Neidio i'r prif gynnwy

Data o’r Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth ar nodweddion gwarchodedig yn ôl grwpiau amddifadedd y Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru 2019.

Mae’r dadansoddiad hwn yn cynnwys amcangyfrifon o faint o bobl ym mhob grŵp nodwedd warchodedig sy’n byw mewn ardaloedd ym mhob grŵp amddifadedd y Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALIC) 2019. Mae’n nodi lle mae pobl o wahanol grwpiau nodweddion gwarchodedig yn fwyaf tebygol o fyw o ran ardal fach, amddifadedd cymharol ac a yw hyn yn amrywio ar draws grwpiau. Mae’r dadansoddiad hwn yn defnyddio data cyfun tair blynedd o’r Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth ar gyfer nodweddion y boblogaeth.

Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn diogelu unigolion rhag gwahaniaethu ar sail naw nodwedd warchodedig. Mae’r datganiad hwn yn cynnwys data ar gyfer saith o’r nodweddion hynny:

  • oedran a rhyw
  • statws anabledd
  • ethnigrwydd
  • statws priodasol
  • crefydd
  • hunaniaeth rywiol

Mae Llywodraeth Cymru yn derbyn y diffiniad cymdeithasol o anabledd, lle cydnabyddir bod rhwystrau mewn cymdeithas yn analluogi pobl sydd â namau neu gyflyrau iechyd neu sy'n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain. Mae'r Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth yn casglu data yn ystod y cyfweliad yn seiliedig ar y Ddeddf Cydraddoldeb 2010 sy'n defnyddio'r diffiniad meddygol o anabledd (nam corfforol neu feddyliol sy'n cael effaith sylweddol a hirdymor ar allu unigolyn i gynnal gweithgareddau arferol o ddydd i ddydd).

Mae MALIC wedi'i gynllunio i nodi'r ardaloedd bach hynny lle ceir y crynodiadau uchaf o nifer o fathau gwahanol o amddifadedd. MALlC 2019 yw'r mynegai mwyaf diweddar ac mae'n rhoi safle rhwng 1 (mwyaf difreintiedig) a 1,909 (lleiaf difreintiedig) i'r holl ardaloedd bach yng Nghymru. Gelwir yr ardaloedd bach hyn yn Ardaloedd Cynnyrch Ehangach Haen Is (ACEHI) hefyd. Mae'r ddaearyddiaeth hon wedi'i llunio o ddata'r cyfrifiad ac mae'n cynrychioli ardaloedd bach, pob un â phoblogaeth o tua 1,600 o bobl yr un.

Yma, mae safleoedd ardaloedd bach ym MALIC 2019 wedi’u gosod mewn trefn a’u grwpio yn ôl grwpiau amddifadedd. Y nod gyda’r rhain yw cael grwpiau llai yn y pen mwy difreintiedig o’r dosbarthiad, lle mae'r gwahaniaeth rhwng yr ardaloedd yn fwy nag yn y pen llai difreintiedig. Er bod MALlC yn nodi crynodiadau o amddifadedd, mae'n bwysig cofio bod yna pobl sy’n byw mewn ardaloedd difreintiedig ni fyddai’n cael eu hystyried yn ddifreintiedig, ac mae yna hefyd pobl a fyddai'n cael eu hystyried yn ddifreintiedig sy’n byw yn yr ardaloedd lleiaf difreintiedig.

Rhagor o wybodaeth am MALIC 2019.

Rhagor o wybodaeth am ystadegau cydraddoldeb ac amrywiaeth.

Canfyddiadau allweddol

Mae menywod o bob grŵp oedran yn fwy tebygol o fyw mewn ardaloedd mwy difreintiedig na dynion. Ar gyfartaledd, mae 9.2% o fenywod yn byw yn y 10% o’r Ardaloedd Cynnyrch Ehangach Haen Is (ACEHI) mwyaf difreintiedig o gymharu ag 8.7% o ddynion. Maent hefyd yn cynrychioli cyfran fwy o’r rhai sy’n byw yn y 10% o'r ACEHI mwyaf difreintiedig. Mae 52.1% o’r unigolion sy’n byw yn y 10% o’r ACEHI mwyaf difreintiedig yn fenywod.

Mae pobl iau yn fwy tebygol na phobl hŷn o fyw yn y 10% o’r ACEHI mwyaf difreintiedig, gyda’r tebygolrwydd ychydig yn uwch i fenywod na dynion. Mae tua 21% o bobl 24 oed neu iau yn byw yn yr 20% o’r ACEHI mwyaf difreintiedig yng Nghymru o gymharu â thua 14% o unigolion 65 oed a hŷn. Mae bron i 61,000 o blant o dan 16 oed yn byw yn y 10% o’r ACEHI mwyaf difreintiedig o gymharu â 38,300 o bobl 65 oed a hŷn.

Mae pobl dduon ac Asiaidd lleiafrifoedd ethnig fwy na ddwywaith yn fwy tebygol o fyw yn y 10% o’r ACEHI mwyaf difreintiedig na phobl wyn (20.6% o bobl lleiafrif ethnig i’w gymharu ag 8.3% o bobl wyn). Pobl dduon sydd fwyaf tebygol o fyw yn y 10% o’r ACEHI mwyaf difreintiedig, gyda dros draean yn byw yn yr ardaloedd hyn (35%). Mae mwy nag 1 o bob 10 person sy’n byw yn y 10% o’r ardaloedd mwyaf difreintiedig yn dod o grwpiau lleiafrif ethnig, er mai dim ond 5% o boblogaeth Cymru y maent yn ei gynrychioli.

Mae pobl anabl yn fwy tebygol o fyw yn y 10% o’r ardaloedd mwyaf difreintiedig na phobl nad ydynt yn anabl (13.8% o gymharu ag 8.1% yn y drefn honno). Mae pobl anabl yn cynrychioli 1 o bob 3 person sy’n byw yn yr ardaloedd hyn.

Fel grŵp, mae’r rheini sy’n disgrifio eu hunaniaeth rywiol fel lesbiaidd, hoyw, ddeurywiol neu unrhyw beth heblaw am heterorywiol (LGBO+) ychydig yn fwy tebygol na phobl heterorywiol o fyw yn y 10% o’r ACEHI mwyaf difreintiedig (10.0% o gymharu ag 8.4% yn y drefn honno).

Mae Mwslimiaid fwy na phedair gwaith yn fwy tebygol na Christnogion o fyw yn y 10% o’r ACEHI mwyaf difreintiedig yng Nghymru, gydag ychydig o dan 1 o bob 3 Mwslim yn byw yn yr ardaloedd hyn. Wedi dweud hyn, mae 38.7% o’r bobl sy’n byw yn y 10% o’r ACEHI mwyaf difreintiedig yng Nghymru yn Gristnogion o gymharu â 6.4% sy’n Fwslimiaid. Y rheswm am hyn yw bod dros 26 gwaith yn fwy o Gristnogion yn byw yng Nghymru nag o Fwslimiaid.

Mae ychydig mwy o risg i unigolion heb grefydd fyw yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig na phobl sydd â chrefydd (9.8% ac 8.2% yn y drefn honno). Mae unigolion heb grefydd hefyd yn cynrychioli cyfran fwy o’r bobl sy’n byw yn y 10% o’r ACEHI mwyaf difreintiedig (51.7%).

Mae pobl sengl dros ddwywaith yn fwy tebygol o fyw yn y 10% o’r ACEHI mwyaf difreintiedig o gymharu ag unigolion sy’n briod neu mewn partneriaeth sifil (12.1% a 5.8% yn y drefn honno). Mae 10.2% o bobl sydd wedi gwahanu, wedi cael ysgariad neu y mae eu partneriaeth sifil wedi cael ei ddiddymu yn byw yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig ac mae 7.7% o weddwon yn byw yn yr ardaloedd hyn. Mae bron i hanner y bobl sy’n byw yn y 10% o’r ACEHI mwyaf difreintiedig yn sengl.

O ganlyniad i feintiau sampl sylfaenol bach, nid yw'r dadansoddiad hwn yn ystyried rhyngblethedd rhwng nodweddion gwarchodedig. Fodd bynnag, gall rhyngblethedd gael effaith ar y canfyddiadau.

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.