Arolwg Iechyd a Lles Myfyrwyr
Mae'r arolwg yn rhoi gwybodaeth gadarn ynglŷn ag iechyd a lles pobl ifanc yng Nghymru.
Cynnwys
Y cyhoeddiad diweddaraf
Cyhoeddiadau blaenorol
Gwybodaeth gefndirol
Cynhelir yr arolwg gan y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion. Mae’r rhwydwaith yn bartneriaeth sy'n cael ei harwain gan y Ganolfan Datblygu a Gwerthuso Ymyriadau Cymhleth er mwyn Gwella Iechyd y Cyhoedd (DECIPHer) ym Mhrifysgol Caerdydd, gyda Llywodraeth Cymru; Iechyd Cyhoeddus Cymru; Cancer Research UK; a Sefydliad Ymchwil, Data a Methodoleg Gymdeithasol ac Economaidd Cymru.
Mae myfyrwyr mewn ysgolion uwchradd prif ffrwd a gynhelir yng Nghymru yn cwblhau'r Arolwg Iechyd a Lles Myfyrwyr dwyieithog, electronig bob dwy flynedd. Mae’r arolwg yn cael ei gyfuno â Holiadur Amgylchedd Ysgol y mae pob ysgol yn ei gwblhau ar eu polisïau ac arferion iechyd.
Mae'r arolwg wedi'i seilio ar arolwg Ymddygiad Iechyd mewn Plant Oedran Ysgol (HBSC) traws-genedlaethol Sefydliad Iechyd y Byd, y mae Cymru wedi cymryd rhan ynddo ers 1985.