ydych chi'n meddwl bydd defnyddwyr yn chwilio am y term yma.

Defnyddiwch y flwyddyn yn y teitl os yw'n rhan o gyfres gyda'r un teitl. Er enghraifft:

  •  Glastir Organig 2017: llyfryn rheolau
  •  Glastir Organig 2016: llyfryn rheolau  

Wrth ychwanegu cofnodion cyfarfodydd, dylech ddefnyddio enw'r sefydliad a'r manylion. Er enghraifft 'Cyfarfod bwrdd Awdurdod Cyllid Cymru'. Bydd dyddiad y cyfarfod yn cael ei gynnwys yn awtomatig yn y teitl, o'r maes dyddiad y cyfarfod.