Statws termau
Mae gan bob term yn TermCymru un o dri statws, sef Statws A, Statws B neu Statws C.
Statws A (gwyrdd)
Safonwyd yn llawn.
Dyma’r statws a roddir i dermau a safonwyd yn llawn gan y Gwasanaeth Cyfieithu. Os ydych yn ymgymryd â gwaith ar ran Llywodraeth Cymru, gallwch fod yn gwbl hyderus bod y termau hyn yn rhai safonol.
Hefyd dyma’r statws a roddir i enwau a theitlau nad oes modd eu newid, megis enwau cyrff allanol a theitlau dogfennau cyhoeddedig. Nid yw cofnodion enwau a theitlau o’r fath, o reidrwydd, wedi bod drwy’r broses safoni.
Statws B (melyn)
Safonwyd yn rhannol.
Dyma’r statws a roddir i dermau a safonwyd yn rhannol gan y Gwasanaeth Cyfieithu. Mae’r categori hwn hefyd yn cynnwys termau o gasgliadau allanol nad ydynt wedi bod drwy broses safoni lawn y Gwasanaeth Cyfieithu. Os ydych yn ymgymryd â gwaith ar ran Llywodraeth Cymru, gallwch fod yn lled hyderus bod y termau hyn yn rhai safonol.
Statws C (coch)
Gwiriwyd yn ieithyddol.
Dyma’r statws a roddir i dermau a wiriwyd yn ieithyddol, ond nad ydynt eto wedi bod drwy unrhyw gam safoni yn y Gwasanaeth Cyfieithu. Cynigion gan gyfieithwyr ac eraill yw’r rhain yn bennaf. Os ydych yn ymgymryd â gwaith ar ran Llywodraeth Cymru, gallwch fod yn hyderus bod y termau hyn yn ieithyddol gywir ond dylid eu defnyddio â gofal gan nad ydynt eto wedi cael eu safoni.