CHeCS (Safonau Ardystio Iechyd Gwartheg) sy'n penderfynu beth yw statws TB eich buches.
Mae'r statws yn cael ei ddangos fel sgôr. Mae'r sgôr yn seiliedig ar fioddiogelwch a nifer y blynyddoedd ers yr achos diwethaf o TB yn y fuches. Mae'n rhedeg o 0 i 10:
- Mae 0 yn golygu bod y fuches wedi cael achos o TB yn y flwyddyn ddiwethaf
- Mae 10 yn golygu bod 10 mlynedd neu fwy wedi mynd heibio ers yr achos diwethaf
I ffermwyr gwartheg Cymru, mantais ymuno â CHeCS yw:
- gwybod beth yw'r risg sy'n gysylltiedig â phrynu gwartheg
- gwybod pa anifeiliaid sy'n isel eu risg am eu bod o fuchesi sydd heb achos diweddar os o gwbl o TB
- cyfle i fuches wella ei sgôr a defnyddio'r statws i werthu gwartheg sydd wedi'u magu ynddi
- ni fydd angen cynnal prawf ar ôl symud ar anifeiliaid sy'n cael eu symud o fuches lefel 10 mewn ardal TB Ganolradd neu Uchel i fuches mewn Ardal TB Isel
Achredwyr y cynllun CHeCS TB yw:
- HiHealth Herdcare (Biobest)
- Cynllun Iechyd Gwartheg Premiwm (SAC)
Ewch i wefan CHeCS i gymryd rhan a dysgu mwy am achrediad buchesi TB Gwartheg.