Aelwydydd a warchodir (cyfansoddiad a nodweddion yn ystod y pandemig coronafeirws (COVID-19)): Gorffennaf 2020
Dadansoddiad gan ddefnyddio data cysylltiedig i amcangyfrif nifer yr aelwydydd a warchodir ym mis Gorffennaf 2020 yn ôl y math o aelwyd.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
1. Prif ganlyniadau
- Roedd tua 130,000 o bobl ar y rhestr warchod yng Nghymru erbyn mis Gorffennaf 2020.
- Roedd dros 121,000 o aelwydydd yng Nghymru yn cynnwys person oedd yn gwarchod ei hun. Roedd oddeutu 64,000 (neu 53%) o'r rhai oedd yn gwarchod eu hunain yn byw ar eu pennau eu hunain, ac roedd ychydig o dan eu hanner (47%) yn 70 oed a throsodd.
- Nid oedd y rhan fwyaf o aelwydydd lle’r oedd rhywun yn gwarchod ei hun yn cynnwys mwy na 2 oedolyn heb blant.
- Roedd dros 92,000 o bobl yn byw rhai y gofynnwyd iddynt warchod eu hunain, felly roedd tua 223,000 o bobl mewn aelwydydd a warchodir.
- Gofynnwyd i fwy o fenywod na dynion warchod eu hunain, a mwy o fechgyn nag o ferched.
- Serch hynny, roedd mwy o blant yn byw gyda rhywun oedd yn gwarchod ei hun nag o blant oedd yn gwarchod eu hunain.
2. Aelwydydd a warchodir
Amcangyfrifir bod 121,800 o aelwydydd yn cynnwys person oedd ar y rhestr warchod ddiwedd mis Gorffennaf 2020. Mae hyn yn gyfystyr â thua 9% o aelwydydd yng Nghymru (yn seiliedig ar amcangyfrifon aelwydydd ar gyfer canol 2019). Roedd ychydig dros hanner yr aelwydydd a warchodir (64,000 neu 53%) yn cynnwys 1 oedolyn yn byw ar ei ben ei hun (neu aelwydydd ‘oedolion unigol' fel y dangosir yn Siart 1) tra bod 35,000 (neu 29%) yn cynnwys 2 oedolyn heb unrhyw blant. O ganlyniad, roedd mwyafrif helaeth (81%) o’r aelwydydd a warchodir yn cynnwys dim mwy na 2 oedolyn heb blant preswyl (o ran cymhariaeth, roedd y ffigur hwn yn 63% ar gyfer aelwydydd ledled Cymru gyfan yn 2019). Roedd tua 3% o’r aelwydydd a warchodir (tua 3,500) yn cynnwys 1 oedolyn ac 1 neu fwy o blant (o gymharu â 7% ledled Cymru yn 2019).
Aelwydydd a warchodir yng Nghymru yn ôl math o aelwyd, Gorffennaf 2020 (MS Excel)
Mae'r amcangyfrifon hyn yn seiliedig ar y rhai oedd yn byw mewn cyfeiriad preswyl yr un pryd â rhywun ar y rhestr warchod. Fodd bynnag, gall y Cyfeirnod Eiddo a ddefnyddir i sefydlu hyn berthyn i fwy nag un annedd (e.e. blociau o fflatiau), felly mae’n bosibl bod nifer y preswylwyr sy'n byw gyda pherson a warchodir wedi’i oramcangyfrif mewn rhai achosion. Yn ogystal, ni fu'n bosibl eithrio cartrefi gofal preswyl o'r rhestr o breswylfeydd (y gellir disgwyl iddynt ymddangos fel aelwydydd mwy sy'n cynnwys mwy na 3 oedolyn). O ganlyniad, gall niferoedd gwirioneddol aelwydydd mawr fod yn is, tra gall nifer yr aelwydydd llai fod yn uwch na'r amcangyfrifon a gyflwynir yn Siart 1.
Ar gyfer y rhan fwyaf o awdurdodau lleol, mae Siart 2 yn dangos nad oedd mwy nag 80% o aelwydydd a warchodir yn cynnwys mwy na 2 oedolyn heb blant preswyl. Hefyd, mewn llawer o awdurdodau roedd dros hanner yr aelwydydd a warchodir yn aelwydydd oedolion unigol. Ar gyfartaledd roedd tua 9% o aelwydydd a warchodir yn cynnwys plant.
Aelwydydd a warchodir yn ôl math ac awdurdod lleol, Gorffennaf 2020 (MS Excel)
3. Pobl a warchodir sy’n byw ar eu pennau eu hunain, yn ôl oedran a rhyw
Roedd ychydig o dan hanner y rhai oedd yn gwarchod eu hunain ac yn byw ar eu pennau eu hunain (47%) yn 70 oed a throsodd, ac roedd y mwyafrif helaeth yn 50 oed neu drosodd (87%). Roedd y band oedran 70 i 74 yn cynnwys dros 10,000 o bobl oedd yn gwarchod eu hunain, gyda mwy o fenywod na dynion wedi cael eu cynghori i wneud hynny. Roedd hyn hefyd yn wir am bobl 75 oed a throsodd. I'r rhai hyd at 44 oed roedd mwy o’r dynion nag o’r menywod oedd wedi cael eu cynghori i warchod eu hunain yn byw ar eu pennau eu hunain, ond gyda llai na 4,000 yn gwneud hynny ar gyfer pob band oedran.
Proffil oedran pobl a warchodir sy'n byw ar eu pennau eu hunain, Gorffennaf 2020 (MS Excel)
Pan gaiff ei ddadansoddi yn ôl oedran ac awdurdod lleol, mae'n amlwg bod y rhan fwyaf o bobl sy'n gwarchod eu hunain ac yn byw ar eu pennau eu hunain dros 60 oed a bod y rhan fwyaf o'r rhain yn y grŵp oedran 60 i 74. Mae hyn yn wir ar draws pob awdurdod lleol yng Nghymru fel y dangosir yn Siart 4.
4. Pobl a warchodir neu sy’n byw gyda rhywun a warchodir
Erbyn mis Gorffennaf 2020 roedd 130,000 o bobl yng Nghymru wedi cael eu cynghori i warchod eu hunain; o'r rhain roedd llai na 5,000 yn blant o dan 18 oed. Nodwyd bod dros 92,000 o bobl yn byw gyda pherson a warchodir, felly amcangyfrifwyd bod dros 223,000 o bobl yn byw ar aelwydydd a warchodir. O'r rhai oedd yn byw gyda rhywun oedd yn gwarchod ei hun, roedd tua 79,000 yn oedolion a thros 13,000 yn blant. Roedd y rhan fwyaf o blant (74%) yn byw gyda rhywun y gofynnwyd iddo warchod ei hun yn hytrach nag wedi cael cyngor i warchod eu hunain.
Mae'r amcangyfrif cyffredinol o 18,000 o blant oedd yn byw ar aelwydydd a warchodir yn is na'r amcangyfrif a gyflwynwyd mewn datganiad blaenorol sy'n ymwneud â phlant mewn aelwydydd a warchodir. Roedd y ffigur yn y datganiad blaenorol yn seiliedig ar wahanol setiau data, gan gynnwys plant 3 i 19 oed yn y CYBLD (Cyfrifiad Ysgolion Blynyddol ar Lefel Disgyblion). Mae’r datganiad hwn yn cyfrif plant fel rhai o dan 18 oed yn unig. Ceir trafodaeth bellach yn Adran 6 isod ynghylch y gwahaniaeth o ran yr amcangyfrifon o blant.
Caiff y ffigurau hyn eu dadansoddi yn ôl rhyw yn Siart 6, ynghyd ag a oedd rhywun yn gwarchod ei hun neu'n byw gyda rhywun oedd yn gwarchod ei hun. Gofynnwyd i fwy o fenywod nag o ddynion warchod eu hunain, ond roedd nifer gweddol gyfartal o fenywod a dynion yn byw gyda pherson y gofynnwyd iddo warchod ei hun. Gofynnwyd i fwy o fechgyn nag o ferched warchod eu hunain, ac fel y dangosir uchod roedd plant yn fwy tebygol o fod yn byw gyda rhywun oedd yn gwarchod ei hun nag oeddent o fod yn gwarchod eu hunain.
5. Gwybodaeth am y set ddata
Mae'r dadansoddiad hwn yn seiliedig ar ddata dienw a gedwir yn y system Cyswllt Diogel Gwybodaeth Ddienw (SAIL), sy'n rhan o seilwaith ymchwil cofnodion e-iechyd cenedlaethol Cymru. Cafodd yr holl ddata eu gwneud yn ddienw cyn eu cael, a chawsant eu defnyddio o fewn yr amgylchedd diogel a ddarparwyd gan Fanc Data SAIL.
Mae'r Rhestr Gwarchod Cleifion yn rhestr o bobl sy'n agored iawn i niwed yn glinigol. Bernir mai hwy sydd fwyaf tebygol o fynd yn sâl os byddant yn dal y coronafeirws. Dylai pobl sy’n gwarchod eu hunain fod wedi derbyn llythyr neu gael gwybod gan eu meddyg teulu eu bod yn y grŵp hwn. Mae'r Rhestr Gwarchod Cleifion wedi’i llunio ar sail amrywiaeth o ffynonellau data o’r Gwasanaeth Iechyd. Mae rhagor o wybodaeth am y ffynonellau a'r fethodoleg ar gael ar wefan Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru.
Mae set ddata 'C-19-COHORT20' yn SAIL yn darparu set ddiffiniol o gofnodion dienw i bawb sy'n byw yng Nghymru ar 1 Ionawr 2020, a grëwyd yn benodol at ddibenion dadansoddi ymchwil i’r feirws COVID-19 ac effaith ehangach y pandemig. O'r set ddata hon mae'n bosibl nodi a yw rhywun sy'n byw yng Nghymru wedi marw ers hynny, boed hynny o COVID-19 ai peidio. Cysylltwyd y Rhestr Gwarchod Cleifion â data o'r tabl C-19-COHORT20 er mwyn deall nodweddion aelwydydd sy'n cynnwys pobl a warchodir.
6. Gwybodaeth am ansawdd a methodoleg
Mae'r Uned Ymchwil Data Gweinyddol (ADRU) yn Llywodraeth Cymru yn cynnal prosiectau ymchwil er budd y cyhoedd gan ddefnyddio setiau data gweinyddol sefydledig. Yn ystod pandemig y coronafeirws (COVID-19), mae ADRU wedi ymgymryd â nifer o brosiectau cysylltu data. Roedd un o'r prosiectau hyn yn cynnwys cysylltu'r Rhestr Gwarchod Cleifon â data Gwasanaeth Demograffeg Cymru (WDS) i amcangyfrif nifer y bobl sy'n byw gyda pherson a warchodir. Mae'r dadansoddiad hwn yn defnyddio'r Rhestr Gwarchod Cleifion ar 26 Gorffennaf 2020 pan oedd 130,490 o rifau GIG unigryw ar y rhestr. Cysylltwyd y Rhestr Gwarchod Cleifion â data WDS ar gyfer y rhai oedd yn preswylio o 1 Mawrth 2020 hyd at 31 Awst 2020.
Er mwyn amcangyfrif nifer yr oedolion a'r plant sy'n byw ar aelwydydd lle mae pobl a warchodir, cysylltwyd y rhestr warchod i ddechrau â data WDS i ddod o hyd i'r maes cyswllt preswyl dienw (RALF). Yna defnyddiwyd y RALF i nodi pobl eraill sy'n byw yn yr un breswylfa ar ddechrau 2020. O'r data cyfunol roedd yn bosibl penderfynu a oedd pobl oedd yn rhannu'r un cyfeiriad yn gwarchod eu hunain neu'n byw gyda'r rhai y gofynnwyd iddynt wneud hynny, yn seiliedig ar pryd y gwnaethant symud i fyw yno. Ar gyfer plant defnyddiwyd dyddiadau geni hefyd i benderfynu ar breswylfa. Tybiwyd bod cofnodion oedd yn rhannu'r un RALF yn perthyn i'r un aelwyd a chawsant eu crynhoi i ddarparu niferoedd o aelwydydd. Yna, roedd yn bosibl nodi mathau o aelwydydd yn seiliedig ar nifer y bobl ac a oedd plant yn preswylio yno.
Ar gyfer y rhan fwyaf o RALFs (ond nid pob un) cofnodir cod Ardal Gynnyrch Ehangach Haen Is (LSOA) sy'n galluogi dadansoddiad daearyddol ardal fach yn SAIL. Ar gyfer y dadansoddiad hwn lle darparwyd LSOA fe'i defnyddiwyd i agregu niferoedd aelwydydd ar lefel awdurdod lleol.
Gwnaed y gwaith o drin data yn SQL DB2, SPSS fersiwn 21 ac MS Excel ym Manc Data Cyswllt Diogel Gwybodaeth Ddienw (SAIL). Gwelir isod ein proses cysylltu data.
- Dechrau â’r Rhestr Gwarchod Cleifion
- Cysylltu’r Rhestr â C-19-COHORT20 mewn tabl newydd
- Nodi pobl oedd yn gwarchod eu hunain neu'n byw gyda rhywun oedd yn gwarchod ei hun
- Creu tabl cryno ar gyfer pawb mewn aelwyd a warchdodir
- Creu crynodeb o'r holl aelwydydd sy'n cynnwys person a warchodir
- Nodi'r math o aelwyd yn seiliedig ar nifer yr oedolion a'r plant
- Dethol ffigurau a dadansoddiadau ar gyfer personau ac aelwydydd
- Dethol ffigurau fesul awdurdod lleol
Mae'r mathau o aelwydydd a ddefnyddir yn yr adroddiad hwn wedi'u seilio'n fras ar nifer y bobl ym mhob aelwyd ac a yw plant yn preswylio yno. Mae'r mathau o aelwydydd a ddefnyddir yn wahanol i'r rhai a ddefnyddir mewn amcangyfrifon aelwydydd ar gyfer Cymru oherwydd gwahaniaethau mewn methodoleg rhwng dulliau cysylltu data ac amcangyfrifon aelwydydd a chymhwyso rheolaeth datgelu ar gyfer rhai mathau llai cyffredin o aelwydydd.
Mae’r amcangyfrif o 18,000 o blant sy'n byw ar aelwydydd a warchodir yn is na'r nifer a gyflwynwyd mewn datganiad blaenorol (20,000). Roedd y datganiad blaenorol yn cysylltu'r Rhestr Gwarchod Cleifion â'r Cyfrifiad Ysgolion Blynyddol ar Lefel Disgyblion (CYBLD) gan ddefnyddio cyfenw a chod post. Ar gyfer y datganiad hwn, mae'r Rhestr Gwarchod Cleifion wedi'i chysylltu â data preswylio a ddarparwyd gan Wasanaeth Demograffeg Cymru (WDS) gan ddefnyddio dynodwyr eiddo a dyddiadau cofrestru meddygon teulu. Mae gwahaniaethau yn yr amcangyfrifon o blant rhwng dau ddatganiad yn deillio o amrywiadau mewn prosesau paru, data ffynhonnell a sut y diffinnir plant. Hefyd, gall cyfatebiaeth ffug ddigwydd wrth baru data. Gall cyfenwau cyffredin berthyn i wahanol aelwydydd o fewn yr un cod post, a gall dynodwyr eiddo ymwneud â mwy nag un aelwyd sydd yn yr un cyfeiriad. Gall y ddau hyn arwain at gyfatebiaeth ffug, a fydd yn effeithio ar yr amcangyfrifon ar lefel leol a chenedlaethol. Yn ogystal, mae'r niferoedd yn y datganiad hwn yn ymwneud â'r rhai ar aelwydydd ac nid ydynt yn cynnwys y rhai sy'n byw mewn sefydliadau cymunedol (e.e. cartrefi plant, ysgolion preswyl).
Mae'r ymchwil hon wedi'i chynnal fel rhan o raglen waith ADR Cymru. Mae rhaglen waith ADR Cymru yn cyd-fynd â'r themâu blaenoriaeth fel y nodwyd yn strategaeth genedlaethol Llywodraeth Cymru: Ffyniant i Bawb. Mae ADR Cymru yn dwyn ynghyd arbenigwyr gwyddor data yn Ysgol Feddygol Prifysgol Abertawe, staff o Sefydliad Ymchwil, Data a Dulliau Cymdeithasol ac Economaidd Cymru (WISERD) ym Mhrifysgol Caerdydd a thimau arbenigol o fewn Llywodraeth Cymru i ddatblygu tystiolaeth newydd sy'n cefnogi Ffyniant i Bawb: y strategaeth genedlaethol drwy ddefnyddio'r Gronfa Ddata SAIL ym Mhrifysgol Abertawe, i gysylltu a dadansoddi data dienw. Mae ADR Cymru yn rhan o ADR UK a ariennir gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (rhan o Ymchwil ac Arloesi'r DU) (grant ES/S007393/1).
Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (WFG)
Hanfod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yw gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’r Ddeddf yn sefydlu saith nod llesiant i Gymru sef Cymru fwy cyfartal, llewyrchus, cydnerth, iach a chyfrifol ar lefel fyd-eang, gyda chymunedau cydlynol a diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu. O dan adran (10)(1) o’r Ddeddf, rhaid i Weinidogion Cymru (a) gyhoeddi dangosyddion (“dangosyddion cenedlaethol” sy’n gorfod cael eu cymhwyso at ddibenion mesur cynnydd tuag at gyflawni’r nodau llesiant, a (b) gosod copi o’r dangosyddion cenedlaethol gerbron y Cynulliad Cenedlaethol. Cafodd y 46 o ddangosyddion cenedlaethol eu gosod ym Mawrth 2016.
Mae gwybodaeth am y dangosyddion, ynghyd â naratif ar gyfer pob un o'r nodau llesiant a'r wybodaeth dechnegol gysylltiedig ar gael yn adroddiad Llesiant Cymru.
Gwybodaeth bellach am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.
Gallai’r ystadegau a ddefnyddir yn y datganiad hwn ategu’r dangosyddion cenedlaethol a chael eu defnyddio gan fyrddau gwasanaethau lleol mewn perthynas â’u hasesiadau llesiant a’u cynlluniau llesiant lleol.
7. Manylion cyswllt
Ystadegydd: Kathryn Helliwell
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Ffôn: 0300 025 5050
Ffônl: UYDGCymru@llyw.cymru
Cyfryngau: 0300 025 8099
SB 35/2020