Ailenwch ffeiliau cyn eu lanlwytho. Newidiwch alias URL dogfennau HTML cyn eu cyhoeddi.
Dylai enw ffeil ac alias URL fod:
- mewn llythrennau bach
- heb fylchau
- heb nodau arbennig
- yn Gymraeg yn LLYW.CYMRU ac yn Saesneg yn GOV.WALES
Pan fydd ffeil yn cael ei chyhoeddi yn Saesneg yn unig, dylai fod ganddi enw ffeil Cymraeg ar LLYW.CYMRU. Yng nghraidd LLYW.CYMRU, mae hyn yn golygu lanlwytho’r un ffeil ddwywaith:
- unwaith ag iddi enw ffeil Cymraeg i LLYW.CYMRU
- unwaith ag iddi enw ffeil Saesneg i GOV.WALES
Er enghraifft, mae enw ffeil dogfen PDF yn dod yn 'canllawiau-awdurdodau-lleol-teithio-rhatach-ar-fws.pdf' yn LLYW.CYMRU.
Mae alias URL dogfen HTML yn dod yn 'canllawiau-awdurdodau-lleol- teithio-rhatach-ar fws-html' yn LLYW.CYMRU.
Gallwch ddefnyddio teclynnau ar-lein i'ch helpu chi fel teclyn cynhyrchu URL wedi’i optimeiddio ar gyfer peiriannau chwilio.