Neidio i'r prif gynnwy

Dilynwch y canllawiau hyn ar ddylunio URL ar LLYW.CYMRU.

Cyhoeddwyd gyntaf:
25 Awst 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae cyfeiriadau URL LLYW.CYMRU wedi’u dylunio i fod yn hawdd eu defnyddio, ac i ddilyn fformat cyson, disgwyliadwy.

Dilynwch y safonau URL hyn ar gyfer cynhyrchion LLYW.CYMRU, cynhyrchion GOV.WALES, a’u his-barthau. Defnyddir safonau ar wahân ar gyfer y defnydd o .llyw.cymru a .gov.wales gan sefydliadau eraill, megis awdurdodau lleol.

Ffurf URL

Dylai cyfeiriadau URL ar LLYW.CYMRU:

  • fod yn glir, diamwys, hawdd eu darllen, hawdd eu teipio a hawdd eu rhannu
  • defnyddio geiriau â llythrennau bach
  • ymwneud â theitl y dudalen
  • bod yn Gymraeg ar LLYW.CYMRU ac yn Saesneg ar GOV.WALES
  • peidio â chynnwys acronymau, oni bai eu bod yn adnabyddus iawn neu’n acronym adran, megis CThEM
  • defnyddio dash i wahanu geiriau fel y byddant yn hawdd eu darllen, er enghraifft llyw.cymru/safonau-a-chanllawiau-llyw-cymru (mae’n bosibl na fydd hyn yn berthnasol os bwriedir i’r URL gael ei ddarllen yn uchel)
  • peidio â chynnwys y fannod (y, yr) na geiriau diangen eraill, er enghraifft defnyddiwch /budd-daliadau neu /canllawiau-budd-daliadau yn hytrach na /y-canllawiau-ar-fudd-daliadau
  • defnyddio’r berfenw, pan fo’n bosibl, er enghraifft /ymgeisio yn hytrach na /ymgeisiwch
  • bod wedi’u seilio ar angen defnyddwyr yn hytrach nag enw polisi, cynllun neu wasanaeth, a allai newid
  • peidio â gorffen gyda slaes, er enghraifft www.llyw.cymru/eich-url-yma yn hytrach na www.llyw.cymru/eich-url-yma/

Hyrwyddo URL

Ni ddylech hyrwyddo is-barthau LLYW.CYMRU. Os bydd angen ichi hyrwyddo gwefan neu wasanaeth sydd ag is-barth LLYW.CYMRU, gofynnwch am URL byr a fydd yn ailgyfeirio at yr is-barth ym mhorwr y defnyddiwr.

Enghraifft: mae www.llyw.cymru/cymrungweithio yn ailgyfeirio at www.cymrungweithio.llyw.cymru.

Os bydd angen ichi hyrwyddo gwasanaeth trafodiadol, rhaid ichi hyrwyddo tudalen cychwyn y trafodiad ar LLYW.CYMRU.

Enghraifft: byddech yn hyrwyddo www.llyw.cymru/chwilio-am-brentisiaeth a byddai’r dudalen hon yn cynnwys dolen at www.dodohydibrentisiaeth.gwasanaeth.llyw.cymru.

URL byr

Mae URL byr yn ailgyfeirio defnyddwyr ac mae’n ffordd o hyrwyddo cynnwys sydd eisoes ar wefan. Er enghraifft, mae llyw.cymru/a465rhan5a6 yn ailgyfeirio at llyw.cymru/a465-rhan-5-6-dowlais-top-i-hirwaun.

Dyma enghreifftiau o ble y cânt eu defnyddio:

  • adrannau parhaol o’r wefan, sydd wedi’u diffinio’n glir, y mae angen inni eu hyrwyddo all-lein
  • ymgyrchoedd LLYW.CYMRU
  • microwefannau LLYW.CYMRU
  • sefydliadau LLYW.CYMRU

Dylai URL byr:

  • beidio â defnyddio cysylltnod
  • defnyddio geiriau penodol i’r cynnwys
  • gwneud synnwyr am byth, er enghraifft efallai y bydd angen ichi gynnwys blwyddyn
  • peidio â chael ei hyrwyddo na’i gynnwys mewn deunyddiau hyd nes y bydd y Tîm Digidol Corfforaethol wedi’i gymeradwyo
  • os yw’n dechrau gyda llyw.cymru neu gov.wales, peidio â chael ei ddefnyddio i ailgyfeirio defnyddiwr at URL heblaw am rai LLYW.CYMRU

Caiff cyfeiriadau URL byr eu hadolygu a’u cymeradwyo gan y Tîm Digidol Corfforaethol. I wneud cais am URL byr, dylech e-bostio digidol@llyw.cymru gan nodi:

  • y rheswm pam mae angen URL byr arnoch
  • y cynnwys neu’r dudalen y bydd yr URL byr yn mynd ato/ati
  • sut y bydd eich URL byr yn cael ei ddefnyddio mewn deunyddiau marchnata a hyrwyddo

Caiff cyfeiriadau URL byr eu hadolygu ac mae’n bosibl y cânt eu dileu os nad ydynt yn cael eu defnyddio.

URL is-barth gwasanaeth

Fel arfer ni fydd y rhan drafodiadol o’n gwasanaethau digidol wedi’i gwe-letya ym mharth LLYW.CYMRU. Bydd yn bodoli yn is-barth LLYW.CYMRU ar y ffurf:

  • enwgwasanaeth.gwasanaeth.llyw.cymru / nameofservice.service.gov.wales

Bydd y Tîm Digidol Corfforaethol a rheolwr y gwasanaeth yn cytuno beth i’w roi ar gyfer y rhan ‘enwgwasanaeth’ o’r URL. 

O ran yr enwgwasanaeth:

  • mae’n rhaid iddo fod yn gysylltiedig á’r enw gwasanaeth
  • gallwch ei dalfyrru
  • ni ddylech gynnwys geiriau nad ydynt yn hanfodol er mwyn deall (er enghraifft a, ac, i, yr)
  • ni chewch gynnwys cyfeiriad at unrhyw bolisi, cynllun neu sefydliad (presennol) a allai newid yn y dyfodol.

Cofiwch sicrhau bod defnyddwyr yn dechrau o safle lansio ar dudalen cychwyn neu fewngofnodi LLYW.CYMRU. I hwyluso hyn:

  • peidiwch á hyrwyddo na rhannu unrhyw is-barth gwasanaeth
  • gwnewch yn siwr nad yw peiriannau chwilio yn mynegeio tudalennau

Os ydych yn meddwl bod angen mynediad uniongyrchol at dudalen ar eich is-barth gwasanaeth ar ddefnyddwyr, dylech drafod hyn á’r Tïm Digidol Corfforaethol. 

URL is-barth blog

Rydym yn defnyddio WordPress ar gyfer ein blogiau ac yn eu gwe-letya yn is-barth LLYW.CYMRU ar y ffurf enwblog.blog.llyw.cymru. Bydd y Tîm Digidol Corfforaethol a pherchennog y blog yn cytuno beth i’w roi ar gyfer y rhan ‘enwblog’ o’r URL.