Egwyddorion ar gyfer dylunio a chreu cynnyrch LLYW.CYMRU.
Cynnwys
Cadwch y defnyddiwr mewn cof bob amser
I adeiladu’r peth cywir, rhaid ichi ddeall eich defnyddwyr a’u hanghenion. Ymchwiliwch, dadansoddwch a siaradwch â’r defnyddwyr. Mae angen ichi feddwl yn yr un ffordd â nhw’n a dysgu mwy am eu hymddygiad. Nid yr hyn rydych chi am ei weld neu’n ei hoffi sy’n bwysig.
Cadwch y cynnyrch yn syml
Peidiwch â gwneud pethau dim ond oherwydd eich bod yn gallu eu gwneud. Os oes gennym ni ffyrdd o wneud rhywbeth yn barod, dylem ddilyn yr un ffyrdd gyda phethau eraill. Os oes gennym sianel briodol yn barod, dylem ei defnyddio.
Defnyddiwch dystiolaeth wrth greu’r cynnyrch
Peidiwch â damcaniaethu neu ddyfalu wrth geisio datrys materion. Edrychwch i weld sut mae cynnyrch sy’n bodoli eisoes yn cael ei ddefnyddio. Ystyriwch sut mae pobl yn defnyddio’r hyn rydych chi wedi ei adeiladu drwy’r broses ddylunio ac adeiladu ac ar ôl lansio. Dylech lunio prototeipiau a phrofi gyda defnyddwyr yn barhaus. Sicrhewch fod dysgu drwy ddadansoddi yn dod yn rhan hanfodol o’r hyn rydych chi’n ei wneud.
Sicrhewch fod y cynnyrch yn hawdd i’w ddefnyddio
Sicrhewch fod eich cynnyrch mor hawdd i’w ddefnyddio â phosibl. Peidiwch â chynnwys nodweddion na fyddant o fudd amlwg i’r defnyddiwr. Cadwch bethau’n syml a chuddio unrhyw beth cymhleth. Os nad yw un peth yn gweithio, rhowch gynnig ar rywbeth arall.
Mireiniwch y cynnyrch dros amser
Dechreuwch ar raddfa fach ac ailadrodd yn gyflym. Crëwch gynnyrch sylfaenol hyfyw er mwyn adeiladu momentwm. Mae hyn yn galluogi pobl i weld pethau’n glir, casglu adborth a gwneud gwelliannau. Os na fydd rhywbeth yn gweithio, dylech ailfeddwl.
Gwnewch y cynnyrch yn hygyrch i bawb
Mae cynnyrch LLYW.CYMRU yn gynnyrch i bawb. Rhaid inni fod mor gynhwysol â phosibl. Peidiwch â cheisio creu nodweddion dim ond i greu argraff ar draul unigolion. Os oes rhaid ichi gyfaddawdu mewn unrhyw ffordd i sicrhau bod rhywbeth yn hygyrch i bawb, gwnewch hynny. Peidiwch ag ystyried anghenion pobl fel rhwystr i’ch cynnyrch. Cynlluniwch ar gyfer pob un o’r dechrau’n deg.
Sicrhewch fod y cynnyrch yn addas i fywydau pobl
Peidiwch â chynllunio eich cynnyrch fel rhywbeth i’w ddefnyddio’n gyfan gwbl ar wahân. Rydym yn cynllunio ar gyfer pobl yn y man lle maen nhw’n cael mynediad at eich cynnyrch. Meddyliwch am ble maen nhw, y dyfeisiau y byddan nhw’n eu defnyddio a chyd-destun eu taith i gyrraedd eich cynnyrch ac oddi yno. Meddyliwch sut mae eich cynnyrch yn gweddu i brofiad ehangach pobl.
Gwnewch y cynnyrch yn rhan o LLYW.CYMRU
Mae LLYW.CYMRU yn cynnwys llawer o gynnyrch cysylltiedig. Meddyliwch sut mae eich cynnyrch yn gweddu i’r byd go iawn a gweddill LLYW.CYMRU. Efallai fod lle mwy priodol lle y gallwch ddiwallu anghenion defnyddwyr. Helpwch y defnyddiwr drwy ddarparu dolenni i rannau perthnasol eraill o LLYW.CYMRU.
Defnyddiwch batrymau dylunio LLYW.CYMRU wrth greu eich cynnyrch
Defnyddiwch batrymau dylunio LLYW.CYMRU cyson, sydd wedi cael eu cymeradwyo. Mae hyn yn helpu pobl oherwydd nad oes rhaid iddyn nhw ddysgu ffyrdd newydd o wneud yr un peth. O dro i dro, efallai na fydd y patrymau sy’n bodoli eisoes yn bodloni pob angen. Bydd patrymau sy’n bodoli eisoes yn gwella a gall patrymau newydd ddod i’r amlwg. Dechreuwch bob amser drwy edrych ar ganllawiau dylunio LLYW.CYMRU.
Gwnewch eich cynnyrch yn agored
Rhannwch yr hyn rydych chi’n ei wybod. Rhannwch eich gwaith. Rhannwch eich cod. Rhannwch eich syniadau. Rhannwch gyda’ch defnyddwyr, cydweithwyr a’ch rhanddeiliaid. Drwy gydweithio, bydd cynnyrch unigol a LLYW.CYMRU yn gwella drwy’r amser.