Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Diben y datganiad hwn yw cynnig trosolwg ystadegol o famolaeth a genedigaethau yng Nghymru gyda dadansoddiadau o nodweddion y fam. Defnyddir y data a’r dadansoddiadau i lywio datblygiad polisi mamolaeth Llywodraeth Cymru.

Cyhoeddir y ffynhonnell swyddogol ar gyfer nifer y genedigaethau yng Nghymru gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG), sy’n cyfrif faint o enedigaethau a gofrestrir. Fodd bynnag, mae’r datganiad hwn yn canolbwyntio ar ystadegau genedigaethau trwy ddefnyddio data sydd wedi tarddu o’r set ddata Dangosyddion Mamolaeth (MI ds) a’r Gronfa Ddata Genedlaethol ar Iechyd Plant Cymunedol (NCCHD). Mae’r ffynonellau hyn yn cyd-fynd yn agos â data’r SYG, ond yn darparu ar gyfer dadansoddiad manylach na data’r SYG.

Mae’r set ddata Dangosyddion Mamolaeth yn cyfuno cofnod geni’r plentyn â chofnod o asesiad cychwynnol y fam (pan fo modd). Mae rhai materion ansawdd data yn y set ddata hon y tynnir sylw atynt yn y datganiad.

Mae’r Gronfa Ddata Genedlaethol ar Iechyd Plant Cymunedol yn cynnwys cofnodion dienw ar gyfer yr holl blant a anwyd yng Nghymru, yr holl blant sy’n byw yng Nghymru neu’r holl blant sydd wedi’u trin yng Nghymru ac a anwyd ar ôl 1987. Mae’r set ddata’n cyfuno data a gynhwysir yng nghronfeydd data’r System Iechyd Plant Cymunedol leol a gedwir gan fyrddau iechyd lleol.

Bydd data ar fwydo ar y fron a gyhoeddwyd mewn rhifynnau blaenorol o’r datganiad hwn yn cael eu cyhoeddi mewn datganiad ystadegol newydd, y cyhoeddwyd y byddai ar gael ar 12 Gorffennaf 2022.

Crynodeb

Yn 2021 cafodd y ganran uchaf erioed o fenywod beichiog eu hasesiad cychwynnol erbyn 10fed wythnos eu beichiogrwydd.

Mae’r data yn dangos canlyniadau cymysg ar gyfer ymddygiadau ffordd iach o fyw yn yr asesiad cychwynnol gyda chanran is o fenywod yn rhoi gwybod eu bod yn smygu, ond canran uwch wedi’u cofnodi yn ordew na’r flwyddyn flaenorol.

Roedd cynnydd mawr yng nghanran y menywod wnaeth roi’r gorau i smygu yn ystod eu beichiogrwydd, ond mae materion ansawdd data gyda’r mesur hwn yn 2021. Roedd cyfran uwch o ddata coll nag yn unrhyw flwyddyn arall ac roedd bron y cwbl o’r data wedi’i hunan-adrodd gan yr unigolyn yn hytrach na thrwy fonitro CO, a all effeithio ar ddibynadwyedd y data yn 2021.

Roedd tuedd am i lawr yn nifer yr esgorau a ddechreuodd yn naturiol, a chynyddodd nifer y toriadau Cesaraidd i bron i draean o bob genedigaeth.

Cynyddodd nifer y genedigaethau byw ychydig bach; dyma’r flwyddyn gyntaf nad yw’r nifer wedi gostwng ers 2010. Mae canran y babanod newydd o bob cefndir ethnig wedi aros yn gymharol debyg ers 2018.

Mae canran y mamau ifanc yn parhau i leihau. Roedd y rhan fwyaf o’r mamau a roddodd enedigaeth yn ystod y flwyddyn rhwng 25 a 45 oed, ac roedd mwy o famau 40 oed ac hŷn na mamau 19 oed ac iau am y tro cyntaf ers dechrau cofnodi.

Nid oedd newid yng nghyfran y genedigaethau gartref o gymharu â’r flwyddyn flaenorol, gyda’r rhan fwyaf o enedigaethau’n digwydd mewn ysbytai.

Syrthiodd canran y genedigaethau babanod unigol â phwysau isel ychydig bach o’r flwyddyn flaenorol. Roedd y pwysau geni ar gyfartaledd ar gyfer baban unigol ychydig yn fwy na chilogram yn drymach nag ar gyfer genedigaeth luosog.

Roedd gan ganran uwch o fabanod benywaidd bwysau geni isel na babanod gwrywaidd, ac roedd gan gyfran uwch o fabanod gyda chefndir ethnig Asiaidd bwysau geni isel o gymharu ag ethnigrwydd eraill.

Prif bwyntiau

  • Cafodd 81% o fenywod beichiog eu hasesiad cynenedigol cychwynnol cyn diwedd eu degfed wythnos o feichiogrwydd.
  • Dywedodd 29% o famau fod ganddynt gyflwr iechyd meddwl yn eu hasesiad cychwynnol.
  • Roedd 30% o famau yn ordew (gyda BMI o 30 neu fwy) yn eu hasesiad cychwynnol.
  • Cofnodwyd yn yr asesiad cychwynnol fod 15% o fenywod beichiog yn smygwyr.
  • Cofnodwyd bod 12% o fenywod beichiog yn smygwyr ar adeg yr enedigaeth.
  • Rhoddodd 26% o fenywod y gorau i smygu yn ystod eu beichiogrwydd (y rheini a oedd yn smygwyr yn yr asesiad cychwynnol, ond nad oeddent yn smygwyr ar adeg yr enedigaeth).
  • Dechreuodd 50% o esgorau yn naturiol, tra bod 33% wedi cael eu cymell.
  • Cyrhaeddodd 59% o fabanod (59%) yn naturiol, tra cyrhaeddodd bron 31% trwy doriad Cesaraidd.
  • Roedd 28.879 o enedigaethau byw i famau o Gymru, sy’n gynnydd o 0.3% ers 2020.
  • Roedd 89% o enedigaethau i famau o gefndiroedd ethnig gwyn; 4% o famau o gefndiroedd Asiaidd; 4% i famau o gefndir cymysg; 2% i famau o gefndir du; a 2% i famau o gefndir ethnig arall.
  • Roedd 3% o enedigaethau ymhlith mamau iau (dan 20 oed) sef y lefel isaf a gofnodwyd erioed.
  • Digwyddodd 3% o enedigaethau yn y cartref.
  • Digwyddodd 52% o enedigaethau o fewn wythnos i’r dyddiad geni disgwyliedig.
  • Yn achos genedigaethau babanod unigol, roedd gan 5.8% bwysau geni isel (llai na 2.5kg).
  • Roedd gan 59.1% o enedigaethau lluosog (gefeilliaid a thripledi) bwysau geni isel (llai na 2.5kg).
  • Roedd gan 6.2% o fabanod benywaidd unigol bwysau geni isel o’i gymharu â 5.3% o fabanod unigol gwrywaidd.
  • Roedd gan 8.4% o fabanod Asiaidd unigol bwysau geni isel o gymharu â 7.0% o gefndiroedd ethnig du, 6.1% o gefndiroedd ethnig arall, 5.7% o gefndiroedd gwyn a 5.4% o gefndiroedd cymysg neu luosog.
  • Roedd 25% o enedigaethau yn bodloni diffiniad clinigol Llywodraeth Cymru o enedigaeth iach.

Gofal cynenedigol

Mae’r data a gyflwynir yn yr adran hon yn cyfeirio at y 26,754 cofnod o asesiadau cychwynnol (neu achosion o feichiogrwydd) a gynhwysir yn y set ddata Dangosyddion Mamolaeth yn 2021.

Asesiadau cychwynnol yn ôl hyd y beichiogrwydd

Mae mynediad cynnar at wasanaethau mamolaeth yn cynyddu’r cyfle i hybu a gwella iechyd a llesiant menywod beichiog trwy eu cyfeirio’n gynnar at wasanaethau priodol a gwybodaeth. Y nod yw y dylai menywod beichiog gael eu hasesiad cychwynnol erbyn eu degfed wythnos gyflawn o feichiogrwydd.

Image
Cynhaliwyd y mwyafrif helaeth o'r asesiadau cychwynnol pan oedd hyd beichiogrwydd rhwng 6 a 12 wythnos gyflawn.

Nifer a chanran y menywod a gafodd asesiad cychwynnol erbyn 10fed wythnos gyflawn eu beichiogrwydd, yn ôl bwrdd iechyd sy'n darparu'r gwasanaeth ar gyfer StatsCymru 

Yn 2021, yn achos menywod a oedd wedi cael ‘trefnu’ asesiad cychwynnol gyda’r gwasanaethau mamolaeth, llwyddodd 81% o’r menywod hyn i gael yr asesiad ar ddegfed wythnos gyflawn eu beichiogrwydd, neu ynghynt. 5 pwynt canran yn uwch nag yn 2020.

Mae gwybodaeth ansawdd ychwanegol ar y mesur hwn ar gael yn yr adran ar ansawdd a methodoleg.

Image
Roedd canran y menywod a gafodd asesiad cychwynnol erbyn 10fed wythnos gyflawn eu beichiogrwydd yn llai ar gyfer mamau ifanc iawn a mamau hen iawn.

Dangosyddion asesu cychwynnol ar gyfer Cymru, yn ôl oedran y fam ar gyfer StatsCymru

Roedd canran y menywod beichiog a gafodd asesiad cychwynnol gyda’r gwasanaethau mamolaeth cyn degfed wythnos gyflawn eu beichiogrwydd ar ei uchaf ar gyfer y rheini rhwng 20 a 39 oed. Roedd cyfraddau ychydig yn is ar gyfer y rheini a oedd yn 16 i 19 oed ac yn 40 i 44 oed ac yn is eto ar gyfer y mamau ieuengaf a hynaf.

Yn 2021, cafodd canran uwch o fenywod beichiog eu hasesiadau cychwynnol erbyn 10fed wythnos eu beichiogrwydd nag yn unrhyw flwyddyn arall ers cadw cofnodion, ym mhob grŵp oedran ac eithrio’r rhai hynny a oedd yn 45 oed a hŷn.

Sylwer: gan nad oes llawer o famau o dan 16 oed a thros 45 oed i’w cael (llai na 100), efallai y ceir newidiadau mawr o flwyddyn i flwyddyn oherwydd anwadalrwydd naturiol.

Iechyd meddwl

Yn yr asesiad cychwynnol, gofynnir i fenywod beichiog lenwi holiadur lle gallant hunangofnodi unrhyw gyflyrau iechyd meddwl sydd ganddynt. Y cyflyrau a restrir yn yr holiadur yw:

  • seicosis ôl-esgor (iselder ôl-enedigol difrifol)
  • anhwylder affeithiol deubegynol/iselder manig
  • seicosis
  • iselder seicotig
  • sgitsoffrenia
  • arall
Image
Cynyddodd canran y menywod a nododd yn yr asesiad cychwynnol fod ganddynt gyflwr iechyd meddwl bob blwyddyn rhwng 2016 a 2021.

Nifer ac canran y menywod a ddywedodd fod ganddynt gyflwr iechyd meddwl yn yr asesiad cychwynnol, yn ôl bwrdd iechyd sy'n darparu'r gwasanaeth ar gyfer StatsCymru

Yn eu hasesiad cychwynnol, dywedodd bron i dair o bob deg (29%) o fenywod beichiog fod ganddynt gyflwr iechyd meddwl. Roedd y duedd gynyddol hon yn parhau, gyda’r data diweddaraf ddau bwynt canran yn uwch na’r flwyddyn flaenorol, a deg pwynt canran yn uwch nag yn 2016 (y flwyddyn gyntaf lle ceir data cymaradwy).

Mae gwybodaeth ansawdd ychwanegol ar y mesur hwn ar gael yn yr adran ar ansawdd a methodoleg.

Image
Mewn mamau o dan 16 oed a mamau dros 45 oed y gwelwyd y newidiadau mwyaf yn y rhai a nododd gyflwr iechyd meddwl yn yr asesiad cychwynnol.

Dangosyddion asesu cychwynnol ar gyfer Cymru, yn ôl oedran y fam ar gyfer StatsCymru

Rhoddodd canran uwch o fenywod beichiog ieuengach (24 oed neu iau) wybod am gyflwr iechyd meddwl na grwpiau oedran eraill. Y rhai yn y grŵp oedran 30 i 34 roddodd wybod am y ganran isaf o gyflyrau iechyd meddwl o bob grŵp oedran lle roedd mwy na 100 o fenywod.

Yn 2021, cynyddodd y ganran i’r uchaf ers dechrau cofnodi ar gyfer pob grŵp oedran ac eithrio’r rheini sy’n 45 oed neu hŷn. Roedd cynnydd mawr iawn bob blwyddyn ar gyfer y rhai hynny o dan 24 oed a rhwng 40 a 44 oed.

Sylwer gan nad oes llawer o famau o dan 16 oed a thros 45 oed i’w cael (llai na 100), efallai y ceir newidiadau mawr o flwyddyn i flwyddyn oherwydd anwadalrwydd naturiol.

Gordewdra

Yn yr asesiad cychwynnol, bydd y fam yn cael mesur ei thaldra, bydd yn cael ei phwyso, a bydd ei Mynegai Màs Corff (BMI) yn cael ei gyfrifo. Ystyrir bod rhywun a chanddo BMI o 30 neu fwy yn ordew, ac mae gordewdra’n cynyddu’r risg sy’n perthyn i nifer o gymhlethdodau iechyd.

Image
Gwelir cynnydd rhwng 2016 a 2021 yng nghanran y menywod â BMI o 30 neu fwy.

BMI yn yr asesiad cychwynnol, yn ôl bwrdd iechyd sy'n darparu'r gwasanaeth ar gyfer StatsCymru

Roedd gan dair o bob deg (30%) o fenywod beichiog BMI o 30 neu fwy yn eu hasesiad cychwynnol. Mae’r duedd gynyddol hon yn parhau gan fod y ganran yn 2021 un pwynt canran yn uwch na’r flwyddyn flaenorol a phedwar pwynt canran yn uwch nag yn 2016 (y flwyddyn gyntaf lle ceir data cymaradwy).

Mae gwybodaeth ansawdd ychwanegol ar y mesur hwn ar gael yn yr adran ar ansawdd a methodoleg.

Image
Gwelir cynnydd yng nghyfran y menywod â BMI o 30 neu fwy rhwng 2017 a 2021.

Dangosyddion asesu cychwynnol ar gyfer Cymru, yn ôl oedran y fam ar gyfer StatsCymru

Yn 2021, roedd ychydig o amrywiad yng nghanran y menywod beichiog a chanddynt BMI o 30 neu fwy rhwng y gwahanol grwpiau oedran. Y menywod beichiog ieuengaf (19 oed neu iau) oedd â’r ganran isaf o BMI 30+, a’r menywod beichiog hŷn (40 oed neu hŷn) oedd â’r canran uchaf.

Roedd cynnydd yng nghanran y menywod beichiog gordew yn y rhan fwyaf o grwpiau oedran, ond roedd lleihad yn y grwpiau oedran 16-19, 30 i 34 a 45 neu hŷn. Sylwer gan nad oes llawer o famau o dan 16 oed a thros 45 oed i’w cael (llai na 100), efallai y ceir newidiadau mawr o flwyddyn i flwyddyn oherwydd anwadalrwydd naturiol.

Image
Mae canran y menywod sydd wedi ennill y pwysau a argymhellwyd wedi gostwng dros amser ar gyfer pob grwp BMI.

Mae canllawiau'r Sefydliad Meddygaeth (IOM) yn argymell cynnydd o rhwng 6.8 i 11.3 kg ar gyfer menywod dros eu pwysau (y rhai â BMI o 25 i 29.9).

Enillodd 29% o fenywod y pwysau a argymhellir rhwng yr asesiad cychwynnol a'r enedigaeth yn 2021. Roedd hyn dri phwynt canran yn is na'r flwyddyn flaenorol.

Roedd canran y menywod na enillodd fwy na'r pwysau a argymhellwyd yn ystod beichiogrwydd yn is ar gyfer menywod a oedd â BMI uchel ar ddechrau eu beichiogrwydd, na menywod mewn grwpiau BMI iachach.

Dim ond 61% o gofnodion oedd â data dilys ar gyfer yr holl eitemau data a oedd yn angenrheidiol i gyfrifo’r pwysau a enillwyd yn ystod y feichiogrwydd. O ganlyniad i lefel y data anghyflawn, argymhellir gofal wrth ddefnyddio’r ystadegyn. Mae gwybodaeth ansawdd ychwanegol ar y mesur hwn ar gael yn yr adran ar ansawdd a methodoleg.

Smygu yn yr asesiad cychwynnol ac ar adeg yr enedigaeth

Yn yr asesiad cychwynnol ac ar adeg yr enedigaeth gofynnir i fenywod hunangofnodi a ydynt yn smygwyr, neu rhoddir prawf carbon monocsid iddynt trwy ddefnyddio teclyn synhwyro.

Ystyrir fod monitro CO yn fwy cywir na hunan-adrodd, ond mae wedi’i atal i raddau helaeth ers dechrau pandemig COVID-19 i leihau’r risg o ledaenu’r feirws.

Image
Bu gostyngiad rhwng 2017 a 2021 yng nghanran y menywod a oedd yn ysmygu yn ystod yr asesiad cychwynnol.

Smygu ar adeg yr asesiad cychwynnol a'r enedigaeth, yn ôl bwrdd iechyd sy'n darparu'r gwasanaeth ar gyfer StatsCymru

Yn 2021, cofnodwyd fod 15% o fenywod yn smygwyr yn yr asesiad cychwynnol. Mae hyn yn cyflymu’r duedd at i lawr ers dechrau casglu data yn 2016 ac mae hyn ddau bwynt canran yn is na’r flwyddyn flaenorol. Gall y lleihad mawr yn 2021 fod oherwydd bod y cyfan bron o’r data wedi’i hunan-adrodd, yn hytrach na thrwy fonitro CO.

Mae gwybodaeth ansawdd ychwanegol ar y mesur hwn ar gael yn yr adran ar ansawdd a methodoleg.

Image
Yn y rhan fwyaf o grwpiau oedran bu gostyngiad rhwng 2017 a 2021 yng nghanran y menywod a oedd yn ysmygu yn ystod yr asesiad cychwynnol.

Nifer a chanran y mamau sy'n ysmygu ar adeg yr asesiad cychwynnol a'r enedigaeth yng Nghymru, yn ôl oedran y fam ar gyfer StatsCymru

Roedd cyfran uwch o fenywod ifanc yn smygwyr yn eu hasesiad cychwynnol na menywod hŷn. Cofnodwyd bod traean (33%) o fenywod 16 i 19 oed yn smygwyr yn yr asesiad cychwynnol o gymharu ag un o bob deg (10%) o fenywod 30 oed neu hŷn.

Mae cyfraddau smygu yn yr asesiad cychwynnol wedi gostwng yn ystod y 5 mlynedd diwethaf ym mhob grŵp oedran, ac eithrio’r rhai o dan 16 oed sy’n anwadal o flwyddyn i flwyddyn oherwydd y nifer fach o fenywod yn y grŵp hwn.

Image
Bu gostyngiad rhwng 2020 a 2021 yng nghanran y menywod sy'n ysmygu adeg eu geni.

Smygu ar adeg yr asesiad cychwynnol a'r enedigaeth, yn ôl bwrdd iechyd sy'n darparu'r gwasanaeth ar gyfer StatsCymru

Cofnodwyd bod 12% o famau yn smygwyr ar adeg yr enedigaeth yn 2021. Mae’r ffigur hwn 5 pwynt canran yn is nag yn y flwyddyn flaenorol, ac yn groes i’r duedd bychan ar i fyny rhwng 2018 a 2020. Efallai bod y cynnydd mawr yn 2021 o ganlyniad i’r ffaith bod y cyfan bron o’r data wedi’i hunan-adrodd, yn hytrach na thrwy fonitro CO.

Yn ogystal, mae cyfran y data coll yn 2021 yn uwch nag yn y blynyddoedd blaenorol; felly argymhellir cymryd gofal wrth ddehongli’r ystadegyn hwn. Mae gwybodaeth ansawdd ychwanegol ar y mesur hwn ar gael yn yr adran ar ansawdd a methodoleg.

Image
Yn y rhan fwyaf o grwpiau oedran, bu gostyngiad rhwng 2020 a 2021 yng nghanran y menywod a oedd yn ysmygu adeg eu geni.

Nifer a chanran y mamau sy'n ysmygu ar adeg yr asesiad cychwynnol a'r enedigaeth yng Nghymru, yn ôl oedran y fam ar gyfer StatsCymru

Roedd cyfran y menywod a gofnodwyd fel smygwyr ar adeg yr enedigaeth yn uwch o lawer ymhlith mamau ifanc na mamau hŷn. Roedd 29% o fenywod 19 oed neu ieuengach yn smygwyr o’i gymharu â llai na 10% ym mhob grŵp oedran o 30 i 34 neu hŷn.

O blith y grwpiau oedran lle cafwyd mwy na 100 o enedigaethau, roedd lleihad yng nghyfran y menywod a oedd yn smygwyr ar adeg yr enedigaeth ym mhob grŵp oedran o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol. Mae hyn yn groes i’r duedd bach ar i fyny ar gyfer y rhan fwyaf o grwpiau oedran yn y pum mlynedd cyn 2021.

Image
Cynyddodd canran y menywod a roddodd y gorau i smygu yn ystod beichiogrwydd rhwng 2020 a 2021.

Nifer a chanran y menywod a ‘roddodd y gorau i smygu’ yn ystod eu beichiogrwydd, yn ôl bwrdd iechyd sy'n darparu'r gwasnaeth ar gyfer StatsCymru

Yn 2021, yn achos menywod a oedd yn smygwyr yn yr asesiad cychwynnol, nid oedd 26% ohonynt yn smygwyr ar adeg yr enedigaeth. Mae hyn yn gynnydd o wyth pwynt canran ers y flwyddyn flaenorol, yn groes i’r duedd gymharol sefydlog yn ystod y pum mlynedd flaenorol. Efallai bod y cynnydd mawr yn 2021 o ganlyniad i’r ffaith bod y cyfan bron o’r data wedi’i hunan-adrodd, yn hytrach na thrwy fonitro CO.

Yn ogystal, roedd lefel uwch o gofnodion anghyflawn yn 2021 nag yn y blynyddoedd blaenorol; felly argymhellir gofal wrth ddehongli data 2021. Mae gwybodaeth ansawdd ychwanegol ar y mesur hwn ar gael yn yr adran ar ansawdd a methodoleg.

Nodweddion esgor

Mae’r data yn yr adran hon yn cyfeirio at y 27,657 o esgoriadau a gofnodwyd yn y set ddata Dangosyddion Mamolaeth ac a ddigwyddodd yn 2021.

Dechrau esgor

Dyma’r broses pan fydd yr esgor yn dechrau, ac mae’n cynnwys dulliau a ddefnyddir i gymell esgor, fel dulliau llawfeddygol neu feddygol, neu gyfuniad o’r ddau. Ni chynhwysir dulliau a ddefnyddir i gyflymu esgor.

Cofnodwyd data yn y set ddata Dangosyddion Mamolaeth ar gyfer pob bwrdd iechyd; fodd bynnag, ar gyfer yr holl flynyddoedd data ni chafodd dechrau esgor ei gofnodi fel ‘toriad Cesaraidd’ ym myrddau iechyd Hywel Dda ac Aneurin Bevan pan gafwyd genedigaeth trwy doriad Cesaraidd dewisol. O ganlyniad i’r broblem hon gydag ansawdd y data, mae’r byrddau iechyd hyn wedi’u hepgor o’r dadansoddiad ar gyfer pob blwyddyn. Ar gyfer 2021, mae'r ystadegau a gyflwynir ar lefel Cymru yn seiliedig ar y 19,450 o esgoriadau yn y pum bwrdd iechyd sy'n weddill.

Image
Mae dechrau esgor yn naturiol wedi gostwng dros y 5 mlynedd y ceir data yn eu cylch, ond mae dechrau esgor trwy gymell wedi cynyddu'n raddol. Mae dechrau esgor trwy doriad Cesaraidd wedi aros yn weddol gyson.

Dull dechrau esgor yn ôl y bwrdd iechyd sy'n darparu'r gwasanaeth ar gyfer StatsCymru

Yn 2021, dechreuodd hanner (50%) yr esgorau yn naturiol. Mae hyn yr un fath â’r flwyddyn flaenorol ond 4 pwynt canran yn is nag yn 2016. Dechreuodd traean yr esgorau drwy gymell yr enedigaeth a dechreuodd un o bob chwech (17%) gyda thoriad Cesaraidd.

Tabl 11: Dull dechrau esgor yn ôl grwp oedran y fam, 2021 (MS Excel)

Lleddfu poen

Dull lleddfu poen a ddefnyddir ar gyfer mamau sy’n esgor yw epidwral. Mae’n golygu rhoi pigiad anesthetig lleol yn y llecyn y tu allan i dura mater madruddyn y cefn yn rhan isaf y cefn er mwyn arwain at golli teimlad yn enwedig yn yr abdomen a’r pelfis.

Image
Mae canran y menywod sy'n cael epidwral wedi aros yn gymharol gyson dros amser, gan gynyddu ychydig ers 2019.

Epidwral yn ôl y bwrdd iechyd sy'n darparu'r gwasanaeth ar gyfer StatsCymru

Yn 2021, rhoddwyd epidwral yn achos chwarter (25%) yr esgoriadau. Mae’r ffigur hwn fymryn yn uwch na’r flwyddyn flaenorol a dau bwynt canran yn uwch nag yn 2016.

Mae gwybodaeth ansawdd ychwanegol ar y mesur hwn ar gael yn yr adran ar ansawdd a methodoleg.

Dull geni

Cofnodir tri dull geni yn y set ddata Dangosyddion Mamolaeth, a chânt eu diffinio fel a ganlyn:

  • esgor trwy doriad Cesaraidd: esgor trwy doriad Cesaraidd dewisol a brys
  • esgor gydag offer: esgor seffalig gyda gefeiliau ac esgor gydag offer ventouse (teclyn sugno siâp cwpan)
  • esgor naturiol trwy’r wain: caiff y babi ei eni’n naturiol gan y fam
Image
Siart far yn dangos canran y genedigaethau (byw a marw) yn ôl y dull geni ar gyfer Cymru rhwng 2016 a 2020. Newidiadau bach yn unig a welir dros y blynyddoedd ar gyfer pob dull geni.

Dull geni yn ôl y bwrdd iechyd sy'n darparu'r gwasanaeth ar gyfer StatsCymru

Yn 2021, roedd y rhan fwyaf o’r genedigaethau (59%) yn enedigaethau naturiol (heb gymorth), a defnyddiwyd toriad Cesaraidd ar gyfer bron i draean (31%) o’r genedigaethau.

Mae canran y genedigaethau naturiol heb eu cymell wedi lleihau bob blwyddyn ers 2017 ac mae yn awr o dan 60% am y tro cyntaf. Roedd lleihad bychan yn y genedigaethau gydag offer (ventouse neu efel) yn 2021, ond cynyddodd nifer y toriadau Ceseraidd brys a dewisol, gan barhau â’r duedd gynyddol dros y pum mlynedd ddiwethaf.

Canlyniadau a nodweddion y genedigaethau

Mae’r data a gyflwynir yn yr adran hon yn canolbwyntio ar y 28,879 o enedigaethau byw a gofnodwyd yn y Gronfa Ddata Genedlaethol ar Iechyd Plant Cymunedol. Dadansoddir genedigaethau yn hytrach nag esgoriadau, oherwydd gellir esgor ar efeilliaid neu dripledi mewn gwahanol ffyrdd.

Mae data ar y nifer o gofnodion cynenedigol, esgorau, genedigaethau byw, genedigaethau marw a chyfanswm genedigaethau yn ôl bwrdd iechyd wedi’u darparu yn Cofnodion cynenedigol, genedigaethau byw a genedigaethau marw yn ôl bwrdd iechyd sy'n darparu'r gwasanaeth ar gyfer StatsCymru a Tabl 1: Cofnodion cynenedigol, genedigaethau byw a genedigaethau marw yn ôl bwrdd iechyd sy'n darparu'r gwasanaeth, 2021 (MS Excel)

Mae data ar enedigaethau yn ôl mamau o Gymru a’r tu allan i Gymru yn Tabl 2: Genedigaethau byw i breswylwyr o Gymru a phreswylwyr nad ydynt o Gymru yn ôl man geni, 2021 (MS Excel).

Mae data ar esgorau a genedigaethau yn ôl uned famolaeth yn Tabl 3: Genedigaethau byw, genedigaethau marw a nifer y babanod yn ôl bwrdd iechyd sy'n darparu'r gwasanaeth, 2021 (MS Excel).

Nifer y genedigaethau

Gellir cofnodi genedigaethau fel babanod unigol (pan gaiff un babi ei eni), genedigaethau lluosog (pan gaiff gefeilliaid, tripledi neu fwy o fabanod eu geni), neu enedigaethau marw.

Tabl 1: Genedigaethau byw, marwenedigaethau a nifer babanod, Cymru, 2012 i 2120
Blwyddyn Genedigaethau byw: Unig blant Genedigaethau byw: Genedigaethau lluosog Genedigaethau byw: Cyfanswm Genedigaethau marw Cyfanswm yr holl enedigaethau
2011 34,723 959 35,682 161 35,843
2012 34,276 1,074 35,350 168 35,518
2013 32,823 999 33,822 151 33,973
2014 32,646 1,002 33,648 173 33,821
2015 32,318 1,043 33,361 155 33,516
2016 32,001 1,003 33,004 163 33,167
2017 31,422 814 32,236 151 32,387
2018 30,453 876 31,329 141 31,470
2019 29,004 724 29,728 126 29,854
2020 28,163 618 28,781 103 28,884
2021 28,322 556 28,879 128 29,007

Ffynhonnell: Y Gronfa Ddata Genedlaethol ar Iechyd Plant Cymunedol

Nodwch fod data dilys wedi’u cofnodi ar gyfer canlyniad genedigaeth ar gyfer bron bob genedigaeth ar draws yr holl fyrddau iechyd a blynyddoedd.

O blith y 29,007 o enedigaethau a gofnodwyd yn y Gronfa Ddata Genedlaethol ar Iechyd Plant Cymunedol yng Nghymru yn 2021, roedd mwy na 99% (28,879) yn enedigaethau byw. Mae canran y genedigaethau lluosog wedi bod yn lleihau ers 2015 ac roedd y rhain yn 2% o’r holl enedigaethau byw yn 2021.

Mae nifer y genedigaethau wedi cynyddu llai na hanner pwynt canran o 2020, ond dyma’r tro cyntaf mae’r nifer o enedigaethau wedi cynyddu ers 2010.

Cofnodion cynenedigol, genedigaethau byw a genedigaethau marw yn ôl bwrdd iechyd sy'n darparu'r gwasanaeth ar gyfer StatsCymru

Geni yn y cartref

Mae byrddau iechyd Cymru yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau i fenywod, yn cynnwys rhoi genedigaeth yn y cartref.

Image
Mae cyfran y genedigaethau byw a anwyd yn y cartref wedi bod ar gynnydd eto yn ystod y blynyddoedd diwethaf yn dilyn cyfnod o ddirywiad mewn ymarfer ers canol i ddiwedd y 2000au.

Yn ystod yr ugain mlynedd diwethaf, mae mwyafrif llethol y genedigaethau yng Nghymru wedi digwydd yn yr ysbyty. Cofnodwyd y gyfradd uchaf erioed o enedigaethau cartref yn 2009 (3.7%); ers hynny gwelwyd tuedd ar i lawr, hyd nes y cafwyd cynnydd yn y blynyddoedd diwethaf.

Yn 2021 digwyddodd 3.2% o enedigaethau byw yn y cartref, a digwyddodd 0.2% o enedigaethau mewn lleoliadau eraill ac eithrio yn yr ysbyty neu’r cartref.

Genedigaethau byw i drigolion Cymru yn ôl Bwrdd Iechyd Lleol a man geni ar StatsCymru

Hyd y beichiogrwydd

Efallai y bydd babanod a gaiff eu geni’n gynnar (babanod cynamserol) yn wynebu risg o ddioddef problemau iechyd yn syth ar ôl eu geni neu yn yr hirdymor.

Image
Digwyddodd hanner y genedigaethau pan oedd hyd y beichiogrwydd o fewn wythnos i'r dyddiad geni disgwyliedig.

Digwyddodd ychydig dros hanner (52%) y genedigaethau pan oedd hyd y beichiogrwydd wedi cyrraedd 39 neu 40 wythnos (wythnos ynghynt neu wythnos yn hwyrach na’r dyddiad geni disgwyliedig).

Image
Mae canran y genedigaethau byw sy’n gynamserol neu'n hwyr wedi gostwng ill dwy ers 2019.

Digwyddodd 8% o enedigaethau byw ar ôl 36 wythnos lawn o feichiogrwydd neu lai yn 2021. Mae’r ganran hon wedi bod yn gymharol debyg am y pum mlynedd diwethaf.

Mae’r duedd hirdymor ar i lawr yn y ganran o enedigaethau byw ar ôl 42 wythnos wedi sefydlogi yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ac roedd ychydig o dan 4% yn 2021.

Genedigaethau byw i drigolion Cymru yn ôl Bwrdd Iechyd Lleol a hyd y beichiogrwydd ar StatsCymru

Pwysau geni

Caiff pwysau geni isel (llai na 2.5kg) ei gysylltu â risgiau iechyd ym mlwyddyn gyntaf y plentyn.

Mae canran y babanod unigol a anwyd yn fyw a chanddynt bwysau geni sy’n llai na 2.5kg yn un o’r dangosydd cenedlaethol a ddefnyddir i fesur cynnydd ar sail nodau llesiant yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.

Yn aml, caiff pwysau geni isel ei gysylltu â hyd beichiogrwydd byr (pan gaiff y babi ei eni cyn 37 wythnos o feichiogrwydd).

Image
Mae cyfran yr holl enedigaethau byw (gan gynnwys plant unigol a genedigaethau lluosog) a anwyd â phwysau geni isel wedi aros yn weddol sefydlog dros y tymor hir, yn amrywio o tua 7%.

Mae canran yr holl enedigaethau byw â phwysau geni isel wedi aros yn weddol sefydlog dros yr hirdymor, gyda’r gyfradd yn amrywio oddeutu 7%. Yn achos babanod unigol a anwyd yn fyw, mae’r gyfradd yn amrywio rhwng 5% a 6% dros y gyfres amser, a gwelir rhywfaint o duedd ar i fyny ers 2014.

Yn 2021, roedd 6.8% o’r holl fabanod a anwyd â phwysau geni isel, sef 0.4 pwynt canran yn is nag yn y flwyddyn flaenorol.

Yn 2021, roedd 5.8% o’r babanod unigol a anwyd â phwysau geni isel, sef 0.3 pwynt canran yn is nag yn y flwyddyn flaenorol.

Tabl 5: Genedigaethau byw yn ôl pwysau geni, yn ôl Bwrdd Iechyd sy'n darparu'r gwasanaeth ac oedran y fam, 2021 (MS Excel)

Image
Histogram o bwysau geni unig blant lle dangosir mynychder pob categori pwysau geni yn 2020.
Image
Histogram o bwysau geni genedigaethau lluosog lle dangosir mynychder pob categori pwysau geni yn 2020.

Roedd dau draean (67%) y babanod unigol a anwyd â phwysau geni rhwng 3kg a 4kg. Roedd ganddynt bwysau geni canolrifol o 3.44kg a phwysau geni cymedrig o 3.40kg.

Roedd saith o bob deg (70%) o enedigaethau lluosog â phwysau geni rhwng 2kg a 3kg. Roedd ganddynt bwysau geni canolrifol o 2.39kg a phwysau geni cymedrig o 2.31kg.

Hyd y beichiogrwydd a phwysau geni

Image
Yn achos genedigaethau a gaiff eu geni pan fo hyd y beichiogrwydd yn fyrrach, mae ganddynt gyfran uwch o enedigaethau lle mae'r pwysau geni'n is.

Yn 2021, yn achos 94% o’r genedigaethau pan oedd hyd y beichiogrwydd wedi cyrraedd 32 wythnos a 49% o’r genedigaethau pan oedd hyd y beichiogrwydd wedi cyrraedd 32 i 36 wythnos, roedd ganddynt bwysau geni isel (llai na 2.5kg).

Yn achos mwyafrif llethol (84%) y babanod a anwyd o fewn pythefnos i’r dyddiad geni disgwyliedig, sef naill ai pythefnos ynghynt neu bythefnos yn hwyrach (37 i 41), roedd ganddynt bwysau geni iach (2.5kg i 4kg).

Yn achos babanod a anwyd pan oedd hyd y beichiogrwydd wedi cyrraedd 42 neu fwy, roedd llai nag 1% â phwysau geni isel, ond roedd ychydig dros chwarter (26%) yn pwyso mwy na 4kg.

Image
Roedd pwysau geni isel yn fwy cyffredin ymhlith merched na bechgyn.

Roedd gan ganran ychydig yn uwch o fabanod benywaidd bwysau geni isel (6.2%) o gymharu â babanod gwrywaidd (5.3%). Mae hyn yn gymharol gyson â’r duedd hirdymor.

Tabl 6: Genedigaethau byw yn ôl pwysau geni a hyd y beichiogrwydd, Cymru 2021 (MS Excel)

Genedigaethau ac ethnigrwydd

Image
Roedd y mwyafrif helaeth o enedigaethau o gefndir ethnig gwyn, ac yna Asiaidd, eraill, cymysg a du.

Roedd bron i naw o bob deg (89%) o fabanod a anwyd yn 2021 o gefndir ethnig gwyn. Grŵp ethnig Asiaidd oedd â’r ganran ail uchaf (4%), gyda’r ganran o enedigaethau o bob grŵp ethnig yn parhau’n gymharol sefydlog ers 2018 (y flwyddyn gyntaf y mae data ar gael).

Image
Mamau o gefndir ethnig Asiaidd a Du oedd â'r cyfraddau uchaf o fabanod unigol â phwysau geni isel.

Roedd gan gyfran uwch o fabanod Asiaidd bwysau geni isel (8.4%) o gymharu â grwpiau ethnig eraill. Roedd gan dri phwynt canran yn llai o fabanod o gefndiroedd ethnig cymysg neu luosog bwysau geni isel o gymharu â babanod Asiaidd, sef y gwahaniaeth mwyaf rhwng yr holl grwpiau ethnig.

Mae nifer y babanod â phwysau geni isel bob bwyddyn yng Nghymru yn fach pan gânt eu categoreiddio yn ôl grŵp ethnig, felly gall fod newidiadau cymharol fawr o flwyddyn i flwyddyn drwy anwadalrwydd naturiol. Fodd bynnag, roedd gan gyfran fwy o fabanod Asiaidd bwysau geni isel nag unrhyw grŵp ethnig arall mewn tair o'r pedair blynedd y mae data ar gael ar eu cyfer.

Image
Roedd y mwyafrif helaeth o enedigaethau o gefndir ethnig gwyn, ac yna Asiaidd, eraill, cymysg a du.

Roedd y pwysau geni cymedrig a chanolrifol yn gymharol debyg ar draws y rhan fwyaf o grwpiau ethnig. Babanod o gefndiroedd ethnig gwyn oedd â’r pwysau geni cymedrig a chanolrifol trymaf, ychydig dros 0.2kgs yn drymach na babanod o gefndir ethnig Asiaidd, a oedd â’r pwysau geni ysgafnaf ar gyfartaledd.

Tabl 10: Genedigaethau byw yn ôl ethnigrwydd a phwysau geni, Cymru 2018 i 2021 (MS Excel)

Genedigaethau a phwysau geni yn ôl oedran y fam

Cyhoeddir data ynghylch beichiogi yn yr arddegau gan yr SYG.

Image
Mae canran y genedigaethau byw ymhlith mamau ifanc wedi gostwng bob blwyddyn ers 2004, tra bod canran y genedigaethau byw ymhlith mamau hŷn wedi cynyddu rhywfaint dros y tymor hwy.

Mae canran y genedigaethau byw ymhlith mamau dan 20 oed wedi gostwng bob blwyddyn ers 2004. Yn 2021 y grŵp hwn oedd â’r nifer lleiaf o enedigaethau byw, gyda llai na 3% o’r cyfanswm genedigaethau byw.

Mae canran y genedigaethau byw i famau 20 i 24 oed wedi lleihau pob blwyddyn ers 2009.

Roedd tair o bob deg (29%) o famau a roddodd enedigaeth yn 2021 yn 25 i 29 oed. Mae hyn wedi aros yn gymharol gyson ers 2013.

Mae’r duedd gynyddol o enedigaethau byw i famau 30 i 34 oed wedi parhau, gyda thraean (33%) o enedigaethau i famau yn y grŵp oedran hwn; yr oedran mwyaf cyffredin i famau sy’n rhoi genedigaeth yn 2021.

Mae’r duedd gynyddol a graddol o famau 35 i 39 oed hefyd wedi parhau, gyda mwy o enedigaethau yn y grŵp hwn nag yn y grŵp oedran 20 i 24 am y tro cyntaf ers cadw cofnodion.

Roedd ychydig o dan 4% o enedigaethau byw i famau 30 oed neu hŷn, gan barhau â’r duedd gynyddol ers dechrau’r gyfres amser.

Image
Gwelir bod mwy o famau hŷn wedi geni eu babanod yn gynnar a'u bod wedi cael babanod â phwysau geni isel.

Mae cyfran y genedigaethau byw â phwysau geni isel neu hyd beichiogrwydd byrrach ar ei uchaf ymhlith y mamau ieuengaf a hynaf yn 2021, er mai dim ond ychydig iawn o enedigaethau oedd i famau yn y grwpiau oedran hyn.

O’r grwpiau oedran gyda mwy na 100 o enedigaethau yn 2021, roedd y gyfran o fabanod a anwyd ar ôl beichiogrwydd byrrach ar ei uchaf mewn grwpiau oedran hŷn (35 i 39 a 40 i 44), ac roedd hefyd ychydig dros 8% yn y grŵp oedran 20 i 24.

Roedd canran y babanod â phwysau geni isel ym mhob grŵp oedran ychydig yn is na’r canran a anwyd ar ôl beichiogrwydd byrrach ac roedd yn dilyn tuedd debyg. Roedd gan ychydig dros 8% o fabanod a anwyd i famau 20 i 24 oed neu 40 i 44 oed bwysau geni isel, o’i gymharu ag ychydig dros 6% o fabanod a anwyd i famau 16 i 19, 25 i 29 neu 30 i 34 oed.

Mae canran y babanod a anwyd ar ôl beichiogrwydd byrrach a chanran y babanod â phwysau geni isel wedi aros yn weddol sefydlog ar draws y grwpiau oedran dros y 10 mlynedd diwethaf.

Tabl 12: Nifer a chanran o enedigaethau byw yn ôl grŵp oedran mamau, Cymru, 2011 i 2021 (MS Excel)

Sgôr APGAR

Mae APGAR (Appearance, Pulse, Grimace, Activity, and Respiration) yn brawf cyflym a gynhelir ar y baban ar ôl munud, ac yna ar ôl pum munud, wedi iddo gael ei eni. Bydd y sgôr ar ôl munud yn arwydd o sut gwnaeth y babi oddef y broses eni. Bydd y sgôr ar ôl pum munud yn rhoi gwybod i’r meddyg sut mae’r babi’n dod yn ei flaen y tu allan i groth y fam. Bydd sgôr o 7 neu fwy yn arwydd bod y babi newydd-anedig mewn iechyd da.

Image
Ar gyfer y rhan fwyaf o enedigaethau, roedd gan fabanod sgôr APGAR uchel (9 neu fwy) 5 munud ar ôl eu geni.

Yn 2021, roedd mwyafrif llethol y babanod (98%) â sgôr APGAR o 7 neu fwy ar ôl pum munud.

Tabl 7: Canran o enedigaethau byw gyda sgôr APGAR o 7 neu fwy ar ôl 5 munud, yn ôl bwrdd iechyd sy'n darparu'r gwasanaeth ac oedran y fam, 2016 i 2021 (MS Excel)

Genedigaethau iach

Mae ‘canran y genedigaethau yr ystyrir eu bod yn enedigaethau iach’ yn un o Ddangosyddion Mamolaeth Llywodraeth Cymru. Dim ond cofnodion cyflawn a gaiff eu cynnwys yn y dadansoddiad genedigaethau iach. O’r herwydd, er mwyn i’r cofnodion gael eu cynnwys yn yr enwadur, rhaid i bob cofnod fod â gwybodaeth ddilys ar gyfer yr holl feysydd sy’n gysylltiedig â’r meini prawf isod.

Bydd unrhyw un o’r meini prawf canlynol yn golygu na ellir ystyried yr enedigaeth yn enedigaeth ‘iach’:

  • dechrau esgor ac eithrio trwy esgor yn naturiol
  • ysgogi’r groth wrth esgor
  • toriad Cesaraidd, defnyddio gefeiliau neu offer ventouse
  • hyd beichiogrwydd sy’n fyrrach na 37 wythnos
  • genedigaeth farw
  • epidwral wrth esgor
  • episiotomi neu drawma gradd 3 neu 4 i’r perinëwm
  • pwysau geni sy’n llai na 2.5kg neu’n fwy na 4.0kg
  • colli mwy na 500ml o waed
  • sgôr APGAR sy’n llai na 7 ar ôl pum munud

Mae’r data a gyflwynir yn tarddu o’r 28,004 o enedigaethau a gofnodwyd yn y set ddata Dangosyddion Mamolaeth yn 2021. O'r rhain, roedd gan 18,721 o enedigaethau ddata dilys ar gyfer pob eitem data cydrannol yn y cyfrifiad genedigaethau iach.

Image
Mae canran y genedigaethau yr ystyrir eu bod yn enedigaethau iach wedi cynyddu bob blwyddyn ers 2018.

Yn 2021, cafodd chwarter (25%) o enedigaethau eu dosbarthu’n ‘enedigaethau iach’ trwy ddefnyddio diffiniad Llywodraeth Cymru.

Mae’r ffigur hwn un pwynt canran yn uwch na’r flwyddyn flaenorol ac yn gyfartal uchaf ers casglu data cymaradwy am y tro cyntaf yn 2016.

Roedd cyflawnrwydd y data yn is yn 2021 nag yn unrhyw flwyddyn arall; felly, argymhellir gofal wrth ddefnyddio’r data genedigaethau iach. Mae gwybodaeth ansawdd ychwanegol ar y mesur hwn ar gael yn yr adran ar ansawdd a methodoleg.

Tabl 8: Canran y genedigaethau byw a ystyrir yn iach, yn ôl bwrdd iechyd sy'n darparu'r gwasanaeth, 2016 i 2021 (MS Excel)

Ansawdd a methodoleg yr wybodaeth

Mae’r holl ddata a ddefnyddir yn y datganiad hwn yn cael ei gyhoeddi ar StatsCymru fel tabl Excel. Mae’r holl dablau Excel wrthi’n cael eu symud i StatsCymru.

Mae rhagor o fanylion am y ffynonellau data a’r dadansoddiadau yn y datganiad ystadegol hwn, ar gael yn yr adroddiad ansawdd. Mae hyn yn cynnwys tabl sy’n dangos canran y data dilys a gofnodwyd ar gyfer eitemau data dethol yn y ddwy set ddata ffynhonnell.

Cydlyniad ffynonellau data ar gyfer genedigaethau yng Nghymru

Dengys Siart 31 nifer y genedigaethau yng Nghymru ar sail y prif ffynonellau data. Mae cwmpas a chyflawnrwydd data’r Gronfa Ddata Genedlaethol ar Iechyd Plant Cymunedol yn dda iawn, gyda nifer y genedigaethau’n cyd-fynd yn agos ag ystadegau cofrestru yr SYG. Sefydlwyd y set ddata Dangosyddion Mamolaeth (MI ds) yn 2016, ac mae nifer y genedigaethau’n wahanol i’r ddwy ffynhonnell arall, yn bennaf gan nad yw’n cynnwys achosion lle rhoddodd mamau sy’n byw yng Nghymru enedigaeth mewn ysbytai yn Lloegr.

Image
Mae nifer y genedigaethau wedi bod yn gostwng yn raddol ers cyrraedd brig yn 2010.

Sylwer: ar adeg cyhoeddi’r datganiad hwn, mae data diweddaraf yr SYG ynghylch genedigaethau yn tarddu o 2020, ond mae data ar gyfer 2021 i’w gael yn y set ddata Dangosyddion Mamolaeth a’r Gronfa Ddata Genedlaethol ar Iechyd Plant Cymunedol.

Ansawdd eitemau data penodol

Oedran beichiogrwydd adeg asesiad cychwynnol

Efallai fod rhai menywod wedi cael eu hasesiad cychwynnol cyn y dyddiad a gofnodir yn y set ddata Dangosyddion Mamolaeth, a hynny gan fod y fethodoleg gyfuno mewn perthynas â’r asesiad cychwynnol a’r cofnod geni yn seiliedig ar pryd digwyddodd y rhain o fewn yr un bwrdd iechyd. Mae’n bosibl y byddai mam wedi cael asesiad cychwynnol mewn un bwrdd iechyd yn gynnar yn ei beichiogrwydd; ond pe bai hi’n rhoi genedigaeth wedyn mewn bwrdd iechyd arall am ryw reswm (er enghraifft, cymhlethdodau annisgwyl, neu efallai ei bod mewn ardal bwrdd iechyd gwahanol ar y pryd), byddai asesiad cychwynnol arall yn cael ei gofnodi ar ei chyfer yn yr ail fwrdd iechyd lle rhoddodd enedigaeth. Efallai y gall hyn esbonio’r brig bach oddeutu 39 a 40 wythnos yn Siart 1.

Cyflyrau iechyd meddwl a adroddwyd yn yr asesiad cychwynnol

Er bod data dilys wedi’i gofnodi ar gyfer yr eitem hon mewn mwy na 90% o gofnodion, a hynny ar draws y rhan fwyaf o fyrddau iechyd ac yn ystod y mwyafrif o flynyddoedd, mae rhywfaint o broblemau i’w cael o ran ansawdd y data. Dim ond 56% o gofnodion Caerdydd a’r Fro oedd â data dilys yn 2016, ac 88% yn Hywel Dda rhwng 2016 a 2018 ac yn 2020. Ymddengys fod y data a gofnodwyd ym myrddau iechyd Betsi Cadwaladr a Chwm Taf Morgannwg wedi’i gofnodi ar sail wahanol i fyrddau iechyd eraill, a chaiff data gan y ddau fwrdd iechyd hyn ei hepgor o’r ffigurau cyfanswm ar gyfer Cymru.

BMI yn yr asesiad cychwynnol

Roedd data dilys i’w gael ar gyfer mwy na 90% o’r cofnodion mewn perthynas â thaldra a phwysau, a hynny ar draws yr holl fyrddau iechyd ac yn y rhan fwyaf o flynyddoedd. Yr eithriadau yw: Cwm Taf yn 2016 (77%) ac yn 2019 (88%); a Betsi Cadwaladr yn 2019 (89%).

Caiff data BMI ei gyfrifo ar sail taldra a phwysau’r fam; fodd bynnag, nid yw’r dadansoddiad hwn yn cynnwys cofnodion lle’r oedd y pwysau dan 30kg ac yn fwy na 250kg a/neu lle’r oedd y taldra dan 120cm neu’n fwy na 200cm, oherwydd go brin fod mesuriadau oddi allan i’r trothwyon hyn wedi’u cofnodi’n ddibynadwy. Ymhellach, dim ond mamau a gafodd eu hasesiad cyntaf ar eu pedwaredd wythnos ar ddeg o feichiogrwydd, neu ynghynt, a gynhwysir yn y dadansoddiad hwn. Gwnaed hyn gan y byddai twf y babi’n effeithio ar bwysau mamau a gâi asesiadau cychwynnol yn ddiweddarach yn eu beichiogrwydd.

Pwysau a enillwyd yn ystod y beichiogrwydd

I gyfrifo faint o bwysau a enillwyd, mae angen cofnodi pwysau’r fam yn ddilys yn yr asesiad cychwynnol neu rhwng 36-38 wythnos neu ar adeg yr enedigaeth. Mae cyfran cymharol uchel o ddata coll ar gyfer pwysau’r fam ar adeg yr enedigaeth sy’n cyfyngu ar ddibynadwyedd y data am bwysau a enillwyd.

Yn 2021, ni wnaeth bwrdd iechyd Hywel Dda ddarparu unrhyw ddata ar gyfer pwysau’r fam ar adeg yr enedigaeth, ac roedd gan fwrdd iechyd Bae Abertawe fwy na’r swm arferol o ddata coll. O ganlyniad, mae data Cymru yn eithrio’r ddau fwrdd iechyd hwn. Canran y cofnodion gyda data dilys ar gyfer y cyfrifiad hwn bob blwyddyn yw: 2021 (61%); 2020 (73%); 2019 (80%); 2018 (75%); 2017 (70%); 2016 (55%). O ganlyniad i lefel y data coll, argymhellir defnyddio’r ystadegyn hwn gyda gofal.

Ysmygu yn yr asesiad cychwynnol

Roedd data dilys i’w gael ar gyfer mwy na 90% o’r cofnodion mewn perthynas â statws smygu yn yr asesiad cychwynnol, a hynny ar draws yr holl fyrddau iechyd ac ym mhob blwyddyn. Fodd bynnag, mae cyfyngiadau’n perthyn i ystadegau’n ymwneud â smygu yn yr asesiad cychwynnol ac ar adeg yr enedigaeth, a hynny oherwydd y ffordd y cesglir y data. Os nad oes prawf CO ar gael, mae dibynadwyedd y data’n dibynnu ar y fam yn hunanadrodd gwybodaeth gywir. Mae monitro CO wedi’i atal ar y cyfan ers dechrau pandemig COVID-19, felly data wedi’i hunanadrodd yw data 2020 a 2021 yn bennaf.

Ni ddylid cofnodi defnydd o E-sigaréts yn yr eitem ddata hon ac ni fyddai prawf CO yn canfod defnydd o’r fath; fodd bynnag, mewn gwirionedd efallai y bydd rhai mamau’n hunangofnodi eu bod yn smygwyr os ydynt yn defnyddio e-sigaréts, ac efallai y cofnodir ar gam eu bod yn smygwyr. Yn yr un modd, efallai y bydd rhai mamau sy’n smygu yn hunangofnodi nad ydynt yn smygwyr, ac efallai y cofnodir ar gam nad ydynt yn smygwyr.

Smygu ar adeg yr enedigaeth

Yn 2021, roedd gan 82% o gofnodion ddata dilys ar lefel Cymru. Roedd hyn yn bennaf oherwydd nad oedd bwrdd iechyd Hywel Dda wedi darparu unrhyw ddata ar smygu ar adeg yr enedigaeth, a dim ond 68% o ddata bwrdd iechyd Cwm Taf Morgannwg oedd yn gyflawn. Ychydig iawn o’r data a oedd yn gyflawn yn 2020 ar gyfer byrddau iechyd Hywel Dda (30%), Cwm Taf Morgannwg (70%) a Phowys (76%). Fodd bynnag, ym mhob blwyddyn cyn 2020, roedd mwy na 90% o’r cofnodion yn cynnwys data dilys ar gyfer statws smygu ar adeg yr enedigaeth, ar draws bron bob un o’r byrddau iechyd.

Rhoi’r gorau i smygu yn ystod beichiogrwydd

Mae’r dadansoddiad hwn yn seiliedig ar fenywod a oedd â data dilys yn ymwneud â smygu ar adeg yr asesiad cychwynnol ac ar adeg yr enedigaeth. Oherwydd bod statws smygu yn cael ei gofnodi ar ddwy adeg yn unig, ni fydd y data yn dangos a oedd menywod yn smygu ar hyd y feichiogrwydd, na pha mor aml. At ddiben y dadansoddiad ystadegol hwn, mae’r mamau hynny a gofnodwyd fel smygwyr yn eu hasesiad cychwynnol ond nad oeddent yn smygwyr ar adeg yr enedigaeth wedi’u cofnodi fel mamau a oedd ‘wedi rhoi’r gorau i smygu’ yn ystod y beichiogrwydd.

Yn 2021, roedd 81% o gofnodion yn cynnwys data dilys, sef yr isaf ers dechrau casglu data. Mae hyn yn bennaf oherwydd nad oedd bwrdd iechyd Hywel Dda wedi darparu unrhyw ddata yn ymwneud â smygu ar adeg yr enedigaeth ac mai lefel cymharol isel o ddata bwrdd iechyd Cwm Taf Morgannwg a oedd yn gyflawn.

Roedd 84% o gofnodion yn cynnwys data dilys yn 2020, yn bennaf oherwydd y data coll ar gyfer smygu ar adeg yr enedigaeth ym mwrdd iechyd Hywel Dda, Cwm Taf Morgannwg a Phowys. Rhwng 2016 a 2019, roedd data yn gymharol gyflawn gyda mwy na 94% o gofnodion yn cynnwys data dilys.

Lleddfu poen

Mae canran y cofnodion a chanddynt ddata dilys ynghylch defnyddio epidwral yn gymysg ar draws byrddau iechyd a blynyddoedd, ac yn 2020 roedd gan 83% o’r cofnodion ddata dilys ar lefel Cymru gyfan. Roedd gan bedwar bwrdd iechyd o blith y saith ddata dilys ar gyfer 99% neu fwy o’u cofnodion. Bwrdd iechyd Aneurin Bevan oedd â’r ganran isaf o ddata dilys (35%).

Genedigaethau iach

Mae’r cyfrifiad genedigaethau iach yn cynnwys cyfuno 10 o wahanol eitemau data gwahanol ac felly mae angen cofnodi data dilys ar gyfer 10 eitem ddata i benderfynu a oedd yr enedigaeth yn ‘iach’. Mae lefel y data anghyflawn ar draws yr eitemau data hyn yn cyfyngu ar ddefnydd yr ystadegyn hwn. Ar lefel Cymru gyfan, roedd canran y data cyflawn fel a ganlyn: 66.9% yn 2021; 70.7% yn 2020; 74.7% yn 2019; 76.9% yn 2018; 76.3% yn 2017; a 70.9% yn 2016.

Roedd lefel cyflawnrwydd y data yn amrywio fwy ar lefel bwrdd iechyd.

Y Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol

Hanfod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yw gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’r Ddeddf yn sefydlu saith nod llesiant i Gymru sef Cymru fwy cyfartal, llewyrchus, cydnerth, iach a chyfrifol ar lefel fyd-eang, gyda chymunedau cydlynol a diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn  ffynnu. O dan adran (10)(1) o’r Ddeddf, rhaid i Weinidogion Cymru (a) gyhoeddi dangosyddion (“dangosyddion cenedlaethol” sy’n gorfod cael eu cymhwyso at ddibenion mesur cynnydd tuag at gyflawni’r nodau llesiant, a (b) gosod copi o’r dangosyddion cenedlaethol gerbron Senedd Cymru. O dan adran 10(8) o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, pan fo Gweinidogion Cymru yn diwygio'r dangosyddion cenedlaethol, rhaid iddynt, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol (a) gyhoeddi'r dangosyddion fel y'u diwygiwyd a (b) gosod copi ohonynt gerbron y Senedd. Fe gafodd y dangosyddion cenedlaethol  hyn osodwyd gerbron y Senedd yn 2021. Mae'r dangosyddion a osodwyd ar 14 Rhagfyr 2021 yn disodli'r set a osodwyd ar 16 Mawrth 2016.

Mae’r datganiad hwn yn cynnwys 1 o’r dangosyddion cenedlaethol, sef Canran y genedigaethau unigol byw â phwysau geni dan 2.5kg.

Gellir dod o hyd i wybodaeth am y dangosyddion, ynghyd â naratif ar gyfer pob un o’r nodau llesiant a gwybodaeth dechnegol gysylltiedig, yn Adroddiad Llesiant Cymru.

Rhagor o wybodaeth am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Ymhellach, gall yr ystadegau yn y datganiad hwn gynnig naratif ategol ar gyfer y dangosyddion cenedlaethol a gall byrddau gwasanaethau cyhoeddus eu defnyddio mewn perthynas â’u hasesiadau llesiant lleol a’u cynlluniau llesiant lleol.

Manylion cyswllt

Ystadegydd: Craig Thomas
Rhif ffôn: 0300 025 5050
E-bost: ystadegau.iechyd@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099

SFR 150/2022

Image
National statistics