Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r datganiad ystadegol hwn yn darparu crynodeb o ddata gweithgarwch GIG Cymru, gan gynnwys yr wybodaeth fisol ddiweddaraf sydd ar gael ar nifer y derbyniadau i adrannau damweiniau ac achosion brys, nifer y galwadau brys i’r gwasanaeth ambiwlans, nifer yr atgyfeiriadau ar gyfer apwyntiad cyntaf fel claf allanol a nifer y cleifion sy’n dechrau triniaeth am ganser.

Sylwch fod y data a gynhwysir yn y datganiad ystadegol hwn yn cwmpasu cyfnod yn ystod pandemig coronafeirws (COVID-19), sydd wedi effeithio ar y ffordd y mae rhai gwasanaethau'r GIG yn cael eu cynnig a dewisiadau pobl o ran gwasanaethau iechyd. O ganlyniad, bydd hyn yn effeithio ar yr ystadegau a gyflwynir yn y datganiad hwn.

Bydd cyhoeddiad y mis hwn yn cynnwys gwybodaeth am weithgarwch GIG Cymru yn unig. Felly, ni fydd y cyhoeddiad hwn yn cynnwys data ar wybodaeth sy’n ymwneud â pherfformiad nac unrhyw wybodaeth sy’n ymwneud ag amseroedd aros rhwng atgyfeirio a thriniaeth (RTT), amseroedd aros am wasanaethau diagnostig a therapi (DATS), oedi wrth drosglwyddo gofal (DTOC), neu lwybrau wedi cau.

 Wrth i ni gyhoeddi ein datganiadau misol ar weithgareddau y GIG ar yr un diwrnod, bydd y defnyddwyr yn cael darlun mwy cyflawn ac integredig o weithgareddau, gan roi golwg gyffredinol fwy cydlynol ar y GIG yng Nghymru. Mae data ym mhob maes ar gael yn fanylach yn nhablau StatsCymru.

Mae data newydd sy'n ymwneud â galwadau i'r gwasanaeth ambiwlans a phresenoldeb a derbyniadau i adrannau damweiniau ac achosion brys yn cael eu darparu ar gyfer mis Medi 2020. Darperir data newydd yn ymwneud ag atgyfeiriadau ar gyfer apwyntiad cyntaf fel claf allanol a chleifion sy'n dechrau triniaeth canser ar gyfer mis Awst 2020.

Cynlluniau i’r dyfodol

Yn dilyn y cyhoeddiad ddydd Gwener 13 Mawrth ynghylch canslo rhai triniaethau meddygol penodol a llacio targedau perfformiad, cafodd llawer o’r trefniadau casglu data cenedlaethol eu hatal dros-dro ac nid yw’r ystadegau perfformiad wedi’u cynnwys yn y cyhoeddiad hwn ers mis Mawrth. Gan fod mwyafrif helaeth y gwaith casglu data wedi ailgychwyn erbyn hyn, byddwn yn ailddechrau cyhoeddi data perfformiad yn y datganiad ystadegol nesaf, sef ar 19 Tachwedd. Bydd yn cynnwys data ar gyfer y mis diweddaraf (Hydref ar gyfer gofal heb ei drefnu a Medi ar gyfer gofal wedi’i drefnu) ac ar gyfer pob mis ers rhoi’r gorau i gyhoeddi’r wybodaeth, ac eithrio data sy’n ymwneud ag oedi wrth drosglwyddo gofal. Mae gwybodaeth ychwanegol ar ailddechrau cyhoeddi ystadegau perfformiad a newidiadau arfaethedig i ystadegau perfformiad wedi’u cynnwys yn y cyhoeddiad hwn.

Yn ystod pandemig COVID-19, newidiwyd y gofynion sicrwydd ac atebolrwydd ar fyrddau iechyd lleol i adlewyrchu’r anghenion diogelwch uniongyrchol. Bydd y data a drefnwyd i’w gyhoeddi ym mis Tachwedd yn dal i gael ei ddefnyddio ar gyfer gwybodaeth reoli ac i ddarparu sicrwydd yn erbyn cynlluniau chwarterol byrddau iechyd lleol.

1. Gofal heb ei drefnu

Galwadau brys i'r gwasanaeth ambiwlans

Image
Mae'n dangos bod nifer y galwadau brys a dderbyniwyd gan Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru (WAST) wedi bod yn cynyddu'n gyson dros y tymor hir ond ei fod wedi gostwng yn fwy diweddar oherwydd pandemig COVID-19.

Galwadau ambiwlans mewn argyfwng ac ymatebion i alwadau coch, yn ôl Bwrdd Iechyd Lleol a’r mis ar StatsCymru

Ym mis Medi 2020, gwnaethpwyd 37,933 o alwadau brys i'r gwasanaeth ambiwlans ac ar gyfartaledd roedd 1,264 o alwadau bob dydd.

Mae nifer y galwadau brys i Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru wedi bod yn codi’n raddol yn y tymor hir. Ers cychwyn casglu data misol ym mis Ebrill 2006, mae’r galwadau dyddiol ar gyfartaledd wedi codi o lai na 1,000 y diwrnod i rhwng 1,200 a 1,450 y diwrnod. Fodd bynnag, gostyngodd nifer y galwadau gostwng yn ystod cyfnod cynnar pandemig COVID-19, gyda mis Ebrill 2020 yn gweld y nifer cyfartalog dyddiol isaf o alwadau ers mis Mai 2011.

Yn dilyn cynnydd o 8.1% (neu 97 galwad bob dydd ar gyfartaledd) ym mis Awst, cafwyd gostyngiad yn nifer y galwadau ym mis Medi (3.1% yn llai, neu 40 galwad bob dydd yn llai ar gyfartaledd) o’i gymharu â’r mis blaenorol.

Wrth edrych ar bob categori galwad, mae’r duedd tymor hwy yn dangos gostyngiad yn y nifer o alwadau y dydd yn y categori lleiaf brys (gwyrdd) a nifer cynyddol o alwadau y dydd yn y categori melyn. Cwympodd y galwadau yn y ddau gategori yn ystod cyfnod cynnar pandemig COVID-19, ond mae’r ddau bellach yn debyg i’r lefelau cyn COVID.

Roedd cyfartaledd nifer y galwadau gwyrdd y dydd ym mis Medi 2020 yn 286 o’i gymharu â 317 ym mis Medi 2019 ac yr oedd nifer cyfartalog y galwadau melyn y dydd ym mis Medi 2020 yn 897 o’i gymharu â 894 ym mis Medi 2019.

Roedd nifer cyfartalog y galwadau mwyaf brys (coch) bob dydd wedi gostwng yn ystod cyfnod cynnar pandemig COVID-19, ond maent bellach wedi dychwelyd i’w lefel cyn COVID-19.

Ar gyfartaledd, cafwyd 81 o alwadau coch ym mis Medi 2020. Mae hyn yn llai na’r 83 ym mis Awst 2020 ond yn uwch na’r 78 ym mis Medi 2019.

Roedd cyfran yr holl alwadau a gategoreiddiwyd fel galwadau coch yn 6.4%, i fyny o 6.0% ym mis Medi 2020.

Presenoldeb a derbyniadau mewn Adrannau Damweiniau ac Achosion Brys

Image
Mae Siart 2 yn dangos nifer y bobl oedd yn bresennol yn adrannau damweiniau ac achosion brys GIG Cymru, a derbyniadau i ysbytai o ganlyniad i bresenoldeb mewn adrannau damweiniau ac achosion brys mawr, fesul mis. Mae derbyniadau i adrannau Damweiniau ac Achosion Brys yn uwch yn ystod misoedd yr haf na’r gaeaf fel arfer. Gellir gweld y gostyngiad yn nifer y bobl oedd yn bresennol oherwydd pandemig COVID-19 hefyd.

Nifer y derbyniadau mewn adrannau damweiniau ac achosion brys yn y GIG yng Nghymru yn ôl band oedran, rhyw a safle ar StatsCymru

Mae’r llinell ar gyfer presenoldeb yn Siart 2 yn dangos y niferoedd mewn adrannau damweiniau ac achosion brys mawr ac Unedau Mân Anafiadau. Mae’r llinell ar gyfer derbyniadau yn dangos nifer y bobl sy’n cael eu derbyn i’r ysbyty ar ôl mynd i adrannau damweiniau ac achosion brys mawr yn unig. Nid yw derbyniadau o Unedau Mân Anafiadau yn cael eu cofnodi’n gyson ledled Cymru.

Mae derbyniadau i adrannau Damweiniau ac Achosion Brys yn uwch yn ystod misoedd yr haf na’r gaeaf fel arfer.

Roedd 75,090 yn bresennol yn holl adrannau damweiniau ac achosion brys GIG Cymru ym mis Medi. Yn dilyn gostyngiad sylweddol yn y nifer a oedd yn bresennol ym mis Ebrill yn ystod cyfnod cyntaf pandemig COVID-19, mae gweithgarwch wedi cynyddu ond yn dal yn is na’r lefelau cyn COVID-19.

Roedd presenoldeb ym mis Medi 2020 5.3% yn is nag ym mis Awst 2020 (4,213 yn llai yn bresennol) ac ond 18.3% yn is nag ym mis Medi 2019 (16,839 yn llai yn bresennol).

Ar gyfartaledd, roedd 2,503 o dderbyniadau i adrannau Damweiniau ac Achosion Brys bob dydd ym mis Medi. Mae hyn 2.2% yn uwch nag ym mis Awst 2020 (55 yn llai o bobl bob diwrnod ar gyfartaledd) a 18.3% yn is nag ym mis Medi 2019 (561 yn llai o bobl bob diwrnod ar gyfartaledd).

Cyfanswm nifer y derbyniadau i adrannau Damweiniau ac Achosion Brys yn ystod y flwyddyn hyd at fis Medi 2020 yw 15,867. Mae hyn 16.9% yn is na’r flwyddyn flaenorol (y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Medi 2019) a 9.6% yn is na’r cyfnod 12 mis cyfatebol 5 mlynedd yn ôl (y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Medi 2015). Mae effaith pandemig COVID-19 hefyd yn effeithio ar gymariaethau blynyddol.

Ym mis Medi, derbyniwyd 15,867 o gleifion i’r un ysbyty neu i ysbyty gwahanol ar ôl bod mewn adran Damweiniau ac Achosion Brys. Mae hyn 2.7% yn is (447 yn llai o dderbyniadau na'r mis blaenorol (Awst 2020) a 2.8% yn is (459 yn llai o dderbyniadau) na'r mis cyfatebol flwyddyn yn ôl (Medi 2019).

Cyn pandemig COVID-19, cafodd oddeutu 24% o’r bob presenoldeb yn yr Adrannau Damweiniau ac Achosion Brys mawr eu derbyn i’r ysbyty. Yn ystod cyfnod cynnar y pandemig, cynyddodd y ganran hon i anterth o 30.8% ym mis Ebrill 2020, ond mae wedi gostwng bob mis ers hynny ac roedd yn 25.9% ym mis Medi 2020.

Mae cynlluniau ar gyfer data adrannau brys yn y dyfodol wedi eu hamlinellu yn yr adran am gyhoeddi data perfformiad.

2. Gofal wedi’i drefnu

Atgyfeirio cleifion allanol

Image
Siart 3 yn dangos cyfartaledd dyddiol am y nifer o atgyfeiriadau cleifion allanol ar gyfer apwyntiadau cyntaf fesul mis o Ebrill 2012 i Awst 2020. Mae'r gostyngiad mawr yn nifer yr atgyfeiriadau i gleifion allanol o fis Chwefror 2020 yn ganlyniad i'r pandemig coronafeirws.

Atgyfeiriadau cleifion allanol ar gyfer StatsCymru

Roedd gostyngiad mawr yn nifer yr atgyfeiriadau ar gyfer apwyntiad cyntaf fel claf allanol ym mis Mawrth 2020 yn ystod wythnosau cyntaf pandemig COVID-19. Gwelwyd cynnydd o ran gweithgarwch ers hynny ond ym mis Awst 2020 mae'r atgyfeiriadau ar gyfer apwyntiad cyntaf fel claf allanol yn dal yn is na’r lefelau cyn pandemig COVID-19.

Atgyfeiriwyd cyfartaledd o 2,470 o gleifion allanol bob diwrnod ym mis Awst 2020. Mae hyn yn golygu gostyngiad o 8.9 % (242 yn llai o atgyfeiriadau bob dydd ar gyfartaledd) o’i gymharu â mis Gorffennaf 2020 a gostyngiad o 28.5% (985 yn llai o atgyfeiriadau bob dydd ar gyfartaledd) o’i gymharu â mis Awst 2019.

Ni chyflwynodd Hywel Dda unrhyw ddata ar gyfer codau triniaeth iechyd meddwl ym mis Awst 2020.

Cleifion sy'n dechrau triniaeth canser wedi’u hatgyfeirio drwy’r llwybr amheuaeth o ganser brys a’r llwybr heb fod ar frys

Caiff cleifion canser yng Nghymru eu cyfrif ar lwybrau brys a heb fod ar frys, yn ogystal â'r un llwybr canser.

Image
Mae Siart 4 yn dangos nifer y cleifion sydd newydd gael diagnosis o ganser, yn ôl mis a'r math o lwybr. Mae'r siart yn dangos amrywiadau'r data o fis i fis ac yn dangos, yn fwy diweddar, bod y bwlch rhwng nifer y cleifion sy'n cael eu trin drwy’r llwybr canser brys a heb fod drwy'r llwybr brys wedi lleihau.

Amseroedd aros canser misol ar StatsCymru

Yn ystod y 12 mis hyd at fis Awst 2020, roedd 7,784 o gleifion a oedd newydd gael diagnosis o ganser wedi dechrau ar eu triniaeth drwy’r llwybr brys ar gyfer achosion ag amheuaeth o ganser. Mae hyn yn ostyngiad o 6.9 % (577 o gleifion) ers y 12 mis blaenorol (y flwyddyn ddaeth i ben ym mis Awst 2019) ond yn gynnydd o 15.6% (1,048 o gleifion) o'r cyfnod cyfatebol 5 mlynedd yn ôl (y flwyddyn ddaeth i ben ym mis Awst 2015).

Yn ystod y 12 mis hyd at fis Awst 2020, dechreuodd 8,380 o gleifion a oedd newydd gael diagnosis canser a hynny drwy’r llwybr heb fod ar frys oherwydd amheuaeth o ganser. Mae hyn yn ostyngiad o 8.3% (761 o gleifion) ers y 12 mis blaenorol (y flwyddyn ddaeth i ben ym mis Awst 2019) ac yn ostyngiad o 11.0% (1,032 o gleifion) o'r cyfnod cyfatebol 5 mlynedd yn ôl (y flwyddyn ddaeth i ben ym mis Awst 2015).

Gan fod y ffigurau hyn yn seiliedig ar gyfartaledd treigl 12 mis mae’n bosibl na fydd effaith lawn pandemig COVID-19 yn amlwg tan nes ymlaen yn y flwyddyn.

Un llwybr canser (ystadegau arbrofo)

Image
Ystadegau arbrofol ar gyfer nifer y cleifion sydd newydd gael diagnosis yn dod i mewn i’r llwybr canser sengl fesul mis. Mae'r llwybr canser sengl yn cynnwys cleifion ar y llwybrau brys a rhai sydd ddim yn brys. Mae'r gostyngiad yn nifer y cleifion sydd newydd gael diagnosis yn dod i mewn i'r llwybr canser sengl o fis Chwefror 2020 yn ganlyniad i'r pandemig coronafeirws.

Nifer y cleifion sy’n dechrau ar yr un llwybr canser gydag amheuaeth newydd o ganser, Mehefin 2019 i Awst 2020 (MS Excel)

Mae cleifion sy’n dod yn rhan o’r un llwybr canser yn cael eu cyfrif o'r eiliad y ceir amheuaeth o ganser, yn hytrach nag o'r adeg y derbynnir eu hatgyfeiriad yn yr ysbyty a bod diagnosis wedi'i wneud.

Mae’r ystadegau arbrofol ar gyfer yr un llwybr canser yn dangos bod 10,555 o gleifion wedi dod ar y llwybr yma ym mis Awst 2020. Mae hyn yn ostyngiad o 11.3% (1,348 yn llai o gleifion) o fis Gorffennaf 2020, ac yn ostyngiad o 22.9% (3,129 yn llai o gleifion) nag ym mis Awst 2019.

Ar gyfer un llwybr canser, mae data sy'n ymwneud â nifer y cleifion sy'n cael eu trin yn cael eu cyhoeddi ar StatsCymru, ac yn cynnwys y cleifion a gafodd eu trin drwy’r llwybr amheuaeth o ganser ar frys a heb fod ar frys.

Ym mis Awst 2020, cafodd 1,186 o gleifion a oedd newydd gael diagnosis o ganser eu trin drwy’r un llwybr canser. Mae hyn yn ostyngiad o 4.3% (53 yn llai o gleifion) o fis Gorffennaf 2020, a gostyngiad o 18.0 % (260 yn llai o gleifion) nag ym mis Awst 2019.

Mae cynlluniau ar gyfer data canser yn y dyfodol wedi eu hamlinellu yn yr adran am gyhoeddi data perfformiad.

3. Cyhoeddi data perfformiad

Ar gyfer y gwaith casglu data sydd bellach wedi ailgychwyn, byddwn yn ailddechrau cyhoeddi data perfformiad y GIG yn y datganiad ystadegol nesaf, sef ar 19 Tachwedd 2020. O’r pwynt hwnnw ymlaen, bydd data perfformiad yn cael ei gyhoeddi’n rheolaidd bob mis, yn amodol ar unrhyw newidiadau i fesurau perfformiad yn y dyfodol.

Yn benodol, mae hyn yn golygu y byddwn yn cyhoeddi data newydd ar gyfer:

Gwasanaethau ambiwlans (Mawrth 2020 i Hydref 2020)

  • Amseroedd ymateb fesul munud ar gyfer galwadau coch, gan gynnwys y targed 8 munud.
  • Amser ymateb fesul munud ar gyfer galwadau ambr.
  • Amseroedd ymateb cymedrig a chanolrif i alwadau coch.
  • Dangosyddion ansawdd ambiwlansys (Ionawr 2020 i Medi 2020).

Adran Damweiniau ac Achosion Brys (Mawrth 2020 i Hydref 2020)

  • Nifer a chanran y cleifion a welwyd o fewn yr amser targed o 4 awr.
  • Nifer a chanran y cleifion a welwyd o fewn 8 awr.
  • Nifer a chanran y cleifion a welwyd o fewn yr amser targed o 12 awr.
  • Amser aros cymedrig a chanolrif mewn adrannau brys.

Gwasanaethau canser (Chwefror 2020 i Medi 2020)

  • Nifer a chanran y cleifion sydd newydd gael diagnosis o ganser drwy’r llwybr brys ar gyfer achosion ag amheuaeth o ganser, sy’n dechrau triniaeth o fewn yr amser targed 62 diwrnod.
  • Nifer a chanran y cleifion sydd newydd gael diagnosis o ganser ond nid drwy’r llwybr brys ar gyfer achosion ag amheuaeth o ganser, sy’n dechrau triniaeth o fewn yr amser targed 31 diwrnod.
  • Nifer a chanran y cleifion sy’n dilyn yr un llwybr canser, sydd newydd gael diagnosis o ganser ac sy’n dechrau triniaeth o fewn 62 diwrnod (gan gynnwys gohiriadau).

Amser rhwng atgyfeirio a thriniaeth (Chwefror 2020 i Medi 2020)

  • Llwybrau cleifion sy’n aros i ddechrau triniaeth.
  • Llwybrau cleifion sy’n aros i ddechrau triniaeth o fewn yr amser targed.
  • Llwybrau cleifion a gaewyd yn ôl amser aros mewn wythnosau.
  • Canran y llwybrau cleifion a gaewyd.
  • Canolrif amseroedd aros rhwng atgyfeirio a thriniaeth.

Gwasanaethau diagnostig a therapi (Chwefror 2020 i Medi 2020)

  • Llwybrau cleifion sy’n aros i ddechrau triniaeth.
  • Llwybrau cleifion sy’n aros i ddechrau triniaeth o fewn yr amser targed.
  • Canolrif amseroedd aros ar gyfer gwasanaethau diagnostig a therapi.

Triniaethau arbenigol nad ydynt yn cael eu cynnwys yn y data amser rhwng atgyfeirio a thriniaeth (data sydd ddim yn RTT) (Chwefror 2020 i Medi 2020)

  • Llwybrau cleifion sy’n aros i ddechrau triniaeth yn ôl math o arbenigedd.

Oedi wrth drosglwyddo gofal

  • Nid yw casglu data wedi ailgychwyn yn y fformat cyn COVID-19, felly ni fydd data newydd yn cael ei gyhoeddi.

Newidiadau i ddata perfformiad y GIG yn y misoedd i ddod

Dros y misoedd nesaf, bwriedir gwneud sawl newid o ran sut y caiff perfformiad ei fesur yng ngwasanaethau’r GIG. Bydd hyn yn cael effaith uniongyrchol ar yr ystadegau a gyhoeddir yn y datganiad hwn. Wrth i gynlluniau ddatblygu, bydd manylion ychwanegol yn cael eu cynnwys yn y cyhoeddiad ystadegol misol ar berfformiad a gweithgarwch y GIG. Rydym yn croesawu adborth ar y cynlluniau hyn. Dyma’r newidiadau arfaethedig ar hyn o bryd.

Gwasanaethau canser

Fel y nodwyd mewn datganiadau ystadegol blaenorol, mae disodli’r mesurau perfformiad canser presennol (sef y llwybrau canser brys a llwybrau nad ydynt yn brys) wedi bod yn ddyhead ers peth amser gan sefydlu un mesur ar gyfer llwybr canser. Mae’r un llwybr canser yn ddull mwy tryloyw ac ystyrlon o fesur perfformiad gwasanaethau canser. Mae’n gwneud hyn drwy fesur yr amser ar y llwybr canser gan ddechrau ar yr adeg lle codwyd amheuaeth o ganser yn hytrach na’r adeg pan wneir penderfyniad i’w drin. Ar hyn o bryd, mae dros hanner y cleifion canser ar y llwybr nad yw’n frys, ac mae eu cyfnod aros am driniaeth canser yn dechrau rhan o’r ffordd i lawr y llwybr ar hyn o bryd yn hytrach nag yn y dechrau’n deg.

Mae data arbrofol ar gyfer yr un llwybr canser (gyda gohiriadau) wedi cael ei gasglu a’i gyhoeddi ers mis Mehefin 2019.

Ar yr amod bod y data’n ddigon cadarn i fodloni’r safonau a nodir yn y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau, bydd yr holl ddata perfformiad ar ganser a gyhoeddir yn y datganiad hwn yn cyfeirio at yr un llwybr canser yn unig yn y cyfnod adrodd o fis Ionawr 2021 ymlaen (cyhoeddiad ystadegol mis Mawrth 2021). Ni fyddwn yn cyhoeddi data ar y llwybrau brys a’r llwybrau nad ydynt yn rhai brys o’r adeg honno ymlaen.

Cofiwch fod y data cyfredol a gyhoeddir ar yr un llwybr canser yn cynnwys gohiriadau. Golyga hyn fod modd addasu’r amser aros am wahanol resymau, er enghraifft y claf yn gwrthod apwyntiad neu nid yw’n ddigon da i fynd i apwyntiad. Mae’n debyg na fydd y data a fydd yn cael ei gyhoeddi o gyfnod adrodd mis Ionawr 2021 yn cynnwys y rhan fwyaf o’r gohiriadau hyn, ac felly nid yw’n debygol y bydd modd ei gymharu’n uniongyrchol. Pan gaiff yr ystadegau hyn eu cyhoeddi am y tro cyntaf, cânt eu gweld fel ystadegau arbrofol a bydd rhagor o fanylion am yr union ddiffiniad yn cael eu cyhoeddi cyn y datganiad cyntaf.

Ochr yn ochr â’r bwriad i adrodd ar yr un llwybr canser yn unig, mae ystod o fesurau perfformiad cyd-destunol ehangach yn cael eu datblygu. Mae’r rhain yn cael eu llunio gan yr Adnodd Data Cenedlaethol yng Ngwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru (NWIS) a bwriedir eu cyhoeddi fel ystadegau arbrofol, bob chwarter, tua’r un pryd â newid i’r un llwybr canser.

Adrannau Damweiniau ac Achosion Brys

Ochr yn ochr â’r ystadegau swyddogol, mae tri mesur newydd wedi cael eu datblygu fel rhan o raglen Fframwaith Darparu ac Ansawdd Adrannau Achosion Brys. Mae’r rhaglen hon wedi datblygu ystod ehangach o fesurau, i ddarparu mwy o gyd-destun ynghylch darparu gofal mewn adrannau brys. Bydd y rhain yn cynnwys mesurau ar yr amser rhwng y claf yn cyrraedd a brysbennu, yr amser rhwng y claf yn cyrraedd a chyswllt gyda’r sawl sy’n gwneud penderfyniadau clinigol, a dadansoddiad o ble mae’r claf yn mynd ar ôl gadael yr adran frys.

Tra bo’r gwaith yn mynd rhagddo i ddatblygu’r setiau data a’r prosesau casglu data ar gyfer y mesurau newydd hyn, byddant yn cael eu cyhoeddi fel gwybodaeth reoli ar wefan yr Uned Gomisiynu Gydweithredol Genedlaethol. Ar yr amod bod y data’n ddigon cadarn a’i fod yn bodloni gofynion y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyhoeddi’r rhain ochr yn ochr â’n hystadegau swyddogol yn gynnar yn 2021, o dan fathodyn ystadegau arbrofol yn y lle cyntaf.

Oedi wrth drosglwyddo gofal

Ar ddechrau’r pandemig, roedd Llywodraeth Cymru wedi atal y gofynion i adrodd ar oedi wrth drosglwyddo gofal, ynghyd â nifer o setiau data eraill. Yn y cyfamser, mae cyflwynodd Llywodraeth Cymru y Gofynion Rhyddhau Covid-19, a oedd yn cynnwys proses ryddhau newydd gyda mwy o ffocws ar adsefydlu ac ail-alluogi.

Mae cydweithwyr yn yr adran bolisi ac Uned Gyflawni’r GIG wedi bod yn casglu data interim wythnosol am oedi cyn rhyddhau cleifion er mwyn rheoli’r trefniadau newydd. Nid yw’r data hyn yn mesur oedi wrth drosglwyddo gofal yn yr un modd â’r data a gasglwyd yn flaenorol, ac nid yw wedi cael ei asesu yn erbyn safonau’r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau. Bydd dewisiadau ar gyfer casglu a chyhoeddi data a mesurau perfformiad yn y dyfodol yn cael eu datblygu dros y misoedd nesaf.

Triniaethau arbenigol nad ydynt yn cael eu cynnwys yn y data amser rhwng atgyfeirio a thriniaeth (data sydd ddim yn RTT)

Cesglir y data hyn o’r ffurflen casglu data hirsefydlog PP01W ac mae’n cynnwys triniaethau arbenigol sy’n ymwneud ag iechyd meddwl, deintyddiaeth a meddygaeth liniarol.

Canfuwyd bod y diffiniadau a’r dulliau casglu data a ddefnyddiwyd yn PP01W wedi dyddio ac nad ydynt bellach yn addas i’r diben. Felly, y bwriad yw peidio â chyhoeddi data o’r broses gasglu data hon ar ôl cyfnod adrodd mis Medi, yn natganiad ystadegol mis Tachwedd. Mae’n bosib y rhoddir gorau hefyd i gasglu’r data ei hun, yn amodol ar asesiad effaith.

Yn dilyn y problemau a nodwyd gyda phroses gasglu data PP01W, rydym wedi bod yn casglu data arbenigol ar wasanaethau iechyd meddwl plant a’r glasoed (sCAMHS) gan ddefnyddio gwybodaeth reoli ers mis Ebrill 2018. Bydd data ar gyfer sCAMHS yn dal i gael ei gasglu a’i gyhoeddi ar y sail hon am y tymor byr, cyn y caiff proses gasglu data newydd ei datblygu. Wedyn, bwriedir cyhoeddi data sCAMHS ochr yn ochr â data iechyd meddwl arall ar ôl sefydlu’r broses newydd. Y dyddiad targed yw gwanwyn 2021.

4. Gwybodaeth allweddol am ansawdd

Amseroedd ymateb ambiwlansys

Fel rhan o'r adolygiad parhaus o'r model ymateb clinigol, mae Gwasanaeth Ambiwlans Cymru yn adolygu’r arferion ymdrin â galwadau a chategoreiddio digwyddiadau yn rheolaidd. Mae’n ymddangos bod addasu’r arferion trin galwadau ym mis Mai 2019 wedi arwain at wahaniaethau yn nifer y galwadau coch. Felly, nid yw’n bosibl cymharu niferoedd digwyddiadau coch cyn hyn. Gallai cynnydd yn nifer y digwyddiadau coch hefyd effeithio ar berfformiad oherwydd yr adnoddau ychwanegol sydd eu hangen i fynd i ddigwyddiad coch.

Fel y cyhoeddwyd mewn datganiad gan y Dirprwy Weinidog Iechyd, rhoddwyd model ymateb clinigol newydd ar waith yng Nghymru o 1 Hydref 2015. Deuddeg mis oedd hyd y treial ar y cychwyn ond cafodd ei ymestyn am 6 mis arall. Ond, ar ôl cael adroddiad gwerthuso annibynnol a gomisiynwyd gan y Pwyllgor Gwasanaethau Ambiwlans Brys, rhoddwyd y model ymateb clinigol ar waith (Chwefror 2017). Gweler yr Adroddiad ansawdd i gael rhagor o fanylion.

Categorïau galwadau

Coch: Lle mae bywyd rhywun yn y fantol (mae rhywun mewn perygl o farw’n gyflym, fel ataliad ar y galon).

Ambr: Difrifol, ond nid yw bywyd rhywun yn y fantol (cleifion fydd yn aml yn gorfod cael triniaeth yn y fan a'r lle, ac yna’n gorfod mynd i’r ysbyty).

Gwyrdd: Heb fod yn frys (yn aml, bydd gwasanaethau iechyd eraill ac asesiad clinigol dros y ffôn yn gallu rheoli’r achosion hyn).

Mae categori galwad yn cael ei bennu ar sail yr wybodaeth a roddir gan y galwr yn ei ymatebion i set o gwestiynau wedi’u sgriptio, sydd yna’n cael eu brysbennu’n awtomatig gan y system Pennu Blaenoriaethau Meddygol (MPDS). Rhoddir hyd at ddau funud i’r rheini sy’n cymryd yr alwad adnabod natur cyflwr y claf a pha mor ddifrifol ydyw (ar gyfer y galwadau hynny lle nad yw bywyd yn y fantol). Bydd ambiwlans neu adnodd priodol arall yn cael ei ddanfon cyn gynted ag y bydd y cyflwr a’i ddifrifoldeb wedi’i bennu. Gyda galwadau hynod ddwys, gall hyn fod tra mae’r galwr yn dal ar y ffôn. Mae dau achlysur lle mae modd newid blaenoriaeth galwad; pan fydd gwybodaeth newydd gan y galwr yn cael ei hasesu drwy'r system MPDS, neu pan fydd nyrs neu barafeddyg wedi casglu rhagor o wybodaeth am gyflwr y claf dros y ffôn.

Diwygiadau: Mae unrhyw ddiwygiadau i’r data yn cael eu nodi yn y ‘Nodiadau ar gyfer cyhoeddiad y mis hwn’ ac yn yr wybodaeth sy’n cyd-fynd â chiwbiau StatsCymru pob mis.

Gwasanaethau Ambiwlans: StatsCymru

Gwasanaethau Ambiwlans: adroddiad ansawdd

Gwasanaethau Ambiwlans: cyhoeddiadau blynyddol

Adrannau Damweiniau ac Achosion Brys

Mae ystadegau’r Adrannau Damweiniau ac Achosion Brys yn dangos data misol ar nifer y bobl sy'n bresennol ac yn cael eu derbyn i ysbytai o ganlyniad i dderbyniadau i adrannau damweiniau ac achosion brys mawr yng Nghymru. Mae dau gategori o gyfleuster gofal brys, Adrannau Damweiniau ac Achosion Brys Mawr ac Unedau Damweiniau ac Achosion Brys/Mân Anafiadau eraill. Diffinnir Adrannau Damweiniau ac Achosion Brys Mawr fel gwasanaeth dan arweiniad meddygon ymgynghorol gyda chyfleusterau dadebru a llety ar gyfer derbyn cleifion Damweiniau ac Achosion Brys. Rhaid i Adrannau Damweiniau ac Achosion Brys Mawr ddarparu gwasanaethau dadebru, asesu a thrin salwch acíwt ac anafiadau i gleifion o bob oed, a rhaid i wasanaethau fod ar gael 24 awr y dydd yn ddi-dor. Caiff Unedau Damweiniau ac Achosion Brys/Mân Anafiadau eraill eu diffinio fel yr holl unedau Damweiniau ac Achosion Brys/argyfyngau/mân anafiadau eraill, sydd â llety i dderbyn cleifion Damweiniau ac Achosion Brys ac y gellir cael gafael arnynt heb apwyntiad.

Oherwydd pandemig COVID-19 , mae sawl Uned Mân Anafiadau wedi cau dros dro, ond mae rhai wedi ail-agor ers hynny. Y rhain yw Ysbyty y Barri (caeodd ym mis Mawrth 2020; ailagorwyd ym mis Awst 2020); Bryn Beryl (caeodd ym mis Mai 2020; ailagorwyd ym mis Awst 2020);Ysbyty Dolgellau ac Abermo (caeodd ym mis Ebrill 2020; yn dal wedi cau); Ysbyty Coffa Tywyn a’r Cyffiniau (caeodd ym mis Mehefin 2020; yn dal wedi cau); ac Ysbyty Llanymddyfri (caeodd ym mis Ebrill 2020; yn dal wedi cau).

Atgyfeirio cleifion allanol

Diwygiadau: O fis Rhagfyr 2015 ymlaen, nod ein polisi diwygio yw edrych yn ôl ar bob 12 mis ar sail fisol, a chynnal adolygiad llawn o’r ffigurau atgyfeirio yn ôl i fis Ebrill 2012 ar ddiwedd pob blwyddyn ariannol (pan mai'r data ar gyfer mis Mawrth mewn unrhyw flwyddyn benodol yw’r data diweddaraf sydd ar gael i ni).

Cymaroldeb a chydlyniad: Mae gwybodaeth debyg ar gael o rannau eraill o’r DU ond nid oes modd cymharu'r data yn llwyr oherwydd safonau a diffiniadau lleol ym mhob ardal. Cytunwyd ar ddiffiniadau a safonau data ar draws byrddau iechyd, gan sicrhau bod data’n cael eu casglu’n gyson ar draws Cymru.

Atgyfeirio cleifion allanol: StatsCymru

Atgyfeirio cleifion allanol: adroddiad ansawdd

Llwybrau canser

Ar hyn o bryd, mae cleifion sydd â chanser yn cael eu rhannu’n ddau grŵp penodol (yn unol â'r safonau canser).

Y rheini sy’n cael eu hatgyfeirio drwy’r llwybr brys ar gyfer achosion ag amheuaeth o ganser:

  • mae'r grŵp hwn yn cynnwys cleifion sy’n cael eu hatgyfeirio o ofal sylfaenol (ee, gan feddyg teulu) i ysbyty fel achosion brys ag amheuaeth o ganser, a bod hyn wedyn yn cael ei gadarnhau fel achos brys gan yr ymgynghorydd meddygol neu gan aelod dynodedig o’r Tîm Amlddisgyblaethol

Y rheini nad ydynt yn cael eu hatgyfeirio drwy’r llwybr brys ar gyfer achosion ag amheuaeth o ganser:

  • mae’r grŵp hwn yn cynnwys cleifion sydd â chanser (ni waeth beth yw eu llwybr atgyfeirio), nad ydynt wedi’u cynnwys yn barod fel cleifion sy’n cael eu hatgyfeirio fel achos brys ag amheuaeth o ganser

Mae'r ystadegau hyn yn cynnwys pob claf â chanser, waeth beth fo'i ardal breswyl, sydd wedi dechrau triniaeth yn y cyfnod adrodd. Nid ydynt yn cynnwys cleifion o Gymru â chanser sy'n cael triniaeth mewn ysbytai preifat neu ysbytai'r GIG y tu allan i Gymru.

Nid yw cleifion lle mae’r canser cynradd gwreiddiol yn dychwelyd yn cael eu cynnwys. 

Nid yw Powys ar hyn o bryd yn cyflwyno data ar gleifion â chanser a atgyfeiriwyd drwy’r llwybr ar frys oherwydd amheuaeth o ganser neu heb fod ar frys gan nad yw Powys yn darparu gwasanaethau acíwt. Caiff trigolion o Bowys eu cynnwys yn y data a gyflwynwyd gan fyrddau iechyd lleol eraill. 

Ar hyn o bryd, mae data sy’n ymwneud â nifer y cleifion sydd newydd gael diagnosis sy’n dechrau eu triniaeth a nifer yr atgyfeiriadau a wneir yn ôl llwybr triniaeth canser, safle canser a bwrdd iechyd lleol ar gael yn fisol ar StatsCymru.

Un Llwybr Canser

Mae Un Llwybr Canser yn gasgliad o amseroedd aros newydd a gyhoeddwyd yn 2018 gan Vaughan Gething AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol. Mae'r ystadegau'n cynnwys pob claf yr amheuir bod canser arno. Mae'r llwybr yn mesur yr amser rhwng yr amheuaeth a dechrau'r driniaeth, yn hytrach na'r pwynt atgyfeirio.

I gael rhagor o wybodaeth am yr un llwybr canser, darllenwch ddogfennau allweddol yr un llwybr canser.

Ffynonellau

  • Mae data ymateb ambiwlansys yn cael eu darparu gan Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru.
  • Mae data amseroedd aros canser yn cael eu darparu gan y byrddau iechyd lleol yn uniongyrchol i Lywodraeth Cymru.
  • Mae'r holl ddata arall sydd wedi’u crynhoi yma yn cael eu casglu oddi wrth fyrddau iechyd lleol gan Wasanaeth Gwybodeg GIG Cymru. Mae manylion llawn ar gael yn yr Adroddiadau Ansawdd ar gyfer pob maes gwasanaeth (gweler y dolenni isod).

Yr amserlen

Nid oes gan bob set ddata yr un amserlenni ar gyfer prosesu. I sicrhau bod y data ar gael cyn gynted ag y bo modd, rydym yn cyhoeddi data gofal heb ei drefnu ar gyfer mis Chwefror, dyweder, gyda’r data gofal wedi'i gynllunio ar gyfer mis Ionawr.

Data

Mae’r holl siartiau yn y datganiad hwn yn dechrau gyda’r mis y cafodd data cymharol eu casglu am y tro cyntaf, ac eithrio galwadau coch am ambiwlans, gan ei bod yn ymddangos bod nifer y digwyddiadau coch wedi newid yn sgil diweddaru’r arferion trin galwadau ym mis Mai 2019. Felly, nid yw’n bosibl cymharu nifer y galwadau coch cyn y cyfnod hwn.

Mae modd gweld, defnyddio neu lwytho rhagor o setiau data manwl i lawr drwy ein API data agored ar StatsCymru.

Cyfrifir newidiadau pwynt canran gan ddefnyddio ffigurau heb eu talgrynnu.

Adolygiadau

Cyflwynir gwybodaeth yn ymwneud â diwygiadau yn y ‘Nodiadau ar gyfer cyhoeddiad y mis hwn’ ac yn yr wybodaeth sy'n cyd-fynd â setiau data StatsCymru bob mis.

Perthnasedd

Beth yw'r ffyrdd posibl o ddefnyddio'r ystadegau hyn?

Bydd yr ystadegau hyn yn cael eu defnyddio mewn amryw o ffyrdd. Dyma rai enghreifftiau:

  • cyngor i Weinidogion
  • asesu, rheoli a monitro perfformiad GIG Cymru yn erbyn targedau
  • llywio prosiectau gwella gwasanaethau ar gyfer meysydd ffocws a chyfleoedd i wella ansawdd
  • gan Fyrddau Iechyd Lleol y GIG, i'w meincnodi eu hunain yn erbyn byrddau iechyd lleol eraill
  • cyfrannu at erthyglau newyddion ar amseroedd aros
  • helpu i bennu'r gwasanaeth y gall y cyhoedd ei gael gan GIG Cymru

Pwy yw prif ddefnyddwyr posibl y data hyn?

Bydd yr ystadegau hyn yn ddefnyddiol o fewn Llywodraeth Cymru a’r tu hwnt iddi. Dyma rai o'r prif ddefnyddwyr posibl:

  • Gweinidogion a'u cynghorwyr
  • Aelodau Senedd Cymru a Gwasanaeth Ymchwil Aelodau Senedd Cymru
  • byrddau iechyd lleol
  • awdurdodau lleol
  • Yr adran Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn Llywodraeth Cymru a meysydd eraill o Lywodraeth Cymru
  • Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru
  • Iechyd Cyhoeddus Cymru
  • y gymuned ymchwil
  • myfyrwyr, academyddion a phrifysgolion
  • dinasyddion unigol a chwmnïau preifat
  • y cyfryngau

Gallai'r ystadegau fod yn ddefnyddiol hefyd ar gyfer llywodraethau eraill y DU

Adran Iechyd, Gwasanaethau Cymdeithasol a Diogelwch y Cyhoedd Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon

Llywodraeth yr Alban

Adran Iechyd Lloegr

Statws Ystadegau Gwladol

Mae Awdurdod Ystadegau'r Deyrnas Unedig wedi dynodi’r holl ystadegau a gyflwynir yma fel Ystadegau Gwladol, yn unol â Deddf Ystadegau a’r Gwasanaeth Cofrestru 2007 a chan ddynodi ei fod yn cydymffurfio â’r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau.

Mae statws Ystadegau Gwladol yn golygu bod ein hystadegau yn cyrraedd y safonau uchaf o ran dibynadwyedd, ansawdd a gwerth cyhoeddus, a'n cyfrifoldeb ni yw sicrhau y cydymffurfir â'r safonau hyn.

Dylai’r holl ystadegau swyddogol gydymffurfio â phob agwedd ar y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau. Dyfernir statws Ystadegau Gwladol iddynt yn dilyn asesiad gan gangen reoleiddio Awdurdod Ystadegau’r DU. Mae’r Awdurdod yn ystyried a yw’r ystadegau’n cyrraedd y safonau uchaf o ran cydymffurfio â’r Cod, gan gynnwys y gwerth y maent yn ei ychwanegu at benderfyniadau a dadleuon cyhoeddus.

Cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yw parhau i gydymffurfio â’r safonau a ddisgwylir gan Ystadegau Gwladol. Os byddwn yn dechrau pryderu ynghylch p’un a yw’r ystadegau hyn yn dal i gyrraedd y safonau priodol, byddwn yn trafod unrhyw bryderon â’r Awdurdod yn brydlon. Gellir dileu statws Ystadegau Gwladol ar unrhyw adeg pan nad yw’r safonau uchaf yn cael eu cynnal, a gellir adennill y statws pan fo’r safonau’n cael eu hadfer.

Cadarnhawyd bod yr ystadegau hyn yn parhau i gael eu dynodi'n Ystadegau Gwladol yn 2011 yn dilyn gwiriad cydymffurfiaeth gan y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau. Cafodd yr ystadegau hyn eu hasesu'n llawn yn erbyn y Cod Ymarfer ddiwethaf yn 2011.

Ystadegau Arbrofol

Ystadegau Arbrofol yw’r ystadegau sy’n gysylltiedig ag Un Llwybr Canser. Maent yn cael eu defnyddio i roi gwybod i ddefnyddwyr am y data a’r ffaith fod yr ystadegau yr adroddir arnynt yn dal i gael eu datblygu ac y gallai fod problemau o ran ansawdd y data. Fodd bynnag, mae’r ystadegau’n dal i fod o werth ar yr amod fod defnyddwyr yn eu hystyried yng nghyd-destun gwybodaeth am ansawdd y data sydd ar gael. Wrth i’r set ddata aeddfedu, bydd cwmpas ac ansawdd y data yr adroddir arnynt yn gwella, a gellir defnyddio’r data ar gyfer amrywiaeth eang o resymau buddiol.

Mae’r rhain yn ystadegau swyddogol sy’n cael eu cyhoeddi er mwyn cynnwys defnyddwyr a rhanddeiliaid yn y broses o’u datblygu ac fel ffordd o sicrhau ansawdd yn gynnar yn y broses.

Dylai’r holl ystadegau swyddogol gydymffurfio â holl agweddau Cod Ymarfer Ystadegau Swyddogol. Dyfernir statws Ystadegau Gwladol iddynt yn dilyn asesiad gan gangen reoleiddio Awdurdod Ystadegau’r DU. Mae’r Awdurdod yn ystyried a yw’r ystadegau’n cyrraedd y safonau uchaf o ran cydymffurfio â’r Cod, gan gynnwys y gwerth y maent yn ei ychwanegu at benderfyniadau a dadleuon cyhoeddus.

Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio ystadegau arbrofol.

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yn ymwneud â gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’r Ddeddf yn cyflwyno saith nod llesiant ar gyfer Cymru, sef: Cymru fwy cyfartal, llewyrchus, cydnerth, iachach a chyfrifol ar lefel fyd-eang, gyda chymunedau cydlynus a diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu. Dan adran (10) (1) o'r Ddeddf, rhaid i Weinidogion Cymru (a) gyhoeddi dangosyddion ("dangosyddion cenedlaethol") y mae'n rhaid eu cymhwyso er mwyn mesur cynnydd tuag at gyrraedd y nodau llesiant, a (b) chyflwyno copi o'r dangosyddion cenedlaethol gerbron Senedd Cymru. Gosodwyd y 46 o ddangosyddion cenedlaethol ym mis Mawrth 2016.

Mae gwybodaeth am y dangosyddion, ynghyd â naratifau ar gyfer pob un o'r nodau llesiant a'r wybodaeth dechnegol gysylltiedig ar gael yn adroddiad Llesiant Cymru.

Rhagor o wybodaeth am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.

Gallai’r ystadegau sydd wedi eu cynnwys yn y datganiad hwn hefyd ddarparu naratif i gefnogi’r dangosyddion cenedlaethol a gallent gael eu defnyddio gan fyrddau gwasanaethau cyhoeddus mewn cysylltiad â’u hasesiadau llesiant lleol a’u cynlluniau llesiant lleol.

Diweddariad nesaf

19 Tachwedd 2020

Hoffem gael adborth gennych

Rydym yn croesawu unrhyw adborth ar unrhyw agwedd ar yr ystadegau hyn. Gellir eu darparu drwy e-bost at ystadegau.iechyd@llyw.cymru.

5. Manylion cyswllt

Ystadegydd: Rhys Strafford
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Ffôn: 0300 025 5050
E-bost: ystadegau.iechyd@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099

Image removed.

SFR 178/2020