Rhaglen Plant Iach Cymru: 2020
Mae ystadegau a dadansoddiad pellach o’r ganran o blant cymwys sydd yn gysylltiadau ymwelydd iechyd drwy’r Rhaglen Plant Iach Cymru ar gyfer 2020.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Mae'r adroddiad blynyddol hwn yn cyhoeddi ystadegau am Raglen Plant Iach Cymru (‘y Rhaglen’). Mae'n dwyn ynghyd ddata chwarterol, yr oeddent ar gael eisoes ar StatsCymru ac mae'n cynnwys dadansoddiadau ychwanegol.
Cyflwynir ystadegau chwarterol o fis Hydref i fis Rhagfyr 2016 (y chwarter cyntaf pan gyflwynwyd y Rhaglen) hyd at y chwarter o fis Hydref i fis Rhagfyr 2020.
Cyflwynir ystadegau eraill ar gyfer blwyddyn galendr lawn 2020.
Cefndir
Cafodd Rhaglen Plant Iach Cymru ei lansio ar 1 Hydref 2016 ac mae’n rhaglen iechyd gynhwysol ar gyfer pob teulu sydd â phlant 0 i 7 mlwydd oed. Mae'n cynnwys ystod cyson o fesurau ataliol ac ymyrraeth gynnar, sy'n seiliedig ar dystiolaeth, yn ogystal â chyngor ac arweiniad i helpu gyda magu plant a gwneud dewisiadau i fyw'n iach. Mae’r Rhaglen yn nodi pa gysylltiadau wedi’u cynllunio y gall plant a’u teuluoedd eu disgwyl gan eu Bwrdd Iechyd; o’r adeg trosglwyddo o wasanaeth mamolaeth i’r blynyddoedd cyntaf yn yr ysgol. Mae'r cysylltiadau cyffredinol hyn yn cwmpasu tri maes ymyrryd: sgrinio; imiwneiddio; a monitro a chefnogi datblygiad plentyn. Mae'r datganiad hwn yn canolbwyntio ar y data a gofnodwyd ar gyfer pob cyswllt â phlant rhwng 10 a 14 diwrnod oed a 3.5 oed.
Daw'r data o fodiwl yn y Cronfa Ddata Genedlaethol ar Iechyd Plant Cymunedol. Cânt eu gwneud yn ddienw gan Iechyd a Gofal Digidol Cymru (DHCW) a'u rhannu â Llywodraeth Cymru i gynhyrchu'r datganiad ystadegol hwn.
Mae rhagor fanylion ar gael yn adran Gwybodaeth am ansawdd a methodoleg.
Effaith COVID-19
Mae’r pandemig COVID-19 wedi effeithio'n sylweddol ar Raglen Plant Iach Cymru a'r data a gofnodwyd ar gyfer monitro'r rhaglen.
Ar anterth y pandemig, cafodd llawer o ymwelwyr iechyd eu symud i weithio mewn ysbytai i helpu i leihau'r baich cychwynnol ar y byrddau iechyd.
Drwy gydol y pandemig, cafodd byrddau iechyd eu cynghori i barhau i gynnal cyswllt â phlant yn 10 i 14 diwrnod oed, 6 wythnos oed a 6 mis oed. Roedd cwblhau cysylltiadau ar bwyntiau penodol eraill yn amodol ar ganllawiau a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ar wahanol adegau yn ystod y pandemig.
Roedd llawer o’r cyswllt â phlant a'u teuluoedd yn digwydd dros y ffôn, yn hytrach nag yn bersonol, ac nid oedd rhai byrddau iechyd yn gallu cyflwyno ffurflenni casglu data ar gyfer cysylltiadau ffôn. Mae'n debygol, yn ymarferol, bod mwy o gysylltiadau wedi digwydd nag a gofnodwyd ar systemau’r byrddau iechyd, felly dylid bod yn ofalus wrth ddehongli'r holl ddata chwarterol o fis Ionawr i fis Mawrth 2020 a'r holl ddata blynyddol ar gyfer y flwyddyn 2020.
Mae rhagor o fanylion am sut mae'r pandemig wedi effeithio ar y rhaglen ar gael yn adran Gwybodaeth am ansawdd a methodoleg.
Prif bwyntiau
Er bod y pandemig COVID-19 wedi effeithio'n fawr ar weithrediad y rhaglen a'r broses o gasglu data, mae'r data a gofnodwyd yn dangos bod dwy ran o dair (66%) o gysylltiadau y dylid bod wedi'u cynnig drwy'r rhaglen, wedi cael eu derbyn gan blant cymwys. Mae hyn 9 pwynt canran yn is nag yn 2019.
Yn 2020, roedd canran y plant cymwys â chyswllt a gofnodwyd yn amrywio yn ôl pwynt cyswllt - o 93% yn 10-14 diwrnod oed i 50% yn 16 wythnos.
Cyswllt â phlant yn 10 i 14 diwrnod oed, 6 wythnos oed a 6 mis oed, a gafodd flaenoriaeth pan oedd y pandemig yn ei anterth, ac o ganlyniad, y ganran o blant cymwys y cofnodwyd eu bod yn derbyn cyswllt o’r fath a gafodd ei heffeithio leiaf gan y pandemig. Erbyn chwarter olaf 2020, roedd canran y plant cymwys a oedd yn derbyn cysylltiadau ar y pwyntiau hyn yr un fath â’r lefelau cyn y pandemig neu'n rhagori arnynt.
Effeithiodd y pandemig yn fwy amlwg ar ganran y plant cymwys oedd â chyswllt wedi'i gofnodi ym mhob pwynt cyswllt arall. Erbyn chwarter olaf 2020, roedd canran y plant cymwys a oedd yn derbyn cysylltiadau ar y pwyntiau hyn wedi gwella, gyda rhai cysylltiadau'n agosáu at y lefelau cyn y pandemig ac eraill yn rhagori ar lefelau cyn pandemig.
Er y cafodd y rhan fwyaf o’r cysylltiadau eu cynnig, ni wnaed 90,350 o gysylltiadau â phlant cymwys. Mae bron i dri chwarter (73%) o'r rhain heb apwyntiad wedi'i gofnodi, a chafodd mwy na 11,500 o apwyntiadau eu gwneud na ddaethpwyd â'r plentyn iddynt.
Cafodd y rhan fwyaf o'r holl gysylltiadau (72%) eu gwneud o fewn yr ystodau oedran penodedig, er bod rhywfaint o amrywiaeth rhwng pwyntiau cyswllt.
Ers canol 2017, ni fu fawr o wahaniaeth rhwng canran y plant cymwys y cofnodwyd eu bod wedi derbyn cyswllt mewn ardaloedd Dechrau’n Deg ac mewn ardaloedd nad ydynt yn rhan o Dechrau’n Deg. Yn chwarter olaf 2020, canran y plant cymwys y cofnodwyd eu bod wedi derbyn eu cyswllt oedd 73% mewn ardaloedd Dechrau'n Deg a 74% mewn ardaloedd nad ydynt yn rhai Dechrau'n Deg.
Mae materion hysbys yn ymwneud ag ansawdd data yn effeithio'n benodol ar ddata’r pwyntiau cyswllt 6 ac 8 wythnos. Yn ogystal, gan fod cysylltiadau o bell wedi’u defnyddio ystod y pandemig, nid oedd rhai byrddau iechyd yn gallu cofnodi'r rhain pan gyflwynwyd hwy gyntaf; fodd bynnag, cafodd hyn ei ddatrys erbyn diwedd y flwyddyn.
Crynodeb blynyddol o Raglen Plant Iach Cymru
Plant cymwys | Wedi cael cyswllt | % a gafodd gyswllt | |
---|---|---|---|
10 i 14 diwrnod | 28,674 | 26,718 | 93% |
6 wythnos | 28,882 | 22,519 | 78% |
8 wythnos | 28,925 | 17,281 | 60% |
12 wythnos | 29,062 | 14,864 | 51% |
16 wythnos | 29,082 | 14,657 | 50% |
6 mis | 29,330 | 23,389 | 80% |
15 mis | 30,128 | 21,115 | 70% |
27 mis | 31,938 | 20,294 | 64% |
3.5 mlwydd | 33,007 | 17,838 | 54% |
Cyfanswm y cysylltiadau | 269,028 | 178,675 | 66% |
Ffynhonnell: Y Gronfa Ddata Genedlaethol ar Iechyd Plant Cymunedol (NCCHD)
Mae cyfres amser ar gael yn 'Atodiad 1' (MS Excel).
Mae Tabl 1 a Siart 1 yn dangos nifer a chanran y plant cymwys y cofnodwyd eu bod wedi derbyn eu cyswllt ym mhob pwynt cyswllt. O'r holl gysylltiadau y dylid bod wedi'u cynnig i blant cymwys yn 2020, cofnodwyd bod 66% o'r cysylltiadau wedi'u derbyn gan y plentyn. Mae'r ffigur hwn yn is nag mewn blynyddoedd blaenorol, ond mae pandemig COVID-19 wedi effeithio arno ac mae'n hysbys bod hyn yn dangyfrif o'r gweithgarwch gwirioneddol a ddigwyddodd.
Roedd canran y plant â chyswllt a gofnodwyd yn amrywio yn ôl pwynt cyswllt, gyda'r ganran uchaf o blant cymwys yn derbyn cysylltiadau yn 10 i 14 diwrnod oed (93%). Y ganran isaf o blant cymwys a dderbyniodd gyswllt oedd 16 wythnos (50%).
Cyfresi amser chwarterol: canran y plant cymwys a gafodd gyswllt ar bob pwynt cyswllt ers dechrau'r rhaglen
Cyswllt yn 10 i 14 diwrnod oed
Y data diweddaraf: Cafodd 6,554 o’r 7,037 o blant cymwys (neu 93.1%) gyswllt yn y chwarter diweddaraf.
Newid ers y chwarter diwethaf: i fyny 0.4 pwynt canran.
Newid ers y chwarter cyntaf: i fyny 16.7 pwynt canran.
Archwiliad corfforol yn 6 wythnos oed
Y data diweddaraf: Cafodd 5,882 o’r 7,375 o blant cymwys (neu 79.8%) gyswllt yn y chwarter diweddaraf.
Newid ers y chwarter diwethaf: i fyny 1.6 pwynt canran.
Newid ers y chwarter cyntaf: i fyny 2.4 pwynt canran.
Cyswllt yn 8 wythnos oed
Y data diweddaraf: Cafodd 5,327 o’r 7,441 o blant cymwys (neu 71.6%) gyswllt yn y chwarter diweddaraf.
Newid ers y chwarter diwethaf: i fyny 9.7 pwynt canran.
Newid ers y chwarter cyntaf: i fyny 31.9 pwynt canran.
Cyswllt yn 12 wythnos oed
Y data diweddaraf: Cafodd 4,912 o’r 7,511 o blant cymwys (neu 65.4%) gyswllt yn y chwarter diweddaraf.
Newid ers y chwarter diwethaf: i fyny 13.7 pwynt canran.
Newid ers y chwarter cyntaf: i fyny 16.3 pwynt canran.
Cyswllt yn 16 wythnos oed
Y data diweddaraf: cafodd 4,616 o’r 7,319 o blant cymwys (neu 63.1%) gyswllt yn y chwarter diweddaraf
Newid ers y chwarter diwethaf: i fyny 10.9 pwynt canran.
Newid ers y chwarter cyntaf: i fyny 15.9 pwynt canran.
Cyswllt yn 6 mis oed
Y data diweddaraf: Cafodd 6,135 o’r 7,255 o blant cymwys (neu 84.6%) gyswllt yn y chwarter diweddaraf.
Newid ers y chwarter diwethaf: i fyny 2.8 pwynt canran.
Newid ers y chwarter cyntaf: i fyny 11.1 pwynt canran.
Cyswllt gan Ymwelydd Iechyd yn 15 mis oed
Y data diweddaraf: Cafodd 5,890 o’r 7,732 o blant cymwys (neu 76.2%) gyswllt yn y chwarter diweddaraf.
Newid ers y chwarter diwethaf: i fyny 2.7 pwynt canran.
Newid ers y chwarter cyntaf: i fyny 7.2 pwynt canran.
Cyswllt gan Ymwelydd Iechyd yn 27 mis oed
Y data diweddaraf: Cafodd 5,905 o’r 8,223 o blant cymwys (neu 71.8%) gyswllt yn y chwarter diweddaraf.
Newid ers y chwarter diwethaf: i fyny 2.4 pwynt canran.
Newid ers y chwarter cyntaf: i fyny 19.8 pwynt canran.
Cyswllt yn 3.5 mlwydd oed (cyn ysgol)
Y data diweddaraf: Cafodd 4,996 o’r 8,237 o blant cymwys (neu 60.7%) gyswllt yn y chwarter diweddaraf.
Newid ers y chwarter diwethaf: i fyny 3.7 pwynt canran.
Newid ers y chwarter cyntaf: i fyny 25.5 pwynt canran.
Cyfanswm y cysylltiadau â phlant cymwys
Y data diweddaraf: Cafodd 50,217 o’r 68,130 o blant cymwys (neu 73.7%) gyswllt yn y chwarter diweddaraf.
Newid ers y chwarter diwethaf: i fyny 5.1 pwynt canran.
Newid ers y chwarter cyntaf: i fyny 16.1 pwynt canran.
Crynodeb
Oherwydd yr heriau amrywiol a achoswyd gan y pandemig COVID-19 yn 2020, a’r problemau hysbys o ran cofnodi data, dwy ran o dair (66%) o'r holl gysylltiadau y dylid bod wedi'u cynnig drwy'r rhaglen y cofnodwyd eu bod wedi’u cael gan blant cymwys. Mae hyn naw pwynt canran yn is nag yn 2019.
Mae'r gyfres chwarterol yn dangos tuedd ar i fyny yng nghanran y plant cymwys sy'n cael cysylltiadau ar draws y rhan fwyaf o'r pwyntiau cyswllt, o ddechrau'r rhaglen tan chwarter Ionawr-Mawrth 2020 pan ddechreuodd y pandemig COVID-19 gael effaith. Mae effaith y pandemig yn wahanol ar gyfer pob pwynt cyswllt ac mae hyn yn bennaf oherwydd y canllawiau a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru yn gofyn i’r byrddau iechyd roi blaenoriaeth i gysylltiadau yn 10 i 14 diwrnod oed, 6 wythnos oed a 6 mis oed.
Mae data ar gyfer chwarter olaf 2020 ar gyfer pob cyswllt gyda'i gilydd yn dangos bod 74% o blant cymwys wedi cael eu cysylltiadau, sef yr un ganran ag yn chwarter olaf 2019. Mae hyn yn awgrymu bod y rhaglen yn gweithio eto ar yr un lefel ag yr oedd cyn y pandemig, ar y cyfan, er bod llawer o'r cysylltiadau bellach yn digwydd o bell yn hytrach nag wyneb yn wyneb a bod y ganran yn wahanol rhwng pob pwynt cyswllt.
Y cyswllt cyntaf yn y rhaglen (sef 10 i 14 diwrnod) yw’r un lle cafwyd y gyfradd uchaf o blant cymwys yn cael eu cyswllt drwy gydol cyfnod y rhaglen, ac ni wnaeth y pandemig effeithio ar y gyfradd i raddau helaeth, gyda dim ond gostyngiad bach yn y chwarter Ebrill i Fehefin 2020. Ar gyfer y flwyddyn gyfan 2020, cofnodwyd bod 93% o blant cymwys wedi derbyn eu cyswllt, sef yr un ganran ag yn 2019.
O ran y ddau fath arall o gyswllt (6 wythnos a 6 mis) a gafodd flaenoriaeth yn ystod camau cynnar y pandemig, bu rhywfaint o gwymp yng nghanol y flwyddyn hefyd, ond cynyddodd canran y plant cymwys ar ddiwedd y flwyddyn. Erbyn Hydref i Ragfyr 2020, cofnodwyd bod 80% o blant cymwys yn cael eu cyswllt yn 6 wythnos oed, sef y gyfradd uchaf ers y chwarter Gorffennaf-Medi 2018. Hefyd erbyn chwarter olaf 2020, cofnodwyd bod 85% o blant cymwys wedi cael eu cyswllt yn 6 mis oed, sef yr uchaf erioed ar gyfer y pwynt cyswllt hwnnw.
Effeithiodd y pamdemig COVID-19 yn fwy amlwg ar bob pwynt cyswllt arall, a gostyngodd canran y plant y cofnodwyd eu bod wedi cael cyswllt, yn unol â chanllawiau blaenoriaethu Llywodraeth Cymru. Roedd y gostyngiadau mwyaf yng nghanran y plant cymwys y cofnodwyd eu bod wedi cael cyswllt yn y cysylltiadau ag ymwelwyr iechyd yn 8, 12 ac 16 wythnos oed yn Ebrill i Fehefin 2020. Ers hynny, mae'r cyfraddau wedi gwella ar gyfer pob pwynt cyswllt, ond nid yw pob un ohonynt ar y lefelau yr oeddent cyn y pandemig.
Wrth gymharu’r gyfradd ar gyfer chwarter olaf 2020 â chwarter olaf 2019:
- digwyddodd 8 pwynt canran yn llai ar 8 wythnos
- digwyddodd 4 pwynt canran yn llai ar 12 wythnos
- digwyddodd 6 phwynt canran yn llai ar 16 wythnos
- digwyddodd 4 pwynt canran yn llai ar 15 mis
- digwyddodd 1 pwynt canran yn fwy ar 27 mis
- digwyddodd 8 pwynt canran yn fwy ar 3.5 mlwydd
Mae'r holl gysylltiadau a gynigir drwy Raglen Plant Iach Cymru yn wirfoddol, felly mae dewis personol yn effeithio ar ganran y plant cymwys sy'n cael cyswllt.
Rhesymau dros beidio â chael cyswllt
Dylid anfon gwahoddiad at bob plentyn cymwys ledled Cymru ar gyfer pob cyswllt naill ai'n uniongyrchol drwy'r post (ar gyfer cysylltiadau sy'n cyd-fynd ag imiwneiddiadau, cyn belled ag y rhoddir caniatâd i wneud hynny) neu drwy eu hymwelydd iechyd ar gyfer cysylltiadau dan arweiniad yr ymwelydd iechyd. Os na chofnodir cyswllt, darperir rheswm.
Crynodeb
Yn ystod 2020 roedd ychydig dros 90,350 o gysylltiadau na chofnodwyd eu bod wedi'u gwneud. Bydd hyn naill ai oherwydd:
- na chynigiwyd cysylltiadau gan fyrddau iechyd am nad oedd ganddynt y gallu i'w cynnig
- cynigiwyd cysylltiadau ond ni fanteisiodd rhieni’r plant cymwys arnynt
- Digwyddodd y cysylltiadau, ond ni chafodd y ffurflen casglu data ei llenwi na’i rhoi yn y system iechyd plant
Roedd gan 87% o'r plant hyn wybodaeth wedi'i chofnodi ar y system yn nodi pam na chofnodwyd cyswllt. Roedd mwyafrif (73%) y cysylltiadau heb eu gwneud am nad oedd cofnod o apwyntiad yn cael ei wneud. Pan wnaed apwyntiad, y prif reswm pam na ddigwyddodd y cyswllt oedd oherwydd na ddaethpwyd â’r plentyn i’r apwyntiad (13%).
Cysylltiadau o fewn ystod oedran y rhaglen, 2020
Er bod Rhaglen Plant Iach Cymru wedi'i chynllunio er mwyn i blant gael cyswllt ar oedrannau penodol, yn ymarferol mae gan bob pwynt cyswllt drothwy oedran isaf ac uchaf ar gyfer cyswllt. Pennwyd y trothwyon hyn gan Benaethiaid Ymwelwyr Iechyd mewn byrddau iechyd lleol ac fe'u dangosir yn Nhabl 2.
Cyswllt | Trothwyon oedran: isafswm oedran | Trothwyon oedran: uchafswm oedran |
---|---|---|
Cyswllt am 10 i 14 diwrnod | 10 dyddiau | 14 dyddiau |
Arholiad corfforol am 6 wythnos | 6 wythnosau | 12 wythnosau |
Cyswllt am 8 wythnos | 8 wythnosau | 12 wythnosau |
Cyswllt am 12 wythnos | 12 wythnosau | 16 wythnosau |
Cyswllt am 16 wythnos | 16 wythnosau | 20 wythnosau |
Cyswllt am 6 mis | 26 wythnosau | 35 wythnosau |
Cyswllt ymwelwyr iechyd am 15 mis | 65 wythnosau | 78 wythnosau |
Cyswllt ymwelwyr iechyd am 27 mis | 117 wythnosau | 130 wythnosau |
Cyswllt am 3.5 mlwydd (cyn ysgol) | 185 wythnosau | 208 wythnosau |
Crynodeb
Mae'r rhan fwyaf o'r holl gysylltiadau (72%) yn cael eu gwneud o fewn yr ystod oedran penodedig, er bod rhywfaint o wahaniaethau rhwng pwyntiau cyswllt. Os yw plentyn yn cael ei apwyntiad y tu allan i'r trothwy oedran, mae hynny’n fwy tebygol o fod cyn yr oedran isaf, ar wahân i'r pwynt cyswllt cyntaf. Y ganran fwyaf o blant na chafodd eu gweld o fewn yr ystod oedran yw 3.5 mlwydd oed, lle mae 56% yn cael eu cyswllt cyn y trothwy oedran isaf.
Dechrau'n Deg
Dechrau'n Deg yw prif raglen wedi’i thargedu Llywodraeth Cymru ar gyfer y blynyddoedd cynnar, i deuluoedd sydd â phlant o dan 4 oed. Mae'n cynnig y cyfle i deuluoedd gael gwasanaethau ymwelwyr iechyd gwell, gofal plant rhan-amser am ddim i blant dwy i dair oed, cymorth rhianta, a chymorth i ddatblygu lleferydd, iaith a chyfathrebu. Mae’r rhaglen wedi’i thargedu at ardaloedd yn ôl mesurau amddifadedd cymharol gan gynnwys Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC), prydau ysgol am ddim a chyfran y plant o dan 4 oed sy’n byw mewn cartrefi sy’n derbyn budd-daliadau sy’n gysylltiedig ag incwm.
Mae llwyth achosion plant sy'n byw yn yr ardaloedd Dechrau'n Deg dynodedig wedi'i drosglwyddo o wasanaethau ymweld iechyd generig i Dechrau'n Deg.
Cyhoeddir ystadegau blynyddol sy'n disgrifio gweithgarwch ym meysydd rhaglen Dechrau'n Deg yn ogystal â chanlyniadau i blant sy'n byw mewn ardaloedd Dechrau'n Deg ac ardaloedd eraill: Dechrau'n Deg: ystadegau cryno.
Crynodeb
Mae Siartiau 5a i Siart 5j yn dangos y gwahaniaethau o ran canran y plant cymwys sy'n cael cysylltiadau Rhaglen Plant Iach Cymru rhwng plant sy'n byw mewn ardaloedd Dechrau'n Deg a phlant sy’n byw mewn ardaloedd nad ydynt yn rhan o Dechrau'n Deg.
Roedd rhai gwahaniaethau rhwng ardaloedd Dechrau'n Deg ac ardaloedd nad ydynt yn rhan o Dechrau'n Deg yng nghanran y plant cymwys a oedd yn cael cysylltiadau pan gyflwynwyd Rhaglen Plant Iach Cymru i ddechrau. Roedd hyn i’w ddisgwyl gan fod y ddwy raglen yn cyd-fynd â'i gilydd. Mae’r data’n dangos nad oes fawr o wahaniaeth rhwng canran y bechgyn a chanran y merched sy’n cael cysylltiadau mewn ardaloedd Dechrau’n Deg ac mewn ardaloedd nad ydynt yn rhan o Dechrau’n Deg.
Yn y chwarter diweddaraf, canran y plant cymwys a gafodd gyswllt oedd 73% mewn ardaloedd Dechrau'n Deg a 74% mewn ardaloedd nad ydynt yn rhai Dechrau'n Deg.
Sylwer bod teuluoedd Dechrau'n Deg yn cael mwy o wasanaethau gan ymwelwyr iechyd, gydag ymweliadau ychwanegol ar wythnos 24+ o’r cyfnod cario, o enedigaeth y baban i chwe wythnos oed a rhwng 9 i 12 mis a 18 i 24 mis oed.
Cyfres amser chwarterol: canran y plant cymwys sy'n cael cysylltiadau Rhaglen Plant Iach Cymru ym mhob pwynt cyswllt, Dechrau'n Deg a heb fod yn Dechrau'n Deg
Atodiad 1: Crynodeb o Raglen Plant Iach Cymru, 2017 i 2020
Mae data ar gael yn 'Atodiad 1' (MS Excel).
Atodiad 2: Proffiliau’r byrddau iechyd lleol
Dangosir data ar gyfer 2020 yn y siartiau isod. Mae cyfres amser lawn o ddata chwarterol y byrddau iechyd lleol ar gael ar StatsCymru.
Canran y plant cymwys sy'n cael cyswllt ym mhob pwynt cyswllt, fesul bwrdd iechyd, 2020
Nodyn
Mae amryw o resymau pam y mae canran y plant cymwys sy'n cael cyswllt ym mhob pwynt cyswllt yn wahanol rhwng ardaloedd byrddau iechyd.
Mae gan bob bwrdd iechyd ei heriau ei hun o ran adnoddau, ac yn ystod y pandemig COVID-19, er bod pob bwrdd iechyd wedi ceisio cynnal cynifer o gysylltiadau â phosibl, mae rhai byrddau iechyd wedi gallu cofnodi mwy o gysylltiadau nag eraill. Er enghraifft, dywedodd byrddau iechyd Caerdydd a'r Fro a Hywel Dda nad oeddent yn gallu cofnodi cysylltiadau ffôn ar anterth y pandemig, ond roedd byrddau iechyd eraill wedi gallu gwneud hynny.
Mae pob bwrdd iechyd yn parhau i weithio'n fewnol a chyda Llywodraeth Cymru i wella cydymffurfiaeth â'r rhaglen a rheoli data'n well.
Atodiad 3: Canran y plant cymwys a gafodd gyswllt, yn ôl awdurdod preswyl lleol, 2020
Mae data ar gael yn 'Atodiad 3' (MS Excel).
Gwybodaeth am ansawdd a methodoleg
Rhaglen Plant Iach Cymru
Mae rhagor o wybodaeth am Raglen Plant Iach Cymru ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru ac yn Ngeiriadur Data GIG Cymru.
Newidiadau i’r rhaglen oherwydd y pandemig COVID-19
Bydd y pandemig COVID-19 yn effeithio ar y data o fis Ebrill 2020 ymlaen.
Roedd y byrddau iechyd o dan bwysau mawr i ddarparu gwasanaethau, yn enwedig yn ystod misoedd cyntaf y pandemig, gyda llawer o’r ymwelwyr iechyd yn cael eu symud i rolau gwahanol. Drwy gydol y pandemig cynghorwyd y byrddau iechyd i barhau i gynnal cysylltiadau yn 10 i 14 diwrnod oed, 6 wythnos oed a 6 mis oed.
Roedd cynnal cysylltiadau ar adegau eraill yn amodol ar ganllawiau a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ar wahanol adegau yn ystod y pandemig. Roedd y canllawiau cyntaf a gyhoeddwyd ar 23 Mawrth 2020, pan oedd y byrddau iechyd o dan y straen mwyaf, yn cynghori’r byrddau iechyd i roi blaenoriaeth i gynnal cysylltiadau yn 10 i 14 diwrnod oed, 6-8 wythnos oed a 6 mis oed.
Cyhoeddwyd canllawiau pellach ar 13 Mai 2020 yn cynghori’r byrddau iechyd i adfer cysylltiadau ychwanegol ac i weithio tuag at ddarparu ystod lawn o gysylltiadau.
Ar 25 Awst 2020, cynghorwyd y byrddau iechyd y dylent ailddechrau darparu'r ystod lawn o gysylltiadau.
Wrth i gyfradd heintio COVID-19 gynyddu yn ystod y gaeaf, cyhoeddwyd canllawiau pellach ar 22 Rhagfyr 2020 yn cynghori’r byrddau iechyd i asesu risg rhoi'r gorau i wasanaethau ymwelwyr iechyd neu eu hatal, gan nodi y dylai’r byrddau iechyd barhau, o leiaf, i ddarparu cysylltiadau yn 10 i 14 diwrnod oed, 6 i 8 wythnos oed a 6 mis oed.
Drwy gydol y pandemig COVID-19 lleihawyd cysylltiadau wyneb yn wyneb a byddai llawer o gysylltiadau wedi digwydd dros y ffôn, drwy alwad fideo neu neges wib. Fodd bynnag, ni chofnodwyd pob un o'r rhain ar ffurflenni casglu data, felly bydd yr ystadegau a gyflwynir yn y datganiad hwn yn dangos tangyfrif o'r gweithgarwch gwirioneddol a ddigwyddodd. Erbyn diwedd y flwyddyn, roedd gan bob bwrdd iechyd y modd i gofnodi cysylltiadau o bell ar ffurflenni casglu data.
Cafodd y pandemig COVID-19 effeithiau eraill hefyd ar y nifer a oedd yn manteisio ar gysylltiadau gan ymwelwyr iechyd, a dywedodd y byrddau iechyd bod pryder rhieni, ac unigolion yn gwarchod eu hunain neu’n hunanynysu wedi achosi i deuluoedd beidio â manteisio ar y cysylltiadau a gynigiwyd. Dywedodd y byrddau iechyd hefyd nad oedd llawer o gysylltiadau'n digwydd am nad oedd rhieni'n ateb y ffôn pan ffoniwyd nhw.
Am yr holl resymau hyn, cynghorir bod yn ofalus wrth ddefnyddio data Rhaglen Plant Iach Cymru ar gyfer 2020.
Monitro'r rhaglen a'r ffynhonnell
Cefnogir y rhaglen gan system iechyd plant wedi'i diweddaru, a ddarperir gan Iechyd a Gofal Digidol Cymru. Mae hyn yn sicrhau bod y byrddau iechyd yn gallu trefnu cysylltiadau'n effeithiol o dan Raglen Plant Iach Cymru a bod data cywir a chymaradwy yn cael eu casglu helpu i wneud gwelliannau i iechyd plant ledled Cymru.
Daw data Rhaglen Plant Iach Cymru o’r Gronfa Ddata Genedlaethol ar Iechyd Plant Cymunedol sy’n cynnwys cofnodion dienw ar gyfer yr holl blant a anwyd yng Nghymru, sy’n byw yng Nghymru neu sydd wedi’u trin yng Nghymru ac a anwyd ar ôl 1987. Mae'n dwyn ynghyd ddata o gronfeydd data'r system iechyd plant a gedwir gan fyrddau iechyd lleol. Mae Llywodraeth Cymru ac Iechyd a Gofal Digidol Cymru wedi cydweithio â gweithwyr iechyd proffesiynol i sefydlu set ddata ar gyfer cysylltiadau’r Rhaglen â phlant rhwng 10 diwrnod a 3.5 oed. Cesglir y data gan ymwelwyr iechyd a gweithwyr iechyd proffesiynol eraill a'u cofnodi ar y system iechyd plant gan staff iechyd plant cymunedol y byrddau iechyd. Caiff y Gronfa Ddata Genedlaethol ei diweddaru ar sail cronfeydd data’r system iechyd plant leol bob chwarter (diwedd Ionawr, Ebrill, Gorffennaf a Hydref).
Sylwer mai dim ond data o’r Gronfa Ddata Genedlaethol sy'n cael eu dadansoddi yma ac nad yw cysylltiadau’r Rhaglen Plant Iach cyn 10 diwrnod oed ac ar ôl 3.5 oed yn cael eu hadrodd yn y datganiad hwn. Mae elfennau allweddol y rhaglen yn cael eu hadrodd mewn mannau eraill:
- cyhoeddir ystadegau imiwneiddio (ystadegau COVER) gan Iechyd Cyhoeddus Cymru
- cyhoeddir ystadegau bwydo babanod yn ein datganiad ystadegol blynyddol ar famolaeth a genedigaethau
Mesur cwmpas y rhaglen
Er mwyn mesur sut mae'r rhaglen yn cael ei gweithredu ar gyfer plant sy'n byw yng Nghymru gan ddefnyddio'r Gronfa Ddata Genedlaethol, defnyddiwyd y fethodoleg ganlynol.
- Nodi plant cymwys priodol yn ystod y cyfnod ar gyfer pob cysylltiad. Er enghraifft, o ran y cyswllt 10 i 14 diwrnod oed, rydym wedi edrych ar bob plentyn yng Nghymru sy’n dod yn 10 diwrnod oed yn ystod y chwarter.
- Ar gyfer y plant cymwys hyn rydym wedi cyfrif y cofnodion dilys ar gyfer pob un o gysylltiadau Rhaglen Plant Iach Cymru.
- Oedi chwarter blwyddyn wrth adrodd er mwyn caniatáu amser i gofnodi data yng nghronfeydd data'r system iechyd plant.
- Sylwer bod data blynyddol yn cael eu hechdynnu ar yr un pryd â chwarter olaf y flwyddyn ac nad yw data ar gyfer y tri chwarter blaenorol yn ystod y flwyddyn yn cael eu diwygio. Os cyflwynir data yn hwyr ar gyfer cysylltiadau a ddigwyddodd yn nau chwarter cyntaf y flwyddyn, caiff y rhain eu cyfrif yn y data blynyddol ond nid yn y data chwarterol o'r adeg pan ddigwyddodd y cysylltiadau. O’r herwydd, efallai na fydd y data blynyddol yn cyfateb i gyfanswm y chwarteri cyfansoddol.
Rhoi’r rhaglen ar waith
Dim ond i gysylltiadau canlynol Rhaglen Plant Iach Cymru y mae’r ystadegau yn y datganiad hwn yn berthnasol:
- cyswllt cartref ymwelwyr iechyd yn 10 i 14 diwrnod oed
- cyswllt meddyg teulu yn 6 wythnos oed
- cyswllt gwasanaeth ymwelwyr iechyd (asesiad twf) yn 8, 12 ac 16 wythnos oed
- cyswllt gwasanaeth ymwelwyr iechyd yn 6 mis oed
- cyswllt gwasanaeth ymwelwyr iechyd yn 15 mis oed
- cyswllt gwasanaeth ymwelwyr iechyd yn 27 mis oed
- cyswllt gwasanaeth ymwelwyr iechyd yn 3.5 oed (cyn ysgol)
Ar ôl y cyswllt cartref cyntaf yn 10 i 14 diwrnod oed, gall cysylltiadau gwasanaeth ymwelwyr iechyd ddigwydd naill ai yn y cartref neu mewn clinigau, er y gellir cynnal cysylltiadau asesiadau twf hefyd mewn meddygfeydd. Mae'r archwiliad corfforol yn digwydd yn bennaf mewn meddygfeydd neu mewn clinigau.
Cwmpas
Mae’r ystadegau yn y datganiad yn ymwneud â chysylltiadau gan weithwyr iechyd proffesiynol â phlant sy'n byw yng Nghymru o'u genedigaeth i deirblwydd a hanner oed.
Mae problemau ansawdd data hysbys o ran y data a gesglir drwy Raglen Plant Iach Cymru. Un o'r materion yw y gall y system bapur arwain at dangyfrif mewn gweithgarwch gan ei bod yn dibynnu ar y gweithiwr iechyd proffesiynol yn llenwi'r ffurflen bapur yn gywir, gan ei chyflwyno i weinyddwr iechyd plant, sydd wedyn yn lanlwytho'r data i'r system iechyd plant. Gall y broses hon arwain at fewnbynnu data anghywir ar y ffurflen, ffurflenni'n cael eu cyflwyno'n hwyr neu ddim o gwbl a gwallau priodoli â llaw. Er bod y mwyafrif helaeth o gysylltiadau'n cael eu cofnodi'n gywir, mae'r broses hon yn golygu nad yw data'n cael eu casglu ar gyfer pob plentyn yn ymarferol.
Mae materion penodol sy'n effeithio ar y cysylltiadau 6 ac 8 wythnos. Y cysylltiadau 6 wythnos yw lle mae archwiliad corfforol o'r llygaid, y galon, y ceilliau, y cluniau a'r iechyd cyffredinol yn digwydd a dylai meddyg teulu neu bediatrydd wneud hynny. Dengys data a gofnodwyd yn NCCHD fod tua 80% o'r cysylltiadau hyn wedi digwydd ers cyflwyno'r rhaglen; fodd bynnag, mae adborth gan fyrddau iechyd yn awgrymu bod pob plentyn yn cael cynnig y cyswllt hwn a bod bron pob plentyn yn cael y cyswllt. Yn dilyn ymchwiliad i'r data, roedd yn amlwg bod rhai meddygon teulu wedi cofnodi'r cysylltiadau ar eu systemau meddygon teulu, ond heb gofnodi'r wybodaeth ar ffurflen casglu data Rhaglen Plant Iach Cymru, felly ni fydd yn bresennol yn yr NCCHD.
Yn ogystal â hyn, mae'r cyswllt 8 wythnos â'r ymwelydd iechyd yn aml yn digwydd ar yr un pryd â'r cyswllt meddyg teulu 6 wythnos, ond er mwyn cael ei gofnodi ar yr NCCHD, mae angen cyflwyno ffurflenni casglu data ar wahân ar gyfer pob cyswllt. Gall hyn arwain at gyflwyno nifer o ffurflenni cyswllt 6 wythnos gan yr ymwelydd iechyd yn hytrach na'r ffurflen gyswllt 8 wythnos. Felly mae nifer y cysylltiadau 8 wythnos ar yr NCCHD yn is na nifer y cysylltiadau sy'n digwydd yn ymarferol.
Mae cysylltiadau eraill ag ymwelwyr iechyd sy'n cyd-fynd ag apwyntiadau brechu plant hefyd yn awgrymu bod tangyfrif o weithgarwch a gofnodir yn NCCHD gan fod cyfraddau imiwneiddio yn fwy na chyfradd y plant cymwys sy'n cael cysylltiadau gan Raglen Plant Iach Cymru.
Mae swyddogion Llywodraeth Cymru yn gweithio'n barhaus gyda byrddau iechyd a chydweithwyr gofal sylfaenol i wella ansawdd y data a gofnodir ym mhob cyswllt a'r gobaith yw y gellir cyflwyno system casglu data electronig yn y dyfodol i helpu gyda hyn.
Awdurdod lleol Pen-y-bont ar Ogwr yn symud i fwrdd iechyd arall
Sylwer bod y ddarpariaeth gwasanaeth iechyd ar gyfer trigolion awdurdod lleol Pen-y-bont ar Ogwr wedi symud o Abertawe Bro Morgannwg i Gwm Taf ar 1 Ebrill 2019. Mae'r datganiad hwn ar y cyd yn rhoi rhagor o fanylion.
O ganlyniad, y data chwarterol ar gyfer Ionawr-Mar 2019 oedd y chwarter olaf yn y gyfres amser ar gyfer Cwm Taf ac Abertawe Bro Morgannwg. Mae'r data chwarterol dilynol ar gyfer Ebr-Meh 2019 yn cynnwys data ar gyfer y ddau fwrdd iechyd newydd, Cwm Taf Morgannwg a Bae Abertawe.
Nid yw hyn wedi effeithio ar y gyfres amser ar gyfer pob un o'r pum bwrdd iechyd arall ac ar lefel Cymru.
Ystadegau cysylltiedig
Mae ystadegau mamolaeth a genedigaethau yn darparu ystadegau ar wasanaethau mamolaeth yng Nghymru gan gynnwys gofal cynenedigol, gofal adeg yr enedigaeth a chanlyniadau i fabanod. Mae hefyd yn cynnwys ystadegau ynghylch ble a phryd y cafodd babanod eu geni, eu pwysau geni, a gawsant eu geni cyn eu hamser, a manylion am eu mamau - eu hoedran ac a oedd y babanod yn cael eu bwydo ar y fron.
Mae Dechrau'n Deg yn darparu ystadegau allweddol o'r rhaglen Dechrau'n Deg ar gyfer pob un o'r 22 awdurdod lleol yng Nghymru.
Cyhoeddir crynodeb o’r ystadegau imiwneiddio plant a gynhyrchir gan Iechyd Cyhoeddus Cymru ar StatsCymru.
Mynediad at ddata, cyfrinachedd a rheoli datgelu
Mae'r elfen y mae DHCW yn ei darparu i Lywodraeth Cymru yn ddienw fel nad yw'n cynnwys unrhyw wybodaeth bersonol adnabyddadwy.
Mae’r ystadegau'n ystyried ein canllawiau rheoli datgelu ac yn dilyn canllawiau cyfrinachedd y Swyddfa Ystadegau Gwladol ar gyfer ystadegau iechyd sydd ar gael yn: Canllawiau arfer gorau SYG.
Diwygiadau
Mae’r Gronfa Ddata Genedlaethol ar Iechyd Plant Cymunedol yn gronfa ddata fyw ac echdynnir data o'r gronfa ddata hon bob chwarter. Fel arfer, mae bwlch o 4 mis rhwng yr elfen sy'n cael ei chymryd a'r cyfnod cyfeirio (er enghraifft, bydd y data a echdynnwyd ym mis Ebrill ar gyfer y cyfnod cyfeirio Hydref-Rhag yn y flwyddyn flaenorol). Mae hyn er mwyn caniatáu i adrannau iechyd plant brosesu'r holl ffurflenni casglu data ar gyfer y cyfnod cyfeirio. Dim ond ar gyfer y chwarter diweddaraf y caiff data eu hechdynnu, felly nid yw data ar gyfer pob chwarter blaenorol yn cael eu diwygio fel mater o drefn. Pe bai data ar gyfer cyfnodau a gyhoeddwyd yn flaenorol yn cael eu hechdynnu ar unrhyw adeg ar ôl eu dyddiad echdynnu arferol, gall y niferoedd fod ychydig yn wahanol i'r data cyhoeddedig oherwydd ei bod yn bosibl bod rhai ffurflenni casglu data wedi’u prosesu’n hwyr iawn.
Ni chaiff data ar gyfer cyfnodau amser blaenorol eu diwygio oni bai bod gwallau'n cael eu darganfod. Pe bai data anghywir yn cael eu cyhoeddi, byddai diwygiadau'n cael eu gwneud a’r defnyddwyr yn cael eu hysbysu.
Sut y gallai’r ystadegau hyn gael eu defnyddio?
Bydd yr ystadegau hyn yn cael eu defnyddio mewn amrywiaeth o ffyrdd. Dyma rai enghreifftiau:
- cyngor i weinidogion
- llywio trafodaeth yn y Senedd a thu hwnt
- sicrhau bod data ar gael i'r cyhoedd ar ystadegau iechyd plant yng Nghymru
- monitro'r modd y caiff gwasanaethau eu darparu
- ymchwil iechyd y cyhoedd
- datblygu polisi
Defnyddwyr y data
Dyma brif ddefnyddwyr tebygol y data:
- gweinidogion a Gwasanaeth Ymchwil yr Aelodau yn y Senedd
- byrddau iechyd lleol ac awdurdodau lleol
- sefydliadau gofal sylfaenol
- y gymuned ymchwil
- myfyrwyr, academyddion a phrifysgolion
- y cyhoedd
- ysbytai preifat
- sefydliadau'r GIG
- sefydliadau genedigaeth gwirfoddol
Perthnasedd
Mae'r ystadegau'n rhoi cyfle i fonitro’r ffordd y mae Rhaglen Plant Iach Plant Cymru yn cael ei gweithredu ac i roi cipolwg ar broffil y blynyddoedd cynnar yng Nghymru.
Anogir defnyddwyr yr ystadegau i gysylltu â Llywodraeth Cymru i roi gwybod i ni sut maent yn defnyddio'r data.
Cysylltwyd â defnyddwyr allweddol cyn rhyddhau'r data hyn a byddwn yn parhau i gysylltu â nhw wrth i'r datganiad ystadegol ddatblygu.
Bydd y datganiad yn cael ei addasu i ymateb i newidiadau polisi gan sicrhau bod ein ystadegau'n parhau'n berthnasol.
Cywirdeb
Mae problemau ansawdd data hysbys o ran y data sy’n cael eu casglu drwy'r rhaglen, ac esbonnir y rhan fwyaf ohonynt yn yr adran cwmpas.
Mae'r ffurflen casglu data yn cofnodi gwybodaeth am eitemau data ychwanegol megis anffurfio organau rhywiol menywod (FGM), yr oedran y daeth bwydo ar y fron i ben, yr oedran y cyflwynwyd bwydydd solet, ac amserlen sgiliau tyfu (SOGS). Fodd bynnag, nid yw'r un o'r eitemau data hyn yn cael eu cofnodi ar hyn o bryd gyda chywirdeb a chysondeb digonol i gyhoeddi data.
Mae Llywodraeth Cymru ac Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn gweithio'n barhaus gyda’r byrddau iechyd i wella cyflawnrwydd ac ansawdd. Un rhan o’r gwaith hwn yw newid y ffurflen casglu data i'w gwneud yn haws i ymwelwyr iechyd lenwi a symud o bosibl i system casglu data ar-lein, yn hytrach na defnyddio'r broses bapur gyfredol sydd â llawer o gyfyngiadau.
Cyflawnrwydd
Er gwaethaf y materion yn ymwneud ag ansawdd data ac effaith y pandemig COVID-19, mae cyflawnrwydd y data yn amrywio ar draws rhai o'r eitemau data cyhoeddedig, ond mae'n ddigon uchel i gynhyrchu ystadegau swyddogol gyda nodiadau esboniadol.
Mae'r broses gyfredol o gasglu data ar bapur yn dibynnu ar gwblhau ffurflenni casglu data yn gywir gan weithwyr gofal iechyd proffesiynol, a phrosesu amserol a phriodoli cywir gan weinyddwyr y system iechyd plant.
Amseroldeb a phrydlondeb
Mae'r NCCHD yn cael ei adnewyddu ar sail data sy'n deillio o systemau iechyd plant lleol bob chwarter. Bwriedir cynnal y datganiad ystadegol nesaf ar gyfer haf 2022, yn dilyn diweddaru’r NCCHD ym mis Ebrill a bydd yn cwmpasu'r flwyddyn galendr gyfan ar gyfer 2021.
Yn aml, mae bwlch amser o ran anfon ffurflenni casglu data at weinyddwyr y system iechyd plant, felly caiff data eu tynnu o'r system fel arfer tua 4 mis ar ôl y cyfnod cyfeirio ac fe'i cyhoeddir gan Lywodraeth Cymru, cyn gynted ag y bydd adnoddau'n caniatáu ond fel arfer o fewn 2 fis i dderbyn y data.
I ategu'r datganiad ystadegol blynyddol, cyhoeddir data chwarterol ar StatsCymru.
Hygyrchedd ac eglurder
Cyhoeddir yr ystadegau mewn modd hygyrch, trefnus, a gyhoeddwyd ymlaen llaw, ar wefan Llywodraeth Cymru am 9:30am ar y diwrnod cyhoeddi. Mae negeseuon RSS yn rhoi gwybod i ddefnyddwyr cofrestredig am y cyhoeddiad hwn. Cyhoeddir y datganiadau ar yr Hyb Cyhoeddi Ystadegau Gwladol ar yr un pryd hefyd. Rydym hefyd yn rhoi cyhoeddusrwydd i'n hallbynnau ar Twitter. Gellir lawrlwytho'r holl ddatganiadau yn rhad ac am ddim.
Mae’r tablau data ar gael trwy Stats Cymru bob chwarter.
Defnyddir iaith glir yn ein hallbwn cymaint ag y bo modd ac mae’r holl allbynnau’n cadw at bolisi hygyrchedd Llywodraeth Cymru. Cyhoeddir ein holl benawdau ar dudalennau’r we yn Gymraeg ac yn Saesneg.
Gellir cael rhagor o wybodaeth am yr ystadegau drwy gysylltu â'r staff perthnasol y cyfeirir atynt yn y datganiad neu drwy ystadegau.iechyd@llyw.cymru.
Cymaroldeb a chydlyniaeth
Lle ceir newidiadau i'r data ffynhonnell a ddarperir, dangosir hyn yn yr allbynnau ystadegol. Lle gwyddys ymlaen llaw am newidiadau yn y dyfodol, bydd y rhain yn cael eu cyhoeddi ymlaen llaw yn unol â threfniadau Llywodraeth Cymru.
Mae data a gesglir o NCCHD yn cadw at safonau cenedlaethol ac maent yn gydlynol o fewn ac ar draws sefydliadau iechyd yng Nghymru.
Mae gan Loegr Raglen Plant Iach sy'n gynllun tebyg i Blant Iach Cymru.
Mae gan yr Alban Raglen Iechyd Plant sydd rywfaint yn wahanol i Raglen Plant Iach Cymru.
Mae ystadegau Gogledd Iwerddon ar iechyd y cyhoedd ar gael gan Asiantaeth Iechyd y Cyhoedd Gogledd Iwerddon ac mae ystadegau’r boblogaeth ar gael gan y Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon (NISRA).
Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol
Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yn ymwneud â gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’r Ddeddf yn pennu saith nod llesiant ar gyfer Cymru. Y nodau hynny yw creu Cymru fwy cyfartal, llewyrchus, cydnerth, iach a chyfrifol ar lefel fyd-eang, sydd â chymunedau cydlynus a diwylliant bywiog lle mae'r Gymraeg yn ffynnu. O dan adran (10)(1) o’r Ddeddf, mae’n rhaid i Weinidogion Cymru (a) cyhoeddi dangosyddion (“dangosyddion cenedlaethol”) y mae’n rhaid eu defnyddio i fesur cynnydd wrth gyflawni'r nodau Llesiant; a (b) gosod copi o'r dangosyddion cenedlaethol gerbron Senedd Cymru. Gosodwyd y 46 dangosydd cenedlaethol ym mis Mawrth 2016, ac mae'r datganiad hwn yn cynnwys 1 o’r dangosyddion cenedlaethol, sef Canran y genedigaethau unigol byw â phwysau geni dan 2.5kg.
Mae gwybodaeth am y dangosyddion, ynghyd â naratif ar gyfer pob un o’r nodau llesiant a’r wybodaeth dechnegol gysylltiedig, ar gael yn adroddiad Llesiant Cymru.
Rhagor o wybodaeth am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.
Gallai’r ystadegau sydd wedi’u cynnwys yn y datganiad hwn hefyd ddarparu naratif ategol i’r dangosyddion cenedlaethol a gallai byrddau gwasanaethau cyhoeddus eu defnyddio mewn perthynas â’u hasesiadau llesiant lleol a’u cynlluniau llesiant lleol.
Manylion cyswllt
Ystadegydd: Craig Thomas
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Ffôn: 0300 025 5050
E-bost: ystadegau.iechyd@llyw.cymru
Cyfryngau: 0300 025 8099
SFR 251/2020