Yn 2019, fe wnaeth 119,388 o fyfyrwyr o 198 o ysgolion gymryd rhan yn yr arolwg Iechyd a Lles Myfyrwyr, gan ddarparu sampl genedlaethol gynrychioliadol o’r glasoed yng Nghymru.
Nid y datganiad diweddaraf yn y gyfres: Arolwg Iechyd a Lles Myfyrwyr
Arolwg Medi i Ragfyr 2019
Mae'r arolwg yn rhoi dealltwriaeth fanwl o iechyd a lles pobl ifanc, gan gynnwys y boblogaeth gyfan ac is-grwpiau o'r boblogaeth.
Mae’r arolwg yn cynnwys:
- iechyd meddwl a lles
- bywyd ysgol
- defnyddio sylweddau a gamblo
- gweithgarwch corfforol a deiet
- bywyd teuluol a chymdeithasol
- perthnasoedd
Ysmygu a fepio gan bobl ifanc yng Nghymru
Mae tybaco yn parhau’n brif achos marwolaeth ac anabledd, a mynegwyd pryder ynghylch defnydd pobl ifanc o e-sigaréts a’r risg y gallai eu defnyddio fod yn gam tuag at ysmygu neu y gallai ail-normaleiddio defnyddio tybaco. Mae’r briff hwn yn cyflwyno data diweddar am gyffredinolrwydd ysmygu a fepio ymhlith pobl ifanc 11 i 16 oed yng Nghymru
Adroddiadau
Cyswllt
Eleri Jones
Rhif ffôn: 0300 025 0536
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.