Neidio i'r prif gynnwy

Gwybodaeth am y cynnydd a wneir gan landlordiaid cymdeithasol o ran cyflawni'r Safon Ansawdd Tai Cymru ar gyfer eu holl stoc ar 31 Mawrth 2018.

Prif bwyntiau

  • Mae nifer yr anheddau tai cymdeithasol sydd yn cydymffurfio gyda Safon Ansawdd Tai Cymru (WHQS) (gan gynnwys methiannau derbyniol) yn parhau i gynyddu. Ar 31 Mawrth 2018, roedd 90% o anheddau tai cymdeithasol (203,969 o anheddau) yn cydymffurfio â Safon Ansawdd Tai Cymru (gan gynnwys methiannau derbyniol) o’i gymharu gyda 86% y flwyddyn flaenorol.
  • Heb gyfrif methiannau derbyniol, roedd 63% o dai cymdeithasol (142,648) yn cydymffurfio’n llwyr â Safon Ansawdd Tai Cymru ar 31 Mawrth 2018.
  • Roedd lefelau cydymffurfio gyda Safon Ansawdd Tai Cymru yn parhau i fod yn uwch ar gyfer landlordiaid cymdeithasol cofrestredig, gyda 99% o’u anheddau yn cydymffurfio gyda’r Safon (gan gynnwys methiannau derbyniol) ar 31 Mawrth 2018 o gymharu â 77 o anheddau awdurdodau lleol.
  • Ar 31 Mawrth 2018, ar draws y sector tai cymdeithasol, y rheswm mwyaf cyffredin a roddwyd ar gyfer methiant derbyniol oedd ‘Amseriad y gwelliant’, y rheswm a rodddwyd mewn dros hanner yr anheddau oedd yn cydymffurfio gan gynnwys un methiant derbyniol (54%).
  • Yr elfennau lle’r oedd y lefel uchaf o gydymffurfiaeth â’r Safon (yn cynnwys methiannau derbyniol) ar 31 Mawrth 2018 oedd ‘synwyryddion mwg sy’n rhedeg oddi ar y prif gyflenwad trydan’, ‘ceginau’ a ‘systemau gwres canolog’ (olla r 99%).

Adroddiadau

Safon Ansawdd Tai Cymru (WHQS), ar 31 Mawrth 2018: diwygiedig , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 559 KB

PDF
Saesneg yn unig
559 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.