Neidio i'r prif gynnwy

Data ar ethnigrwydd, statws anabledd, statws priodasol a chrefydd wedi gynhyrchu o'r Arolwg Poblogaeth Blynyddol ar gyfer 2017 i 2019.

Prif bwyntiau

Ethnigrwydd

  • Mae 94.8% o boblogaeth Cymru yn disgrifio eu grŵp ethnig fel Gwyn. Roedd hyn yn amrywio fesul rhanbarth o 97.3% o'r boblogaeth yn y Gogledd i 93.3% yn ne-ddwyrain Cymru.
  • Mae 5.2% o'r boblogaeth yn disgrifio eu hunain fel Asiaidd, Du, 'Grwpiau ethnig cymysg/lluosog’ neu 'Grwpiau ethnig eraill'. Y rhai sy'n disgrifio eu grŵp ethnig fel Asiaidd yn grŵp ethnig mwyaf yng Nghymru (2.4% o'r boblogaeth).
  • Dros y chwe blynedd diwethaf, mae cyfran y boblogaeth sy'n disgrifio eu hunain fel Asiaidd, Du, 'Grwpiau ethnig cymysg/lluosog’ neu 'Grwpiau ethnig eraill' wedi cynyddu'n gyson ar draws pob rhanbarth.
  • Roedd y canran o bobl a nododd eu bod yn Wyn yn cynyddu yn ôl grŵp oedran (o 91.0% ar gyfer y rhai o dan 16 oed i 99.0% ar gyfer y rhai 65 oed a hŷn). Ond roedd y patrwm hwn yn mynd i’r gwrthwyneb ar gyfer pob grŵp ethnig arall.

Anabledd

  • Nododd ychydig dros un pumed o'r boblogaeth 16 i 64 oed (21.8%) eu bod yn anabl. Mae'r gyfran hon wedi cynyddu ychydig dros amser. Fodd bynnag, nododd cyfran uwch o fenywod na dynion eu bod yn anabl (24.3% o'i gymharu â 19.3%). Cynyddodd cyfran y bobl a oedd yn nodi eu bod yn anabl yn ôl grŵp oedran ar gyfer dynion a menywod.
  • Gogledd Cymru oedd â’r gyfran isaf o bobl a oedd yn nodi eu bod yn anabl (19.2%). Roedd cyfraddau tebyg i’w gilydd yn Ne-ddwyrain Cymru a’r Canolbarth/Gorllewin Cymru (22.3% a 23.0% yn y drefn honno).

Crefydd

  • Nododd ychydig yn llai na hanner y boblogaeth yng Nghymru eu bod yn Gristnogion (47.9%). Dywedodd 47.3% o'r boblogaeth nad oedd ganddynt unrhyw grefydd. Fodd bynnag, roedd y ffigurau hyn yn amrywio fesul rhanbarth. Yng Ngogledd Cymru, nododd 55.1% o'r boblogaeth eu bod yn Gristnogion a 41.8% nad oedd ganddynt unrhyw grefydd. Mae hyn yn cymharu â 43.8% a 50.6% o bobl yn Ne Ddwyrain Cymru, yn y drefn honno.
  • Dros amser, mae nifer y bobl yng Nghymru sy'n nodi eu bod yn Gristnogion wedi gostwng yn gyson tra bod nifer y bobl a oedd yn dweud nad oedd ganddynt grefydd wedi cynyddu'n gyson.
  • Nododd dros 55,000 o bobl (1.8% o'r boblogaeth) eu bod yn Fwslim. Mae dros ddwy ran o dair (69%) o'r boblogaeth Fwslimaidd yng Nghymru yn byw yn Ne Ddwyrain Cymru.
  • Nododd cyfran uwch o fenywod na dynion bod ganddynt grefydd (56.5% o’i gymharu â 48.3%) ac mae’r gyfran o bobl a nododd bod ganddynt grefydd yn cynyddu yn ôl grŵp oedran. Mae hyn mewn gwrthgyferbyniad â chyfran y bobl a nododd nad oedd ganddynt unrhyw grefydd, sy’n gostwng wrth fynd yn hŷn.

Statws priodasol

  • Mae bron i hanner y boblogaeth 16 oed a throsodd yng Nghymru (48.3%) yn briod neu mewn partneriaeth sifil tra bod mwy na thraean o'r boblogaeth (34.7%) yn sengl.
  • Mae cyfran ychydig yn is o boblogaeth De-ddwyrain Cymru yn briod (47.3%) o gymharu ag Canolbarth/Gorllewin Cymru a Gogledd Cymru (48.7% a 49.8% yn y drefn honno).
  • Mae cyfran ychydig yn is o boblogaeth De-ddwyrain Cymru yn briod (47.3%) o gymharu â Chanolbarth/Gorllewin Cymru a Gogledd Cymru (48.7% a 49.8% yn y drefn honno). Mae cyfran uwch o bobl yn y De-ddwyrain yn sengl nag yng ngweddill Cymru (36% o’i gymharu â 33% yng Nghanolbarth/Gorllewin Cymru a Gogledd Cymru
  • Roedd cyfran uwch o ddynion yn briod na menywod (49.6% o'i gymharu â 47.0%). Fodd bynnag, mae cyfran uwch o fenywod yn weddw neu mewn partneriaeth sifil (9.3% o'i gymharu â 3.8% o ddynion) neu wedi ysgaru (12.3% o’i gymharu ag 8.4% o ddynion).

Gwybodaeth bellach

Mae'r Arolwg Poblogaeth Blynyddol (APB) yn samplu tua 18,000 o aelwydydd yng Nghymru bob blwyddyn. Fodd bynnag, gellir maint y samplau ar gyfer pobl â 'nodweddion gwarchodedig' fod yn cymharol fach (fel y nodir yn Neddf Cydraddoldeb 2010). Felly, i wella'r dystiolaeth ar bobl sydd â 'nodweddion gwarchodedig', lluniwyd dadansoddiad mwy manwl o set ddata cyfun sy'n cyfuno 3 blynedd o ddata APB. Gellir darganfod y dadansoddiad hwn ar ein gwefan StatsCymru.

Mae Llywodraeth Cymru yn derbyn y diffiniad cymdeithasol o anabledd, lle cydnabyddir bod rhwystrau mewn cymdeithas yn anablu pobl sydd â namau neu gyflyrau iechyd neu sy’n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain. Mae’r APB yn cipio data yn ystod y cyfweliad yn seiliedig ar Ddeddf Cydraddoldeb 2010 sy’n defnyddio’r diffiniad meddygol o anabledd ('nam corfforol neu feddyliol sy’n cael effaith sylweddol a hirdymor ar allu person i wneud gweithgareddau o ddydd i ddydd').

Mae casglu a chyflwyno data ar hil ac ethnigrwydd yn gymhleth oherwydd natur oddrychol, amlochrog a newidiol y cysyniadau dan sylw. Mae'r Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth yn casglu data gan ddefnyddio’r cwestiwn am grŵp ethnig sydd wedi’i gyson ac a argymhellir gan Wasanaeth Ystadegol y Llywodraeth ('Beth yw eich grŵp ethnig?').

Mae dadansoddiad o nodweddion gwarchodedig yn ôl amddifadedd ardal ychwanegol bellach wedi'i gyhoeddi fel rhan o gyfres o allbynnau dilynol ar gyfer y Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru 2019.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.