Yn y canllaw hwn
2. Pwy sy'n gymwys
I fod yn gymwys ar gyfer cynllun Rhanberchnogaeth – Cymru:
- rhaid ichi fod yn prynu cyfran o gartref cymwys gan landlord sy'n cynnig cartref dan y cynllun
- rhaid i incwm cyfunol eich aelwyd fod yn £60,000 neu lai y flwyddyn
- rhaid ichi fod yn prynu cartref am y tro cyntaf; neu:
- fod yn aelwyd sydd newydd ei sefydlu, er enghraifft, oherwydd i berthynas chwalu; neu
- eich bod yn adleoli at ddibenion gwaith i ardal lle nad yw prisiau'r eiddo’n caniatáu ichi brynu cartref sy'n briodol ar gyfer maint eich teulu
- rhaid ichi beidio â pherchen ar gartref arall, oni bai bod gorchymyn llys yn eich gorfodi i gael eich cynnwys ar weithred yr eiddo lle bo'r plant yn preswylio
- rhaid ichi beidio â gallu fforddio prynu eiddo sy'n addas at ddibenion maint eich teulu ar y farchnad agored
- rhaid ichi beidio ag isosod unrhyw ran o'r cartref yr ydych yn ei brynu drwy'r cynllun
- rhaid ichi gael yr arian i brynu'r gyfran leiaf sydd ar gael, pasio'r asesiad ariannol, a chael morgais