Neidio i'r prif gynnwy

Nodyn diwygio

Diwygiwyd data traffig ffyrdd hanesyddol ar gyfer 2010 i 2018 (Adrannau 1 i 6 o'r datganiad hwn). Mae hyn o ganlyniad i ymarfer meincnodi ar gyfer ffyrdd bach a gynhelir gan Adran Drafnidiaeth y DU bob deng mlynedd. Gweler y canllawiau meincnodi.

I gael rhagor o wybodaeth gweler yr adran Gwybodaeth amd ansawdd.

Pwyntiau allweddol

  • Cynyddodd lefelau traffig ar y ffyrdd yng Nghymru (1.5%) yn 2019.
  • Yn 2019 cyfanswm traffig cerbydau modur yng Nghymru oedd 32.1 biliwn o gilometrau cerbyd (bvk), y ffigur uchaf erioed. Mae hyn yn cyfateb i 10,186 o gilometrau cerbyd (6,329 o filltiroedd) y person.
  • Roedd y rhan fwyaf o'r traffig (61.0%) ar brif ffyrdd (traffyrdd neu ffyrdd 'A'). Roedd y 39.0% o draffig a oedd ar ôl ar ffyrdd bach, h.y. ffyrdd 'B' ac 'C' a ffyrdd annosbarthedig.

Sut rydym yn mesur lefelau traffig

Mae lefelau traffig yn cael eu cyfrifo gan ddefnyddio data cyfrifiadau traffig a gesglir gan yr Adran Drafnidiaeth. Cyfunir data cyfrifiadau traffig llaw â data cyfrifyddion traffig awtomatig i gyfrifo cyfartaledd blynyddol y llif dyddiol. Cyfunir y llifoedd dyddiol hyn â darnau o ffyrdd i gyfrifo nifer y milltiroedd cerbyd a deithir bob blwyddyn yn ôl math o gerbyd, categori ffordd a rhanbarth. Yn y datganiad hwn, fe’u cyflwynir fel biliwn cilometrau cerbyd.

Ceir rhagor o fanylion yn nodyn methodoleg amcangyfrifon traffig ffyrdd yr Adran Drafnidiaeth.

Tueddiadau yn nhraffig ffyrdd

Mae Siart 1 yn dangos y duedd hirdymor ar gyfer lefelau traffig rhwng 1993 a 2019. Yn y cyfnod hwn, mae lefelau’r traffig wedi cynyddu 45.4%, gan gyrraedd ei anterth o 32.1 biliwn cilometr cerbyd yn 2019.  Gwelwyd cynnydd graddol yn lefelau’r traffig hyd at 2007 a chwymp yn ystod y dirywiad economaidd.  Ers 2012, gwelwyd cynnydd eto yn lefelau’r traffig.

Image
Rhwng 1993 a 2019 cododd lefelau traffig 44.8% i 32.1 bvk, yr uchaf wedi'u cofnodi ers 1998.

Cyfanswm traffig yn ôl dosbarthiad ffyrdd a blwyddyn ar StatsCymru

Mae amrywiaeth o ffactorau’n gallu dylanwadu ar lefel y traffig. Er enghraifft: gall cwymp yn y lefelau cyflogaeth arwain at ostwng y traffig cymudo; mae'n bosibl y bydd prisiau tanwydd uwch yn peri i yrwyr newid i ddulliau eraill o drafnidiaeth, neu osgoi teithiau diangen; gall cynnydd neu ostyngiad yn nifer y bobl sy'n mynd ar wyliau ar Ynysoedd Prydain, sy'n gysylltiedig â phunt gref neu wan, gael effeithiau cyfatebol ar draffig.

Traffig yn ôl dosbarthiad ffordd

Roedd prif ffyrdd yn cyfrif am 61% o gyfanswm y traffig yng Nghymru, ac roedd ffyrdd llai yn cyfrif am 39%. Yn fras dyma fu'r achos yn ystod y 26 o flynyddoedd diwethaf, er bod lefel y traffig ar brif ffyrdd wedi cynyddu'n fwy (i fyny 47.0% ers 1993) o gymharu â ffyrdd bach (i fyny 44.2%).

Image
Yn 2019 roedd prif ffyrdd yn cyfrif am 61.0% o gyfanswm lefel y traffig yng Nghymru, ac roedd is-ffyrdd yn cyfrif am 39.0%.

Cyfanswm traffig yn ôl dosbarthiad ffyrdd a blwyddyn ar StatsCymru

Traffyrdd a ffyrdd A yw priffyrdd (ffyrdd sy’n darparu cysylltiadau trafnidiaeth ar raddfa fawr o fewn a rhwng ardaloedd).  Rhennir ffyrdd A yn ‘gefnffyrdd A’ (rhan o rwydwaith ffyrdd strategol sy’n eiddo i’r llywodraeth ac yn cael ei rheoli ar ei rhan) a ‘ffyrdd sirol A’ (pob ffordd ‘A’ arall). Mae Siart 3 isod yn dangos y newidiadau i lefel y traffig ar gyfer y tri chategori o briffyrdd. Mae ffyrdd sirol yn cyfrif am lefelau uwch o draffig na chefnffyrdd A a thraffyrdd, er y bu cynnydd uwch yn lefel y traffig ar gefnffyrdd yn y blynyddoedd diwethaf. Arhosodd swm y traffig yn 2019 fel ag yr oedd yn y blynyddoedd diwethaf ar gefnffyrdd A, ond gwelwyd cynnydd o 1.0% ar ffyrdd sirol A ac o 2.0% ar draffyrdd.

Image
Yn 2018 cynyddodd lefelau traffig 2.4% ar gefnffyrdd categori A, bu gostyngiad o 0.1% ar ffyrdd gwledig categori A, a bu cynnydd o 0.2% ar draffyrdd.

Cyfanswm traffig yn ôl dosbarthiad ffyrdd a blwyddyn ar StatsCymru

Er mwyn rhoi cyd-destun ar gyfer y ffigurau hyn, hyd y draffordd yng Nghymru yw 135 km, hyd y rhwydwaith cefnffyrdd yw 1,576 km, hyd yr holl ffyrdd sirol yw 2,773 km a hyd yr holl ffyrdd categori B, C a ffyrdd bach yw 30,370 km. Mae Siart 4 yn dangos bod lefel y traffig fesul cilometr o ffordd yn llawer uwch ar draffyrdd o gymharu â'r dosbarthiadau ffordd eraill.

Image
Mae Siart 4 yn dangos, gan ystyried hydoedd ffyrdd gwahanol a lefelau traffig, fod lefel y traffig fesul cilometr o ffordd yn llawer uwch ar draffyrdd o gymharu â'r dosbarthiadau ffordd eraill. Sylwer: Mae gwybodaeth am hyd ffyrdd yn seiliedig ar ddata 2018.

Cyfanswm traffig yn ôl dosbarthiad ffyrdd a blwyddyn ar StatsCymru

Lefel y traffig yn ôl math o gerbyd a dosbarthiad ffordd

Dangosir cyfrannau llif y traffig fesul math o gerbyd yn Siart 5a a Siart 5b. Mae ceir a thacsis (24.9 bvk) a faniau (5.4 bvk) yn cyfrif am 78% o gyfanswm lefel y  traffig cerbydau modur yn 2018. Mae’r gyfran hon wedi bod yn sefydlog am o leiaf yr 20 mlynedd diwethaf.

Image
Roedd ceir a thacsis yn cyfrif am y gyfran fwyaf, sef 78.0%, wedi'u dilyn gan faniau a oedd yn cyfrif am 17.0% o lefel y traffig.

Traffig ffyrdd yn ôl y dosbarthiad ffyrdd a math o gerbyd ar StatsCymru

Dangosir y tueddiadau yn lefelau’r traffig ers 1993 yn ôl math o gerbyd yn Siart 5b. Drwyddi draw, mae lefelau’r traffig ar gyfer ceir a thacsis, faniau, beiciau modur a beiciau pedalau wedi cynyddu, ond ar raddfeydd gwahanol. Mae traffig bysiau a HGVs wedi cwympo dros y degawd diwethaf. Mae swm traffig ceir a thacsis a faniau wedi cynyddu ychydig yn 2019 ond ni fu newid yn lefelau HGVs, bysiau a beiciau modur.  Gwelwyd 8.6% o gynnydd mewn beiciau pedalau ers 2018.

Image
Yn 2019, roedd lefelau traffig ar gyfer ceir, tacsis, faniau ysgafn, HGVs a beiciau modur i gyd wedi cynyddu ychydig, ond bu gostyngiad bach ar gyfer bysiau a choetsis.

Traffig ffyrdd yn ôl y dosbarthiad ffyrdd a math o gerbyd ar StatsCymru

Mae Tabl 1 yn dangos lefelau traffig yn ôl dosbarth ffordd a math o gerbyd ar gyfer 2019. Ceir a thacsis yw'r prif gategori ar bob dosbarthiad ffordd, gan gyfrif am 25.1 bvk (77.6.% o draffig cerbydau modur), ac yna faniau ysgafn yn 5.4 bvk (16.9%) a cherbydau nwyddau trwm yn 1.2 bvk (3.6%).

Tabl 1: Traffig ffyrdd yn ôl y dosbarthiad ffyrdd a math o gerbyd, 2019 (a)(b)
Biliwn o gilometrau cerbyd
Dosbarth y ffordd Ceir a thacsis Faniau ysgafn (c) Cerbydau nwyddau Bysiau (c) Beiciau modur Pob cerbyd modur Beiciau pedalau
Traffordd 2.9 0.6 0.3 0.0 0.0 3.8 0.0
Cefnffordd:              
   Trefol 0.6 0.1 0.0 0.0 0.0 0.8 0.0
   Gwledig 5.2 1.1 0.4 0.0 0.0 6.8 0.0
Ffordd Sirol:              
   Trefol 2.2 0.3 0.1 0.0 0.0 2.7 0.0
   Gwledig 4.4 0.8 0.2 0.0 0.0 5.5 0.0
Pob prif ffordd 15.4 3.0 1.0 0.1 0.1 19.6 0.0
Is-ffordd 9.5 2.4 0.2 0.1 0.2 12.4 0.2
Yr holl ffyrdd 24.9 5.4 1.2 0.2 0.3 32.1 0.2

Ffynhonnell: Dadansoddiad Llywodraeth Cymru o ddata cyfartaledd blynyddol y llif dyddiol (ADDF)

(a) Am ragor o wybodaeth am ddosbarthiadau cerbyd gweler y adran Nodiadau.
(b) Mae'r holl ddata wedi'i dalgrynnu i 0.1 bvk.
(c) Mae faniau yn cyfeirio at faniau ysgafn ac mae bysiau'n cynnwys coetsis.

Traffig ffyrdd yn ôl y dosbarthiad ffyrdd a math o gerbyd ar StatsCymru

Traffig fesul rhanbarth economaidd ac awdurdod lleol

Mae De-ddwyrain Cymru yn cyfrif am y gyfran uchaf o'r holl draffig yng Nghymru (47.0%) gyda Gogledd Cymru yn cyfrif am y gyfran isaf (23.0%). Mae'r gwasgariad hwn yn gyson dros amser ac mae'n adlewyrchu’n fras lle mae poblogaeth Cymru yn byw ac yn gweithio.

Image
Mae De-ddwyrain Cymru yn cyfrif am y gyfran uchaf o'r holl draffig yng Nghymru (47.0%).

Traffig ffyrdd yn ôl Awdurdodau Lleol a blwyddyn ar StatsCymru

Mae Siart 7 dangos cyfaint traffig amcangyfrifedig ar gyfer 22 awdurdod lleol Cymru yn 2019. Gwelwyd y lefelau uchaf o draffig cerbydau modur yng Nghaerdydd, Rhodda Cynon Taf, Sir Gaerfyrddin a Chasnewydd. Gyda'i gilydd roedd y lefelau traffig yn yr ardaloedd hyn yn 31.2% o gyfanswm y traffig yng Nghymru. Gwelwyd y lefelau isaf o draffig cerbydau modur yn Nhorfaen, Merthyr Tydfil, Blaenau Gwent ac ar Ynys Môn. Gyda'i gilydd roedd y lefelau traffig yn yr ardaloedd hyn yn 7.2% yn unig o gyfanswm y traffig yng Nghymru. Ar y cyfan mae'r ffigurau hyn yn adlewyrchu lle mae pobl yn byw ac yn gweithio yng Nghymru. O'r 22 awdurdod lleol, Caerdydd a gofrestrodd y 3.4 bvk uchaf. Yn gyffredinol, mae'r ffigurau hyn yn adlewyrchu lle mae pobl yn byw ac yn gweithio yng Nghymru.

Image
O'r holl 22 awdurdod lleol, Caerdydd oedd yr uchaf gyda 3.0 biliwn o gilometrau cerbyd.

Traffig ffyrdd yn ôl awdurdod lleol a dosbarthiad ffyrdd ar StatsCymru

Cofrestriadau newydd a cherbydau trwyddedig

Mae Siart 8a yn dangos bod cofrestriadau cerbydau newydd yng Nghymru ers 2001 ar eu huchaf yn 2004 ac wedyn bu tuedd ar i lawr tan 2011. Wedyn bu tuedd ar i fyny, gan gyrraedd 115,000 yn 2016 cyn gostwng unwaith eto. Yn 2019, gwelwyd 0.5% o gynnydd i 102,027 yn nifer y cerbydau newydd a gofrestrwyd.

Image
Yn 2019 gostyngodd nifer y cofrestriadau cerbydau newydd 0.5% i 102,027 o gofrestriadau.

Cofrestru cerbydau modur newydd yn ôl math o gerbyd a blwyddyn ar StatsCymru

Mae'r rhagolygon tymor hir ar gyfer cerbydau ac eithrio car yn amrywiol. Rhwng 2007 a 2009 gostyngodd nifer y faniau newydd a gafodd eu cofrestru'n sydyn. Er eu bod wedi dechrau codi unwaith eto ers hynny, mae'r ffigurau yn parhau i fod gryn dipyn o dan y lefelau uchaf. Gwelwyd cynnydd yn 2019 yn yr HGVs (17.2%), beciau modur (6.0%) a faniau (3.9%) a gofrestrwyd. Gwelwyd gostyngiad yn nifer y bysiau (-2.5%) a cheir (-0.7%) a gofrestrwyd.

Image
Gwelwyd cynnydd yn 2019 yn yr HGVs, beciau modur a faniau a gofrestrwyd. Gwelwyd gostyngiad yn nifer y bysiau a cheir a gofrestrwyd.

Cofrestru cerbydau modur newydd yn ôl math o gerbyd a blwyddyn ar StatsCymru

Mae Siart 8c yn dangos nifer y ceir a phob cerbyd sydd wedi’u cofrestru yng Nghymru ers 2009. Mae'r duedd ar gyfer ceir a phob cerbyd dros amser yn debyg. Yn 2019 cynyddodd nifer y ceir wedi'u trwyddedu 1.5% i 1.6 miliwn, a chynyddodd nifer yr holl gerbydau 1.9% i 2.0 miliwn.

Image
Yn 2019 cynyddodd nifer y ceir wedi'u trwyddedu 1.5% i 1.6 miliwn, a chynyddodd nifer yr holl gerbydau 1.9% i 12.0 miliwn.

Cofrestru cerbydau modur newydd yn ôl math o gerbyd a blwyddyn ar StatsCymru

Image
Mae'r ffigurau ar gyfer bysiau (gan gynnwys coetsis) wedi gostwng bob blwyddyn ers 2010. I'r gwrthwyneb, mae nifer y ceir wedi codi bob blwyddyn.

Cofrestru cerbydau modur newydd yn ôl math o gerbyd a blwyddyn ar StatsCymru

Nid yw'r newid yn y cerbydau trwyddedig yn gyson ar gyfer mathau gwahanol o gerbydau. Er enghraifft, mae’r fynegai ar gyfer bysiau (gan gynnwys coetsis) wedi gostwng bob blwyddyn ers 2010. Ar y llaw arall, mae nifer y ceir a faniau ysgafn wedi cynyddu bob blwyddyn ac mae beiciau modur ac HGVs wedi cynyddu ers 2012.

Nodiadau

Y Cyd-destun

Mae'r Adran Drafnidiaeth yn cynhyrchu ystadegau traffig sy'n rhoi amcangyfrifon o'r milltiroedd a deithir bob blwyddyn ym Mhrydain Fawr, yn ôl math o gerbyd, categori o ffordd a rhanbarth:

Mae Transport Scotland yn cynhyrchu cyhoeddiad o'r enw ‘Transport and Travel in Scotland’ sy'n cynnwys gwybodaeth am gerbydau, traffig a gyrru.

Ffynhonnell data

Mae Amcangyfrifon traffig ar y ffyrdd ar gyfer Cymru yn cael eu paratoi gan yr Adran Drafnidiaeth ar ran Llywodraeth Cymru. Mae'r amcangyfrifon hyn yn seiliedig ar y cyfrifiadau traffig â llaw sy'n cael eu cynnal wrth ochr y ffordd ledled Cymru yn ystod pob blwyddyn a’r data cyfrifiadau traffig awtomatig, sy’n cael eu cyfuno gyda ffigyrau hydoedd ffyrdd i gynhyrchu amcangyfrifon traffig cyffredinol.

Diffiniadau

Cynnwys

Mae'r amcangyfrifon traffig ar gyfer pob prif ffordd yn seiliedig ar gyfrifiad o bob ffordd o'r fath, ond mae amcangyfrifon ar gyfer ffyrdd bach yn cael eu cynhyrchu drwy gyfrifo cyfraddau tyfu o sampl benodol o fannau ar y rhwydwaith ffyrdd bach. Mae rhagor o fanylion ynglŷn â'r fethodoleg ar gael gan yr Adran Drafnidiaeth.

Lefel y traffig

Mae lefelau traffig yn cael eu hamcangyfrif gan ddefnyddio cyfrif data sy’n cael eu casglu gan yr Adran Drafnidiaeth.  Caiff data o gyfrif traffig â llaw eu cyfuno gyda data o’r cyfrifyddion traffig awtomatig i gyfrifo cyfartaledd blynyddol y llif bob dydd.  Caiff y llif dyddiol hwn ei gyfuno gyda hyd y ffyrdd i gyfrifo nifer y milltiroedd cerbyd sy’n cael eu teithio pob blwyddyn yn ôl math y cerbyd, categori y ffordd a’r rhanbarth.  Yn y datganiad hwn mae’r amcangyfrifon yn cael eu cyflwyno fel fel biliwn o gilomedrau cerbyd.

Math o gerbyd

  • Beiciau pedal: mae hyn yn cynnwys pob beic heb fodur.
  • Beiciau modur: cerbydau modur dwy olwyn, gan gynnwys mopeds, sgwteri modur a chyfuniadau. 
  • Ceir a thacsis: mae hyn yn cynnwys ceir stad, pob fan ysgafn â ffenestri y tu ôl i sedd y gyrrwr, cerbydau teithwyr â naw sedd neu lai, ceir tair olwyn, cerbydau â modur i bobl anabl, Land Rovers, Range Rovers and Jîps. Ystyrir mai un cerbyd yw ceir sy'n tynnu carafanau neu drelars.
  • Bysiau a choetsis: mae hyn yn cynnwys pob cerbyd gwasanaethau cyhoeddus a bysiau gwaith ar wahân i gerbydau â llai na deg sedd.
  • Faniau ysgafn: pob cerbyd nwyddau hyd at bwysau cerbyd gros o 3,500kg. Mae hyn yn cynnwys pob fan sy'n seiliedig ar fodel o gar a'r rhai yn y categori cludo uwch fel faniau transit. Mae hefyd yn cynnwys ambiwlansys, faniau picyp, faniau llaeth neu gerbydau modur a reolir gan gerddwyr. Mae'r rhan fwyaf o'r cerbydau yn y grŵp hwn yn faniau dosbarthu o ryw fath neu ei gilydd.
  • Cerbydau nwyddau (HGVs) Pob cerbyd nwyddau dros bwysau cerbyd gros o 3,500kg. Mae hyn yn cynnwys tractorau (heb drelars), rholwyr ffyrdd, faniau bocs a faniau mawr tebyg. Mae uned tractor modur dwy echel heb drelar yn cael ei chynnwys hefyd.
  • Pob cerbyd modur: pob cerbyd ar wahân i feiciau pedal.

Dosbarthiadau ffyrdd

Mae pob ffordd ag arwyneb yn cael ei chynnwys yn yr amcangyfrifon.

Prif ffyrdd
  • Traffyrdd: ffyrdd deuol sy’n cael eu cynllunio ar gyfer traffig cyflym gan gerbydau modur yn unig, gydag ychydig o leoedd i ymuno â’r draffordd neu ei gadael. Yr unig draffordd yng Nghymru yw yr M4.
  • Prif ffyrdd: rhan o’r rhwydwaith ffyrdd strategol sy’n berchen i’r Llywodraeth ac yn cael ei gweithredu ganddi
  • Ffyrdd sirol: pob ffordd A arall.

Mae amcangyfrifon ar gyfer ffyrdd A ar gael hefyd gyda is-gategorïau ar gyfer ffyrdd trefol a gwledig ar StatsCymru. Ffyrdd trefol yw’r rhai hynny o fewn ffiniau setliadau gyda phoblogaeth o 10,000 neu fwy, a ffyrdd gwledig yw pob prif ffordd arall sydd ddim yn draffordd.

Ffyrdd llai
  • Ffyrdd B: ffyrdd sydd â’r bwriad o gysylltu gwahanol ardaloedd, a bwydo traffig rhwng ffyrdd A a ffyrdd llai ar y rhwydwaith.
  • Ffyrdd dosbarthiadol heb rif: ffyrdd llai â'r nod o gysylltu ffyrdd diddosbarth â ffyrdd A a B, sydd yn aml yn cysylltu ystad tai neu bentref â gweddill y rhwydwaith. Maent yn debyg i 'is-ffyrdd' ar fap Arolwg Ordnans, ac weithiau cyfeirir atynt yn answyddogol fel ffyrdd C.
  • Ffyrdd annosbarthedig: ffyrdd lleol sydd ar gyfer traffig lleol. Mae mwyafrif llethol y ffyrdd yn syrthio o fewn y categori hwn.

Gwybodaeth am ansawdd

Mae'r adran hon yn rhoi crynodeb o wybodaeth am yr allbwn hwn yn erbyn pum agwedd ar ansawdd: Perthnasedd, Cywirdeb, Amseroldeb a Phrydlondeb, Hygyrchedd ac Eglurder, a Chymharedd.

Perthnasedd

Defnyddir yr ystadegau hyn i arwain y llywodraeth, y cyfryngau a'r gymdeithas ac maent yn cael eu defnyddio'n fewnol ar gyfer llunio a monitro polisïau. Nid oes unrhyw ffynonellau data cynhwysfawr eraill i alluogi cynhyrchu ystadegau traffig ar gyfer Cymru a Phrydain Fawr.  Dyma rai o'r ffyrdd mae'r data'n cael eu defnyddio: Mae dangosyddion Cynllun Trafnidiaeth Cenedlaethol Cymru yn cynnwys y data hyn ar lif traffig. Mae'r dangosyddion hyn yn mesur y newid i lifoedd traffig ar gyfer Cymru yn ei chyfanrwydd ac ar gyfer ardaloedd awdurdodau lleol unigol.

  • Bydd y data hyn hefyd yn cael eu defnyddio'n rhan o'r cyfrifiadau i ateb unrhyw geisiadau am wybodaeth am y gyfradd anafusion yn ôl lefel y traffig ar rannau gwahanol o ffyrdd.
  • Mae gwybodaeth am allyriadau CO2 cenedlaethol a lleol sy'n gysylltiedig â thraffig yn defnyddio'n amcangyfrifon hyn o lifoedd traffig.

Cywirdeb

Mae'r amcangyfrifon o draffig ar y ffyrdd yn seiliedig ar ganlyniadau'r cyfrifiadau â llaw 12 awr sy'n cael eu cynnal drwy gydol y flwyddyn, sy'n cael eu grosio i amcangyfrifon o gyfartaledd blynyddol llifoedd bob dydd gan ddefnyddio ffactorau ehangu sy'n seiliedig ar ddata o gyfrifiadau traffig awtomatig ar ffyrdd tebyg. Mae angen y cyfartaleddau hyn er mwyn ystyried traffig ar adegau tawel, ar y penwythnos ac yn yr haf a'r gaeaf (pan fydd cyfrifiadau arbennig yn unig yn cael eu cynnal) wrth asesu'r traffig ar bob safle.  Mae'r Adran Drafnidiaeth bellach yn rhannu'r mathau o ffyrdd yn 22 grŵp (dim ond 7 a fu yn flaenorol). Mae hyn yn gwneud cymharu lleoliadau cyfrifiadau â llaw a lleoliadau cyfrifiadau awtomatig yn haws. Roedd y grwpiau hyn yn seiliedig ar ddadansoddiadau manwl o’r canlyniadau o holl leoliadau’r cyfrifiadau awtomatig unigol, ac maent yn ystyried grwpiau rhanbarthol, categorïau ffyrdd (h.y. dosbarthiad trefol/gwledig a chategori'r ffordd), a lefelau llif y traffig. 

Mae amcangyfrifon ar gyfer ffyrdd bach yn cael eu cyfrifo’n wahanol i brif ffyrdd. Oherwydd nifer fawr y ffyrdd bach, nid yw'n bosibl cyfrif pob un ohonynt – yn hytrach mae sampl gynrychiadol o ffyrdd bach yn cael eu cyfrif bob blwyddyn. Mae hyn yn golygu ei bod yn debygol y bydd yr amcangyfrifon ar gyfer ffyrdd bach yn llai cywir nag ar gyfer prif ffyrdd.

Mae data ar gofrestriadau cerbydau modur yn cael eu casglu gan yr Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA) a'u cyhoeddi gan yr Adran Drafnidiaeth. Ystyrir bod cronfa ddata'r DVLA bron â bod yn gyflawn o ran nifer y cerbydau sydd wedi'u cofrestru.

Amseroldeb a phrydlondeb

Cyhoeddodd yr Adran Drafnidiaeth amcangyfrifon traffig ar y ffyrdd ar gyfer Prydain Fawr yn 2018 ar 14 Mai 2019.  Mae ein datganiad yn defnyddio data yn y cyhoeddiad hwn ac mae fel arfer yn dilyn oddeutu tri mis yn ddiweddarach.

Diwygiad

Mae'r tîm ystadegau traffig ffyrdd (Adran Drafnidiaeth y DU) yn cynnal ymarfer meincnodi traffig ar gyfer ffyrdd bach tua phob 10 mlynedd, gyda'r nod o wella cywirdeb amcangyfrifon traffig ar gyfer ffyrdd bach. Mae canlyniadau ymarfer 2018 i 2019 wedi'u cyhoeddi yn yr adroddiad Road traffic estimates in Great Britain: 2019. Mae hyn yn cynnwys diwygiadau i'r amcangyfrifon traffig ar gyfer ffyrdd bach ar gyfer 2010 i 2018. I gael rhagor o wybodaeth am yr ymarfer meincnodi ffyrdd bach, cyfeiriwch at ddogfennaeth ymarfer 2019.

Tabl 2: Diwygiadau a wnaed i ddata traffig ffyrdd
Biliwn o gilometrau cerbyd
Blwyddyn Ffyrdd bach Holl ffyrdd
  Gwreiddiol Wedi diwygio Gwreiddiol Wedi diwygio
2010 9.69 9.89 26.98 27.17
2011 9.59 9.98 26.93 27.33
2012 9.49 10.09 26.76 27.36
2013 9.55 10.35 27.02 27.8
2014 9.93 10.98 27.89 28.95
2015 10.01 11.3 28.4 29.69
2016 10.22 11.76 29.17 30.71
2017 9.96 11.72 29.08 30.84
2018 9.95 12.2 29.39 31.64

Ffynhonnell: Dadansoddiad Llywodraeth Cymru o ddata cyfartaledd blynyddol y llif dyddiol (ADDF)

Hygyrchedd ac eglurder

Hysbysir am y bwletin ystadegol hwn ymlaen llaw ac mae wedyn yn cael ei gyhoeddi ar wefan Ystadegau ac Ymchwil. Bydd data traffig ffyrdd ar gyfer Cymru cael eu hychwanegu at wefan StatsCymru.

Cymharedd a chydlyniaeth

Mae’r ystadegau sy’n cael eu cyflwyno yma o gasgliad data yr Adran Drafnidiaeth ac mae’n bosibl eu cymharu a’u cyfuno gyda’r amcangyfrifon ar gyfer Prydain Fawr.

Statws Ystadegau Gwladol

Mae Awdurdod Ystadegau'r Deyrnas Unedig wedi dynodi'r ystadegau hyn yn Ystadegau Gwladol, yn unol â Deddf Ystadegau a’r Gwasanaeth Cofrestru 2007, gan nodi eu bod yn cydymffurfio â'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau.

Mae statws Ystadegau Gwladol yn golygu bod ystadegau swyddogol yn bodloni'r safonau uchaf o ddibynadwyedd, ansawdd a gwerth i'r cyhoedd.

Dylai'r holl ystadegau swyddogol gydymffurfio â phob agwedd ar y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau. Dyfernir statws Ystadegau Cenedlaethol iddynt yn dilyn asesiad gan gangen rheoleiddio Awdurdod Ystadegau'r Deyrnas Unedig. Mae'r Awdurdod yn ystyried a yw'r ystadegau yn bodloni'r safonau uchaf a ran cydymffurfio â'r Cod, gan gynnwys y gwerth y maent yn ei ychwanegu at benderfyniadau a thrafodaethau cyhoeddus. Cadarnhawyd bod yr ystadegau hyn wedi cael eu dynodi'n Ystadegau Gwladol ym mis Chwefror 2011 yn dilyn asesiad llawn yn erbyn y Cod Ymarfer

Ers yr adolygiad diwethaf gan y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau rydym wedi parhau i gydymffurfio â'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau, ac rydym wedi gwneud y gwelliannau canlynol: 

  • Wedi mireinio ac ychwanegu at wybodaeth am agweddau ar ansawdd ac wedi disgrifio cysylltiadau â pholisïau.
  • Wedi gwella ein dealltwriaeth o'r amryw ffynonellau data a'r fethodoleg y tu ôl iddynt, gan gynnwys eu cryfderau a'u cyfyngiadau.
  • Wedi ychwanegu ffynonellau data perthnasol newydd i roi trosolwg ehangach o'r pwnc.

Wedi gwella deunyddiau gweledol drwy dacluso a safoni siartiau a thablau.

Cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yw parhau i gydymffurfio â'r safonau disgwyliedig ar gyfer Ystadegau Gwladol. Os ydym yn pryderu nad yw'r ystadegau hyn yn parhau i fodloni'r safonau priodol, byddwn yn trafod unrhyw bryderon â'r Awdurdod yn brydlon. Gellir tynnu statws Ystadegau Gwladol ar unrhyw adeg pan na fydd y safonau uchaf yn cael eu cynnal, a'i roi yn ôl pan fydd safonau'n cael eu cyrraedd unwaith eto.

Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol

Diben Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol 2015 yw gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae'r Ddeddf yn rhoi saith nod llesiant ar waith ar gyfer Cymru. Y rhain yw Cymru fwy cyfartal, Cymru lewyrchus, Cymru gydnerth, Cymru iachach, Cymru sy'n gyfrifol ar lefel fyd-eang, Cymru o gymunedau cydlynus a Chymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu.   O dan adran (10)(1) o'r Ddeddf, rhaid i Weinidogion Cymru (a) gyhoeddi dangosyddion ("dangosyddion cenedlaethol") y mae'n rhaid eu defnyddio at ddibenion mesur cynnydd tuag at gyflawni'r nodau llesiant a (b) gosod copi o'r dangosyddion cenedlaethol gerbron y Cynulliad Cenedlaethol. Cafodd y 46 dangosydd cenedlaethol eu gosod ym mis Mawrth 2016.

Mae gwybodaeth am y dangosyddion, ynghyd â naratif ar gyfer pob un o'r nodau llesiant a gwybodaeth dechnegol gysylltiedig ar gael yn Adroddiad Llesiant Cymru.

Rhagor o wybodaeth am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.

Gallai'r ystadegau yn y cyhoeddiad hwn hefyd ddarparu naratif ategol ar gyfer y dangosyddion cenedlaethol i'w defnyddio gan fyrddau gwasanaethau cyhoeddus ar gyfer eu hasesiadau llesiant lleol a'u cynlluniau llesiant lleol.

Diweddariad nesaf

Awst 2020 (amcangyfrif)

Rydym am gael eich adborth

Rydym yn croesawu unrhyw adborth ar unrhyw agwedd ar yr ystadegau hyn sydd i’w anfon mewn ebost at ystadegau.trafnidiaeth@llyw.cymru

Manylion cyswllt

Ystadegydd: Nicole Scully
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Ffôn: 0300 025 5050
E-bost: ystadegau.trafnidiaeth@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099

Ystadegau Gwladol

SB 34/2020