Neidio i'r prif gynnwy

Holwch am hanes iechyd yr anifail a'r fuches y daw ohoni, cyn ichi ei brynu.

Cyhoeddwyd gyntaf:
9 Mawrth 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Gall TB gael effaith economaidd fawr ar eich fferm, ac ar les eich anifeiliaid. Gall y gwartheg rydych yn eu prynu ddod â chlefyd i'r fuches. Gallwch leihau'r risg. Holwch ba brofion a chlefydau y mae'r anifail a'r fuches y daw ohoni wedi'u cael. Mae'n bwysig ystyried hefyd beth yw sefyllfa’r clefyd yn yr ardal y daw'r anifail ohoni.

Diogelwch eich buches rhag TB - gofynnwch am ragor o wybodaeth

Cyn ichi brynu gwartheg, gofynnwch y cwestiynau canlynol i'r gwerthwr neu'r ocsiwnïer:

  • a gafodd yr anifail brawf cyn symud? Os do, pryd?
  • pryd cafodd y fuches gyfan brawf ddiwetha?
  • a fuodd yna erioed achos o TB yn y fuches? Os do, ers pryd mae’r fuches wedi bod heb TB?
  • ydy'r fuches yn rhan o gynllun achredu iechyd buchesi TB?

Dyddiad y Prawf Cyn Symud

Yn ddelfrydol, dylai gwartheg gael eu profi cyn eu symud. Ond mae rhoi prawf ar yr anifail yn syth wedi iddo gyrraedd y fuches newydd yn lleihau'r risg o ledaenu'r haint.

Dyddiad y prawf diwethaf ar y fuches gyfan

Gofalwch fod unrhyw anifail sy'n cael ei werthu i fuches sydd heb TB wedi cael prawf TB negyddol. Yng Nghymru, rhaid i bob buches gael o leiaf un prawf bob blwyddyn. Ond mae'n bosibl na fydd gwartheg o rannau eraill o Brydain wedi cael prawf ers cymaint â phedair blynedd. Dylai gwybod bod buches wedi cael prawf negyddol yn ddiweddar dawelu unrhyw ofnau.

Ers pryd y mae’r fuches wedi bod heb TB?

Mae buchesi sydd wedi cael TB o'r blaen ryw dair gwaith yn fwy tebygol o gael TB eto na buchesi sydd heb gael TB o gwbl.  Mae prynu anifail o fuches sydd â hanes o’r clefyd yn fwy o fenter na phrynu anifail o fuches sydd erioed wedi cael TB.

IbTB

Erfyn mapio rhyngweithiol ar-lein yw ibTB. Mae'n dangos yr achosion o TB yng Nghymru a Lloegr sy'n para ac sydd wedi'u datrys dros y 5 mlynedd ddiwethaf. Defnyddiwch e' i weld beth yw sefyllfa TB yn eich ardal chi ac wrth brynu gwartheg.

Sut i ddiogelu'ch hun

Os ydych yn credu y gallai'r gwartheg rydych yn eu prynu fod yn risg, mae yna gamau y gallwch eu cymryd i ddiogelu'ch hun.

Eu cadw ar wahân

Mae TB fwyaf tebygol o ledaenu rhwng anifail sydd â'r haint ac anifail dihaint pan fyddan nhw'n cael eu cadw dan do, neu'n agos i'w gilydd. Peidiwch â gadael i anifail newydd gymysgu â'ch buches nes ei fod wedi cael prawf TB clir. Bydd hyn yn lleihau'r cyfle i unrhyw glefyd ledaenu.

Cynnal profion ar ôl symud

Cyn bod anifail newydd yn cael ymuno â'ch buches, mae'n syniad da rhoi prawf ar ôl symud iddo. Mae hynny'n arbennig o bwysig os nad oes profion yn cael eu cynnal bob blwyddyn ar fuchesi'r ardal y daw ohoni. Bydd yn help i wneud yn siŵr nad yw wedi dal TB ers ei brawf diwethaf. Bydd yn lleihau hefyd y risg o ledaenu'r clefyd i weddill y fuches. Gallwch drefnu profion ar ôl symud trwy'ch milfeddyg preifat.

Marchnadoedd sy'n derbyn grantiau a phrynu gwybodus

Mae rhai marchnadoedd yn cael grant i'w helpu i rannu gwybodaeth yn well. Y nod yw annog ffermwyr i rannu a gofyn am:

  • ddyddiad y prawf cyn symud
  • dyddiad y prawf diwethaf ar y fuches
  • y dyddiad pan gafodd y fuches statws heb TB (os yw hynny'n berthnasol)

Mae'r wybodaeth hon ar y Dystysgrif Profion TB (TB52c).

Dyma farchnadoedd sy'n rhan o'r cynllun:

North South & Mid
Bryncir Llanymddyfri
Dolgellau Llanybydder
Gaerwen Pontsenni
Rhuthun Talgarth
  Tal-y-bont
  Hendy-gwyn ar Daf