Yn y canllaw hwn
3. Awdurdodau parciau cenedlaethol
Gall awdurdod parc dalu uwch gyflog i’w gadeirydd, dirprwy gadeirydd a hyd at ddau gadeirydd pwyllgor hefyd.
Y cyflog sylfaenol ar gyfer aelod o barc cenedlaethol yw £4,964.
Cyflog cadeirydd yw £13,764.
Mae cyflog dirprwy gadeirydd neu gadeirydd pwyllgor naill ai’n £8,704.
Ni all aelodau etholedig sy’n cael uwch gyflog ym mand 1 neu 2 gan brif gyngor gael cyflog gan awdurdod parc cenedlaethol.
Mae gan aelodau Awdurdodau Parciau Cenedlaethol hawl hefyd i hawlio am unrhyw gostau teithio neu gynhaliaeth y maent yn eu hysgwyddo pan ydynt ar fusnes swyddogol, a gallant hawlio am ad-daliad costau gofal plant neu ofal (ACGP) oedolyn dibynnol.
Cydymffurfio
Mae’n rhaid i awdurdodau parciau cenedlaethol gynnal Rhestr Cydnabyddiaeth Ariannol i Aelodau a gaiff ei diweddaru’n flynyddol ac sy’n nodi’r taliadau y byddant yn eu gwneud i aelodau ym mlwyddyn nesaf yr awdurdod. Mae’n rhaid cyhoeddi’r wybodaeth erbyn 31 Gorffennaf bob blwyddyn, ac mae’n rhaid iddi fod ar gael i Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol a’r cyhoedd.
Mae’r Panel Annibynnol ar Gydnabyddiaeth Ariannol wedi cyhoeddi profforma y gall awdurdodau parciau cenedlaethol ei ddefnyddio i lunio Rhestr Cydnabyddiaeth Ariannol i Aelodau.