Neidio i'r prif gynnwy

Beth yw olrhain cysylltiadau?

Mae olrhain cysylltiadau yn rhan bwysig o strategaeth Profi, Olrhain, Diogelu y Llywodraeth Cymru. Mae'r strategaeth yn cael ei gweithredu drwy wasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu GIG Cymru.

Cyn gynted ag y bydd pobl yn dechrau dangos symptomau o coronafeirws (COVID-19), dylent drefnu prawf mor gyflym â phosibl wrth iddyn nhw, a'r bobl sy'n byw yn yr un tŷ â nhw, hunanynysu. Ar ôl cael canlyniad positif, gofynnir i bobl gefnogi gwasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu GIG Cymru drwy roi gwybod i'r swyddog olrhain cysylltiadau lleol am eu cysylltiadau diweddar fel y gellir cysylltu â nhw a gofyn iddynt hunanynysu (a chymryd prawf os ydynt hefyd yn dangos symptomau), er mwyn helpu i atal lledaeniad y feirws.

Efallai na fydd yn bosibl olrhain pob unigolyn sy'n cael ei gyfeirio at y gwasanaeth olrhain cysylltiadau. Am amryw o resymau, ni fydd manylion cysylltu wedi'u darparu ar gyfer rhai unigolion ac mae'n bosibl nad yw eraill wedi ymateb i alwadau, negeseuon testun neu e-byst gan dimau olrhain. Mae cyfran yr achosion positif a oedd yn gymwys am gysylltiad dilynol, ac y cysylltwyd â nhw, yn cynnwys yr achosion y cysylltwyd â nhw’n llwyddiannus yn unig. Nid yw’n cynnwys achosion lle ceisiodd y swyddogion olrhain cysylltiadau i gysylltu â nhw, ond heb lwyddiant.

Mae’r data yn y datganiad yma yn wybodaeth reoli sy’n cael eu casglu fel rhan o'r broses olrhain cysylltiadau. Nid yw'r data wedi'u casglu at ddibenion ystadegau swyddogol, ac felly nid oes gan y data yr un lefel o sicrwydd ansawdd ag ystadegau swyddogol a bydd yn destun i ddiwygiadau yn y dyfodol. Rydym yn cyhoeddi hyn i ddarparu crynodeb wythnosol o weithgarwch olrhain cysylltiadau yng Nghymru yn ystod y pandemig coronafeirws (COVID-19).

Prif ganlyniadau

Yn ystod yr wythnos ddiwethaf (25 i 31 Gorffennaf 2021):

  • o blith y 4,576 o achosion positif a oedd yn gymwys i'w holrhain, cyrhaeddwyd 4,448 (97.2%) a gofyn iddynt ddarparu manylion y bobl y maent wedi dod i gysylltiad â nhw yn ddiweddar
  • o blith y 13,329 o gysylltiadau agos a oedd yn gymwys i'w holrhain, cysylltwyd a chynghorwyd â 12,562 (94.2%) yn llwyddiannus, neu chafwyd eu hachos ei ddatrys yn syth

Yn gyfan gwbl, ers 21 Mehefin 2020:

  • o blith y 203,627 o achosion positif a oedd yn gymwys i'w holrhain, cyrhaeddwyd 202,649 (99.5%) a gofyn iddynt ddarparu manylion y bobl y maent wedi dod i gysylltiad â nhw yn ddiweddar
  • o blith y 467,503 o gysylltiadau agos a oedd yn gymwys i'w holrhain, cysylltwyd a chynghorwyd â 445,069 (95.2%) yn llwyddiannus, neu chafwyd eu hachos ei ddatrys yn syth
Tabl 1: Achosion positif a atgyfeiriwyd at y system olrhain cysylltiadau, hyd at 31 Gorffennaf 2021
  Wythnos ddiweddaraf 25 i 31 Gorffennaf 2021 Cyfanswm cronnus 21 Mehefin 2020 i 31 Gorffennaf 2021
Achosion cymwys i'w holrhain gan dimau olrhain cysylltiadau lleol 4,576 203,627
Achosion anghymwys i'w holrhain gan dimau olrhain cysylltiadau lleol 823 41,599
Cyfanswm 5,399 245,226

Ffynhonnell: Iechyd a Gofal Digidol Cymru

Darperir gwybodaeth am y math o achosion nad ydynt yn gymwys ar gyfer camau dilynol gan dimau olrhain cysylltiadau lleol yn yr adran am ansawdd a methodoleg.

Image
Dangosai’r siart, dros yr wythnos ddiweddaraf, y cyrhaeddwyd 97.2% o'r rhai a oedd yn gymwys i gael gweithgarwch dilynol ac ni chyrhaeddwyd 2.8% ohonynt.

Achosion positif cymwys i'w holrhain gan dimau olrhain cysylltiadau lleol, hyd at 31 Gorffennaf 2021 (MS Excel)

Tabl 2: Pobl a gadarnhawyd yn gysylltiadau agos, hyd at 31 Gorffennaf 2021
  Wythnos ddiweddaraf 25 i 31 Gorffennaf 2021 Cyfanswm cronnus 21 Mehefin 2020 i 31 Gorffennaf 2021
Achosion cymwys i'w holrhain gan dimau olrhain cysylltiadau lleol 13,329 467,503
Achosion anghymwys i'w holrhain gan dimau olrhain cysylltiadau lleol 2,357 58,991
Cyfanswm 15,686 526,494

Ffynhonnell: Iechyd a Gofal Digidol Cymru

Mae'r ffigurau hyn yn ymwneud â'r holl gysylltiadau agos a nodwyd yn y cyfnod adrodd dan sylw. Mae'n bosibl y bydd rhai wedi'u nodi drwy achosion positif a atgyfeiriwyd at y system olrhain cysylltiadau cyn y cyfnod adrodd. Gall y ffigurau hefyd gynnwys rhai cysylltiadau agos sy'n gymwys i'w holrhain gan dimau olrhain cysylltiadau lleol a nodwyd gan achosion cadarnhaol a gafodd eu trosglwyddo i dimau rhanbarthol i’w rheoli ymlaen.

Image
Dangosai’r siart, dros yr wythnos ddiweddaraf, cafodd 94.2% o gysylltiadau agos a oedd yn gymwys i gael gweithgarwch dilynol eu cysylltu a chynghori yn llwyddiannus, ac nid oedd 5.8%.

Cysylltiadau agos cymwys i'w holrhain gan dimau olrhain cysylltiadau lleol, hyd at 31 Gorffennaf 2021 (MS Excel)

Image
Ers mis Rhagfyr 2020 roedd y cyfartaledd treigl wedi bod yn gostwng yn gyffredinol, gan gyrraedd lefel debyg i ddechrau mis Medi 2020. Yn fwy diweddar, bu cynnydd.

Achosion positif dyddiol sy’n gymwys i gael cyswllt dilynol gan dimau olrhain cysylltiadau lleol, hyd 31 Gorffennaf 2021 (MS Excel)

Image
Ers mis Rhagfyr 2020 roedd y cyfartaledd treigl wedi bod yn gostwng yn gyffredinol, gan gyrraedd lefel debyg i ddechrau mis Medi 2020. Yn fwy diweddar, bu cynnydd.

Cysylltiadau agos dyddiol sy’n gymwys i gael cyswllt dilynol gan dimau olrhain cysylltiadau lleol, hyd 31 Gorffennaf 2021 (MS Excel)

Mae Siartiau 3 a 4 yn cynrychioli’r nifer ddyddiol o achosion positif a’r cysylltiadau agos sy’n gymwys i gael cyswllt dilynol. Gall nifer yr achosion sy’n gymwys am gyswllt dilynol ar gyfer yr wythnosau diwethaf fod ychydig yn wahanol i’r cyhoeddiadau blaenorol oherwydd bod achosion wedi’u nodi fel rhai anghymwys yn dilyn ymchwiliad pellach gan dimau olrhain cysylltiadau. Gallwch weld rhagor o fanylion am y broses hon yn yr adran am ansawdd a methodoleg.

Mae amrywiad rhwng diwrnodau yn adlewyrchu gwahaniaeth yn y galw ar y system (e.e. nifer y profion a gyflawnwyd) gyda rhai dyddiau yn gweld mwy o achosion yn bwydo drwodd i gysylltu â thimau olrhain. Gall brig mewn achosion positif neu gysylltiadau agos ddigwydd o ganlyniad i:

  • ôl-groniad o achosion o ddyddiau blaenorol
  • swp mawr o ganlyniadau profion yn cael eu cyflwyno
  • safle profi newydd yn agor
  • fwy o gapasiti profi ar gael

Yr amser a gymerir i gyrraedd achosion positif a chysylltiadau agos

Yn ystod yr wythnos ddiwethaf (25 i 31 Gorffennaf 2021)

Achosion positif

  • O'r 4,576 o achosion positif a oedd yn gymwys ar gyfer camau dilynol, cyrhaeddwyd 88.8% ohonynt o fewn 24 awr o gael eu hatgyfeirio i'r system olrhain cysylltiadau. Mae hyn gyfystyr â 91.4% o'r rheini y llwyddwyd i'w cyrraedd yn cael eu cyrraedd o fewn 24 awr.
  • Cyrhaeddwyd 95.2% o achosion positif a oedd yn gymwys ar gyfer camau dilynol o fewn 48 awr. Mae hyn gyfystyr â 97.9% o'r rheini y llwyddwyd i'w cyrraedd yn cael eu cyrraedd o fewn 48 awr.

Cysylltiadau agos

  • O'r 13,329 o gysylltiadau agos a oedd yn gymwys ar gyfer camau dilynol, cyrhaeddwyd 80.3% ohonynt o fewn 24 awr o gael eu nodi gan achos positif. Mae hyn gyfystyr â 85.2% o'r rheini y llwyddwyd i'w cyrraedd yn cael eu cyrraedd o fewn 24 awr.
  • Cyrhaeddwyd 90.1% o gysylltiadau agos a oedd yn gymwys ar gyfer camau dilynol o fewn 48 awr o gael eu nodi gan achos positif. Mae hyn gyfystyr â 95.7% o'r rheini y llwyddwyd i'w cyrraedd yn cael eu cyrraedd o fewn 48 awr.
  • O’r amser y cyfeiriwyd achosion positif i’r system olrhain cysylltiadau, cysylltwyd â 44.1% o’r holl gysylltiadau agos a oedd yn gymwys am gysylltiad dilynol o fewn 24 awr. Mae hyn yn golygu y cysylltwyd â 46.8% o’r rhai y cysylltwyd â nhw’n llwyddiannus o fewn 24 awr.
  • O’r amser y cyfeiriwyd achosion positif i’r system olrhain cysylltiadau, cysylltwyd â 66.4% o’r holl gysylltiadau agos a oedd yn gymwys am gysylltiad dilynol o fewn 48 awr. Mae hyn yn golygu y cysylltwyd â 70.5% o’r rhai y cysylltwyd â nhw’n llwyddiannus o fewn 48 awr.

Yn yr wythnosau diwetharaf (25 i 31 Gorffennaf 2021), gwelwyd cynnydd ym mhob un o’r mesurau ar gyfer yr canran o achosion positif a chysylltiadau agos wedi’i gyrraedd o fewn y cyfnodau 24 a 48 awr o’i gymharu â'r wythnos flaenorol. Mae’n debygol bod hyn oherwydd nifer is o achosion positif a chysylltiadau agos a oedd yn gymwys i’w holrhain gan dimau olrhain cysylltiadau lleol.

Data ar gyfer 1 i 21 Mehefin 2020

Roedd yr adroddiadau cynnar, ar gyfer tair wythnos gyntaf olrhain cysylltiadau yng Nghymru, wedi'u seilio ar ddata gan dimau olrhain cysylltiadau lleol a rhanbarthol cyn cyflwyno'r system ddigidol genedlaethol.

Yng Nghymru, yn ystod y cyfnod rhwng 1 a 21 Mehefin 2020, cyfeiriwyd 1,905 o achosion positif at dimau olrhain cysylltiadau lleol a rhanbarthol. Arweiniodd hyn at adnabod 2,616 o gysylltiadau i'w holrhain. Cysylltwyd â 2,117 o'r rhain yn llwyddiannus a'u cynghori.

Bydd rhywfaint o orgyffwrdd yn y ffigurau a nodir o'r system ddigidol genedlaethol a'r adroddiadau cynnar a ddarparwyd gan dimau olrhain cysylltiadau lleol a rhanbarthol. O ganlyniad, ni fyddem yn argymell cyfuno ffigurau o'r ddwy ffrwd adrodd wahanol. Yn y datganiad cyfredol ac mewn fersiynau o'r datganiad hwn yn y dyfodol, bydd y dull adrodd cronnol yn canolbwyntio ar ddata o 21 Mehefin 2020 ymlaen.

Gwybodaeth ansawdd a methodoleg

Ffynhonnell data

Gwybodaeth rheoli yw’r data hyn a ddarparwyd i Lywodraeth Cymru gan Iechyd a Gofal Digidol Cymru. Rydym yn cyhoeddi hyn er mwyn rhoi crynodeb wythnosol o weithgarwch olrhain cysylltiadau yng Nghymru yn ystod pandemig y coronafeirws (COVID-19). Nid yw’r data hyn wedi mynd drwy’r un lefel o sicrhau ansawdd ag ystadegau swyddogol a gellid diwygio’r data yn y dyfodol.

Cafodd y data yn y datganiad hwn eu tynnu o'r system olrhain cysylltiadau am 11:08 ar 3 Awst 2021. Tynnwyd y data hyn 3 diwrnod ar ôl diwedd y cyfnod adrodd er mwyn cynnwys gweithgarwch olrhain a oedd yn ymwneud ag achosion a atgyfeiriwyd tua diwedd y cyfnod adrodd.

Achosion positif a chysylltiadau agos nad ydynt yn gymwys i gael camau dilynol

Mae'r mwyafrif o achosion anghymwys i'w holrhain gan swyddogion olrhain cysylltiadau lleol yn digwydd mewn lleoliadau caeedig megis ysbytai, cartrefi gofal a charchardai. Caiff yr achosion hyn eu huwchgyfeirio at dimau rhanbarthol i'w rheoli ymhellach.

Nid yw achosion positif a chysylltiadau agos nad ydynt yn preswylio yng Nghymru yn gymwys i gael camau dilynol gan dimau olrhain cysylltiadau lleol. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn atgyfeirio’r achosion hynny i’r asiantaeth iechyd y cyhoedd perthnasol er mwyn iddynt gael eu holrhain ymhellach. Byddai’r achosion hyn wedi cael eu cynnwys yn y niferoedd sy’n gymwys i gael camau dilynol yn y datganiadau ystadegol cyn 10 Medi. 

Ar gyfer achosion mewn neuaddau preswyl, mae'n bosibl derbyniwyd myfyrwyr tecst neu gysylltiad gan eu prifysgol i'w chynghori i ynysu, ac nid gan y tîm olrhain cysylltiadau lleol. Nid yw'r math yma o weithgaredd wedi'i gynnwys yn y data olrhain cysylltiadau. Hefyd, nid yw cysylltiadau "swigod" ysgolion yn rhan o’r broses olrhain cysylltiadau ffurfiol gan fod yr ysgol yn cysylltu â hwy'n uniongyrchol ac yn darparu'r canllawiau iechyd cyhoeddus ac ynysu angenrheidiol. Am y rheswm hwn, rydym wedi eithrio'r cysylltiadau hyn o'r ystadegau cysylltiadau agos a gyflwynir yn y datganiad hwn.

Yr amser a gymerir i gyrraedd achosion positif a chysylltiadau agos

Ar gyfer achosion positif, mae'r amser a gymerir i'w cyrraedd yn mesur yr amser rhwng atgyfeirio'r achos i'r system olrhain cysylltiadau, a phan y llwyddir i gysylltu â hwy. Ar gyfer cysylltiadau agos, roedd dau fesurydd. Mae'r cyntaf yn edrych ar yr amser rhwng pan caiff y cysylltiad agos ei nodi gan achos positif, a phan y llwyddir i gysylltu ag ef. Mae'r ail fesurydd yn edrych ar y gwahaniaeth rhwng pan y cafodd yr achos positif a nododd y cyswllt ei atgyfeirio i'r system olrhain cysylltiadau, a phan y llwyddwyd i gysylltu â’r cyswllt agos.

Mae’r mesur olaf yn eithrio nifer fach o gysylltiadau agos ni ellid eu cysylltu'n ôl â'r achos cadarnhaol a'u nododd.

Caiff y dyddiad a’r amser pan lwyddwyd i gysylltu ag achos positif neu gyswllt agos eu hystyried fel y cyntaf o nifer o ddigwyddiadau a gofnodir yn y system. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • pan ceir cofnod o alwad ffôn lwyddiannus (gan gynnwys galwad ffôn gychwynnol gan swyddogion olrhain cysylltiadau i wahodd achosion a chysylltiadau i lenwi’r e-ffurflen)
  • pan cynhelir cyfweliad gyda'r cyswllt
  • pan ceir y gwiriad dyddiol cyntaf
  • pan fydd cysylltiadau agos neu gysylltiadau eraill yn dod yn rhan o'r system olrhain cysylltiadau (ar gyfer achosion positif yn unig)
  • pan nodir bod yr achos 'wedi'i ddatrys'

Dewiswyd y digwyddiadau hyn oherwydd eu bod oll yn dangos bod aelod o’r tîm olrhain cysylltiadau wedi cysylltu’n llwyddiannus â’r unigolyn. Mae’r ystod o ddigwyddiadau yn angenrheidiol oherwydd na cheir cofnod o alwadau ffôn ar gyfer pob achos positif a chysylltiad agos. Gallai hyn godi, er enghraifft, lle mae amryw o achosion ymhlith unigolion sy’n byw ar yr un aelwyd a lle caiff yr wybodaeth ei chofnodi drwy un alwad ffôn yn unig, yn hytrach na galwad ffôn yr un ar gyfer pob unigolyn.

Pan fydd cysylltiadau agos yn cael eu nodi gan achos positif y tu allan i Gymru neu drwy ap y GIG, caiff y rhain eu mewnbynnu i'r system â llaw gan nad yw’r achos positif y cawsant eu nodi ganddo yn bodoli yn system olrhain cysylltiadau Cymru. Gan nad yw'r achos positif yn system olrhain cysylltiadau Cymru, ni ddylai'r cysylltiadau agos hyn gael eu cynnwys yn y mesur amseroldeb o'r adeg y caiff achosion positif eu cyfeirio at y system olrhain cysylltiadau. Dim ond yn ddiweddar y cawsom wybod am y prosesau sy'n gysylltiedig â'r cysylltiadau agos hyn, ac o’r wythnos yn dechrau ar 16 Mai 2021, rydym wedi dileu'r cysylltiadau agos hyn o'r mesur hwn a'r data hanesyddol i adlewyrchu'n fwy cywir yr wybodaeth yn y system olrhain cysylltiadau. Gan fod y cysylltiadau agos hyn yn gymwys i gael eu holrhain o dan system olrhain cysylltiadau Cymru, maent yn dal i ymddangos ym mhob ffigur arall sy'n ymwneud â chysylltiadau agos a gyflwynir yn y datganiad hwn.

Bydd canran y cysylltiadau agos y cysylltwyd â hwy o fewn 24 awr a 48 awr o'r adeg y cyfeiriwyd achosion positif at y system olrhain cysylltiadau yn ymddangos yn uwch nag mewn cyhoeddiadau blaenorol o ganlyniad i'r newid hwn. Ers mis Medi 2020, pan roddwyd y broses ar gyfer y cysylltiadau agos hyn ar waith, mae 60 o gysylltiadau agos bob wythnos ar gyfartaledd wedi’u nodi gan achos positif y tu allan i Gymru neu drwy ap y GIG. Ar gyfer yr wythnos 16 i 22 Mai 2021 pan roddwyd y newid hwn mewn methodoleg ar waith am y tro cyntaf, arweiniodd y newid at gynnydd o 6 phwynt canran yn y mesur prydlondeb o fewn 24 awr a 7 pwynt canran yn y mesur prydlondeb o fewn 48 awr o'r adeg y cyfeiriwyd achosion positif at y system olrhain cysylltiadau.

Data swigod ysgolion

Nid yw cysylltiadau 'swigod' ysgolion yn rhan o’r broses olrhain cysylltiadau ffurfiol, gan fod yr ysgol yn cysylltu â hwy'n uniongyrchol ac yn darparu'r canllawiau angenrheidiol ar iechyd y cyhoedd ac ynysu. Am y rheswm hwn, gan ddechrau â’r datganiad a gyhoeddwyd ar 25 Mawrth 2021 rydym wedi eithrio'r cysylltiadau hyn o'r ystadegau cysylltiadau agos a gyflwynir yn y datganiad hwn. Mae'r holl ddata hanesyddol wedi'u diweddaru i adlewyrchu'r newid hwn.

Mae’n debygol y bydd gan achosion positif gysylltiadau agos ychwanegol o’r ysgol a fydd yn cael eu cyfathrebu i dimau olrhain cysylltiadau lleol a bydd y rhain yn gymwys am gysylltiad dilynol. Mae’r cysylltiadau hyn yn rhan o’r ystadegau yn y datganiad hwn.

Mae modd cymharu’r data a gyflwynir yn y datganiad hwn yn fras â chyhoeddiadau cyn 25 Mawrth 2021, er ein bod yn cynghori yn erbyn defnyddio'r cyhoeddiadau ar 11 Chwefror a 18 Chwefror 2021 i wneud cymariaethau, lle mae'r materion yn y data 'swigod' ysgolion wedi cael yr effaith fwyaf, a'r cyhoeddiad ar 23 Mawrth 2021 lle cafodd pob cyswllt ysgol ei ddileu wrth i ni ymchwilio i fater ansawdd data. Gellir gwneud cymariaethau o fewn data'r gyfres amser yn y datganiad hwn lle mae data 'swigod' ysgolion wedi'u dileu drwyddi draw.

Amlinellir gwybodaeth ac arweiniad ar sut y gall ysgolion a lleoliadau barhau i wneud eu safleoedd mor ddiogel â phosibl ar gyfer staff a dysgwyr, gan gynnwys "swigod" ysgolion, mewn ‘canllawiau gweithredol ar gyfer ysgolion a lleoliadau’ Canllawiau gweithredol i ysgolion a lleoliadau.

Rhagor o wybodaeth am ansawdd a methodoleg

Mae achosion cysylltiadau agos a gafodd eu datrys ryw ffordd arall yn cynnwys nifer bach o achosion pan gafodd yr un cysylltiad ei nodi gan fwy nag un achos positif ar yr un pryd. Bryd hynny, bydd timau olrhain cysylltiadau yn gweithio o un cofnod ar gyfer y cyswllt hwnnw ac yn nodi ar y cofnodion ychwanegol fod yr achos wedi'i ddatrys.

Mae nifer yr achosion a gyfeiriwyd ar gyfer olrhain cysylltiadau yn wahanol i nifer yr achosion newydd a gyhoeddir gan Iechyd Cyhoeddus Cymru. Ni ellir cymharu'r ffynonellau data yma gyda’i gilydd yn uniongyrchol oherwydd gwahaniaethau o ran amseru a lefel y dilysu a wneir, gan fod angen i achosion a gyflwynir i'r system olrhain cysylltiadau gael eu trin â llaw gan dimau olrhain cysylltiadau.

Mae cysylltiadau a gynhyrchir o achosion positif y tu allan i Gymru sy'n gymwys i gael eu dilyn gan dimau olrhain cysylltiadau lleol yng Nghymru wedi'u cynnwys fel cysylltiadau agos yn yr ystadegau hyn. Gall y cysylltiadau hyn effeithio ar y mesurau prydlondeb o greu mynegai achosion ac rydym yn cynnal ymchwiliad pellach gyda chydweithiwr Iechyd a Gofal Digidol Cymru (DHCW) i'r sefyllfaoedd penodol hyn.

Yn y datganiad ar 17 Mai 2021, newidiodd Iechyd a Gofal Digidol Cymru y data olrhain cysylltiadau i ddileu cofnodion dyblyg. Cafodd y newid hwn ei wneud i ddata hanesyddol o ddechrau’r set ddata hon (21 Mehefin 2020) ymlaen. Mae cofnodion dyblyg yn digwydd pan fo mwy nag un achos positif yn nodi’r un cyswllt agos. Yn dilyn y newid hwn, dim ond un waith caiff cysylltiadau agos eu cyfrif yn y ffigurau sy’n gymwys i’w holrhain. Yn flaenorol, cawsant eu cyfrif pob tro y cawsant eu nodi gan achos positif. Mae achosion dyblyg yn cyfrif am hyd at 5% o’r cysylltiadau agos cymwys ym mhob wythnos.

Ar gyfer yr wythnos 21 i 27 Mawrth, gwelwyd cynnydd mawr yn nifer y cysylltiadau a oedd yn gymwys ar gyfer apwyntiad dilynol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, a gellir gweld hyn yn y tablau cysylltiedig a gyhoeddwyd ochr yn ochr â’r datganiad hwn. Credwn mai’r rheswm am hyn yw bod rhai cysylltiadau ysgolion wedi cael eu huwchlwytho’n anghywir ar gyfer y rhanbarth hwn. Cafodd y cynnydd hwn effaith fach ar y ffigurau cenedlaethol a gyflwynir yn y datganiad hwn ar gyfer canran y cysylltiadau a nodwyd, ond effaith fwy ar yr amser a dreuliwyd i gysylltu â’r cysylltiadau agos. Mae rhanbarthau wedi cael eu hatgoffa o’r canllawiau ar uwchlwytho “swigod” ysgolion i’r system er mwyn osgoi rhagor o broblemau gyda’r data.

O rifyn 4 Mawrth 2021 ymlaen, ni chaiff y data ar gyfer teithwyr sy’n cyrraedd o’r tu allan i Ardal Deithio Gyffredin y DU bellach eu cynnwys yn y ffigurau a gyflwynir yn y datganiad hwn, ac maent wedi cael eu tynnu o ddata hanesyddol. O'i gymharu â'r data fel y'i cyhoeddwyd ar 25 Chwefror 2021, mae hyn wedi arwain at ostyngiad bach yn nifer yr achosion cyfeirio a’r cysylltiadau agos yn y data a gyhoeddwyd ar 4 Mawrth 2021 gan fod y teithwyr rhyngwladol hyn yn cynrychioli llai na 3% o'r achosion wythnosol. Mae’r dinasyddion hyn yn ynysu oherwydd eu bod wedi teithio, ac er mwyn osgoi lledaenu unrhyw amrywiolion sy’n peri pryder o bosibl. Felly rhaid iddynt ddilyn proses cwaratîn a reolir wahanol. Os bydd teithiwr sy’n cyrraedd o leoliad rhyngwladol wedyn yn cael canlyniad positif i brawf, bydd wedyn yn dod yn achos cyfeirio, ac felly’n destun proses olrhain cysylltiadau lawn, a bydd yn rhan o’r ystadegau a gyflwynir.

Ar 17 Rhagfyr, cyflwynodd gwasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu GIG Cymru system newydd i roi’r cyfle i bobl ddarparu manylion eu cysylltiadau agos drwy e-ffurflen newydd. Bydd pobl yn cael galwad ffôn gychwynnol gan swyddogion olrhain cysylltiadau i’w gwahodd i lenwi’r e-ffurflen ac mae’r alwad hon yn cael ei diffinio fel cysylltiad llwyddiannus. Mae’r wybodaeth hon wedi’i chynnwys yn y data a ddangosir yn y datganiad hwn a bydd yn cael effaith ar ganran cyffredinol yr achosion positif a’r cysylltiadau y daethpwyd i gysylltiad â nhw yn llwyddiannus, a chanran yr achosion positif a chysylltiadau y cysylltwyd â nhw o fewn 24 a 48 awr.

Oherwydd y gostyngiad mewn achosion positif yng Nghymru ac felly llai o achosion a chysylltiadau i’w holrhain, mae’r rhan fwyaf o dimau olrhain cysylltiadau lleol yn blaenoriaethu galwadau ffôn dros ddefnyddio’r e-ffurflen. Mae hyn yn golygu y bydd e-ffurflenni yn cyfrif am nifer eithriadol o fach o fewn y data a gyflwynir yn y datganiad hwn. Rydym yn parhau i weithio gyda chydweithwyr i fonitro’r defnydd o’r e-ffurflen o fewn y system olrhain cysylltiadau, a byddwn yn cynnwys gwybodaeth bellach ar hyn os bydd y defnydd a wneir o’r e-ffurflen yn dechrau cynyddu’n sylweddol.

Yn yr wythnosau diwethaf, gwelwyd gostyngiad ym mhob un o’r mesurau ar gyfer yr amser a gymerwyd i gyrraedd achosion positif a chysylltiadau agos. Mae’n debygol bod hyn oherwydd nifer uwch o achosion positif a chysylltiadau agos a oedd yn gymwys i’w holrhain gan dimau olrhain cysylltiadau lleol.

Mae’r data ar gyfer olrhain cysylltiadau drwy Ap COVID-19 y GIG yn cael eu cyhoeddi gan yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol ac mae’n cynnwys data ar ddefnyddwyr sydd wedi defnyddio’r gwiriwr symptomau, canlyniadau profion a dderbyniwyd, defnyddwyr y dywedwyd wrthynt i hunanynysu a digwyddiadau ailgydio sydd wedi digwydd. Mae’r data cyhoeddedig diweddaraf a rhagor o wybodaeth i’w cael yn: Pa ddata sydd ar gael am y ffordd y mae ap COVID-19 y GIG yn cael ei ddefnyddio?

Statws Ystadegau Gwladol

Nid yw’r ystadegau hyn yn Ystadegau Gwladol. Ond cyn belled ag sy’n ymarferol, maent wedi’u casglu a’u dilysu yn unol â’r pileri a’r egwyddorion yn y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau. Rydym yn parhau i ddatblygu’r data a gasglwyd a’r broses sicrwydd ansawdd i wella’r data.

Cynhyrchwyd yr ystadegau hyn yn gyflym mewn ymateb i ddatblygiadau ar draws y byd.

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol

Diben Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yw gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’r Ddeddf yn sefydlu saith nod llesiant ar gyfer Cymru. Diben y nodau yw creu Cymru sy’n fwy cyfartal, lewyrchus, cydnerth, iachach a chyfrifol yn fyd-eang, gyda chymunedau cydlynus, a diwylliant bywiog lle mae’r iaith Gymraeg yn ffynnu. O dan adran (10)(1) o’r Ddeddf, mae’n rhaid i Weinidogion Cymru (a) gyhoeddi dangosyddion ('dangosyddion cenedlaethol') y mae’n rhaid eu defnyddio at ddiben mesur cynnydd tuag at gyflawni’r nodau llesiant, a (b) gosod copi o’r dangosyddion cenedlaethol gerbron Senedd Cymru. Gosodwyd y 46 o ddangosyddion cenedlaethol ym mis Mawrth 2016.

Mae gwybodaeth ar y dangosyddion, ynghyd â disgrifiad o bob un o’r nodau llesiant a gwybodaeth dechnegol gysylltiedig ar gael yn adroddiad Llesiant Cymru.

Gwybodaeth bellach ar Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.

Gallai’r ystadegau yn y datganiad hwn hefyd gyfrannu at y dangosyddion cenedlaethol a gellir eu defnyddio gan fyrddau gwasanaethau cyhoeddus ar gyfer llunio asesiadau llesiant lleol a chynlluniau llesiant lleol.

Gwybodaeth bellach

I gael gwybodaeth a chyngor ar olrhain cysylltiadau, ewch i’n tudalennau canllawiau Profi, olrhain, diogelu: coronafeirws.

Diweddariad nesaf

Datganiad ystadegol wythnosol yw hwn ar hyn o bryd. Bydd yn cael ei gyhoeddi am 09:30 am bob dydd Iau. Byddwn yn adolygu hyn yn unol ag anghenion newidiol y defnyddwyr.

Bydd y datganiad nesaf yn cael ei gyhoeddi ddydd Iau 12 Awst 2021.

Rydym eisiau eich adborth

Rydym yn croesawu adborth ar unrhyw agwedd o’r ystadegau hyn. Gallwch anfon adborth dros e-bost i kas.covid19@llyw.cymru.

Manylion cyswllt

Ystadegydd: Alex Fitzpatrick
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Ffôn: 0300 025 5050
E-bost: kas.covid19@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099

SFR 236/2021