Neidio i'r prif gynnwy

1. Prif ffigurau cenedlaethol

Mae'r siart llinell yn dangos bod nifer y lleoliadau sydd ar agor a disgyblion a staff yn bresennol wedi gostwng yn ystod gwyliau ysgol y Pasg a gwyliau Sulgwyn, ond cyrhaeddodd ei uchafbwynt yn ystod yr wythnos diwethaf 22 i 26 Mehefin.

Nifer y lleoliadau ar agor a nifer y plant a staff yn mynychu yn ystod yr wythnos, 24 Mawrth i 26 Mehefin 2020 (MS Excel)

Yn ystod yr wythnos o 22 i 26 Mehefin:

  • Ar gyfartaledd roedd 748 lleoliad ar agor bob dydd, i fyny o’r 518 yn yr wythnos flaenorol. Roedd 456 o leoliadau ar agor ar gyfartaledd yn ystod yr wythnos cyn gwyliau ysgol y Sulgwyn. Mae mwy o awdurdodau lleol wedi symud tuag at ddefnyddio ‘hybiau’ ers i ni ddechrau casglu’r data.
  • Roedd 7,700 o blant yn bresennol yn y lleoliadau, i fyny o’r 7,300 yn yr wythnos flaenorol a’r 5,600 dros yr wythnos cyn y gwyliau ysgol Sulgwyn. Fel arfer, mae presenoldeb ar ddydd Gwener yn is, sydd efallai yn adlewyrchiad o batrymau gweithio gweithwyr allweddol rhan amser.
  • Roedd 5,100 o staff yn bresennol, i fyny o 4,100 yr wythnos flaenorol a’r 3,400 yn yr wythnos cyn y gwyliau ysgol Sulgwyn.

Mae'r siart llinell yn dangos bod canran y lleoliadau a agorwyd wedi cwympo yn ystod gwyliau ysgol y Pasg, wedi cynyddu ar ôl hynny. Mae nawr wedi cyrraedd ei lefel uchaf ers mis Mawrth.

Canran y lleoliadau ar agor yn ystod yr wythnos, 24 Mawrth i 26 Mehefin 2020 (MS Excel)

Yn ystod yr wythnos o 22 i 26 Mehefin:

  • Ar gyfartaledd roedd 51% o leoliadau ar agor, i fyny o’r 35% dros yr wythnos flaenorol ac i fyny ychydig o’r 31% yn yr wythnos cyn y gwyliau ysgol Sulgwyn.

Mae'r siart llinell yn dangos bod canran y disgyblion a'r staff a oedd yn bresennol wedi gostwng yn ystod gwyliau ysgol y Pasg a gwyliau Sulgwyn, ond wedi cynyddu yn gyffredinol yn y cyfnod rhwng y gwyliau. Roedd canran y disgyblion a oedd yn bresennol yn uwch yn ystod y pythefnos diweddaraf nac unrhyw wythnos cyn dechrau casglu'r data.

Canran y plant a staff yn bresennol yn ystod yr wythnos, 24 Mawrth i 26 Mehefin 2020 (MS Excel)

Yn ystod yr wythnos o 22 i 26 Mehefin:

  • 1.8% neu lai o blant wedi mynychu lleoliad awdurdod lleol pob diwrnod ers i ni ddechrau casglu'r data.
  • Ar gyfartaledd, 10.1% o staff yn bresennol mewn lleoliadau awdurdod lleol  yn yr wythnos hon, i fyny o’r 8.2% dros yr wythnos flaenorol a’r 6.7% yr wythnos cyn y gwyliau ysgol Sulgwyn.

Mae'r siart llinell yn dangos bod canran y plant agored i niwed a oedd yn bresennol wedi gostwng yn ystod gwyliau ysgol y Pasg a gwyliau Sulgwyn, ond wedi cyrraedd ei uchafbwynt pythefnos yn ôl ac wedi gostwng ychydig bach yn yr wythnos o 22 i 26 Mehefin.

Nifer a chanran y plant agored i niwed yn bresennol yn ystod yr wythnos, 24 Mawrth i 26 Mehefin 2020 (MS Excel)

Plant agored i niwed yw’r rhai sydd dan ofal gweithiwr cymdeithasol a’r rhai sydd â Datganiad o anghenion addysgol arbennig. Gweler y nodiadau am ragor o wybodaeth.

Mae'r canrannau yn y siart hon yn seiliedig ar gyfanswm amcangyfrifedig o 24,112 o blant agored i niwed yng Nghymru. Gweler y nodiadau am ragor o fanylion ar y cyfrifiad hwn. Mae'r canrannau a ddangosir yn gyfartaleddau wythnosol o ganran yr holl blant agored i niwed sy'n mynychu lleoliadau.

Yn ystod yr wythnos o 22 i 26 Mehefin:

  • Ar gyfartaledd mynychodd 1,470 (6.1%) o blant agored i niwed leoliadau, tebyg i’r 1,520 (6.3%) yr wythnos flaenorol ac i fyny o’r 1,200 (5.0%) yn yr wythnos cyn gwyliau ysgol y Sulgwyn.

2. Gwybodaeth am ansawdd a methodoleg

Cyd-destun

Ar ddydd Mercher 18 Mawrth 2020 cyhoeddwyd y byddai pob sefydliad addysgol yng Nghymru yn cau o ddydd Gwener 20 Mawrth 2020 fan bellaf. Yr unig eithriad yw ddarpariaeth ar gyfer plant gweithwyr allweddol a phlant sy'n agored i niwed oherwydd y pandemig parhaus coronafeirws.

Mae gan Addysg a gofal plant: coronafeirws ystod eang o wybodaeth am addysg yng Nghymru ac effaith coronafeirws.

Mae'r wybodaeth hon yn helpu i fonitro'r nifer sy'n derbyn lle a’r galw am leoedd ac yn cyfrannu at fonitro a gwneud penderfyniadau ledled y DU.

Diffiniad o blant agored i niwed

Plant agored i niwed yw’r rhai sydd dan ofal gweithiwr cymdeithasol a’r rhai sydd â Datganiad o anghenion addysgol arbennig. At ddibenion y ddarpariaeth, mae’r rhai sydd dan ofal gweithiwr cymdeithasol yn cynnwys plant â chynlluniau gofal a chymorth neu gynlluniau cymorth, plant ar y gofrestr amddiffyn plant a phlant sy’n derbyn gofal. Ceir rhagor o wybodaeth ar ein tudalen Plant agored i niwed a diogelu: y coronafeirws.

I gyfrifo canran y plant agored i niwed sy'n mynychu lleoliad, rydym wedi amcangyfrif bod cyfanswm y plant sy'n agored i niwed yng Nghymru yn 24,112. Cyfrifir hyn fel a ganlyn:

Nifer y plant yn y Cyfrifiad Plant sy'n Derbyn Gofal a Chefnogaeth (CRCS) gyda UPN ym mis Mawrth 2019 13,462
Nifer y plant yn CYBLD gyda datganiad o anghenion addysgol arbennig ym mis Ionawr 2020 13,513
Nifer y plant yn CRCS a CYBLD 2,863
Nifer y plant yn CYBLD ar ôl tynnu allan y plant hynny sydd hefyd yn CRCS 13,513
- 2,863
= 10,650
Nifer y plant yn CRCS + nifer y plant ychwanegol yn CYBLD = nifer y plant agored i niwed 13,462
+ 10,650
= 24,112

Perthnasedd

Defnyddir yr ystadegau hyn yn ddyddiol at nifer o ddibenion:

  • deall goblygiadau ar galw ac adnoddau
  • cefnogi cyngor ar sail tystiolaeth ar benderfyniadau yn y dyfodol ynghylch adolygiadau o drefniadau cyfyngiad symud
  • cyfraniadau at fonitro a gwneud penderfyniadau ledled y DU, gyda ffigurau ar gyfer Cymru yn cael eu darparu bob dydd i Lywodraeth y DU
  • briffio gweinidogol a chynadleddau y wasg

Cywirdeb

Cesglir data yn ddyddiol trwy ffurflen ar-lein a ddatblygir ac a gynhelir gan DataCymru. Casgliad cyfanredol yw hwn yn hytrach na bod ar lefel disgyblion unigol. Dilysir y data yn erbyn ffurflenni blaenorol a holir unrhyw newidiadau sylweddol.

Gofynnir i awdurdodau lleol gyflwyno data erbyn 3pm bob diwrnod.

Mae'r casgliad data yn cwmpasu'r holl leoliadau y mae awdurdodau lleol yn eu defnyddio i ddarparu gofal plant yn ystod y pandemig coronafeirws. Nid oes rhaid o reidrwydd i'r lleoliadau hyn fod yn ysgolion. Gall awdurdodau lleol ddewis defnyddio cyfleusterau cymunedol eraill i ddarparu darpariaeth. Ar hyn o bryd nid yw'r data'n cynnwys unrhyw ddarpariaeth mewn ysgolion annibynnol.

Mae'r casgliad data yn cynnwys plant o unrhyw oedran.

Cyfrifir cyfraddau gan ddefnyddio data o gyfrifiad ysgolion Ionawr 2020. Sylwch fod yr enwaduron a ddefnyddir ar gyfer cyfanswm y plant yn yr ysgol a chyfanswm y staff, ond efallai y bydd plant a staff yn mynychu lleoliadau na fyddent fel arfer yn mynychu. Mae'r cyfraddau i fod i roi arwydd cyffredinol.

Ar adeg ei gyhoeddi, ni ddarparodd rhwng 2 a 5 awdurdod lleol y data ar gyfer rhai diwrnodau yn yr wythnos 22 i 26 Mehefin 2020. Defnyddiwyd data dirprwy fel bo’r angen.

Amseroldeb a phrydlondeb

Mae'r data yn y datganiad hwn yn darparu data ar gyfer yr wythnos ddiwethaf a chymariaethau a’r wythnos blaenorol.

Hygyrchedd ac eglurder

Mae’r datganiad ystadegol cyntaf hwn yn cael ei hysbysebu ymlaen llaw ac yna ei gyhoeddi ar yr adran Ystadegau ac Ymchwil wefan. Mae Taenlen Dogfen Agored yn cyd-fynd ag ef i ganiatáu i ddefnyddwyr gael mynediad uniongyrchol at y data tu ol i'r siartiau yn y datganiad hwn.

Cymharedd

Cyhoeddwyd data ar gyfer Lloegr am y tro cyntaf ar 21 Ebrill 2020.

Nid yw’r Alban na Gogledd Iwerddon yn cyhoeddi data.

Statws Ystadegau Gwladol

Nid yw’r ystadegau hyn yn Ystadegau Gwladol. Fodd bynnag, cyn bell ag sy’n bosib, meant wedi’u casglu a dilysu yn unol â'r pileri a'r egwyddorion yn y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau. Rydym yn parhau i ddatblygu'r broses casglu data a sicrhau ansawdd er mwyn gwella'r data.

Cynhyrchwyd yr ystadegau hyn yn gyflym mewn ymateb i ddigwyddiadau'r sy’n datblygu dros y byd. Mae'r Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau, ar ran Awdurdod Ystadegau'r DU, wedi eu hadolygu yn erbyn sawl agwedd allweddol o’r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau ac yn eu hystyried yn gyson â phileri'r Cod o Ddibynadwyedd, Ansawdd a Gwerth.

Llythyr gan y Cyfarwyddwr Rheoleiddio Cyffredinol yn cymeradwyo cyhoeddi’r ystadegau yma i'w gael ar wefan Awdurdod Ystadegau'r DU.

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol

Hanfod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yw gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’r Ddeddf yn sefydlu saith nod llesiant i Gymru sef Cymru fwy cyfartal, llewyrchus, cydnerth, iach a chyfrifol ar lefel fyd-eang, gyda chymunedau cydlynol a diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn  ffynnu. O dan adran (10)(1) o’r Ddeddf, rhaid i Weinidogion Cymru (a) gyhoeddi dangosyddion (“dangosyddion cenedlaethol” sy’n gorfod cael eu cymhwyso at ddibenion mesur cynnydd tuag at gyflawni’r nodau llesiant, a (b) gosod copi o’r dangosyddion cenedlaethol gerbron y Cynulliad Cenedlaethol. Cafodd y 46 o ddangosyddion cenedlaethol eu gosod ym Mawrth 2016.

Mae gwybodaeth am y dangosyddion, ynghyd â naratif ar gyfer pob un o'r nodau llesiant a'r wybodaeth dechnegol gysylltiedig ar gael yn adroddiad Llesiant Cymru.

Gwybodaeth bellach am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Gallai’r ystadegau a ddefnyddir yn y datganiad hwn ategu’r dangosyddion cenedlaethol a chael eu defnyddio gan fyrddau gwasanaethau lleol mewn perthynas â’u hasesiadau llesiant a’u cynlluniau llesiant lleol.

Diweddariad nesaf

Ar hyn o bryd, datganiad ystadegol wythnosol yw hwn. Fel arfer fyddwn yn cyhoeddi am 9:30yb ar ddydd Mawrth. Byddwn yn adolygu'r amlder yn unol ag newidiadau mewn anghenion defnyddwyr.

Bydd y datganiad nesaf ddydd Mawrth 7 Gorffennaf am 09:30yb. 

Hoffem gael eich adborth

Rydym yn croesawu unrhyw adborth am unrhyw agwedd ar yr ystadegau hyn. Anfonwch e-bost at ystadegau.ysgolion@llyw.cymru.

3. Manylion cyswllt

Ystadegydd: Stephen Hughes
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Ffôn: 0300 025 5050
E-bost: ystadegau.ysgolion@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099

SFR 67/2020