Neidio i'r prif gynnwy

Beth yw tlodi incwm cymharol?

Mae bod mewn tlodi incwm cymharol yn golygu byw ar aelwyd lle mae cyfanswm yr incwm o bob ffynhonnell yn llai na 60% o incwm aelwyd gyfartalog y DU (fel y rhoddir gan y canolrif). Mae'r holl ffigurau yn yr adroddiad hwn yn ymwneud â thlodi incwm cymharol yng Nghymru ar ôl talu costau tai megis taliadau llog ar forgeisi /rhent, ardrethi dŵr ac yswiriant adeiladau.

Daw'r data sydd gennym ar gyfer tlodi incwm cymharol o'r adroddiad Aelwydydd islaw'r incwm cyfartalog (HBAI) a gyhoeddwyd gan yr Adran Gwaith a Phensiynau.  

Mae'r ffigurau hyn yn seiliedig ar ganlyniadau'r Arolwg Adnoddau Teulu (FRS) sydd â sampl cymharol fach i Gymru ar hyn o bryd. Dyna pam y cyflwynir data fel cyfartaleddau treigl 3 i 5 mlynedd, er mwyn lleihau (ond nid dileu) annibynadwy.

Ceir rhagor o wybodaeth am y diffiniad o dlodi incwm cymharol ar dudalen y gyfres tlodi incwm cymharol.

Prif ganfyddiadau

  • Rhwng 2017-18 a 2019-20, roedd 23% o'r holl bobl yng Nghymru mewn tlodi incwm cymharol.
  • Mae canran y bobl mewn tlodi incwm cymharol wedi aros yn gymharol sefydlog yng Nghymru am dros 15 mlynedd.
  • Yn Lloegr roedd canran y bobl sy'n byw mewn tlodi incwm cymharol yn 22% rhwng 2017 a 2020; yn yr Alban a Gogledd Iwerddon roedd y ffigurau yn 19% a 18% yn y drefn honno. (siart 1)
Image
Mae siart 1 yn dangos canran y bobl yng Nghymru, yr Alban, Lloegr a Gogledd Iwerddon sydd mewn tlodi incwm cymharol ers y cyfnod tair blynedd o 1997 i 2000.

Plant mewn tlodi incwm cymharol

  • Yng Nghymru, roedd 31% o blant yn byw mewn tlodi incwm cymharol yn 2017 i 2020. Mae'r ffigur hwn wedi cynyddu o’r 28% a adroddwyd y llynedd, sy’n gynnydd o 2 bwynt canran yn seiliedig ar y data heb ei dalgrynnu. Fodd bynnag, byddwch yn ofalus wrth gymharu newid dros y tymor byr oherwydd gall tueddiadau fod yn gyfnewidiol oherwydd meintiau sampl bach.
  • Yn Lloegr roedd canran y plant sy'n byw mewn tlodi incwm cymharol yn 30% rhwng 2017 a 2020. Er bod hyn ychydig yn is na'r ffigur ar gyfer Cymru, mae'r gwahaniaeth yn llai na 0.2 pwynt canran ar ddata heb ei dalgrynnu. Yn yr Alban a Gogledd Iwerddon y ffigur oedd 24%. (siart 2)
Image
Mae siart 2 yn dangos canran y plant yng Nghymru, yr Alban, Lloegr a Gogledd Iwerddon sydd mewn tlodi incwm cymharol ers y cyfnod tair blynedd o 1997 i 2000.
  • Plant yw’r grŵp oedran mwyaf tebygol o fod mewn tlodi incwm cymharol yn gyson; ac mae hynny’n wir ar gyfer pob un o bedair gwlad y DU. Rheswm posibl am hyn yw bod oedolion â phlant yn fwy tebygol o fod yn ddi-waith neu yn gweithio llai o oriau oherwydd cyfrifoldebau gofal plant. (siart 3)
Image
Mae siart 3 yn dangos canran yr holl unigolion – plant, oedolion oedran gweithio a phensiynwyr – yng Nghymru sy’n byw mewn tlodi incwm cymharol ers y cyfnod 1997 i 2000.

Oedolion oedran gweithio mewn tlodi incwm cymharol

  • Mae tlodi incwm cymharol ar gyfer oedolion oedran gweithio yn parhau i fod yn sefydlog yng Nghymru, ond yn dal i fod yn uwch na’r hyn a welwyd yng ngwledydd eraill y DU.
  • Rhwng 2017 a 2020, roedd 22% o oedolion oedran gweithio yng Nghymru yn byw mewn tlodi incwm cymharol.

Pensiynwyr mewn tlodi incwm cymharol

  • Gostyngodd canran y pensiynwyr mewn tlodi incwm cymharol gan 1 pwynt canran am yr ail gyfnod yn olynol, yn dilyn cynnydd graddol ers tua 2013.
  • Roedd 18% o bensiynwyr yng Nghymru yn byw mewn tlodi incwm cymharol rhwng 2017 a 2020.

Deiliadaeth tai

Mae siart 4 yn dangos bod pobl a oedd yn byw mewn tai rhent cymdeithasol yn fwy tebygol o fod mewn tlodi incwm cymharol (48%) na’r rheini a oedd yn byw mewn tai rhent preifat (41%) neu mewn tai i berchen-feddianwyr (13%). Fodd bynnag, wrth ystyried pawb yng Nghymru a oedd yn byw mewn tlodi (710,000), roedd y rhan fwyaf o bobl yn byw mewn tai i berchen-feddianwyr (39%), a’r rheini a oedd yn byw mewn tai rhent cymdeithasol (32%) sy’n eu dilyn.

Image
Siart far yw siart 4 sy’n dangos y tebygolrwydd o fyw mewn tlodi incwm cymharol ar gyfer pobl mewn tai rhent cymdeithasol, mewn tai rhent preifat ac mewn tai i berchen-feddianwyr yn 2017 i 2020.

Statws economaidd a’r math o gyflogaeth

Roedd 73% o blant a oedd yn byw ar aelwyd ddi-waith mewn tlodi incwm cymharol o’i gymharu â 25% yn byw ar aelwyd a oedd yn gweithio yn 2017 i 2020. Ar gyfer aelwydydd a oedd yn gweithio, roedd gwahaniaeth amlwg hefyd rhwng y tebygolrwydd o dlodi i blant ar aelwydydd lle’r oedd yr holl oedolion yn gweithio (17%) o’u cymharu ag aelwydydd lle’r oedd rhai oedolion (ond nid pob un) yn gweithio (45%).

Yn ystod y cyfnod diweddaraf, roedd 71% o blant a oedd yn byw mewn tlodi incwm cymharol yn byw ar aelwydydd a oedd yn gweithio (tua 140,000 o blant). Mae hyn wedi cynyddu yn ystod y pum cyfnod diwethaf o 60% yn y cyfnod 2012 i 2015. Hefyd, roedd tua'r un gyfran o blant a oedd yn byw mewn tlodi incwm cymharol yn byw ar aelwydydd lle'r oedd pob oedolyn yn gweithio o'i chymharu â lle'r oedd un oedolyn ond nid pob oedolyn yn gweithio (siart 5).

Image
Siart far yw siart 5 sy’n dangos bod cyfran uwch gynyddol o blant mewn tlodi ers 2007 yn byw ar aelwydydd a oedd yn gweithio, o’u cymharu ag aelwydydd heb waith.

Fel y dangosir yn siart 6, roedd tua hanner nifer y bobl oedran gweithio a oedd yn byw ar aelwydydd heb waith yn byw mewn tlodi yn 2017 i 2020.  Mae byw gyda phobl sy'n gweithio yn lleihau'r tebygolrwydd o dlodi. Mae'r risg honno’n cael ei lleihau'n arbennig os bydd pob oedolyn yn gweithio'n amser llawn. Fodd bynnag, amcangyfrifwyd bod 40,000 o oedolion oedran gweithio o hyd mewn tlodi incwm cymharol er eu bod yn byw ar aelwydydd lle'r oedd pawb yn gweithio'n amser llawn.

Image
Mae siart 6 yn dangos bod pobl oedran gweithio a oedd yn byw ar aelwydydd heb waith yn fwy tebygol o fyw mewn tlodi na’r rheini a oedd yn byw ar aelwydydd ag aelodau a oedd yn gweithio mewn gwahanol fathau o gyflogaeth.

Nodweddion teuluol

Yn ystod y cyfnod 2017 i 2020, mae siart 7 yn dangos:

  • mai aelwydydd unig rieni oedd y math o deulu a oedd fwyaf tebygol o fod mewn tlodi incwm cymharol (46%)
  • bod 30% o bobl ar aelwydydd menywod sengl heb blant yn byw mewn tlodi incwm cymharol
Image
Siart far yw siart 7 sy’n dangos bod pobl sy’n byw mewn teuluoedd unig rieni mewn mwy o risg o dlodi na phobl sy’n byw mewn mathau eraill o deuluoedd.

Roedd tua 60,000 o blant (46%) a oedd yn byw mewn teuluoedd unig rieni yn byw mewn tlodi incwm cymharol yn ystod y cyfnod diweddaraf, sef 2017 i 2020.

Pa fath o deuluoedd sy’n byw mewn tlodi?

Yn y gorffennol, roedd y rhan fwyaf o bobl a oedd yn byw mewn tlodi incwm cymharol yn byw ar aelwydydd â phlant. Fodd bynnag, mae'r patrwm bellach yn llai clir gyda chyfran debyg o'r rhai sy'n byw mewn tlodi incwm cymharol yn byw ar aelwydydd â phlant a heb blant (gweler siart 8).

Image
Siart gylch yw siart 8 sy’n dangos bod 49% o bobl mewn tlodi yn byw mewn teuluoedd â phlant (o’i chymharu â 34% o bobl mewn teuluoedd heb blant, a 17% mewn teuluoedd sy’n bensiynwyr).

Roedd plant a oedd yn byw ar aelwydydd lle’r oedd y plentyn ieuengaf rhwng 0 a 4 oed yn cyfrif am hanner yr holl blant a oedd mewn tlodi incwm cymharol yn 2017 i 2020.

Fel y dangosir yn Siart 9, roedd plant a oedd yn byw ar aelwydydd lle'r oedd tri neu fwy o blant bron ddwywaith yn fwy tebygol o fyw mewn tlodi incwm cymharol rhwng 2017 a 2020, o gymharu â'r rhai a oedd yn byw ar aelwydydd â dau o blant.

Image
Mae Siart 9 yn dangos canran y plant yng Nghymru mewn tlodi incwm cymharol (ar ôl talu costau tai), yn ôl nifer y plant ar yr aelwyd, ers y cyfnod 3 blynedd o 2007 i 2010.

Ethnigrwydd

Mae cefndir ethnig heb fod yn wyn yn gysylltiedig â thebygolrwydd uwch o dlodi incwm cymharol.

Ar gyfer y cyfnod 2015-16 to 2019-20 (cyfartaledd 5 blwyddyn ariannol) roedd tebygolrwydd o 29% bod pobl gyda phennaeth aelwyd yn dod o grŵp ethnig heb fod yn wyn yn byw mewn tlodi incwm cymharol. Mae hyn yn cymharu â thebygolrwydd o 24% i'r bobl gyda phennaeth aelwyd o grŵp ethnig gwyn. Fodd bynnag, oherwydd bod gan y mwyafrif helaeth o aelwydydd yng Nghymru bennaeth aelwyd sydd o grŵp ethnig gwyn, roedd y rhan fwyaf o bobl (97%) a oedd yn byw mewn tlodi incwm cymharol yn dod o aelwydydd o’r fath.

Nid oeddem yn gallu cynhyrchu ffigurau cadarn ar gyfer plant neu bensiynwyr yn ôl grŵp ethnig pennaeth aelwyd oherwydd meintiau isel y samplau. Gweler tablau HBAI a gynhyrchwyd gan yr Adran Gwaith a Phensiynau ar gyfer data’r DU yn ôl grŵp ethnig (gan gynnwys dadansoddiadau pellach yn ôl ethnigrwydd).

Anabledd

Yn ôl data'r arolwg, caiff pobl anabl eu dehongli fel pobl sy’n adrodd bod ganddynt unrhyw gyflwr corfforol neu feddyliol neu salwch y disgwylir iddo bara am 12 mis neu fwy, ac sy’n cyfyngu ar eu gallu i gyflawni gweithgareddau bob dydd, boed ychydig neu lawer iawn. Mae hynny’n unol â diffiniad y Ddeddf Cydraddoldeb.

Mae byw gyda pherson ag anabledd yn gwneud tlodi incwm cymharol yn fwy tebygol ar gyfer plant a phobl oedran gweithio. Yn y cyfnod diweddaraf (2017-18 i 2019-20):

  • roedd 38% o blant oedd yn byw mewn teulu lle'r oedd rhywun ag anabledd mewn tlodi incwm cymharol o gymharu â 26% o'r rhai mewn teuluoedd lle nad oedd neb yn anabl
  • ar gyfer oedolion o oedran gweithio, roedd 31% a oedd yn byw mewn teulu lle'r oedd rhywun ag anabledd mewn tlodi incwm cymharol o gymharu â 18% o'r rheini mewn teuluoedd lle nad oedd neb yn anabl
Image
Mae siart 10 yn dangos canran y plant a phobl o oedran gweithio yng Nghymru mewn tlodi incwm cymharol (ar ôl talu costau tai), yn ôl anabledd yn y teulu, cyfartaleddau tair blwyddyn ariannol  ers y cyfnod 3 blynedd o 2013 to 2016.

Gwybodaeth am yr ansawdd a’r fethodoleg

Ceir crynodeb o wybodaeth ynghylch beth i gadw mewn cof wrth ddehongli’r ystadegau hyn ar dudalen y gyfres ar dlodi incwm cymharol.

Mae'n bwysig cofio bod y ffigurau hyn yn seiliedig ar ganlyniadau'r Arolwg Adnoddau Teulu (FRS) sy'n seiliedig ar sampl fach i Gymru (tua 900 o aelwydydd bob blwyddyn). Rydym yn cynghori gofal wrth edrych ar newidiadau o flwyddyn i flwyddyn gan nad yw'r rhain yn debygol o fod yn ystadegol arwyddocaol.

I gael gwybodaeth fanylach am y fethodoleg ewch i dudalen Tlodi incwm cymharol: methodoleg.

Statws Ystadegau Gwladol

Mae Awdurdod Ystadegau’r Deyrnas Unedig wedi dynodi'r ystadegau hyn yn Ystadegau Gwladol, yn unol â Deddf Ystadegau a'r Gwasanaeth Cofrestru 2007, sydd hefyd yn golygu eu bod yn cydymffurfio â'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau.

Mae statws Ystadegau Gwladol yn golygu bod yr ystadegau swyddogol yn bodloni'r safonau uchaf o ran hygrededd, ansawdd a gwerth cyhoeddus.

Dylai'r holl ystadegau swyddogol gydymffurfio â phob agwedd ar y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau. Dyfernir statws Ystadegau Gwladol iddynt yn dilyn asesiad gan gangen reoleiddio Awdurdod Ystadegau'r DU. Mae'r Awdurdod yn ystyried a yw'r ystadegau'n bodloni'r safonau uchaf o ran cydymffurfio â'r Cod, gan gynnwys y gwerth y maent yn ei ychwanegu at benderfyniadau a thrafodaethau cyhoeddus.

Daw'r data sydd gennym ar gyfer tlodi incwm cymharol o adroddiad Aelwydydd islaw'r Incwm Cyfartalog (HBAI) a gyhoeddwyd gan yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP). Ers yr adolygiad diweddaraf gan y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau, mae'r Adran Gwaith a Phensiynau wedi parhau i gydymffurfio â'r Cod Ymarfer ystadegau, ac wedi gwneud nifer o welliannau. I gael rhagor o wybodaeth, cyfeiriwch at adroddiad diweddaraf HBAI ar wefan gov.uk.

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Deddf LlCD)

Nod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yw gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’r Ddeddf yn rhoi saith nod llesiant ar waith ar gyfer Cymru. Nodau yw’r rhain i sicrhau Cymru fwy cyfartal, llewyrchus, cydnerth, iachach, a Chymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang, sydd â chymunedau cydlynol, a diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu. O dan adran (10)(1) o’r Ddeddf, rhaid i Weinidogion Cymru (a) gyhoeddi dangosyddion (“dangosyddion cenedlaethol”) y mae’n rhaid iddynt gael eu defnyddio at ddibenion mesur y cynnydd tuag at gyflawni’r nodau Llesiant, a (b) osod copi o’r dangosyddion cenedlaethol gerbron Senedd Cymru. Cafodd y 46 o ddangosyddion cenedlaethol eu gosod ym mis Mawrth 2016 ac mae’r datganiad hwn yn cynnwys un o’r dangosyddion cenedlaethol:

(18) Canran y bobl sy'n byw ar aelwydydd mewn tlodi incwm o'i chymharu â chanolrif y DU: mesur ar gyfer plant, pobl oedran gweithio a'r rheini oedran pensiwn.

Ceir gwybodaeth am y dangosyddion, ynghyd â naratifau ar gyfer pob un o'r nodau llesiant a'r wybodaeth dechnegol gysylltiedig yn adroddiad Llesiant Cymru.

Ceir gwybodaeth bellach i helpu i weithredu Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Gallai'r ystadegau a gynhwysir yn y datganiad hwn hefyd ddarparu naratif ategol i'r dangosyddion cenedlaethol a ellir eu defnyddio gan fyrddau gwasanaethau cyhoeddus mewn perthynas â'u hasesiadau o lesiant lleol a'u cynlluniau ar gyfer llesiant lleol.

Manylion cyswllt

Ystadegydd: Samantha Collins
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Ffôn: 0300 025 5050
Ebost: ystadegau.cynhwysiant@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099

Image
Ystadegau Gwladol

SFR 92/2021