Neidio i'r prif gynnwy

Beth yw pwrpas yr ymgynghoriad hwn

Mae Llywodraeth Cymru'n ceisio safbwyntiau ar y cynnig i ddiwygio trothwyon enillion ar gyfer Gorchmynion Atafaelu Enillion (AEO), offeryn a ddefnyddir gan awdurdodau lleol ar gyfer casglu treth gyngor heb ei thalu.

Mae'r ymgynghoriad hwn yn gymwys i Gymru’n unig.

Beth yw gorchymyn atafaelu enillion?

Pan fydd gorchymyn dyled wedi'i roi i awdurdod bilio, gall yr awdurdod gyfarwyddo cyflogwr i adennill treth gyngor heb ei thalu o gyflog cyflogai gan ddefnyddio Gorchymyn Atafaelu Enillion (AEO). Nodir y swm y gall cyflogwyr ei ddidynnu o gyflog cyflogai o dan AEO mewn tablau yn Atodlen 4 o Reoliadau'r Dreth Gyngor (Gweinyddu a Gorfodi) 1992. Seilir y ganran a ddidynnir ar lefel enillion net y cyflogai.

Cyd-destun

Nid yw'r trothwyon enillion a ddefnyddir i bennu'r cyfraddau didynnu ar gyfer talu'r dreth gyngor yn adlewyrchu newidiadau diweddar yng nghost byw. Diwygiwyd y tablau ddiwethaf yn 2007, gan Reoliadau'r Dreth Gyngor (Gweinyddu a Gorfodi) (Diwygio) 2007, pan gafodd y trothwyon eu huwchraddio yn unol â'r Mynegai Enillion Cyfartalog (AEI). Roedd hyn yn adlewyrchu cynnydd o 36.5% mewn enillion rhwng mis Ebrill 1998 a mis Ebrill 2006. Ym mis Ionawr 2010, disodlwyd yr AEI gan y mesur Enillion Wythnosol Cyfartalog (AWE), gan ddarparu prif ddangosydd enillion tymor byr.

Dull gweithredu arfaethedig

Er mwyn cadw tegwch yn y system, rydym yn cynnig uwchraddio'r trothwyon fel bod lefel yr enillion a gymerir i ystyriaeth at ddibenion trethi'n adlewyrchu newid mewn termau real. Bydd cynyddu'r terfynau enillion yn amddiffyn talwyr y dreth gyngor sy'n gorfod ildio cyfran uwch o'u hincwm ar hyn o bryd i dalu dyled y dreth gyngor nag a oedd yn wir pan gafodd y trothwyon eu cynyddu ddiwethaf.

Mae data AWE yn nodi cynnydd o 41.8% mewn enillion cyfartalog rhwng mis Ebrill 2006 a mis Mawrth 2021.  Mae'r ffigur hwn wedi'i defnyddio i uwchraddio'r trothwyon enillion cyfartalog yn y tablau isod wedi'u talgrynnu i'r £1, £5, £10 agosaf ar gyfer terfynau dyddiol, wythnosol, misol yn eu trefn.

Nid oes gofyniad ar hyn o bryd i'r trothwyon gael eu diweddaru'n rheolaidd. Fel rhan o'r ymgynghoriad hwn byddai o ddiddordeb inni gael safbwyntiau ynghylch a ddylid uwchraddio'r trothwyon fel rhan o'r drefn, ac os felly, pa mor aml.

Gorchmynion Atafaelu Enillion: tablau cymharu (Cyfraddau cyfredol ac arfaethedig ar gyfer trothwyon enillion cyfartalog)

Cyfraddau didynnu ar gyfer enillion misol

Enillion cyfartalog cyfredol Wedi'u huwchraddio yn ôl enillion cyfartalog Canran y gyfradd ddidynnu gyfredol ac arfaethedig % (hy ddim newid)
Heb fod yn fod yn uwch na £300 Heb fod yn fod yn uwch na £430 0
£300-£550 £430-£780 3
£550-£740 £780-£1,050 5
£740-£900 £1,050-£1,280 7
£900-£1,420 £1,280-£2,010 12
£1,420-£2,020 £2,010-£2,860 17
Yn uwch na £2,020 Yn uwch na £2,860 17 am y £2,860 cyntaf, wedyn 50% ar y gweddill

Cyfraddau didynnu ar gyfer enillion wythnosol

Enillion cyfartalog cyfredol Wedi'u huwchraddio yn ôl enillion cyfartalog Canran y gyfradd ddidynnu gyfredol ac arfaethedig % (hy ddim newid)
Heb fod yn fod yn uwch na £75 Heb fod yn fod yn uwch na £105 0
£75-£135 £105-£190 3
£135-£185 £190-£260 5
£185-£225 £260-£320 7
£225-£355 £320-£505 12
£355-£505 £505-£715 17
Yn uwch na £505 Yn uwch na £715

17 am y £715 cyntaf, wedyn 50% ar y gweddill

Cyfraddau didynnu ar gyfer enillion beunyddiol

Enillion cyfartalog cyfredol Wedi'u huwchraddio yn ôl enillion cyfartalog Canran y gyfradd ddidynnu gyfredol ac arfaethedig % (hy ddim newid)
Heb fod yn fod yn uwch na £11 Heb fod yn fod yn uwch na £16 0
£11-£20 £16-£28 3
£20-£27 £28-£38 5
£27-£33 £38-£47 7
£33-£52 £47-£74 12
£52-£72 £74-£102 17
Yn uwch na £72 Yn uwch na £102 17 am y £102 cyntaf, wedyn 50% ar y gweddill

Y camau nesaf

Ar ddiwedd yr ymgynghoriad, byddwn yn ystyried yr holl ymatebion ac a ddylid diwygio'r trothwyon, er mwyn i unrhyw newidiadau deddfwriaethol ddod i rym o 1 Ebrill 2022.

Cwestiynau’r ymgynghoriad

Cwestiwn 1

A ydych yn cytuno â'r bwriad polisi i uwchraddio'r trothwyon enillion a ddefnyddir i bennu'r symiau y gellir eu didynnu trwy orchymyn dyled?  Rhowch resymau am eich ymateb.

Cwestiwn 2

A ydych yn cytuno bod y dull gweithredu arfaethedig o uwchraddio'n dull gweithredu priodol ar gyfer pennu'r cyfraddau terfynau enillion newydd?  Rhowch resymau am eich ymateb.

Cwestiwn 3

Pa mor aml rydych yn credu y dylai'r trothwyon enillion gael eu huwchraddio? Rhowch resymau am eich ymateb.

Cwestiwn 4

Hoffem wybod eich barn ar yr effeithiau y byddai’r polisi arfaethedig yn eu cael ar y Gymraeg, yn benodol ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio’r Gymraeg a pheidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg.  Beth fyddai’r effeithiau yn eich barn chi?  Sut y byddai modd cynyddu’r effeithiau cadarnhaol, neu liniaru’r effeithiau negyddol?

Cwestiwn 5

Eglurwch hefyd sut rydych chi'n credu y gall y polisi arfaethedig gael ei lunio neu ei addasu er mwyn cael effeithiau positif neu gynyddu effeithiau positif ar gyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg; a pheidio â chael effeithiau andwyol ar gyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg.

Cwestiwn 6

Os hoffech godi unrhyw bwyntiau am y mater hwn, manteisiwch ar y cyfle hwn i'w cofnodi yma.

Sut i ymateb

Mae'r cyfnod ymgynghori'n dechrau ar 8 Hydref 2021 ac yn dod i ben ar 31 Rhagfyr 2021. Gwnewch yn siŵr bod eich ymateb yn ein cyrraedd cyn y dyddiad cau.

Cewch gyflwyno'ch sylwadau mewn unrhyw un o'r ffyrdd canlynol:

Cangen Polisi'r Dreth Gyngor
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

Eich hawliau

O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawl:

  • i gael gwybod am y data personol sy’n cael eu cadw amdanoch chi, ac i gael gweld y data hynny
  • i fynnu ein bod yn cywiro gwallau yn y data hynny
  • i wrthwynebu neu atal prosesu (mewn rhai amgylchiadau penodol)
  • i’ch data gael eu ‘dileu’ (mewn rhai amgylchiadau)
  • (o dan rai amgylchiadau) i gludadwyedd data
  • i gofnodi cwyn gyda Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, sef ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.

Mae ymatebion i ymgynghoriadau yn debygol o gael eu cyhoeddi ar y rhyngrwyd neu mewn adroddiad.  Os byddai'n well gennych i'ch ymateb aros yn ddienw, dywedwch wrthym. I gael rhagor o fanylion am yr wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru’n ei chadw a sut mae’n cael ei defnyddio, neu os hoffech arfer eich hawliau o dan y GDPR, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Swyddog Diogelu Data

Swyddog Diogelu Data
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

E-bost: data.protectionofficer@llyw.cymru

Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth

Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF

Ffôn : 01625 545 745 neu 0303 123 1113

Gwefan: ico.org.uk

 

Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data y DU

Llywodraeth Cymru fydd y rheolydd data ar gyfer unrhyw ddata personol a ddarperir gennych wrth ichi ymateb i'r ymgynghoriad. Mae gan Weinidogion Cymru bwerau statudol y byddant yn dibynnu arnynt i brosesu’r data personol hyn a fydd yn eu galluogi i wneud penderfyniadau cytbwys ynghylch sut y maent yn cyflawni eu swyddogaethau cyhoeddus.  Bydd unrhyw ymateb a anfonwch atom yn cael ei weld yn llawn gan staff Llywodraeth Cymru sy’n ymdrin â’r materion y mae'r ymgynghoriad hwn yn ymdrin â nhw, neu sy'n cynllunio ymgynghoriadau ar gyfer y dyfodol. Pan fydd Llywodraeth Cymru yn cynnal dadansoddiad pellach o’r ymatebion i’r ymgynghoriad, efallai y bydd trydydd parti achrededig yn cael ei gomisiynu i wneud y gwaith hwn (ee sefydliad ymchwil neu gwmni ymgynghorol). Dim ond o dan gontract y gwneir unrhyw waith o’r fath.  Mae telerau ac amodau safonol Llywodraeth Cymru ar gyfer contractau o'r fath yn nodi gofynion caeth ar gyfer prosesu a cadw data personol yn ddiogel. 

Er mwyn dangos bod yr ymgynghoriad wedi’i gynnal yn briodol, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyhoeddi crynodeb o’r ymatebion i’r ddogfen hon. Mae’n bosibl hefyd y byddwn yn cyhoeddi’r ymatebion yn llawn. Fel arfer, caiff enw a chyfeiriad (neu ran o gyfeiriad) yr unigolyn neu’r sefydliad a anfonodd yr ymateb eu cyhoeddi gyda’r ymateb.  Os nad ydych yn dymuno i'ch enw a'ch cyfeiriad gael eu cyhoeddi, rhowch wybod inni yn ysgrifenedig wrth anfon eich ymateb. Byddwn wedyn yn eu golygu cyn eu cyhoeddi.

Dylech fod yn ymwybodol hefyd o’n cyfrifoldebau o dan ddeddfwriaeth Rhyddid Gwybodaeth. Os caiff eich manylion eu cyhoeddi fel rhan o’r ymateb i’r ymgynghoriad, bydd yr adroddiadau cyhoeddedig hyn yn cael eu cadw am gyfnod amhenodol. Ni fydd gweddill eich data a gedwir fel arall gan Lywodraeth Cymru yn cael eu cadw am fwy na thair blynedd.

Gwybodaeth bellach a dogfennau perthnasol

Rhif: WG 43636

Mae'r ddogfen hon ar gael yn Saesneg hefyd.  Gallwch weld y ddogfen hon mewn ieithoedd eraill. Os oes arnoch ei hangen mewn fformat gwahanol, cysylltwch â ni.