Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) wedi cyhoeddi data Cyfrifiad 2021 ar Statws gweithgarwch economaidd, diwydiant a galwedigaeth a theithio i’r gwaith trigolion yng Nghymru a Lloegr bore heddiw (Iau, 8 Rhagfyr) mewn 3 bwletin ar wahân. 

Mae’r bwletin ystadegol hwn yn cynnwys crynodebau am y tri phwnc ar gyfer Cymru. Mae’r bwletin yn darparu gwybodaeth, ar sail data Cyfrifiad 2021, am statws gweithgarwch economaidd, yr oriau a weithiwyd ac a yw unigolion wedi gwneud gwaith am dâl.

Mae’n cynnwys gwybodaeth hefyd am ddiwydiant, galwedigaeth, graddfeydd cymdeithasol, dulliau teithio i’r gwaith a’r pellter y teithiwyd i’r gwaith, ar sail data Cyfrifiad 2021.

Prif bwyntiau

  • Cynhaliwyd y Cyfrifiad yng nghanol y pandemig coronafeirws (COVID-19), cyfnod o newid digynsail a chyflym; bydd cyfnodau clo a’r canllawiau a mesurau ffyrlo cysylltiedig wedi effeithio ar bynciau’r farchnad lafur a theithio i’r gwaith.
  • Ar Ddiwrnod y Cyfrifiad, 21 Mawrth 2021, roedd 1.45 miliwn o breswylwyr arferol 16 oed a throsodd yng Nghymru yn economaidd weithgar (56.5%), gyda 1.11 miliwn (43.5%) yn economaidd anweithgar.
  • O’r preswylwyr arferol 16 oed a throsodd yng Nghymru, roedd bron eu hanner yn gyflogedigion (1.16 miliwn, 45.2%), roedd 211,600 yn hunangyflogedig (8.3%) ac roedd 78,900 (3.1%) arall yn ddi-waith ond yn chwilio am waith.
  • Roedd bron chwarter y preswylwyr arferol 16 oed a throsodd yn economaidd anweithgar am eu bod wedi ymddeol (631,700, 24.7%).
  • Y diwydiant a oedd yn cyflogi’r nifer fwyaf o breswylwyr arferol 16 oed a throsodd yr wythnos cyn Cyfrifiad 2021 oedd Iechyd pobl a gwaith cymdeithasol (232,700, 17% o’r holl breswylwyr arferol 16 oed a throsodd mewn gwaith).
  • Y diwydiant a welodd y gostyngiad mwyaf yn y nifer a gyflogir ynddo ers Cyfrifiad 2011 oedd Gweithgynhyrchu, gydag 118,800 o bobl (8.7% o’r rheini mewn gwaith) yn cael eu cyflogi o’u cymharu â 144,600 (10.5%) yn 2011.
  • Mae Cyfrifiad 2021 yn amcangyfrif bod 350,500 o breswylwyr arferol 16 oed a throsodd oedd mewn gwaith yng Nghymru yn gweithio gartref.

Statws gweithgarwch economaidd

Yng Nghyfrifiad 2021, gofynnwyd i bawb 16 oed a throsodd oedd yn llenwi’r cyfrifiad i ateb y cwestiynau am statws eu gweithgarwch economaidd. Roedd y cwestiynau’n gofyn a oedd rhywun yn gweithio neu’n chwilio am waith yn yr wythnos cyn Cyfrifiad 2021.

Mae sail y boblogaeth yn ôl oed ar gyfer y cyfraddau cyflogaeth ac anweithgarwch yn wahanol i rai’r Arolwg o’r Gweithlu. Darllenwch yr adran ansawdd a methodoleg am ragor o wybodaeth.

Ceir tri phrif fath o statws gweithgarwch economaidd.

  1. Yr economaidd weithgar: pobl mewn gwaith (cyflogedig neu hunangyflogedig)
  2. Yr economaidd weithgar: pobl ddi-waith (sy’n chwilio am waith ac a allai ddechrau mewn dwy wythnos, neu sy’n aros i ddechrau swydd sydd wedi’i chynnig a’i derbyn)
  3. Yr economaidd anweithgar (y rheini nad oedd ganddynt swydd rhwng 15 Mawrth a 21 Mawrth 2021 ac nad oeddynt wedi bod yn chwilio am waith rhwng 22 Chwefror a 21 Mawrth 2021 neu na fyddent wedi gallu dechrau gweithio mewn dwy wythnos)

Mae Cyfrifiad 2021 yn dangos, o’r 2.56 miliwn o breswylwyr arferol 16 oed a throsodd oedd yng Nghymru, bod rhyw 1.37 miliwn ohonynt mewn gwaith (53.5%), 78,900 yn ddi-waith (3.1%) ac 1.11 miliwn yn economaidd anweithgar (43.5%).

Mae’r boblogaeth economaidd weithgar yn cynnwys pobl oedd ar ffyrlo adeg cynnal Cyfrifiad 2021, y barnwyd eu bod o’r gwaith am gyfnod dros dro. Yng Nghymru a Lloegr, dengys ystadegau Cyllid a Thollau EM bod 3.8 miliwn o gyflogedigion yn aelodau o’r Cynllun Cadw Swyddi dros gyfnod y Coronafeirws ar ddiwrnod y Cyfrifiad a bod 1.8 miliwn o bobl hunangyflogedig wedi hawlio pedwerydd grant  y Cynllun Cymorth Incwm i’r Hunangyflogedig.

Yr economaidd weithgar: mewn gwaith

Yng Nghymru, roedd 1.37 miliwn o breswylwyr arferol 16 oed yn economaidd weithgar ac mewn gwaith yn yr wythnos cyn y Cyfrifiad, 53.5% o’r holl breswylwyr arferol 16 oed a throsodd.  Roedd y ganran oedd mewn gwaith yng Nghymru yn is na’r ganran yn Lloegr (57.4%).

Ar draws awdurdodau lleol Cymru, roedd y ganran mewn gwaith yn amrywio o 49.1% yng Ngheredigion i 57.9% yn Sir y Fflint.

Mae canran y bobl sy’n economaidd weithgar mewn ardal yn debygol o fod yn gysylltiedig â phroffil oed preswylwyr arferol yr ardal honno.  Ceir rhagor o wybodaeth am strwythur oed y boblogaeth yn Amcangyfrifon o'r boblogaeth a chartrefi Cyfrifiad 2021.

Roedd yr holl breswylwyr arferol 16 oed a throsodd a oedd mewn gwaith yn gallu dweud a oeddynt, yn eu prif swydd, yn:

  • weithwyr cyflogedig (yn gwneud gwaith am dâl i unigolyn preifat, sefydliad neu fusnes)
  • hunangyflogedig neu’n llawrydd (yn berchen neu’n rhedeg eu busnes, eu practis proffesiynol neu fenter debyg eu hunain)

Gofynnwyd i’r bobl hunangyflogedig neu lawrydd i nodi ymhellach a oeddynt yn

  • hunangyflogedig heb weithwyr cyflogedig
  • hunangyflogedig sy’n cyflogi gweithwyr

Gallai bodolaeth ffyrlo yn ystod pandemig COVID-19 fod wedi gwneud i bobl gategoreiddio’u statws gweithgarwch economaidd yn wahanol.

Yng Nghymru, roedd 1.16 miliwn o’r preswylwyr arferol 16 oed a throsodd yn weithwyr cyflogedig (45.2% o’r holl breswylwyr arferol 16 oed a throsodd). Roedd y gyfran oedd yn weithwyr cyflogedig yn is yng Nghymru nag yn Lloegr (47.7%).

Roedd 211,600 o bobl hunangyflogedig yng Nghymru, sef 8.3% o’r holl breswylwyr arferol 16 oed a throsodd. Canran is na’r 9.7% yn Lloegr. O gyfanswm yr hunangyflogedig yng Nghymru, roedd 38,000 (1.5% o’r holl breswylwyr arferol 16 oed a throsodd) yn cyflogi pobl eraill ac roedd 173,000 (6.8%) yn hunangyflogedig heb gyflogeion.

Ar draws awdurdodau lleol Cymru, amrywiai’r ganran oedd yn weithwyr cyflogedig o 35.8% yng Ngheredigion i 50.5% yng Nghasnewydd. Amrywiai’r ganran oedd yn hunangyflogedig o 5.5% ym Mlaenau Gwent i 15.0% ym Mhowys.

Yr economaidd weithgar: di-waith

Adeg cynnal Cyfrifiad 2021, roedd 78,900 o’r preswylwyr arferol 16 oed a throsodd yng Nghymru yn economaidd weithgar ac yn ddi-waith (3.1%). Yn eu plith yr oedd pobl oedd yn chwilio am waith ac a allai ddechrau o fewn dwy wythnos neu bobl oedd yn aros i ddechrau swydd oedd wedi’i chynnig a’i derbyn.  Roedd y ganran oedd yn economaidd weithgar ac yn ddi-waith yn is yng Nghymru nag yn Lloegr (3.5%). 

Yng Nghymru, yr awdurdod lleol â’r ganran uchaf o bobl oedd yn ddi-waith oedd Caerdydd (4.1% o’r preswylwyr arferol 16 oed a throsodd).

Yr economaidd anweithgar

Mae person yn economaidd anweithgar os nad oedd mewn gwaith yn yr wythnos cyn y cyfrifiad, ac:

  • nad oedd yn chwilio am waith
  • ei fod yn chwilio am waith ond ddim yn gallu dechrau gweithio yn y ddwy wythnos nesaf

Cofnodir un o’r canlynol fel y rheswm pam eu bod yn anweithgar:

  • wedi ymddeol (yn derbyn pensiwn neu ddim)
  • astudio
  • gofalu am gartref neu deulu
  • â salwch neu anabledd tymor hir
  • rheswm arall

Oherwydd effaith y pandemig coronafeirws (COVID-19) ar farchnad lafur y DU, gallai nifer y bobl sy’n economaidd anweithgar fod yn uwch na’r disgwyl. Mae’n bosibl y gallai rhai pobl sydd ar ffyrlo fod wedi dweud eu bod economaidd anweithgar yn hytrach na’u bod i ffwrdd o’r gwaith am gyfnod dros dro.

Roedd cyfanswm o 1.11 miliwn o breswylwyr arferol 16 oed a throsodd yng Nghymru yn economaidd anweithgar yn 2021 (43.5% o’r holl breswylwyr arferol 16 oed a throsodd). Mae hyn yn cymharu â 39.1% yn Lloegr.

Siart 1: Cyfran o’r unigolion economaidd anweithgar yn ôl y rheswm am eu hanweithgarwch o’r holl breswylwyr arferol 16 oed a throsodd, Cymru a Lloegr, 2021

Image
Manylion yn y testun yn dilyn y siart.

Mae'r siart bar yn dangos y rheswm pennaf am anweithgarwch yng Nghymru ac yn Lloegr yw ‘wedi ymddeol’, 21.5% a 24.7% a yn y drefn honno. 

Ffynhonnell: Dadansoddiad Llywodraeth Cymru o ddata Cyfrifiad 2021

Yng Nghymru, y rheswm a ddewiswyd amlaf am eu hanweithgarwch economaidd oedd:

  • wedi ymddeol (24.7% o’r preswylwyr arferol 16 oed a throsodd, 631,700)
  • â salwch neu anabledd tymor hir (5.9%, 151,300)
  • astudio (5.7%, 145,200)

Roedd canrannau uwch o breswylwyr arferol 16 oed a throsodd yng Nghymru wedi ymddeol (24.7%) neu â salwch neu anabledd tymor hir (5.9%) nag yn Lloegr (21.5% a 4.1% yn y drefn honno).

Oriau a weithiwyd

Gofynnwyd i’r holl breswylwyr arferol 16 oed a throsodd oedd mewn gwaith sawl awr yr oeddynt yn ei weithio yr wythnos, gan gynnwys goramser â thâl a heb dâl.

Gyda ffyrlo, a busnesau ar agor am lai o amser yng Nghymru a Lloegr adeg cynnal Cyfrifiad 2021 oherwydd y pandemig coronafeirws (COVID-19), gallai hynny fod arwain at bobl yn cofnodi eu bod yn gweithio mwy neu efallai lai o oriau na chyn y pandemig.

Yng Nghymru, roedd 958,000 (70.1%) o’r preswylwyr arferol 16 oed a throsodd oedd mewn gwaith yn gweithio’n amser llawn (31 awr neu fwy yr wythnos). O’r cyfanswm hwnnw, roedd 818,800 o bobl yn gweithio 31 i 48 awr yr wythnos (59.8%) a 140,100 yn gweithio 49 awr neu fwy yr wythnos (10.2%).

Roedd y 409,600 (29.9%) o’r preswylwyr arferol 16 oed a throsodd oedd yn weddill mewn gwaith yn gweithio’n rhan-amser (hyd at 30 awr yr wythnos). O’r rheini a weithiai’n rhan-amser, roedd 123,600 (9%) yn gweithio 0 i 15 awr yr wythnos, a 285,900 (20.9%) yn gweithio 16 i 30 awr yr wythnos.

Siart 2: Cyfran y preswylwyr arferol 16 oed a throsodd mewn gwaith yn ôl yr oriau a weithiwyd yr wythnos, Cymru a Lloegr, 2021

Image
Manylion yn y testun yn dilyn y siart.

Mae'r siart cylch yn dangos bod 70% o breswylwyr Cymru oedd mewn gwaith yn gweithio’n amser llawn, gyda 59.8% o’r preswylwyr mewn gwaith yn gweithio 31 i 48 awr yr wythnos. 

Ffynhonnell: Dadansoddiad Llywodraeth Cymru o ddata Cyfrifiad 2021

O’r preswylwyr arferol 16 oed a throsodd oedd mewn gwaith, roedd y gyfran oedd yn gweithio’n amser llawn ac yn rhan-amser yn Lloegr yn debyg i Gymru, ar 70.2% a 29.8% yn y drefn honno. 

Ar draws awdurdodau lleol Cymru, amrywiai’r ganran oedd yn gweithio’n amser llawn o 65.3% yng Ngheredigion i 73.7% ym Mlaenau Gwent.

Hanes cyflogaeth: erioed wedi gwneud gwaith am dâl

Gofynnwyd i’r holl breswylwyr arferol 16 oed a throsodd oedd yn economaidd weithgar ac yn ddi-waith, neu’n economaidd anweithgar a oeddynt wedi gwneud unrhyw waith am dâl erioed. Roedd hynny’n gyfle i rannu’r rheini nad oeddynt mewn gwaith adeg cynnal Cyfrifiad 2021 yn dri chategori.

  1. Wedi gwneud gwaith â thâl yn y 12 mis diwethaf (136,800, 11.5% o’r holl breswylwyr arferol 16 oed a throsodd nad oeddynt mewn gwaith)
  2. Roedd y tro diwethaf iddynt wneud gwaith â thâl fwy na 12 mis yn ôl (779,000, 65.4%)
  3. Erioed wedi gweithio (275,200, 23.1%)

Roedd cyfran y preswylwyr arferol 16 oed a throsodd oedd erioed wedi gweithio yn is yng Nghymru (23.1% erioed wedi gweithio) nag yn Lloegr (25.6%). Roedd canran y rheini nad oeddynt wedi gweithio am dâl ers dros 12 mis yn uwch yng Nghymru (65.4%) nag yn Lloegr (61.1%).

Yng Nghymru, Caerdydd oedd yr awdurdod lleol â’r ganran uchaf o bobl oedd erioed wedi gweithio (28.6%) ac â’r ganran isaf o bobl nad oeddynt wedi gweithio am dâl ers dros 12 mis (53.4%)

Diwydiant a galwedigaeth

Diwydiant

Yng Nghymru, roedd 1.37 miliwn o breswylwyr arferol 16 oed a throsodd mewn gwaith yn yr wythnos cyn Cyfrifiad 2021 (53.5% o’r preswylwyr arferol 16 oed a throsodd).

Siart 3: Nifer y preswylwyr arferol 16 oed a throsodd mewn gwaith yn ôl Diwydiant yng Nghymru, 2021

Image
Manylion yn y testun yn dilyn y siart.

Mae'r siart bar yn dangos y diwydiannau yng Nghymru oedd yn cyflogi’r nifer fwyaf o bobl oedd Gweithgareddau iechyd pobl a gwaith cymdeithasol a Masnach cyfanwerthu a manwerthu; atgyweirio cerbydau modur. 

Ffynhonnell: Dadansoddiad Llywodraeth Cymru o ddata Cyfrifiad 2021

Y diwydiannau bras oedd yn cyflogi’r nifer fwyaf o bobl yng Nghymru adeg cynnal Cyfrifiad 2021 oedd:

  • gweithgareddau iechyd pobl a gwaith cymdeithasol (232,700 o bobl, 17% o’r holl breswylwyr arferol 16 oed a throsodd mewn gwaith)
  • masnach cyfanwerthu a manwerthu; atgyweirio cerbydau modur a beiciau modur (198,000, 14.5%)
  • addysg (131,100, 9.6%)

Y diwydiant bras a welodd y cynnydd pwyntiau canran mwyaf mewn cyflogaeth yng Nghymru oedd gweithgareddau iechyd pobl a gwaith cymdeithasol (cynnydd o 2.6 pwynt canran o 14.4% yn 2011 i 17.0% yn 2021).

Gwelodd cyflogaeth yn y diwydiant gweithgynhyrchu yng Nghymru ostyngiad o 1.9 pwynt canran (o 10.5% yn 2011 i 8.7% yn 2021), y diwydiant bras a welodd y gostyngiad mwyaf.

Gellir rhannu’r categorïau diwydiannol yn rhaniadau pellach, er mwyn cael darlun hyd yn oed yn fanylach o gyflogaeth fesul diwydiant. Mae’r dadansoddiad hwn yn dangos bod y prif raniadau diwydiannol yng Nghymru’n cynnwys:

  • gweithgareddau iechyd pobl (137,700, 10.1%)
  • masnach manwerthu ac eithrio cerbydau modur a beiciau modur (137,100, 10.0%)
  • gweithgareddau gwaith cymdeithasol heb lety (69,900, 5.1%)
  • gweithgareddau gwasanaethau bwyd a diod (56,400, 4.1%)

Yng Nghymru, gwelwyd cynnydd mewn cyflogaeth mewn gweithgareddau iechyd pobl (o 7.6% yn 2011 i 10.1% yn 2021) tra gwelwyd y gostyngiad mwyaf mewn cyflogaeth yn y fasnach manwerthu ac eithrio cerbydau modur a beiciau modur (o 11.1% yn 2011 i 10.0% yn 2021).

Galwedigaeth

Yng Nghyfrifiad 2021, gofynnwyd i ymatebwyr 16 oed a throsodd am deitlau llawn eu swyddi (ar gyfer eu prif swydd, neu os nad oeddynt yn gweithio, eu prif swydd diweddaraf) a phrif weithgaredd eu cyflogwr.  Rhoddwyd cod i’w hatebion gan ddefnyddio Dosbarthiad Galwedigaethol Safonol 2020.

Mae’r data a gyhoeddir yn y bwletin ystadegol hwn yn cynnwys data galwedigaethol sydd wedi’u rhannu’n 104 o is-grwpiau. Gellir eu hymgorffori yn y naw categori galwedigaethol lefel uchel a ddangosir yn siart 4.

Siart 4: Cyfran y preswylwyr arferol 16 oed a throsodd oedd mewn gwaith yn ôl y Dosbarthiad Galwedigaethol Safonol, Cymru a Lloegr, 2021

Image
Manylion yn y testun yn dilyn y siart.

Mae siart bar yn dangos y categori oedd â’r gyfran uchaf oedd y Galwedigaethau proffesiynol, gydag 18.2%.  

Ffynhonnell: Dadansoddiad Llywodraeth Cymru o ddata Cyfrifiad 2021

Yng Nghymru, roedd 18.2% o’r holl breswylwyr arferol 16 oed a throsodd oedd mewn gwaith yn gweithio yn y galwedigaethau proffesiynol (249,500), gan ei wneud y categori galwedigaethol bras mwyaf. Hefyd, roedd 166,600 (12.2%) yn gyflogedig yn y galwedigaethau â chrefftau medrus ac 161,300 (11.8%) yn gyflogedig yn y galwedigaethau proffesiynol a thechnegol cysylltiedig.

Roedd canran is yng Nghymru’n cael eu cyflogi yn y galwedigaethau proffesiynol (18.2% o’r preswylwyr arferol 16 oed a throsodd oedd mewn gwaith) nag yn Lloegr (20.3%).

Gan ddefnyddio’r 104 o gategorïau yn y dosbarthiad manwl, gallwn ddeall yn well y galwedigaethau y cyflogir pobl ynddynt. Yng Nghymru, roedd y grwpiau galwedigaethol mân sydd â’r nifer fwyaf o breswylwyr arferol 16 oed a throsodd mewn gwaith yn gweithio ynddynt yn cynnwys:

  • Gwasanaethau Personol Gofalgar (6.5%, 88,400)
  • Cynorthwywyr Gwerthu ac Arianwyr Manwerthu (5.3%, 72,900)
  • Athrawon a Gweithwyr Proffesiynol Addysg eraill (3.5%, 47,900)
  • Gyrwyr Cludiant Ffyrdd. (3.3%, 44,600)

Y grŵp galwedigaethol manwl mwyaf oedd y gwasanaethau personol gofalgar, yn Lloegr (4.9%, 1.3 miliwn) ac yng Nghymru (6.5%, 88,400).

Dosbarthiad Economaidd-gymdeithasol Ystadegau Gwladol (NS-SeC)

Mae NS-SEC yn rhoi syniad o’r sefyllfa economaidd-gymdeithasol, ar sail yr ymatebion i gwestiynau am statws gweithgarwch economaidd, galwedigaeth a hanes cyflogaeth yng Nghyfrifiad 2021. Mae'n ddosbarthiad safonol y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Cafodd holl breswylwyr arferol 16 oed a throsodd god un o'r categorïau NS-SEC bras a ddangosir yn siart 5.

Siart 5: Canran y preswylwyr arferol 16 oed a throsodd oedd mewn gwaith yn ôl Categori NS-SeC, Cymru a Lloegr, 2021

Image
Manylion yn y testun yn dilyn y siart.

Mae siart bar yn dangos y categori mwyaf yn y ddwy wlad yw Galwedigaethau rheoli, gweinyddol a phroffesiynol is, yn cyfrif am 19.4% o’r gweithlu yng Nghymru ac 19.9% yn Lloegr. 

Ffynhonnell: Dadansoddiad Llywodraeth Cymru o ddata Cyfrifiad 2021

Yng Nghymru, y categori NS-SeC mwyaf yn 2021 oedd Galwedigaethau rheoli, gweinyddol a phroffesiynol is gyda 497,400 (19.4%) o unigolion, ac yna’r Galwedigaethau arferol gyda 337,700 (13.2%) o unigolion. Yn Lloegr y categori mwyaf yno hefyd oedd Galwedigaethau rheoli, gweinyddol a phroffesiynol is (9.2 miliwn, 19.9%).

Y categori NS-SeC lleiaf yng Nghymru yn 2021 oedd Galwedigaethau goruchwylio a thechnegol is gyda 159,900 (6.2%) o unigolion. Yn Lloegr y categori lleiaf yno hefyd oedd Galwedigaethau goruchwylio a thechnegol is (2.5 miliwn, 5.3%).

Teithio i’r gwaith

Gweithio gartre’n bennaf

Yn 2021, roedd 1.37 miliwn o breswylwyr arferol 16 oed a throsodd yng Nghymru mewn gwaith yn ystod yr wythnos cyn Cyfrifiad 2021.

Ar ffurflen Cyfrifiad 2021, gofynnwyd i bobl oedd mewn gwaith neu a oedd o'r gwaith am gyfnod dros dro yn yr wythnos cyn y Cyfrifiad "Sut ydych chi fel arfer yn teithio i'r gwaith?". Gofynnwyd i bobl ddewis yr un dull teithio a ddefnyddir ganddynt ar gyfer darn hiraf, o ran pellter, eu taith arferol i'r gwaith.

At ei gilydd, amcangyfrifwyd bod 350,500 o bobl yng Nghymru’n gweithio gartref yn bennaf, sef 25.6% o'r holl breswylwyr arferol 16 oed a throsodd mewn gwaith.

Roedd canran lai yn gweithio gartref yn bennaf yn 2021 yng Nghymru (25.6%) nag yn Lloegr (31.5%). Ar draws awdurdodau lleol Cymru, yng Nghaerdydd yr oedd y gyfran uchaf o bobl oedd yn gweithio gartref yn 2021 (36.1%), ac ym Mlaenau Gwent (14.0%) oedd y gyfran isaf.

Gellir esbonio’n rhannol y gwahaniaethau o ran gweithio gartref ar lefel y wlad, rhanbarth ac awdurdod lleol gan amrywiadau mewn cyflogaeth o fewn galwedigaethau a diwydiannau. Fe welwch fwy o wybodaeth ynghylch sut roedd pobl yn cael eu cyflogi yn yr adran Diwydiant a Galwedigaeth.

O ganlyniad i’r pandemig coronafeirws (COVID-19), cyflwynodd Llywodraeth y DU fesurau ffyrlo i sicrhau bod y rhai nad oeddent yn gallu gweithio yn cael aros mewn cyflogaeth. Roedd y ffyrlo yn cynnwys pobl ar y Cynllun Cymorth Incwm i'r Hunangyflogedig (SEIS) a’r Cynllun Cadw Swyddi drwy gyfnod y Coronafeirws (CJRS). Wrth lenwi ffurflen Cyfrifiad 2021, cynghorwyd pobl ar ffyrlo,  yn ogystal â'r rhai a oedd mewn cwarantin neu'n hunan-ynysu oherwydd y pandemig, i ddweud eu bod i ffwrdd o’u gwaith am gyfnod dros dro. Roedd gan bobl ar ffyrlo ganllawiau penodol i'w helpu i ymateb; darllenwch fwy am hyn yn yr wybodaeth am Deithio i’r Gwaith ar gyfer Cyfrifiad 2021. Cafodd pobl a oedd o’u gwaith am gyfnod dros dro eu cynnwys yn y boblogaeth economaidd weithgar.

Dull teithio i’r gwaith

Yng Nghymru roedd 1.02 miliwn o’r preswylwyr arferol 16 oed a throsodd mewn gwaith (74.4%) nad oeddynt yn gweithio gartref yn bennaf. Gwnaethant nodi’r prif ddull teithio a ddefnyddient fel arfer i gyrraedd eu lle gwaith. Mae'n debygol bod cyfyngiadau yn ystod y pandemig coronafeirws (COVID-19) wedi cyfrannu at newid y ffordd roedd pobl yn teithio i'r gwaith, gan gynnwys lleihau’r defnydd ar drafnidiaeth gyhoeddus.

Yng Nghymru, o’r preswylwyr arferol 16 oed a throsodd oedd mewn gwaith:

  • roedd 772,600 o bobl yn teithio i’r gwaith trwy yrru car neu fan (56.5% o’r holl breswylwyr 16 oed a throsodd mewn gwaith)
  • roedd 66,000 yn teithio fel teithwyr mewn car neu fan (4.8%)

Amcangyfrifir bod canran y bobl a yrrai car neu fan i’r gwaith yn uwch yng Nghymru nag yn Lloegr (44.5%, 11.8 miliwn). Amrywiai’r canrannau o fewn awdurdodau lleol Cymru o 40.1% yng Nghaerdydd i 68.5% ym Mlaenau Gwent.

Siart 6: Dull teithio i’r gwaith heblaw am yrru car neu fan ar gyfer preswylwyr arferol 16 oed a throsodd Cymru, 2021

Image
Manylion yn y testun yn dilyn y siart.

Mae siart bar yn dangos heblaw am yrru car neu fan, y categori mwyaf yw ar droed, yn cyfrif am 7.1% o’r teithiau i’r gwaith. 

Ffynhonnell: Dadansoddiad Llywodraeth Cymru o ddata Cyfrifiad 2021

Mae’n debygol bod cyfarwyddyd y Llywodraeth ar gadw pellter cymdeithasol, cau gweithfannau a ffyrlo, yn ogystal â’r cyngor i beidio â theithio os nad oedd rhaid ac i osgoi teithio ar gludiant cyhoeddus wedi cyfrannu at lai o bobl yn defnyddio cludiant cyhoeddus yn 2021 o’u cymharu â Chyfrifiad 2011.

Yr awdurdodau lleol yng Nghymru sydd â’r ganran fwyaf sy’n teithio ar feic yw Caerdydd (2.9%, 4,700) a Sir y Fflint (1.5%, 1,100).

Pellter teithio i’r gwaith

Gofynnwyd i ymatebwyr 16 oed a throsodd a oedd mewn gwaith ac a ddywedodd mai gweithle neu ddepo oedd eu prif weithle am eu cyfeiriad gweithle, ac o hynny fe wnaethom gyfrifo’r pellter yr oeddent yn teithio i’r gwaith.

Siart 7: Pellter teithio i’r gwaith preswylwyr arferol 16 oed a throsodd yng Nghymru, 2021

Image
Manylion yn y testun yn dilyn y siart.

Mae siart bar yn dangos y pellter teithio mwyaf cyffredin oedd rhwng 5 a 10 cilometr, yn cyfrif am 21.1% o’r rheini oedd mewn gwaith. 

Ffynhonnell: Dadansoddiad Llywodraeth Cymru o ddata Cyfrifiad 2021

Yng Nghymru, roedd 827,500 o bobl yn teithio i weithle neu ddepo (60.5% o'r preswylwyr arferol 16 oed a throsodd mewn gwaith). Yn ogystal â'r 350,500 o bobl a oedd yn gweithio gartref yn bennaf (25.6%), roedd 190,400 arall yn gweithio'n bennaf mewn gweithfan ar y môr, mewn lle nad oedd yn sefydlog, neu y tu allan i'r DU (13.9%).

O'r rhai oedd yn teithio i weithle neu ddepo, roedd 496,900 o bobl (36.3% o'r preswylwyr arferol 16 oed a throsodd mewn gwaith) yn teithio pellter byr i’r gwaith (llai na 10km). Gan edrych yn fanylach ar y grŵp hwn:

  • roedd 158,900 o bobl yn teithio lai na 2 km (11.6% o’r preswylwyr arferol 16 oed a throsodd mewn gwaith)
  • roedd 163,400 o bobl yn teithio o leiaf 2 km i lai na 5 km (11.9%)
  • roedd 174,600 o bobl o leiaf 5 km i lai na 10 km (12.8%)

Roedd canran uwch o’r preswylwyr arferol 16 oed a throsodd oedd mewn gwaith yn teithio’r pellter byrraf (llai na 10 cilometr) a’r pellter hirach (10 cilomedr a throsodd) i’w gwaith yng Nghymru (36.3% a 24.2%, yn y drefn honno) nag yn Lloegr (35.4% a 18.7%, yn y drefn honno).

Yng Nghymru, yr awdurdodau lleol â'r canrannau mwyaf yn teithio pellteroedd byr (llai na 10 cilomedr) oedd Abertawe (46.7%) a Wrecsam (46.3%), a’r awdurdodau lleol â'r canrannau mwyaf yn teithio'n bell (10 cilomedr neu fwy) oedd Blaenau Gwent (32.5%) a Sir Gaerfyrddin (32.2%).

Gwybodaeth am ansawdd a methodoleg

I weld gwybodaeth lawn am ansawdd a methodoleg, gan gynnwys geirfa, ewch i Gwybodaeth am Ansawdd a Methodoleg Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Cynhaliwyd Cyfrifiad 2021 ar adeg o newid cyflym. Rhoddwyd cyngor ychwanegol i bobl ar ffyrlo i’w helpu i ateb cwestiynau’r cyfrifiad am waith.  Ond mae’n amhosib i ni allu dweud a wnaeth pobl ar ffyrlo ddilyn y cyngor. Cymerwch ofal wrth ddefnyddio’r data felly at ddibenion cynllunio.  Darllenwch fwy am ansawdd yng ngwybodaeth Swyddfa Ystadegau Gwladol am y farchnad lafur ar gyfer methodoleg Cyfrifiadur 2021.

Mae’r newid yn y boblogaeth mewn rhai ardaloedd o bosib yn adlewyrchu sut gwnaeth y pandemig coronafeirws (COVID-19) effeithio ar ddewis pobl o’u preswylfan arferol ar ddiwrnod y Cyfrifiad. Gallai’r newid hyn fod yn newid dros dro i rai ac yn newid fwy parhaol i bobl eraill.

Caiff rhagor o ddata Cyfrifiad 2021 eu cyhoeddi o fis Tachwedd, gan gynnwys gwybodaeth am bynciau fel y Gymraeg. Am ragor o wybodaeth am y data a’r dadansoddiadau sydd ar gael, ewch i Cynlluniau Datganiadau Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn bwriadu cyhoeddi adroddiadau’n cymharu amcangyfrifon poblogaeth Cyfrifiad 2021 â’r Amcangyfrifon poblogaeth canol blwyddyn diweddaraf (Swyddfa Ystadegau Gwladol) ac amcangyfrifon poblogaeth gweinyddol Swyddfa Ystadegau Gwladol, gan gynnwys esboniadau o unrhyw wahaniaethau.

Statws gweithgarwch economaidd

Cynghorwyd y bobl oedd ar ffyrlo adeg cynnal y Cyfrifiad i ddweud eu bod “o’r gwaith am gyfnod dros dro” a chawsant eu cynnwys yn y boblogaeth economaidd weithgar.

Mae sail y boblogaeth yn ôl oed ar gyfer y cyfraddau cyflogaeth ac anweithgarwch (preswylwyr arferol 16 oed a throsodd) yn wahanol i rai’r Arolwg o’r Gweithlu (preswylwyr arferol 16 i 64 oed). Darllenwch Drosolwg Llywodraeth Cymru o'r farchnad lafur am ragor o wybodaeth.

Geirfa

Fe welwch restr geirfa lawn yn Geiriadur Cyfrifiad 2021.

Statws Ystadegau Gwladol

Mae Awdurdod Ystadegau'r Deyrnas Unedig wedi dynodi’r ystadegau hyn yn Ystadegau Gwladol, yn unol â Deddf Gwasanaeth Ystadegau a Chofrestru 2007, sy’n golygu eu bod yn cydymffurfio â’r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau.

Mae statws Ystadegau Gwladol yn golygu fod yr ystadegau swyddogol yn cwrdd â’r safonau uchaf o ran dibynadwyaeth, ansawdd a gwerth cyhoeddus.

Dylai holl ystadegau swyddogol gydymffurfio â phob agwedd o’r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau. Rhoddir statws Ystadegau Gwladol iddynt yn dilyn asesiad gan adain reoleiddio Awdurdod Ystadegau'r Deyrnas Unedig. Mae’r Awdurdod yn ystyried a yw’r ystadegau yn cwrdd â’r safonau uchaf o ran cydymffurfio â’r Cod, gan gynnwys y gwerth y maent yn ei ychwanegu at benderfyniadau cyhoeddus a’r drafodaeth gyhoeddus.

Cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yw cydymffurfio â’r safonau a ddisgwylir gan Ystadegau Gwladol. Os ydym yn pryderu a yw’r ystadegau yma yn dal i gwrdd â’r safonau priodol, byddwn yn trafod hyn yn brydlon gyda’r Awdurdod. Gall statws Ystadegau Gwladol gael ei diddymu unrhyw bryd os na chaiff y safonau uchaf eu cynnal, a gellir ei ddyfarnu unwaith eto pan bodlonir y safonau.

Cadarnhawyd bod yr ystadegau hyn wedi cadw eu statws fel Ystadegau Gwladol ym mis Mehefin 2022 yn dilyn yr asesiad llawn ddiweddaraf o'r ystadegau yn unol â'r Cod Ymarfer gan y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau.

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (WFG)

Hanfod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yw gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’r Ddeddf yn sefydlu saith nod llesiant i Gymru sef Cymru fwy cyfartal, llewyrchus, cydnerth, iach a chyfrifol ar lefel fyd-eang, gyda chymunedau cydlynol a diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn  ffynnu. O dan adran (10)(1) o’r Ddeddf, rhaid i Weinidogion Cymru (a) gyhoeddi dangosyddion (“dangosyddion cenedlaethol” sy’n gorfod cael eu cymhwyso at ddibenion mesur cynnydd tuag at gyflawni’r nodau llesiant, a (b) gosod copi o’r dangosyddion cenedlaethol gerbron Senedd Cymru. O dan adran 10(8) o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, pan fo Gweinidogion Cymru yn diwygio'r dangosyddion cenedlaethol, rhaid iddynt, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol (a) gyhoeddi'r dangosyddion fel y'u diwygiwyd a (b) gosod copi ohonynt gerbron y Senedd. Fe gafodd y dangosyddion cenedlaethol  hyn osodwyd gerbron y Senedd yn 2021. Mae'r dangosyddion a osodwyd ar 14 Rhagfyr 2021 yn disodli'r set a osodwyd ar 16 Mawrth 2016.

Mae gwybodaeth am y dangosyddion, ynghyd â naratif ar gyfer pob un o'r nodau llesiant a'r wybodaeth dechnegol gysylltiedig ar gael yn adroddiad Llesiant Cymru.

Gwybodaeth bellach am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Gallai’r ystadegau a ddefnyddir yn y datganiad hwn ategu’r dangosyddion cenedlaethol a chael eu defnyddio gan fyrddau gwasanaethau lleol mewn perthynas â’u hasesiadau llesiant a’u cynlluniau llesiant lleol.

Manylion cyswllt

Ystadegydd: Alex Fitzpatrick
E-bost: ystadegau.economi@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099

Image
Ystadegau Gwladol

SB 41/2022