Neidio i'r prif gynnwy

Sut i fewngofnodi i WEFO Ar-lein

Cyhoeddwyd gyntaf:
22 Medi 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyn ichi fewngofnodi i WEFO Ar-lein, bydd angen i’ch Gweinyddwr eich ychwanegu fel defnyddiwr at gyfrif y sefydliad. Os nad yw’ch sefydliad wedi cofrestru ar WEFO Ar-lein, gweler WEFO Ar-lein: sut i gofrestru i gael arweiniad.

Bydd WEFO Ar-lein yn anfon e-bost at y Gweinyddwr a ychwanegodd y defnyddiwr newydd a fydd yn cynnwys cyfrinair dros dro ar gyfer yr aelod tîm newydd. Bydd angen i’r Gweinyddwr roi’r cyfrinair dros dro i’r defnyddiwr newydd i’w ddefnyddio gyda’i rif adnabod defnyddiwr Porth y Llywodraeth er mwyn mewngofnodi. Bydd y defnyddiwr newydd yn cael rhif adnabod defnyddiwr drwy e-bost.

Sut i fewngofnodi i WEFO Ar-lein:

  • mynd i Mewngofnodi i WEFO Ar-lein:
  • dewis Mewngofnodi
  • o dudalen Porth y Llywodraeth, nodi’ch Rhif Adnabod defnyddiwr Porth y Llywodraeth a’ch Cyfrinair, yna dewis Mewngofnodi
  • os ysdych wedi sefydlu mwy nag un cod mynediad, dewis Neges destun, Galwad llais neu Ap dilysu ar gyfer ffôn clyfar neu lechen, yna dewis Parhau
  • rhowch y Cod cyrchu, yna dewiswch Parhau, yna byddwch wedi mewngefnogi i WEFO Ar-Lein
  • os mae hwn yw’ch tro cyntaf I fewngefnogi i WEFO Al-lein bydd angen I chi sefydlu diogelwch ychwanegol, dewiswch Parhau
  • dewiswch sut rydych chi am gael cod cyrchu, dewiswch Neges destun, Galwad llais neu Ap dilysu ar gyfer ffôn clyfar neu lechen, yna dewis Parhau

Os ydych yn dewis Neges destun:

  • dewis Iawn, yna dewiswch Parhau
  • rhoi Rhif ffôn symudol yn y DU, yna dewis Anfon cod cyrchu
  • rhoi’r Cod cyrchu a ddangosir yn y neges destun, yna dewis Parhau
  • ydych wedi gosod diogelwch ychwanegol, dewiswch Parhau

Os ydych yn dewis Galwad llais:

  • rhoi Rhif ffôn dilys yn y DU, yna dewis Ffoniwch fi
  • rhoi’r Cod cyrchu o’r alwad llais, yna dewis Parhau
  • rydych wedi gosod diogelwch ychwanegol, dewiswch Parhau

Os ydych chi'n dewis Ap dilysu ar gyfer ffôn clyfar neu lechen:

  • mae angen ap dilysu ar eich dyfais, dewiswch Parhau
  • i sefydlu ap dilysu, dewiswch Parhau
  • rhoi’r Cod cyrchu a ddangosir ar yr ap dilysu, yna dewis Parhau
  • rhoi Enw'r ap, yna dewis Parhau
  • rydych wedi gosod diogelwch ychwanegol, dewiswch Parhau
  • i ailosod eich cyfrinair, Nodwch eich cyfrinair dros dro, rhoi Cyfrinair newydd, ei nodi eto er mwyn Cadarnhau’r cyfrinair newydd, yna dewis Ailosod cyfrinair
  • mae’r cyfrinair wedi’i newid, dewiswch Parhau
  • i sefydlu gair adfer, dewiswch Parhau
  • rhoi Gair adfer, yna dewis Parhau
  • mae’r gair adfer wedi’i ychwanegu, dewiswch Parhau
  • I gofrestru ar gyfer WEFO Ar-lein, nodwch y Rhif ffôn, Rhif ffôn symudol (os yw’n berthnasol), Teitl swydd, yna dewis Parhau
  • dewiswch rhwng creu cyfeiriad newydd neu ddewis cyfeiriad sy’n gysylltiedig â’r Parti Busnes

I greu cyfeiriad newydd

  • dewiswch Creu cyfeiriad newydd, yna dewis Parhau
  • nodwch Rhif neu Enw’r Adeilad, Cyfeiriad gan gynnwys Tref neu Ddinas, Sir, Cod post, dewis Gwlad o’r gwymplen, yna dewis Parhau i osod dewisiadau iaith

I ddewis cyfeiriad sy’n gysylltiedig â’r Parti Busnes

  • dewis cyfeiriad sydd eisoes yn bodoli ac sy'n gysylltiedig â'r Parti Busnes, yna dewis Parhau
  • dewch o hyd i’r cyfeiriad cywir, yna Dewis
  • dewiswch iaith ar gyfer Galwadau ffôn, Gohebiaeth ysgrifenedig, E-byst, Cyfarfodydd, yna dewis Parhau (Dim ond os ydych yn cael cyllid gan WEFO y dylech lenwi’r adran hon)
  • gwnewch yn siŵr bod yr wybodaeth gywir yn y crynodeb cofrestru, os yw’r wybodaeth yn anghywir dewiswch Newid ar gyfer Manylion personol, Manylion cyfeiriad, Dewisiadau iaith.
  • newidiwch yr wybodaeth anghywir, yna dewis Parhau, ac ailadrodd hynny hyd nes y bydd pob adran yn gywir.
  • i gyflwyno’r wybodaeth gywir, dewiswch Cyflwyno

I ddechrau lanlwytho tystiolaeth a gwneud hawliadau, bydd angen ichi yn gyntaf gysylltu â’ch Gweinyddwr er mwyn i rolau Parti Busnes ychwanegol gael eu rhoi ichi. I gael canllawiau ar hyn, mewngofnodwch i WEFO Ar-lein, dewis Sut i ddefnyddio WEFO Ar-lein, ac yna Sut i ychwanegu rolau Parti Busnes ar gyfer defnyddwyr. Bydd angen ichi wedyn gysylltu â’r tîm cywir yn Llywodraeth Cymru i gael eich ychwanegu fel cyswllt ar gyfer achos.

Rhaglenni WEFO

Ar gyfer y rhaglenni canlynol, cysylltwch â WEFO gan ddarparu’ch enw, eich cod post ac enw’r sefydliad.

  • Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (ERDF) Dwyrain Cymru
  • Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF) Dwyrain Cymru
  • ERDF Gorllewin Cymru a'r Cymoedd
  • ESF Gorllewin Cymru a'r Cymoedd
  • Rhaglen Iwerddon Cymru
  • Sêr Cymru II Dwyrain Cymru
  • Sêr Cymru II Gorllewin Cymru a'r Cymoedd
  • Smart Cymru Dwyrain Cymru
  • Smart Cymru Gorllewin Cymru a'r Cymoedd
  • Smart Expertise Dwyrain Cymru
  • Smart Expertise Gorllewin Cymru a'r Cymoedd

Rhaglenni Taliadau Gwledig Cymru (RPW)

Ar gyfer y rhaglenni canlynol, cysylltwch â RPW drwy ffonio 0300 062 5004 neu drwy’ch  cyfrif RPW ar-lein: 

  • Cronfa'r Môr a Physgodfeydd Ewrop (EMFF)
  • Rhaglenni Datblygu Gwledig (RDP)

Gallwch nawr fewngofnodi i WEFO Ar-lein, dewiswch Parhau i WEFO Ar-lein

Os byddwch yn cael unrhyw broblemau wrth ddefnyddio WEFO Ar-lein, anfonwch e-bost atom.