Neidio i'r prif gynnwy

Adroddiad sy'n cynnwys gwybodaeth yn ôl math o aelwyd, poblogaeth a maint cyfartalog ay gyfer canol-2019.

Amcangyfrif o nifer yr aelwydydd yng Nghymru

  • Ers canol 1991, mae nifer yr aelwydydd wedi cynyddu 23.0% o 1.11 miliwn i 1.37 miliwn yng nghanol 2019.
  • Rhwng canol 2018 a chanol 2019, mae’r amcangyfrif o nifer yr aelwydydd yng Nghymru wedi cynyddu 9,950 (0.7%) i 1.37 miliwn.
  • Roedd y cynnydd cyffredinol yn bennaf o ganlyniad i aelwydydd un-person a dau-berson, sy'n parhau i fod y mathau mwyaf cyffredin o aelwyd yng Nghymru, yn seiliedig ar yr amcangyfrifon hyn.

Amcangyfrifon o nifer yr aelwydydd yn ôl awdurdod lleol

  • Bu cynnydd yn yr amcangyfrif o nifer yr aelwydydd ymhob awdurdod lleol yng Nghymru rhwng canol 2018 a chanol 2019.
  • Gwelwyd y cynnydd mwyaf yng Nghaerdydd, Pen-y-bont ar Ogwr a Rhondda Cynon Taf.

Poblogaeth aelwydydd preifat

  • Ar lefel Cymru mae amcangyfrif y boblogaeth aelwydydd preifat wedi cynyddu tua 13,800 rhwng canol 2018 a chanol 2019.
  • Gwelodd Ceredigion ac Wrecsam ostyngiad yn eu poblogaeth aelwydydd preifat.

Amcangyfrifon o faint cyfartalog aelwydydd

  • Mae amcangyfrifon o faint cyfartalog aelwydydd Cymru wedi bod yn gostwng yn gyson.
  • Yng nghanol 2019 maint cyfartalog aelwydydd yng Nghymru oedd 2.26 person o gymharu â 2.52 yng nghanol 1991.
  • Mae pob awdurdod lleol wedi gweld gostyngiad yn ei amcangyfrif o faint cyfartalog aelwydydd ers 2011.

Adroddiadau

Amcangyfrifon aelwydydd, canol-2019 , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 983 KB

PDF
Saesneg yn unig
983 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.