Holwch am hanes iechyd yr anifail a'r fuches y daw ohoni, cyn ichi ei brynu.
Cynnwys
Gall TB gael effaith economaidd fawr ar eich fferm, ac ar les eich anifeiliaid. Gall y gwartheg rydych yn eu prynu ddod â chlefyd i'r fuches. Gallwch leihau'r risg. Holwch ba brofion a chlefydau y mae'r anifail a'r fuches y daw ohoni wedi'u cael. Mae'n bwysig ystyried hefyd beth yw sefyllfa’r clefyd yn yr ardal y daw'r anifail ohoni.
Diogelwch eich buches rhag TB - gofynnwch am ragor o wybodaeth
Cyn ichi brynu gwartheg, gofynnwch y cwestiynau canlynol i'r gwerthwr neu'r ocsiwnïer:
- a gafodd yr anifail brawf cyn symud? Os do, pryd?
- pryd cafodd y fuches gyfan brawf ddiwetha?
- a fuodd yna erioed achos o TB yn y fuches? Os do, ers pryd mae’r fuches wedi bod heb TB?
- ydy'r fuches yn rhan o gynllun achredu iechyd buchesi TB?
Dyddiad y Prawf Cyn Symud
Yn ddelfrydol, dylai gwartheg gael eu profi cyn eu symud. Ond mae rhoi prawf ar yr anifail yn syth wedi iddo gyrraedd y fuches newydd yn lleihau'r risg o ledaenu'r haint.
Dyddiad y prawf diwethaf ar y fuches gyfan
Gofalwch fod unrhyw anifail sy'n cael ei werthu i fuches sydd heb TB wedi cael prawf TB negyddol. Yng Nghymru, rhaid i bob buches gael o leiaf un prawf bob blwyddyn. Ond mae'n bosibl na fydd gwartheg o rannau eraill o Brydain wedi cael prawf ers cymaint â phedair blynedd. Dylai gwybod bod buches wedi cael prawf negyddol yn ddiweddar dawelu unrhyw ofnau.
Ers pryd y mae’r fuches wedi bod heb TB?
Mae buchesi sydd wedi cael TB o'r blaen ryw dair gwaith yn fwy tebygol o gael TB eto na buchesi sydd heb gael TB o gwbl. Mae prynu anifail o fuches sydd â hanes o’r clefyd yn fwy o fenter na phrynu anifail o fuches sydd erioed wedi cael TB.
IbTB
Erfyn mapio rhyngweithiol ar-lein yw ibTB (ar ibtb.co.uk). Mae'n dangos yr achosion o TB yng Nghymru a Lloegr sy'n para ac sydd wedi'u datrys dros y 5 mlynedd ddiwethaf. Defnyddiwch e' i weld beth yw sefyllfa TB yn eich ardal chi ac wrth brynu gwartheg.
Sut i ddiogelu'ch hun
Os ydych yn credu y gallai'r gwartheg rydych yn eu prynu fod yn risg, mae yna gamau y gallwch eu cymryd i ddiogelu'ch hun.
Eu cadw ar wahân
Mae TB fwyaf tebygol o ledaenu rhwng anifail sydd â'r haint ac anifail dihaint pan fyddan nhw'n cael eu cadw dan do, neu'n agos i'w gilydd. Peidiwch â gadael i anifail newydd gymysgu â'ch buches nes ei fod wedi cael prawf TB clir. Bydd hyn yn lleihau'r cyfle i unrhyw glefyd ledaenu.
Cynnal profion ar ôl symud
Cyn bod anifail newydd yn cael ymuno â'ch buches, mae'n syniad da rhoi prawf ar ôl symud iddo. Mae hynny'n arbennig o bwysig os nad oes profion yn cael eu cynnal bob blwyddyn ar fuchesi'r ardal y daw ohoni. Bydd yn help i wneud yn siŵr nad yw wedi dal TB ers ei brawf diwethaf. Bydd yn lleihau hefyd y risg o ledaenu'r clefyd i weddill y fuches. Gallwch drefnu profion ar ôl symud trwy'ch milfeddyg preifat.
Marchnadoedd sy'n derbyn grantiau a phrynu gwybodus
Mae rhai marchnadoedd yn cael grant i'w helpu i rannu gwybodaeth yn well. Y nod yw annog ffermwyr i rannu a gofyn am:
- ddyddiad y prawf cyn symud
- dyddiad y prawf diwethaf ar y fuches
- y dyddiad pan gafodd y fuches statws heb TB (os yw hynny'n berthnasol)
Mae'r wybodaeth hon ar y Dystysgrif Profion TB (TB52c).
Dyma farchnadoedd sy'n rhan o'r cynllun:
Gogledd Cymru
- Bryncir
- Dolgellau
- Gaerwen
- Rhuthun
De a Chanolbarth Cymru
- Llanymddyfri
- Llanybydder
- Pontsenni
- Talgarth
- Tal-y-bont
- Hendy-gwyn ar Daf