Neidio i'r prif gynnwy

Ymunwch ag Astudiaeth Symptomau COVID i helpu'r GIG yn y frwydr yn erbyn y coronafeirws.

Lawrlwythwch yr ap a chwblhewch arolwg iechyd byr bob dydd, hyd yn oed os ydych yn iach. Bydd ateb rhai cwestiynau cyflym yn helpu gwyddonwyr i ddarganfod mwy am y coronafeirws. Mae ymchwil yn edrych ar ble y mae'n lledaenu er mwyn i ni gynllunio gwasanaethau'r GIG.

Bydd yr astudiaeth yn defnyddio eich gwybodaeth ar gyfer ymchwil, ac ni fydd yn cael ei werthu.

Nid yw'r ap yn defnyddio Bluetooth ac nid yw'n gysylltiedig ag unrhyw apiau olrhain cyswllt. Mae Llywodraeth Cymru a GIG Cymru yn ei gymeradwyo.