Neidio i'r prif gynnwy

Sut i gofrestru cyfrif a’ch Sefydliad ar WEFO Ar-lein.

Cyhoeddwyd gyntaf:
14 Ionawr 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cofrestrwch ar gyfer cyfrif Porth y Llywodraeth drwy gofrestru eich sefydliad ar WEFO Ar-lein.

Ewch i Mewngofnodi i WEFO Ar-Lein:

  • dewiswch Creu manylion mewngofnodi
  • rhowch eich Cyfeiriad e-bost a dewis Yn eich blaen
  • rhowch eich Cod cadarnhau a anfonwyd i'ch cyfeiriad e-bost a dewiswch Cadarnhau
  • cyfeiriad e-bost wedi'i gadarnhau, dewiswch Yn eich blaen
  • rhowch eich enw llawn a dewis Yn eich blaen
  • rhowch Gyfrinair, yna nodwch ef eto yn Cadarnhewch y cyfrinair a dewis Yn eich blaen
  • i sefydlu manylion adfer, dewiswch Yn eich blaen
  • rhowch Air adfer a dewis Yn eich blaen
  • gwnewch nodyn o'ch Dynodydd Defnyddiwr (ID) Porth y Llywodraeth a dewis Yn eich blaen
  • i sefydlu diogelwch ychwanegol dewiswch Yn eich blaen

Dewiswch ba opsiwn yr hoffech ei ddefnyddio i sefydlu diogelwch ychwanegol a sut hoffech gael eich cod cyrchu

  • dewiswch Neges destun, Galwad llais neu Ap Dilysu ar gyfer ffôn clyfar neu lechen a dewis Yn eich blaen

Os ydych chi'n dewis Neges destun

  • dewiswch Iawn a dewis Yn eich blaen
  • rhowch Rif ffôn symudol yn y DU a dewis Anfon cod cyrchu
  • rhowch y Cod cyrchu a ddangosir yn y neges destun a dewiswch Yn eich blaen
  • rydych chi wedi gosod diogelwch ychwanegol, dewiswch Yn eich blaen

Os ydych chi'n dewis Galwad llais:

  • rhowch Rif ffôn dilys yn y DU a dewiswch Anfon cod cyrchu
  • rhowch y Cod cyrchu o'r alwad llais a dewiswch Yn eich blaen
  • rydych chi wedi gosod diogelwch ychwanegol, dewiswch Yn eich blaen

Os ydych chi'n dewis Ap Dilysu ar gyfer ffôn clyfar neu lechen

  • mae angen ap dilysu ar eich dyfais, dewiswch Yn eich blaen
  • i sefydlu ap dilysu, dewiswch Yn eich blaen
  • rhowch y Cod cyrchu a ddangosir ar yr ap dilysu a dewiswch Yn eich blaen
  • rhowch Enw'r ap a dewis Yn eich blaen
  • rydych chi wedi gosod diogelwch ychwanegol, dewiswch Yn eich blaen
  • i gofrestru eich Parti Busnes, rhowch y Rhif Adnabod Parti Busnes, y Cod Post a’r Cod Gweithredu a anfonwyd atoch yn y llythyr cofrestru a dewiswch Cyflwyno
  • dewiswch Dychwelyd i hafan WEFO
  • i gofrestru ar gyfer WEFO Ar-lein, nodwch y Rhif ffôn, Rhif ffôn symudol (os yw’n berthnasol), Teitl swydd, yna dewis Parhau
  • dewiswch rhwng creu cyfeiriad newydd neu ddewis cyfeiriad sy’n gysylltiedig â’r Parti Busnes

I greu cyfeiriad newydd

  • dewiswch Creu cyfeiriad newydd, yna dewis Parhau
  • nodwch Rhif neu Enw’r Adeilad, Cyfeiriad gan gynnwys Tref neu Ddinas, Sir, Cod post, dewis Gwlad o’r gwymplen, yna dewis Parhau i osod dewisiadau iaith

I ddewis cyfeiriad sy’n gysylltiedig â’r Parti Busnes

  • dewis cyfeiriad sydd eisoes yn bodoli ac sy'n gysylltiedig â'r Parti Busnes, yna dewis Parhau
  • dewch o hyd i’r cyfeiriad cywir, yna Dewis
  • dewiswch iaith ar gyfer Galwadau ffôn, Gohebiaeth ysgrifenedig, E-byst, Cyfarfodydd, yna dewis Parhau (Dim ond os ydych yn cael cyllid gan WEFO y dylech lenwi’r adran hon)
  • gwnewch yn siŵr bod yr wybodaeth gywir yn y crynodeb cofrestru, os yw’r wybodaeth yn anghywir dewiswch Newid ar gyfer Manylion personol, Manylion cyfeiriad, Dewisiadau iaith.
  • newidiwch yr wybodaeth anghywir, yna dewis Parhau, ac ailadrodd hynny hyd nes y bydd pob adran yn gywir.
  • i gyflwyno’r wybodaeth gywir, dewiswch Cyflwyno

I ddechrau lanlwytho tystiolaeth a gwneud hawliadau, bydd angen ichi yn gyntaf gysylltu â’ch Gweinyddwr er mwyn i rolau Parti Busnes ychwanegol gael eu rhoi ichi. I gael canllawiau ar hyn, mewngofnodwch i WEFO Ar-lein, dewis Sut i ddefnyddio WEFO Ar-lein, ac yna Sut i ychwanegu rolau Parti Busnes ar gyfer defnyddwyr. Bydd angen ichi wedyn gysylltu â’r tîm cywir yn Llywodraeth Cymru i gael eich ychwanegu fel cyswllt ar gyfer achos.

Rhaglenni WEFO

Ar gyfer y rhaglenni canlynol, cysylltwch â WEFO gan ddarparu’ch enw, eich cod post ac enw’r sefydliad.

  • Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (ERDF) Dwyrain Cymru
  • Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF) Dwyrain Cymru
  • ERDF Gorllewin Cymru a'r Cymoedd
  • ESF Gorllewin Cymru a'r Cymoedd
  • Rhaglen Iwerddon Cymru
  • Sêr Cymru II Dwyrain Cymru
  • Sêr Cymru II Gorllewin Cymru a'r Cymoedd
  • Smart Cymru Dwyrain Cymru
  • Smart Cymru Gorllewin Cymru a'r Cymoedd
  • Smart Expertise Dwyrain Cymru
  • Smart Expertise Gorllewin Cymru a'r Cymoedd

Rhaglenni Taliadau Gwledig Cymru (RPW)

Ar gyfer y rhaglenni canlynol, cysylltwch â RPW drwy ffonio 0300 062 5004 neu drwy’ch cyfrif RPW ar-lein: 

  • Cronfa'r Môr a Physgodfeydd Ewrop (EMFF)
  • Rhaglenni Datblygu Gwledig (RDP)

Gallwch nawr fewngofnodi i WEFO Ar-lein, dewiswch Parhau i WEFO Ar-lein

Os byddwch yn cael unrhyw broblemau wrth ddefnyddio WEFO Ar-lein, anfonwch e-bost atom.