Neidio i'r prif gynnwy

Gweinyddir yr Holiadur Amgylchedd Ysgol bob dwy flynedd, ochr yn ochr â'r Arolwg Iechyd a Lles Myfyrwyr, mewn ysgolion sy'n aelodau o'r Rhwydwaith Ymchwil Iechyd Mewn Ysgolion.

Mae'n casglu data ar bolisïau ac arferion ysgolion sy'n gysylltiedig â chanlyniadau iechyd. Fe'i cwblheir gan aelod o uwch staff yr ysgol ar ran yr Uwch Dîm Arweinyddiaeth. 

Cwblhawyd Holiadur Amgylchedd Ysgol 2020 ar-lein gan gyfanswm o 167 allan o 213 (78%) o safleoedd ysgolion uwchradd ledled Cymru ym mis Ionawr i Fawrth 2020.

Mae'r prif adroddiad yn cyflwyno data cyffredinol ar ystod eang o gwestiynau a oedd wedi'u cynnwys yn yr Holiadur Amgylchedd Ysgol.

Mae'r papur ymchwil ar baratoadau ysgolion ar gyfer diwygiadau i'r cwricwlwm yn cyflwyno data o'r Holiadur Amgylchedd Ysgol ar lefelau parodrwydd canfyddedig ysgolion a gynhelir i gyflwyno’r Cwricwlwm i Gymru, gan ganolbwyntio'n benodol ar baratoadau i ddarparu addysg iechyd a lles. Mae'r papur ymchwil yn rhoi cipolwg ar y sefyllfa ar ddechrau 2020, ychydig flynyddoedd cyn cyflwyno’r cwricwlwm yn genedlaethol.

Cyswllt

Eleri Jones

Rhif ffôn: 0300 025 0536

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.