Neidio i'r prif gynnwy

1. Beth yw olrhain cysylltiadau?

Mae olrhain cysylltiadau yn rhan bwysig o strategaeth Profi, Olrhain, Diogelu y Llywodraeth Cymru. Mae'r strategaeth yn cael ei gweithredu drwy wasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu GIG Cymru.

Cyn gynted ag y bydd pobl yn dechrau dangos symptomau o coronafeirws (COVID-19), dylent drefnu prawf mor gyflym â phosibl wrth iddyn nhw, a'r bobl sy'n byw yn yr un tŷ â nhw, hunanynysu. Mae olrhain cysylltiadau yn ddibynnol ar brofion yn cael eu cymryd yn gyflym. Ar ôl cael canlyniad positif, gofynnir i bobl gefnogi gwasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu GIG Cymru drwy roi gwybod i'r swyddog olrhain cysylltiadau lleol am eu cysylltiadau diweddar fel y gellir cysylltu â nhw a gofyn iddynt hunanynysu (a chymryd prawf os ydynt hefyd yn dangos symptomau), er mwyn helpu i atal lledaeniad y feirws.

Efallai na fydd yn bosibl olrhain pob unigolyn sy'n cael ei gyfeirio at y gwasanaeth olrhain cysylltiadau. Am amryw o resymau, ni fydd manylion cysylltu wedi'u darparu ar gyfer rhai unigolion ac mae'n bosibl nad yw eraill wedi ymateb i alwadau, negeseuon testun neu e-byst gan dimau olrhain.

2. Ffigurau penawdau cenedlaethol

Rhwng 6 a 12 Medi

  • o blith y 961 o achosion positif a oedd yn gymwys i'w holrhain, cyrhaeddwyd 917 (95%) a gofyn iddynt ddarparu manylion y bobl y maent wedi dod i gysylltiad â nhw yn ddiweddar
  • o blith y 4,231 o gysylltiadau agos a oedd yn gymwys i'w holrhain, cysylltwyd a chynghorwyd â 3,709 (88%) yn llwyddiannus, neu chafwyd eu hachos ei ddatrys yn syth

Yn gyfan gwbl, ers 21 Mehefin

  • o blith y 2,855 o achosion positif a oedd yn gymwys i'w holrhain, cyrhaeddwyd 2,786 (98%) a gofyn iddynt ddarparu manylion y bobl y maent wedi dod i gysylltiad â nhw yn ddiweddar
  • o blith y 10,418 o gysylltiadau agos a oedd yn gymwys i'w holrhain, cysylltwyd a chynghorwyd â 9,655 (93%) yn llwyddiannus, neu chafwyd eu hachos ei ddatrys yn syth
Tabl 1: Achosion positif a atgyfeiriwyd at y system olrhain cysylltiadau, hyd at 12 Medi 2020
  Wythnos ddiweddaraf 6 i 12 Medi 2020 Cyfanswm cronnus 21 Mehefin i 12 Medi 2020
Achosion cymwys i'w holrhain gan dimau olrhain cysylltiadau lleol 961 2,855
Achosion anghymwys i'w holrhain gan dimau olrhain cysylltiadau lleol 121 1,034
Cyfanswm 1,082 3,889

Ffynhonnell: Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru

Darperir gwybodaeth am y math o achosion nad ydynt yn gymwys ar gyfer camau dilynol gan dimau olrhain cysylltiadau lleol yn yr adran am ansawdd a methodoleg.

Image
Dangosai’r siart, dros yr wythnos ddiweddaraf, y cyrhaeddwyd 95% o'r rhai a oedd yn gymwys i gael gweithgarwch dilynol ac ni chyrhaeddwyd 5% ohonynt. Yn gyfanswm, ers 21 Mehefin, cyrhaeddwyd 98% ac ni chyrhaeddwyd 2%.

 

Tabl 2: Pobl a gadarnhawyd yn gysylltiadau agos, hyd at 12 Medi 2020
  Wythnos ddiweddaraf 6 i 12 Medi 2020 Wythnos ddiweddaraf 21 Mehefin to 12 Medi 2020
Achosion cymwys i'w holrhain gan dimau olrhain cysylltiadau lleol 4,231 10,418
Achosion anghymwys i'w holrhain gan dimau olrhain cysylltiadau lleol 300 1,117
Cyfanswm 4,531 11,535

Ffynhonnell: Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru

Mae'r ffigurau hyn yn ymwneud â'r holl gysylltiadau agos a nodwyd yn y cyfnod adrodd dan sylw. Mae'n bosibl y bydd rhai wedi'u nodi drwy achosion positif a atgyfeiriwyd at y system olrhain cysylltiadau cyn y cyfnod adrodd. Gall y ffigurau hefyd gynnwys rhai cysylltiadau agos sy'n gymwys i'w holrhain gan dimau olrhain cysylltiadau lleol a nodwyd gan achosion cadarnhaol a gafodd eu trosglwyddo i dimau rhanbarthol i’w rheoli ymlaen.

Image
Dangosai’r siart, dros yr wythnos ddiweddaraf, cafodd 88% o gysylltiadau agos a oedd yn gymwys i gael gweithgarwch dilynol eu cysylltu a chynghori yn llwyddiannus, ac nid oedd 12%. Yn gyfanswm, ers 21 Mehefin, cafodd 93% eu cysylltu a chynghori yn llwyddiannus ac nid oedd 7%.

3. Yr amser a gymerir i gyrraedd achosion positif a chysylltiadau agos

Rhwng 6 a 12 Medi

Achosion positif

  • O'r 961 o achosion positif a oedd yn gymwys ar gyfer camau dilynol, cyrhaeddwyd 88% ohonynt o fewn 24 awr o gael eu hatgyfeirio i'r system olrhain cysylltiadau. Mae hyn gyfystyr â 92% o'r rheini y llwyddwyd i'w cyrraedd yn cael eu cyrraedd o fewn 24 awr.
  • Cyrhaeddwyd 93% o achosion positif a oedd yn gymwys ar gyfer camau dilynol o fewn 48 awr. Mae hyn gyfystyr â 98% o'r rheini y llwyddwyd i'w cyrraedd yn cael eu cyrraedd o fewn 48 awr.

Cysylltiadau agos

  • O'r 4,231 o gysylltiadau agos a oedd yn gymwys ar gyfer camau dilynol, cyrhaeddwyd 73% ohonynt o fewn 24 awr o gael eu nodi gan achos positif. Mae hyn gyfystyr â 84% o'r rheini y llwyddwyd i'w cyrraedd yn cael eu cyrraedd o fewn 24 awr.
  • Cyrhaeddwyd 83% o gysylltiadau agos a oedd yn gymwys ar gyfer camau dilynol o fewn 48 awr o gael eu nodi gan achos positif. Mae hyn gyfystyr â 95% o'r rheini y llwyddwyd i'w cyrraedd yn cael eu cyrraedd o fewn 48 awr.
  • Cyrhaeddwyd 42% o gysylltiadau agos a oedd yn gymwys ar gyfer camau dilynol o fewn 24 awr i pan y cafodd yr achos positif â'u nodwyd ei atgyfeirio i’r system olrhain cysylltiadau. Mae hyn gyfystyr â 48% o'r rheini y llwyddwyd i'w cyrraedd yn cael eu cyrraedd o fewn 24 awr.
  • Cyrhaeddwyd 71% o gysylltiadau agos a oedd yn gymwys ar gyfer camau dilynol o fewn 48 awr i pan y cafodd yr achos positif â'u nodwyd ei atgyfeirio i’r system olrhain cysylltiadau. Mae hyn gyfystyr â 81% o'r rheini y llwyddwyd i'w cyrraedd yn cael eu cyrraedd o fewn 48 awr.

4. Data ar gyfer 1 i 21 Mehefin 2020

Roedd yr adroddiadau cynnar, ar gyfer tair wythnos gyntaf olrhain cysylltiadau yng Nghymru, wedi'u seilio ar ddata gan dimau olrhain cysylltiadau lleol a rhanbarthol cyn cyflwyno'r system ddigidol genedlaethol.

Yng Nghymru, yn ystod y cyfnod rhwng 1 a 21 Mehefin, cyfeiriwyd 1,905 o achosion positif at dimau olrhain cysylltiadau lleol a rhanbarthol. Arweiniodd hyn at adnabod 2,616 o gysylltiadau i'w holrhain. Cysylltwyd â 2,117 o'r rhain yn llwyddiannus a'u cynghori.

Bydd rhywfaint o orgyffwrdd yn y ffigurau a nodir o'r system ddigidol genedlaethol a'r adroddiadau cynnar a ddarparwyd gan dimau olrhain cysylltiadau lleol a rhanbarthol. O ganlyniad, ni fyddem yn argymell cyfuno ffigurau o'r ddwy ffrwd adrodd wahanol. Mewn fersiynau o'r datganiad hwn yn y dyfodol, bydd y dull adrodd cronnol yn canolbwyntio ar ddata o 21 Mehefin 2020 ymlaen.

5. Gwybodaeth ansawdd a methodoleg

Ffynhonnell data

Gwybodaeth rheoli yw’r data hyn a ddarparwyd i Lywodraeth Cymru gan GIG Cymru Gwasanaeth Gwybodeg. Rydym yn cyhoeddi hyn er mwyn rhoi crynodeb wythnosol o weithgarwch olrhain cysylltiadau yng Nghymru yn ystod pandemig y coronafeirws (COVID-19). Nid yw’r data hyn wedi mynd drwy’r un lefel o sicrhau ansawdd ag ystadegau swyddogol a gellid diwygio’r data yn y dyfodol.

Cafodd y data yn y datganiad hwn eu tynnu o'r system olrhain cysylltiadau am 12:00 ar 15 Medi 2020. Tynnwyd y data hyn 3 diwrnod ar ôl diwedd y cyfnod adrodd er mwyn cynnwys gweithgarwch olrhain a oedd yn ymwneud ag achosion a atgyfeiriwyd tua diwedd y cyfnod adrodd.

Achosion positif a chysylltiadau agos nad ydynt yn gymwys i gael camau dilynol

Mae'r mwyafrif o achosion anghymwys i'w holrhain gan swyddogion olrhain cysylltiadau lleol yn digwydd mewn lleoliadau caeedig megis ysbytai, cartrefi gofal a charchardai. Caiff yr achosion hyn eu huwchgyfeirio at dimau rhanbarthol i'w rheoli ymhellach.

Nid yw achosion positif a chysylltiadau agos nad ydynt yn preswylio yng Nghymru yn gymwys i gael camau dilynol gan dimau olrhain cysylltiadau lleol. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn atgyfeirio’r achosion hynny i’r asiantaeth iechyd y cyhoedd perthnasol er mwyn iddynt gael eu holrhain ymhellach. Byddai’r achosion hyn wedi cael eu cynnwys yn y niferoedd sy’n gymwys i gael camau dilynol yn y datganiadau ystadegol cyn 10 Medi. 

Yr amser a gymerir i gyrraedd achosion positif a chysylltiadau agos

Ar gyfer achosion positif, mae'r amser a gymerir i'w cyrraedd yn mesur yr amser rhwng atgyfeirio'r achos i'r system olrhain cysylltiadau, a phan y llwyddir i gysylltu â hwy. Ar gyfer cysylltiadau agos, roedd dau fesurydd. Mae'r cyntaf yn edrych ar yr amser rhwng pan caiff y cysylltiad agos ei nodi gan achos positif, a phan y llwyddir i gysylltu ag ef. Mae'r ail fesurydd yn edrych ar y gwahaniaeth rhwng pan y cafodd yr achos positif a nododd y cyswllt ei atgyfeirio i'r system olrhain cysylltiadau, a phan y llwyddwyd i gysylltu â ’r cyswllt agos.

Mae’r mesur olaf yn eithrio nifer fach o gysylltiadau agos ni ellid eu cysylltu'n ôl â'r achos cadarnhaol a'u nododd.

Caiff y dyddiad a’r amser pan lwyddwyd i gysylltu ag achos positif neu gyswllt agos eu hystyried fel y cyntaf o nifer o ddigwyddiadau a gofnodir yn y system. Mae’r rhain yn cynnwys: 

  • Pan ceir cofnod o alwad ffôn lwyddiannus
  • Pan cynhelir cyfweliad gyda'r cyswllt
  • Pan ceir y gwiriad dyddiol cyntaf
  • Pan fydd cysylltiadau agos neu gysylltiadau eraill yn dod yn rhan o'r system olrhain cysylltiadau (ar gyfer achosion positif yn unig)
  • Pan nodir bod yr achos 'wedi'i ddatrys'

Dewiswyd y digwyddiadau hyn oherwydd eu bod oll yn dangos bod aelod o’r tîm olrhain cysylltiadau wedi cysylltu’n llwyddiannus â’r unigolyn. Mae’r ystod o ddigwyddiadau yn angenrheidiol oherwydd na cheir cofnod o alwadau ffôn ar gyfer pob achos positif a chysylltiad agos. Gallai hyn godi, er enghraifft, lle mae amryw o achosion ymhlith unigolion sy’n byw ar yr un aelwyd a lle caiff yr wybodaeth ei chofnodi drwy un alwad ffôn yn unig, yn hytrach na galwad ffôn yr un ar gyfer pob unigolyn.

Rhagor o wybodaeth am ansawdd a methodoleg

Mae achosion cysylltiadau agos a gafodd eu datrys ryw ffordd arall yn cynnwys nifer bach o achosion pan gafodd yr un cysylltiad ei nodi gan fwy nag un achos positif ar yr un pryd. Bryd hynny, bydd timau olrhain cysylltiadau yn gweithio o un cofnod ar gyfer y cyswllt hwnnw ac yn nodi ar y cofnodion ychwanegol fod yr achos wedi'i ddatrys.

Mae nifer yr achosion a atgyfeiriwyd ar gyfer olrhain cysylltiadau yn wahanol na nifer yr achosion newydd a gyhoeddwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru oherwydd gwahaniaethau mewn amseru a lefel y dilysiad. Rydym yn gwneud gwaith pellach i ddeall ac esbonio'r gwahaniaethau hyn.

Statws Ystadegau Gwladol

Nid yw’r ystadegau hyn yn Ystadegau Gwladol. Ond cyn belled ag sy’n ymarferol, maent wedi’u casglu a’u dilysu yn unol â’r pileri a’r egwyddorion yn y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau. Rydym yn parhau i ddatblygu’r data a gasglwyd a’r broses sicrwydd ansawdd i wella’r data.

Cynhyrchwyd yr ystadegau hyn yn gyflym mewn ymateb i ddatblygiadau ar draws y byd.

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol

Diben Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yw gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’r Ddeddf yn sefydlu saith nod llesiant ar gyfer Cymru. Diben y nodau yw creu Cymru sy’n fwy cyfartal, lewyrchus, cydnerth, iachach a chyfrifol yn fyd-eang, gyda chymunedau cydlynus, a diwylliant bywiog lle mae’r iaith Gymraeg yn ffynnu. O dan adran (10)(1) o’r Ddeddf, mae’n rhaid i Weinidogion Cymru (a) gyhoeddi dangosyddion ('dangosyddion cenedlaethol') y mae’n rhaid eu defnyddio at ddiben mesur cynnydd tuag at gyflawni’r nodau llesiant, a (b) gosod copi o’r dangosyddion cenedlaethol gerbron y Cynulliad Cenedlaethol. Gosodwyd y 46 o ddangosyddion cenedlaethol ym mis Mawrth 2016.

Mae gwybodaeth ar y dangosyddion, ynghyd â disgrifiad o bob un o’r nodau llesiant a gwybodaeth dechnegol gysylltiedig ar gael yn adroddiad Llesiant Cymru.

Gwybodaeth bellach ar Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.

Gallai’r ystadegau yn y datganiad hwn hefyd gyfrannu at y dangosyddion cenedlaethol a gellir eu defnyddio gan fyrddau gwasanaethau cyhoeddus ar gyfer llunio asesiadau llesiant lleol a chynlluniau llesiant lleol.

Diweddariad nesaf

Datganiad ystadegol wythnosol yw hwn ar hyn o bryd. Bydd yn cael ei gyhoeddi am 09:30am bob dydd Iau. Byddwn yn adolygu hyn yn unol ag anghenion newidiol y defnyddwyr.

Bydd y datganiad nesaf yn cael ei gyhoeddi ddydd Iau 24 Medi.

Rydym eisiau eich adborth

Rydym yn croesawu adborth ar unrhyw agwedd o’r ystadegau hyn. Gallwch anfon adborth dros e-bost i kas.covid19@llyw.cymru.

Gwybodaeth bellach

I gael gwybodaeth a chyngor ar olrhain cysylltiadau, ewch i’n tudalennau canllawiau Profi, olrhain, diogelu: coronafeirws.

6. Manylion cyswllt

Ystadegydd: Alexandra Fitzpatrick
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Ffôn: 0300 025 5050
E-bost: kas.covid19@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099

SFR 146/2020