Neidio i'r prif gynnwy

Roedd Arolwg Cenedlaethol 2019-20 yn cynnwys cwestiynau ar ddefnyddio'r rhyngrwyd, sgiliau rhyngrwyd, a pha wefannau sector cyhoeddus roedd pobl wedi ymweld â nhw yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Gofynnwyd y cwestiynau hyn hefyd yn 2020, yn ystod pandemig y coronafeirws. Adroddir ar rai canfyddiadau allweddol ar y pynciau hyn yma.  Mae canlyniadau pellach ar gael yn ein dangosydd canlyniadau.

Prif ganfyddiadau

Yn 2019-20, defnyddiodd 90% o bobl y rhyngrwyd, canran debyg i 2018-19. Roedd 93% o bobl yn defnyddio'r rhyngrwyd rhwng mis Mai a mis Medi 2020.

Defnyddiodd 76% o bobl y rhyngrwyd sawl gwaith neu fwy y dydd yn 2019-20 o gymharu â 88% rhwng mis Mai a mis Medi 2020.

Dangosodd 73% o ddefnyddwyr y rhyngrwyd 5 sgil digidol yn ystod y tri mis blaenorol. Mae cysylltiad annibynnol rhwng y ffactorau canlynol a defnyddio'r nifer hwn o sgiliau:

  • bod rhwng 16 a 49 oed
  • wedi cael addysg hyd at lefel gradd neu uwch
  • bod yn fodlon iawn ar fywyd
  • defnyddio’r rhyngrwyd o leiaf sawl gwaith y dydd

Roedd 77% o ddefnyddwyr y rhyngrwyd wedi ymweld ag o leiaf un wefan gwasanaeth cyhoeddus yn ystod y 12 mis diwethaf. Mae cysylltiad annibynnol rhwng y ffactorau canlynol a bod wedi ymweld ag o leiaf un wefan gwasanaeth cyhoeddus:

  • bod rhwng 16 a 49 oed
  • wedi cael addysg hyd at lefel gradd neu uwch
  • defnyddio’r rhyngrwyd o leiaf sawl gwaith y dydd
  • bod yn fenyw
  • bod yn gyflogedig
  • bod yn wyn (Cymraeg, Saesneg, Prydeinig ac ati.)

Sgiliau rhyngrwyd

Gofynnwyd i bobl a oeddent wedi gwneud unrhyw un o naw gweithgaredd ar y rhyngrwyd yn ystod y tri mis diwethaf. Mae'r fframwaith cynhwysiant digidol yn cysylltu pob gweithgaredd ag un o bum sgil digidol. Dangosir canlyniadau'r arolwg ar gyfer pob un o'r pum sgil yn Nhabl 1.

Tabl 1: Categorïau sgiliau digidol a gweithgareddau cysylltiedig
Gweithgareddau sy'n gysylltiedig â'r categori hwn Categori sgil digidol % y defnyddwyr rhyngrwyd a wnaeth o leiaf un o'r gweithgareddau yn ystod y 3 mis diwethaf
Defnyddio chwilotwr Trin gwybodaeth a chynnwys 98
Anfon neges drwy e-bost neu negeseua gwib
Wedi postio ar y cyfryngau cymdeithasol
Cyfathrebu 94
Prynu nwyddau neu wasanaethau ar-lein
Sefydlu cyfrif ar-lein
Gwneud trafodion 87
Dod o hyd i wybodaeth ar-lein
Defnyddio gwasanaethau cymorth ar-lein
Datrys problemau 91
Rheoli gosodiadau preifatrwydd
Diweddaru meddalwedd i'w gadw'n ddiogel
Bod yn ddiogel ac yn gyfreithlon ar-lein 80

Ffynhonnell: Fframwaith cynhwysiant digidol

Yn 2019-20, defnyddiodd 90% o bobl y rhyngrwyd (canran debyg i 2018-19). O'r rhain: Defnyddiodd 73% bob un o'r pum sgil digidol yn ystod y 3 mis blaenorol, defnyddiodd 15% bedwar sgil digidol, ac roedd 12% wedi defnyddio tri neu lai o sgiliau digidol.

Cynhaliwyd dadansoddiad manylach i ymchwilio i'r cysylltiadau rhwng nifer y sgiliau digidol a ddangoswyd gan ddefnyddwyr rhyngrwyd ac amrywiaeth o ffactorau demograffig, cymdeithasol ac iechyd. Esbonnir y dull a ddefnyddir yn ein hadroddiad technegol Atchweliad. Wrth reoli dylanwad ffactorau eraill, roedd cysylltiad annibynnol rhwng y canlynol a bod wedi defnyddio pob un o'r pum sgiliau:

Addysg

Dangosodd 81% o'r rhai â chymwysterau ar lefel gradd neu uwch bob un o'r pum sgil digidol o gymharu â 49% o'r rhai heb unrhyw gymwysterau.

Boddhad â bywyd

Roedd 72% o'r rhai a ddywedodd eu bod yn fodlon iawn ar fywyd wedi defnyddio pob un o'r pum sgil digidol o gymharu â 56% o'r rhai â lefel isel o foddhad â bywyd.

Amlder mynediad i'r rhyngrwyd

Dangosodd 82% o'r rhai a ddefnyddiodd y rhyngrwyd sawl gwaith y dydd bob un o'r pum sgil digidol o gymharu â 53% o'r rhai a ddefnyddiodd y rhyngrwyd bob dydd a 19% o'r rhai a oedd yn ei ddefnyddio'n wythnosol. Mae perthynas ddwy ffordd rhwng y ffactorau hyn. Mae'r rhai sy'n defnyddio'r rhyngrwyd yn amlach yn fwy tebygol o fod wedi cyflawni mwy o weithgareddau yn ystod y 3 mis diwethaf ac mae'r rhai sydd â mwy o sgiliau yn fwy tebygol o ddefnyddio'r rhyngrwyd fel rhan o'u bywyd bob dydd.

Oedran

Gostyngodd y tebygolrwydd o ddangos pob un o'r pum sgil digidol gydag oedran.

Image
Mae Siart 1 yn dangos canran y bobl a ddangosodd bob un o'r pum sgil yn ôl oedran. Mae'r ganran yn gostwng gydag oedran. Roedd 84% o'r rhai 16-45 oed wedi gwneud hyn, o gymharu â 36% o'r rhai 75 oed a hŷn.

 

Gwelwyd cysylltiad hefyd rhwng nifer y sgiliau digidol a ddangoswyd a rhyw. Yn gyffredinol, roedd 74% o ddynion wedi defnyddio pob un o'r pum sgil digidol o gymharu â 71% o fenywod. Nid oes gwahaniaeth gwirioneddol rhwng dynion a menywod i'r rhai 16 i 64 oed, ond mae gwahaniaeth i grwpiau oedran hŷn. Ar gyfer y rhai rhwng 64 a 75 oed; roedd gan 57% o ddynion bob un o'r pum sgil o gymharu â 49% o fenywod. Yn yr un modd, dangosodd 42% o ddynion 75 oed a hŷn bob un o'r pum sgil o gymharu â 30% o fenywod.

Gwefannau yr ymwelwyd â nhw

Yn 2019-20 gofynnodd yr arolwg a oedd ymatebwyr wedi ymweld ag unrhyw un o bum math o wefan sector cyhoeddus. Dywedodd 52% o'r rhai a ddefnyddiodd y rhyngrwyd yn bersonol eu bod wedi ymweld â gwefan awdurdod lleol, roedd 37% wedi ymweld â Galw Iechyd Cymru, roedd 32% wedi ymweld â gwefan ysgol a choleg, roedd 29% wedi ymweld â gwefan meddygfa, ac roedd 27% wedi ymweld â gwefan Llywodraeth Cymru. Roedd y canlyniadau hyn yn debyg i'r rhai yn 2017-18.

Roedd 77% o'r rhai a ddefnyddiodd y rhyngrwyd yn bersonol wedi ymweld ag o leiaf un wefan sector cyhoeddus, ac nid oedd 23% wedi ymweld ag unrhyw un.

Pan edrychwyd ar gysylltiadau rhwng ffactorau gwahanol ac a oedd defnyddwyr y rhyngrwyd wedi ymweld ag unrhyw wefannau gwasanaeth cyhoeddus, gwelsom mai'r ffactorau cysylltiedig oedd.

Rhyw

Er bod mwy o ddynion na menywod yn dangos y mwyaf o sgiliau digidol yn yr achos hwn, roedd menywod yn fwy tebygol na dynion o ymweld â gwefannau gwasanaeth cyhoeddus (80% o gymharu â 75%). Canlyniad tebyg i 2017-18. Mae Siart 2 yn dangos y mathau o safleoedd yr ymwelwyd â nhw a'r cyfrannau o ddynion a menywod sy'n ymweld â nhw.

Image
Mae Siart 2 yn dangos gwefannau'r gwasanaeth cyhoeddus yr ymwelwyd â nhw yn ôl rhyw. Y wefan yr ymwelwyd â hi fwyaf ar gyfer menywod (54%) a dynion (51%) oedd awdurdod lleol, a'r lleiaf yw gwefan Llywodraeth Cymru sef 27% ar gyfer dynion a menywod.

Statws economaidd

Roedd y rhai a oedd yn economaidd anweithgar yn llai tebygol o ymweld â gwefan (71%) na'r rhai mewn cyflogaeth (82%).

Ethnigrwydd

Roedd 78% o'r bobl a nododd eu bod yn wyn (Cymreig, Saesnig, Prydeinig ac ati) wedi ymweld â gwefan gwasanaeth cyhoeddus, 74% o'r rhai â chefndir nad yw'n wyn, a 74% o bobl ag ethnigrwydd gwyn ond nad yw'n Brydeinig.

Oedran

Roedd pobl o dan 65 oed yn fwy tebygol o ymweld â gwefannau gwasanaethau cyhoeddus. Roedd 82% o ddefnyddwyr y rhyngrwyd o dan 65 oed wedi ymweld â gwefan o gymharu â 59% o'r rhai 65 oed a throsodd.

Deiliadaeth

Mae pobl sy'n byw mewn cartrefi rhent preifat neu gartrefi yn eiddo i berchen-feddianwyr yn fwy tebygol o ymweld â gwefannau gwasanaeth cyhoeddus na'r rhai sy'n byw mewn tai cymdeithasol.

Defnydd o'r rhyngrwyd yn ystod y pandemig

Oherwydd pandemig COVID-19, cynhaliwyd yr Arolwg Cenedlaethol dros y ffôn ym mis Mai 2020, gyda chanlyniadau misol ar gael ar gyfer pob mis o fis Mai i fis Medi 2020. Oherwydd y newid yn y ffordd y cynhaliwyd yr arolwg, dylid bod yn ofalus wrth gymharu'n uniongyrchol rhwng canlyniadau'r flwyddyn gyfan a'r canlyniadau misol.

Dywedodd cyfran uwch o bobl eu bod yn defnyddio'r rhyngrwyd sawl gwaith y dydd yn arolwg Mai i Fedi 2020 (88%, o gymharu â 76% yn ystod 2019-20). Nid oedd unrhyw newid sylweddol yn nifer y bobl sy'n cael mynediad wythnosol neu lai nag wythnosol. Gwelwyd patrwm tebyg ar gyfer pob grŵp oedran, yn ôl rhyw a deiliadaeth.

Cyd-destun polisi

Cymunedau Digidol Cymru: Hyder Digidol, Iechyd a Llesiant yw rhaglen cynhwysiant digidol ac iechyd Llywodraeth Cymru. Mae'r rhaglen wedi'i chynllunio i ddarparu hyfforddiant a chymorth i staff rheng flaen, gwirfoddolwyr a sefydliadau (wyneb yn wyneb) i ymgysylltu â sgiliau digidol dinasyddion a'u datblygu i gael mynediad at wasanaethau.

Ym mis Rhagfyr 2020 cyhoeddodd Llywodraeth Cymru Rhagolwg Cynhwysiant Digidol: tuag at Gymru ddigidol hyderus a amlinellodd feysydd ffocws, megis grwpiau blaenoriaeth; pobl hŷn, pobl anabl, pobl ddi-waith ac economaidd anweithgar a phreswylwyr tai cymdeithasol.

Defnyddir canfyddiadau'r Arolwg Cenedlaethol ochr yn ochr â thystiolaeth a gasglwyd gan sefydliadau eraill (e.e. Ofcom, yr Adran Gwaith a Phensiynau, awdurdodau lleol, y sector preifat) i nodi a datblygu ymyriadau ar gyfer y rhai sydd wedi'u hallgáu'n ddigidol a/neu sydd heb hyder digidol.

Gwybodaeth am ansawdd a methodoleg

Arolwg wyneb yn wyneb oedd Arolwg Cenedlaethol 2019-20 a oedd yn cynnwys hapsampl o dros 12,000 o oedolion o bob rhan o Gymru. Cynhaliwyd yr arolwg hwnnw rhwng mis Ebrill 2019 a mis Mawrth 2020.

Yn sgil pandemig y coronafeirws, bu’n rhaid newid i gynnal arolwg byrrach dros y ffôn bob mis. O fis Mai 2020 ymlaen, cynhaliwyd cyfweliadau dros y ffôn gyda hapsampl o bobl a oedd wedi cymryd rhan mewn Arolwg Cenedlaethol blwyddyn lawn, wyneb yn wyneb. 

Mae siartiau manwl a thablau canlyniadau ar gael yn ein dangosydd canlyniadau rhyngweithiol. I gael gwybodaeth ynglŷn â chasglu’r data a’r fethodoleg gweler yr adroddiad ansawdd a'r adroddiad technegol atchweliad.

Statws Ystadegau Gwladol

Mae Awdurdod Ystadegau'r Deyrnas Unedig wedi dynodi'r ystadegau hyn yn Ystadegau Gwladol, yn unol â Deddf Ystadegau a'r Gwasanaeth Cofrestru 2007, sy'n dangos cydymffurfiaeth â'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau.

Golyga statws Ystadegau Gwladol fod yr ystadegau swyddogol yn bodloni'r safonau uchaf o ran dibynadwyedd, ansawdd a gwerth cyhoeddus.

Dylai'r holl ystadegau swyddogol gydymffurfio â phob agwedd ar y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau. Dyfernir statws Ystadegau Gwladol iddynt yn dilyn asesiad gan gangen reoleiddio Awdurdod Ystadegau'r DU. Mae'r Awdurdod yn ystyried a yw'r ystadegau'n cyrraedd y safonau uchaf o ran cydymffurfio â'r Cod, gan gynnwys y gwerth y maent yn ei ychwanegu at benderfyniadau a dadleuon cyhoeddus.

Cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yw parhau i gydymffurfio â'r safonau a ddisgwylir gan Ystadegau Gwladol. Os byddwn yn pryderu ynghylch a yw'r ystadegau hyn yn dal i gyrraedd y safonau priodol, byddwn yn trafod y pryderon hynny â'r Awdurdod yn brydlon. Gellir dileu statws Ystadegau Gwladol ar unrhyw adeg pan nad yw'r safonau uchaf yn cael eu cynnal, a gellir adennill y statws pan fo'r safonau'n cael eu hadfer.

Cadarnhawyd y byddai’r ystadegau hyn yn parhau i gael eu dynodi’n Ystadegau Gwladol ym mis Mehefin 2020 yn dilyn gwiriad cydymffurfiaeth gan y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau (llythyr cadarnhau). Cafodd yr ystadegau hyn eu hasesu’n llawn (adroddiad llawn) yn erbyn y Cod Ymarfer ddiwethaf yn 2013.

Ers yr adolygiad diweddaraf gan y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau, rydym wedi parhau i gydymffurfio â'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau ac wedi gwneud y gwelliannau canlynol:

  • darparu dadansoddiadau manylach yn y dangosydd canlyniadau a'i gwneud yn haws i ddefnyddwyr gymharu canlyniadau ar draws blynyddoedd
  • diweddaru pynciau'r arolwg yn flynyddol i sicrhau ein bod yn parhau i ddiwallu anghenion polisi sy'n newid
  • gwneud dadansoddiad atchweliad yn rhan safonol o'n hallbynnau i helpu defnyddwyr i ddeall cyfraniad ffactorau penodol at ganlyniadau diddordeb

Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol

Hanfod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yw gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’r Ddeddf yn sefydlu saith nod llesiant i Gymru sef Cymru fwy cyfartal, llewyrchus, cydnerth, iach a chyfrifol ar lefel fyd-eang, gyda chymunedau cydlynol a diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu. O dan adran (10)(1) o’r Ddeddf, rhaid i Weinidogion Cymru (a) gyhoeddi dangosyddion (“dangosyddion cenedlaethol”) y mae’n rhaid eu defnyddio i fesur cynnydd tuag at gyflawni’r nodau llesiant, a (b) gosod copi o’r dangosyddion cenedlaethol gerbron Senedd Cymru. Cafodd y 46 o ddangosyddion cenedlaethol eu gosod ym mis Mawrth 2016. Mae’r Arolwg Cenedlaethol yn casglu gwybodaeth ar gyfer 15 o'r 46 dangosydd.  

Rhagor o wybodaeth am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.

Gallai’r ystadegau a ddefnyddir yn y datganiad hwn ategu’r dangosyddion cenedlaethol a chael eu defnyddio gan fyrddau gwasanaethau lleol mewn perthynas â’u hasesiadau llesiant a’u cynlluniau llesiant lleol.

Manylion cyswllt

Ystadegydd: Richard Murphy
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Ffôn: 0300 025 5050
E-bost: arolygon@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099

Image
Ystadegau Gwladol

SB 4/2021