Weithiau, bydd y bachyn ymddangos gyda dolen i dudalen ond ni fydd i’w weld ar y dudalen ei hunan.
Gall y bachyn fod yr un fath â’r crynodeb. Mae gwahanu’r bachyn a’r crynodeb yn rhoi mwy o hyblygrwydd.
Mae bachyn yn unigryw ac yn ddigonol i ddeall y cynnwys yn unig. Er enghraifft, nid yw 'canfod a ydych yn gymwys a gwneud cais am grant' yn ddigonol. Mae angen mwy o fanylion arno ac mae'r canlynol yn well 'canfyddwch a ydych yn gymwys a gwneud cais am grant i blannu coed ar dir fferm'.
Pwrpas y bachyn a’r teitl yw helpu defnyddwyr i ddeall a yw’r wybodaeth maen nhw eisiau ar y dudalen.
Ddylai’r bachyn ddim bod yn hirach na 160 nod.
Un frawddeg sydd mewn bachyn. Os yw’r crynodeb yn fwy nag un frawddeg, ychwanegwch fachyn un frawddeg.
Rhaid rhoi atalnod llawn ar ddiwedd bachyn.
Mae’r bachyn yn rhoi gwybodaeth sydd ddim yn y teitl.