Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae pobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol, trawsrywiol a chwiar cwestiynu (LHDTC+) gyda'r + yn cynrychioli hunaniaethau rhywiol eraill, yn wynebu trafferthion gwirioneddol o ran anfanteision, anghydraddoldeb ac achosion o wahaniaethu. Rydym yn ymgynghori ar Gynllun Gweithredu LHDTC+ uchelgeisiol a thraws-lywodraethol i Gymru sy’n ceisio mynd i'r afael â'r anghydraddoldeb strwythurol presennol a wynebir gan gymunedau LHDTC+, yn ogystal â herio achosion o wahaniaethu a chreu cymdeithas lle mae pobl LHDTC+ yn ddiogel i fyw a charu yn agored ac yn rhydd fel nhw eu hunain.  

Datblygu'r Cynllun Gweithredu LHDTC+

Rydym wedi cydweithio ag ystod eang o gynrychiolwyr o gymunedau LHDTC+ i lywio'r gwaith o ddatblygu'r Cynllun Gweithredu hwn. Yn ystod haf 2020, fe wnaethom gomisiynu Stonewall Cymru i gasglu profiadau pobl LHDTC+ drwy arolwg (dros 600 o ymatebwyr) a chyfres o grwpiau ffocws rhithiol. Amlygodd y gwaith hwn pa themâu pwysig y dylid eu hystyried ar gyfer y Cynllun Gweithredu drafft.

Ym mis Tachwedd 2020, sefydlodd Llywodraeth Cymru Grŵp Cyfeirio Allanol LHDTC+ i roi cyngor ac arweiniad, ac ym mis Ionawr 2021, sefydlwyd Panel Arbenigol Annibynnol LHDTC+ llai o faint i adeiladu ar ymgysylltiad cychwynnol Stonewall Cymru â rhanddeiliaid, gan roi cyngor strategol ar hyrwyddo cydraddoldeb LHDTC+ yng Nghymru. Fe wnaeth y Panel Arbenigol Annibynnol, a oedd yn cynnwys pobl â llawer o brofiadau yn y gymuned ac mewn sefyllfaoedd proffesiynol, sefydliadol, academaidd a phersonol, gyfarfod deirgwaith i egluro'r materion y mae rhaid mynd i'r afael â hwy os ydym am greu newid sylweddol a gwell canlyniadau i bob person LHDTC+ yng Nghymru. Cafodd y cyfarfodydd hyn eu hategu gan weithdai ac is-grwpiau a oedd yn ystyried llawer o faterion yn fanylach.

Fe wnaeth Llywodraeth Cymru hefyd gomisiynu Stonewall Cymru i gynnal rhagor o sesiynau ymgysylltu â rhanddeiliaid er mwyn helpu’r Panel Arbenigol Annibynnol i ystyried profiadau croestoriadol pobl LHDTC+. Roedd y trefniadau'n cynnwys grwpiau ffocws bwrdd crwn rhithiol (yn cynrychioli pobl ifanc LHDTC+, pobl hŷn, pobl anabl a phobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol) a rhai trafodaethau ychwanegol gyda sefydliadau gan gynnwys TUC Cymru, WEN Cymru a Llinell Gymorth LHDT Cymru.

Ym mis Mawrth 2021, cyflwynodd y Panel Arbenigol Annibynnol ei adroddiad a'i argymhellion. Defnyddiwyd gwaith y Panel Arbenigol hwn i ddatblygu'r Cynllun Gweithredu drafft ar gyfer Hyrwyddo Cydraddoldeb LHDTC+ yng Nghymru, yr ydym yn ymgynghori arno.

Mae'r Cynllun Gweithredu LHDTC+ cenedlaethol hwn wedi'i sefydlu i helpu i gydlynu camau gweithredu gan Lywodraeth Cymru ac asiantaethau eraill. Mae'r cynllun yn nodi cyfres gyffredinol o nodau i wella cydraddoldeb i bobl LHDTC+ ac mae hefyd yn cynnwys ystod eang o gamau gweithredu penodol i bolisi sy'n ymwneud â Hawliau Dynol a Chydnabyddiaeth; Diogelwch; Cartrefi a Chymunedau; Iechyd a Gofal Cymdeithasol; Addysg; a'r Gweithle.  

Amserlen yr ymgynghoriad

Bydd yr ymgynghoriad yn cael ei gynnal am 12 wythnos. Rydym yn croesawu safbwyntiau pobl LHDTC +, rhanddeiliaid a'r cyhoedd yn ehangach ac rydym am glywed eich adborth.

Byddwn yn ystyried yr ymatebion i'r ymgynghoriad i fireinio fersiwn derfynol o'r Cynllun. Byddwn yn ceisio cyhoeddi'r cynllun terfynol yn gynnar yn 2022.

Yr hyn yr ydym am ei gael gennych

Mae'r Cynllun Gweithredu LHDTC + yn cynnwys camau gweithredu clir wedi'u targedu a bydd yr ymgynghoriad hwn yn ein helpu i gael adborth mewn sawl maes. Rydym wedi gosod nifer o gwestiynau ichi eu hystyried. Fodd bynnag, rydym yn croesawu'r holl ymatebion a gallant fod yn y fformat sy’n fwyaf addas i chi. Os hoffech anfon clip fideo atom gyda'ch sylwadau a'ch syniadau, neu os byddai'n well gennych ysgrifennu eich syniadau yn yr iaith yr ydych chi'n teimlo'n fwy cyfforddus yn ysgrifennu ynddi, byddem yn croesawu hyn.

Atgoffir ymatebwyr bod yr hawl i ryddid mynegiant yn hawl amodol a bod troseddau penodol mewn perthynas â throseddau casineb a grëwyd gan Ddeddf Trefn Gyhoeddus 1986 a Deddf Cyfathrebu Maleisus 1988 er enghraifft. Mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol wedi cynhyrchu canllawiau ar faterion yn ymwneud â rhyddid mynegiant a lle y gallai hyn fod wedi’i gyfyngu.

Cwestiynau’r ymgynghoriad

Mae chwe phrif thema i'r Cynllun Gweithredu: Hawliau Dynol a Chydnabyddiaeth; Diogelwch; Cartrefi a Chymunedau; Iechyd a Gofal Cymdeithasol; Addysg; a'r Gweithle. Hoffem gael eich barn ar y camau gweithredu arfaethedig ar gyfer pob thema. Efallai yr hoffech roi sylwadau ar un o’r meysydd hyn neu bob un ohonynt.

Defnyddiwch y cwestiynau canlynol fel sail i'ch ymateb. Mae croeso i chi ychwanegu sylwadau neu wybodaeth ychwanegol os dymunwch.

Cwestiwn 1

A ydych chi'n meddwl y bydd y Cynllun Gweithredu yn gwella cydraddoldeb i bobl LHDTC+ a beth ddylai'r blaenoriaethau fod yn eich barn chi?

Cwestiwn 2

A ydych chi'n cytuno â'r nodau cyffredinol? Beth fyddech chi'n ei ychwanegu neu'n ei ddileu mewn perthynas â'r nodau cyffredinol?

Cwestiwn 3

A ydych yn cytuno â'r camau gweithredu sy’n cael eu cynnig? Beth fyddech chi'n ei ychwanegu neu'n ei ddileu mewn perthynas â'r camau gweithredu?

Cwestiwn 4

Beth yw'r prif heriau a allai atal y nodau a'r camau rhag cael eu cyflawni?

Cwestiwn 5

Pa adnoddau (gallai hyn gynnwys cyllid, amser staff, hyfforddiant, mynediad at wasanaethau cymorth neu wasanaethau eiriolaeth ymhlith pethau eraill) a fydd yn angenrheidiol yn eich barn chi wrth gyflawni'r nodau a'r camau gweithredu a amlinellir?

Cwestiwn 6

A ydych chi'n teimlo bod y Cynllun Gweithredu LHDTC+ yn ymdrin yn ddigonol â chroestoriadedd LHDTC+ â nodweddion gwarchodedig eraill, megis hil, crefydd neu gred, anabledd, oedran, rhywedd, a phriodas a phartneriaeth sifil? Os nad ydych yn teimlo ei fod yn gwneud hynny, sut y gallwn wella hyn?

Cwestiwn 7

Hoffem gael eich barn ar unrhyw effeithiau y byddai’r cynigion hyn yn eu cael ar y Gymraeg, yn enwedig ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio'r Gymraeg ac ar sicrhau na chaiff y Gymraeg ei thrin yn llai ffafriol na'r Saesneg. 

Beth fyddai'r effeithiau yn eich barn chi? Sut y gellid cynyddu effeithiau cadarnhaol, neu leihau effeithiau negyddol? 

Cwestiwn 8

Esboniwch hefyd sut, yn eich barn chi, y gallai'r dull polisi arfaethedig gael ei lunio neu ei newid er mwyn sicrhau effeithiau cadarnhaol neu effeithiau cadarnhaol cynyddol ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio'r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg, ac er mwn sicrhau na fydd effeithiau andwyol ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio'r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg.

Cwestiwn 9

Datblygwyd y cynllun hwn ar y cyd, ac mae trafodaethau ynghylch iaith a hunaniaeth wedi dangos y dylid defnyddio'r acronym LHDTC+. Mae hyn yn sefyll am bobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol, trawsrywiol a chwiar/cwestiynu, gyda'r + yn cynrychioli hunaniaethau rhywiol eraill. O ganlyniad, rydym yn cyfeirio at bobl LHDTC+ yn y Cynllun. 

Beth yw eich barn am y term hwn ac a oes dewis amgen y byddai'n well gennych? Efallai y bydd siaradwyr Cymraeg am ystyried terminoleg addas yn y ddwy iaith.

Cwestiwn 10

Rydym wedi gofyn nifer o gwestiynau penodol. Os oes gennych unrhyw faterion cysylltiedig nad ydyn ni wedi ymdrin yn benodol â nhw, gallwch eu nodi isod:

Sut i ymateb

Cyflwynwch eich sylwadau erbyn 22 Hydref 2021, drwy unrhyw un o'r ffyrdd a ganlyn:

Y Tîm Cydraddoldeb
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

Eich hawliau

O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawl:

  • i wybod am y data personol a gedwir amdanoch chi a'u gweld
  • i’w gwneud yn ofynnol inni gywiro gwallau yn y data hynny
  • (o dan rai amgylchiadau) i wrthwynebu prosesu neu gyfyngu ar brosesu
  • (o dan rai amgylchiadau) i'ch data gael eu ‘dileu’
  • (o dan rai amgylchiadau) i gludadwyedd data
  • i gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (SCG), ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.

Mae ymatebion i ymgynghoriadau yn debygol o gael eu cyhoeddi’n gyhoeddus, ar y rhyngrwyd neu mewn adroddiad. Os hoffech i’ch ymateb aros yn ddienw, dywedwch wrthym ni

I gael rhagor o fanylion am yr wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei chadw ac am y defnydd a wneir ohoni, neu os ydych am arfer eich hawliau o dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data, gweler y manylion cyswllt isod:

Y Swyddog Diogelu Data

Y Swyddog Diogelu Data
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

E-bost: data.protectionofficer@llyw.cymru

Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth

Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF

Ffôn : 01625 545 745 neu 0303 123 1113

Gwefan: ico.org.uk

Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data

Llywodraeth Cymru fydd y rheolydd data ar gyfer unrhyw ddata personol a roddir gennych wrth ichi ymateb i'r ymgynghoriad. Mae gan Weinidogion Cymru bwerau statudol y byddant yn dibynnu arnynt i brosesu’r data personol hyn a fydd yn eu galluogi i wneud penderfyniadau cytbwys ynghylch sut y maent yn cyflawni eu swyddogaethau cyhoeddus. Bydd unrhyw ymateb a anfonwch atom yn cael ei weld yn llawn gan staff Llywodraeth Cymru sy'n gweithio ar y materion y mae'r ymgynghoriad hwn yn ymwneud â nhw neu sy’n cynllunio ymgyngoriadau ar gyfer y dyfodol. Pan fo Llywodraeth Cymru yn cynnal dadansoddiad pellach o'r ymatebion i ymgynghoriad, gall trydydd parti achrededig (e.e. sefydliad ymchwil neu gwmni ymgynghori) gael ei gomisiynu i wneud y gwaith hwn. Ni fydd unrhyw waith o'r fath yn cael ei wneud oni bai ei fod yn cael ei wneud o dan gontract. Mae telerau ac amodau safonol Llywodraeth Cymru ar gyfer contractau o'r fath yn nodi gofynion caeth ar gyfer prosesu a chadw data personol yn ddiogel. Er mwyn dangos bod yr ymgynghoriad wedi cael ei gynnal mewn modd priodol, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyhoeddi crynodeb o'r ymatebion i'r ddogfen hon. Mae’n bosibl hefyd y byddwn yn cyhoeddi’r ymatebion yn llawn. Fel arfer, bydd enw a chyfeiriad (neu ran o gyfeiriad) yr unigolyn neu'r sefydliad a anfonodd yr ymateb yn cael eu cyhoeddi gyda’r ymateb. Os nad ydych yn dymuno i’ch enw a’ch cyfeiriad gael eu cyhoeddi, rhowch wybod inni yn ysgrifenedig wrth anfon eich ymateb. Byddwn wedyn yn cuddio eich manylion.

Dylech hefyd wybod am ein dyletswyddau o dan ddeddfwriaeth Rhyddid Gwybodaeth. Os caiff eich manylion eu cyhoeddi fel rhan o’r ymateb i’r ymgynghoriad, bydd yr adroddiadau hyn yn cael eu cadw am gyfnod amhenodol. Ni fydd gweddill eich data a gedwir fel arall gan Lywodraeth Cymru yn cael eu cadw am fwy na thair blynedd.

Gwybodaeth bellach a dogfennau cysylltiedig

Rhif: WG43118

Gallwch weld y ddogfen hon mewn ieithoedd amgen. Os ydych am gael y ddogfen mewn fformat gwahanol, cysylltwch â ni.