Neidio i'r prif gynnwy

Dilynwch y canllawiau hyn i greu a defnyddio codau QR ar gyfer deunyddiau marchnata a digwyddiadau Llywodraeth Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Tachwedd 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Beth yw cod QR?

Math o god bar sy’n gallu storio gwybodaeth gan gynnwys URL yw cod QR (cod ymateb cyflym).

Gall defnyddwyr sganio codau QR gan ddefnyddio eu ffôn clyfar i agor gwefannau neu lawrlwytho apiau.

Dolen i barthau’r llywodraeth

Dylai codau QR ar ddeunyddiau Llywodraeth Cymru anfon defnyddwyr i enwau parth y llywodraeth, er enghraifft www.llyw.cymru.

Rhaid i’r Tîm Digidol Corfforaethol gytuno ar ddolen o god QR i barth nad yw’n barth y llywodraeth, cysylltwch â digidol@llyw.cymru

Olrhain y defnydd o godau QR

Defnyddiwch URL sy’n olrhain i ddarganfod faint o ddefnyddwyr sy’n dilyn y ddolen mewn cod QR.

Gallwch greu URL sy’n olrhain gan ddefnyddio adeiladydd URL Campaign Google.

Os oes angen help arnoch, cysylltwch â digidol@llyw.cymru.

Cynllun codau QR

Mae’n hanfodol bod y cod yn ddigon mawr ar gyfer ei sganio’n hawdd:

  • ar gyfer deunyddiau printiedig, 2x2 cm fel maint lleiaf, ond efallai y bydd angen codau mwy o faint er mwyn gallu sganio o fwy o bellter
  • ar gyfer sgriniau digidol, cydraniad o 150x150 picsel o leiaf, gan ddibynnu ar yr amgylchedd sganio

Sicrhewch fod gofod gwag o amgylch y cod QR, sy’n cael ei adnabod fel “ffin ddistaw” (“quiet zone”), i sicrhau sganio cywir. Dylai’r ffin ddistaw fod o leiaf bedair gwaith maint modiwl unigol (y sgwâr lleiaf o fewn y cod).

Codau QR a diogelwch

Mae’r Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol yn dweud bod y rhan fwyaf o dwyll sy’n ymwneud â chodau QR:

  • yn dueddol o ddigwydd mewn mannau agored, er enghraifft gorsafoedd a meysydd parcio
  • yn achosion o deilwra cymdeithasol

Ystyriwch ymhle y mae’r codau QR yn mynd i gael eu gosod a pheidiwch â’u defnyddio ar gyfer lawrlwythiadau ffeiliau.

Gallwch gael cyngor ychwanegol ar godau QR gan y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol.

Ystyried defnyddio URL byr

Gall fod yn well defnyddio URL byr yn lle cod QR, neu ochr yn ochr â chod QR. Er enghraifft, os nad yw’r defnyddiwr yn gallu sganio’r cod QR, gall ddefnyddio’r URL byr. Dilynwch y canllawiau ar URL byr.

Creu neu ofyn am god QR

Gallwch greu cod QR gan ddefnyddio offeryn cynhyrchu codau QR am ddim Adobe.

Gallwch hefyd ofyn am god QR gan Wasanaethau Dylunio Llywodraeth Cymru.