Gwybodaeth am y cynnydd a wneir gan landlordiaid cymdeithasol o ran cyflawni'r Safon Ansawdd Tai Cymru ar gyfer eu holl stoc ar 31 Mawrth 2023.
Dyma'r datganiad diweddaraf yn y gyfres: Safon Ansawdd Tai Cymru
Y dyddiad cau ar gyfer cyflawni'r Safon bresennol oedd Rhagfyr 2020 (o ganlyniad i bandemig coronafeirws (COVID-19), rhoddwyd estyniad i nifer fach o landlordiaid cymdeithasol tan fis Rhagfyr 2021). Bydd Safon newydd, Safon Ansawdd Tai Cymru 2023, yn cael ei lansio yn hydref 2023, ac felly dyma'r cyhoeddiad terfynol o dan y Safon bresennol. Rydym yn rhagweld y bydd data sy'n mesur cynnydd tuag at Safon Ansawdd Tai Cymru 2023 yn dechrau cael ei gyhoeddi o 2025.
Prif bwyntiau
- Ar 31 Mawrth 2023, llwyddodd yr holl stoc tai cymdeithasol (234,665 anhedd) i gydymffurfio â Safon Ansawdd Tai Cymru (gan gynnwys methiannau derbyniol), sy'n gyson â'r flwyddyn flaenorol.
- Llwyddodd tri chwarter (78%) o'r stoc tai cymdeithasol i gydymffurfio’n llawn.
- Y rheswm mwyaf cyffredin dros fethiant derbyniol oedd 'Amseriad y gwelliant', a gofnodwyd ar gyfer hanner yr holl anheddau â methiant derbyniol.
Adroddiadau
Safon Ansawdd Tai Cymru: ar 31 Mawrth 2023 , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 584 KB
Cyswllt
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.