Neidio i'r prif gynnwy

Data ar ethnigrwydd, statws anabledd, statws priodasol a chrefydd wedi gynhyrchu o'r Arolwg Poblogaeth Blynyddol ar gyfer 2018 i 2020.

Prif bwyntiau

Ethnigrwydd

  • Mae 95.0% o boblogaeth Cymru yn disgrifio eu grŵp ethnig fel Gwyn. Roedd hyn yn amrywio fesul rhanbarth o 97.5% o'r boblogaeth yn y Gogledd i 93.2% yn y De-ddwyrain.
  • Mae 5.0% o'r boblogaeth yn disgrifio eu hunain fel Asiaidd, Du, neu fel rhai sy’n dod o grwpiau ethnig cymysg neu luosog neu o grŵp ethnig arall. Y rhai sy'n disgrifio eu grŵp ethnig fel Asiaidd yw’r grŵp ethnig mwyaf yng Nghymru (2.3% o'r boblogaeth).
  • Ar lefel Cymru gyfan, mae’r ffigurau diweddaraf yn dynodi bod y cyfrannau hynny o’r boblogaeth sy'n disgrifio eu hunain fel Asiaidd neu Ddu yn sefydlog ar ôl cyfnod o gynnydd araf ond cyson. Gwelwyd cynnydd bychan yn y gyfran sy’n disgrifio’u hunain fel Gwyn, ac roedd y cyfrannau sy’n disgrifio’u hunain fel rhai sy’n dod o grwpiau ethnig cymysg neu luosog, neu o grŵp ethnig arall, hefyd yn gymharol sefydlog.
  • Mae canran y bobl a nododd eu bod yn Wyn yn cynyddu gydag oedran (o 90.5% ar gyfer y rhai o dan 16 oed i 98.9% ar gyfer y rhai 65 oed a hŷn). Ar gyfer pob grŵp ethnig arall, gwelwyd y cyfrannau uchaf yn y grwpiau iau (hyd at 25 oed).

Anabledd

  • Nododd ychydig dros un rhan o bump o'r boblogaeth 16 i 64 oed (22.1%) eu bod yn anabl. Mae'r gyfran hon wedi bod yn cynyddu’n raddol ers 2013 i 2015 (14.0%) ac mae’n amrywio yn ôl oedran (o 15.4% yn y grŵp oedran 16 i 24 oed i 28.3% yn y grŵp oedran 45-64). Nododd cyfran uwch o fenywod na dynion eu bod yn anabl (24.6% o'i gymharu ag 19.6%).
  • Y Gogledd oedd â’r gyfran isaf o bobl a oedd yn nodi eu bod yn anabl (20.1%). Roedd cyfraddau tebyg i’w gilydd yn y De-ddwyrain ac yn y Canolbarth a’r De-orllewin (22.6% a 23.0% yn y drefn honno).

Crefydd

  • Mae’r duedd a welwyd ers 2013 i 2015, sef niferoedd cynyddol yn nodi nad oes ganddynt grefydd, a niferoedd sy’n nodi eu bod yn Gristnogion yn lleihau, wedi parhau dros y flwyddyn ddiweddaraf. Am y tro cyntaf yng Nghymru, roedd y gyfran o’r boblogaeth a nododd nad oedd ganddynt grefydd (49.9%) yn uwch na’r gyfran a nododd eu bod yn Gristnogion (45.8%).
  • Roedd y ffigurau hyn yn amrywio o un ardal i’r llall. Yn y Gogledd, nododd 53.1% o’r boblogaeth eu bod yn Gristnogion, a nododd 44.0% nad oedd ganddynt grefydd. Yn y De-ddwyrain, nododd 41.7% eu bod yn Gristnogion o gymharu â 53.2% a nododd nad oedd ganddynt grefydd.
  • Nododd 1.7% o’r boblogaeth eu bod yn Fwslemiaid a nododd 2.4% eu bod yn perthyn i grefydd arall (ar wahân i Gristnogaeth).
  • O’r boblogaeth Fwslemaidd yng Nghymru, roedd cyfran fawr (71.8%) yn byw yn y De-ddwyrain.
  • Nododd cyfran uwch o fenywod na dynion bod ganddynt grefydd (54.6% o’i gymharu â 45.5%) ac mae’r gyfran o bobl a nododd bod ganddynt grefydd yn cynyddu yn ôl grŵp oedran.

Statws priodasol

  • Mae bron i hanner y boblogaeth 16 oed a throsodd yng Nghymru (48.1%) yn briod neu mewn partneriaeth sifil. Mae hyn yn ostyngiad bychan ers 2017 i 2019, er bod y ganran hon wedi bod yn gymharol sefydlog dros amser.
  • Mae cyfran y boblogaeth oedolion (16+) sy’n sengl wedi bod yn cynyddu’n gyson dros y blynyddoedd diwethaf, ac roedd mwy na thraean o'r boblogaeth (35.6%) yn sengl yn 2018 i 2020.
  • Mae cyfran uwch o bobl sengl (36.9%) yn y De-ddwyrain nag yn y Gogledd a’r Canolbarth a’r Gorllewin (34.6%). Yno hefyd roedd y gyfran isaf o oedolion 16+ oed yn briod neu mewn partneriaeth sifil. Efallai bod hyn yn adlewyrchu proffil oedran iau y De-ddwyrain o gymharu â’r rhanbarthau eraill.
  • Roedd cyfran uwch o ddynion yn briod na menywod (49.3% o'i gymharu â 47.0%). Er bod dynion yn fwy tebygol o fod yn sengl na menywod (38.8% o ddynion o gymharu â 32.5% o fenywod), mae cyfran uwch o fenywod wedi goroesi eu gwŷr neu eu partner sifil (9.2% o'i gymharu â 3.7% o ddynion), neu wedi ysgaru, wedi gwahanu neu wedi diddymu eu partneriaethau sifil (11.2% o’i gymharu ag 8.2% o ddynion).

Gwybodaeth bellach

Mae'r Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth yn samplu aelwydydd yng Nghymru bob blwyddyn. Fodd bynnag, gall maint y samplau ar gyfer pobl â ‘nodweddion gwarchodedig’ fod yn gymharol fach (fel y nodir yn Neddf Cydraddoldeb 2010 (Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol)). Felly, i wella'r dystiolaeth ynghylch pobl sydd â 'nodweddion gwarchodedig', lluniwyd dadansoddiad mwy manwl o set ddata gyfun sy'n cyfuno 3 blynedd o ddata’r Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth. Mae’r dadansoddiad hwn i’w weld ar ein gwefan StatsCymru.

Mae Llywodraeth Cymru yn derbyn y diffiniad cymdeithasol o anabledd, sy’n cydnabod bod rhwystrau mewn cymdeithas yn analluogi pobl sydd â namau neu gyflyrau iechyd neu sy’n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain. Mae’r Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth yn cipio data yn ystod y cyfweliad yn seiliedig ar Ddeddf Cydraddoldeb 2010 sy’n defnyddio’r diffiniad meddygol o anabledd ('nam corfforol neu feddyliol sy’n cael effaith sylweddol a hirdymor ar allu person i wneud gweithgareddau o ddydd i ddydd').

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.