Mae'r Rheoliadau hyn yn eithrio gwasanaeth dosbarthu neu gasglu nwyddau groser o'r tâl 5C.
Dogfennau
![](/sites/default/files/styles/file_thumb/public/publication-doc-thumbnails/rheoliadau-codi-tal-am-fagiau-siopa-untro-cymru-diwygio-2020-offerynnau-statudol-thumb_jpg.jpg?itok=p7TcD_sm)
Rheoliadau Codi Tâl am Fagiau Siopa Untro (Cymru) (Diwygio) 2020 , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 47 KB
![](/sites/default/files/styles/file_thumb/public/publication-doc-thumbnails/rheoliadau-codi-tal-am-fagiau-siopa-untro-cymru-diwygio-2020-memorandwm-esboniadol-thumb_jpg.jpg?itok=pYOFJ5Z5)
Memorandwm esboniadol , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 213 KB
Manylion
Mae’r Rheoliadau Codi Tâl am Fagiau Siopa Untro (Cymru) 2010, yn gosod dyletswydd ar bob manwerthwr i godi isafswm o 5c am bob bag siopa untro.
Am gyfnod o dri mis, mae’r Rheoliadau hyn yn eithrio bagiau siopa untro a ddefnyddir at ddibenion cludo nwyddau a brynwyd fel rhan o wasanaeth dosbarthu neu gasglu nwyddau groser yn unig er mwyn lleihau’r risg i staff cludo cartref a chwsmeriaid eraill o ledaenu neu ddal COVID-19 yn ystod danfoniadau i gartrefi.