Neidio i'r prif gynnwy

Bydd Pont Menai yn cau ar gyfer gwaith cynnal a chadw hanfodol o ddydd Gwener 21 Hydref yn dilyn argymhellion diogelwch gan beirianwyr strwythurol.

Rhan o:
Cyhoeddwyd gyntaf:
21 Hydref 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae peirianwyr strwythurol wedi cadarnhau y dylai Pont Menai gau i unrhyw draffig er mwyn caniatáu i waith cynnal a chadw hanfodol gael ei wneud. Bydd hyn yn digwydd o 14:00 ddydd Gwener 21 Hydref.

Cafodd y cyhoeddiad ei wneud yn dilyn profion diweddar ar hangeri presennol y bont.

Fel rhan o waith parhaus UK Highways A55 i gynnal a chadw Pont Menai, nodwyd y byddai angen cynnal rhagor o brofion ar y bont yn ogystal â gosod hangeri newydd yn lle rhai o’r hen rai.

O ganlyniad i ymchwiliadau pellach, mae risgiau difrifol wedi’u nodi ac mae peirianwyr strwythurol wedi argymell cau Pont Menai i unrhyw draffig. Mae'r canfyddiadau arweiniodd at yr argymhelliad i gau'r bont yn cael eu hadolygu ar hyn o bryd, a gallai hynny gymryd hyd at bythefnos. Mae'r opsiynau sydd ar gael i ailagor y bont cyn gynted â phosibl wrthi’n cael eu hasesu.

Efallai y bydd angen cryfhau'r hangeri dros dro er mwyn sicrhau diogelwch ac uniondeb Pont Menai. Gallai'r rhaglen hon gymryd rhwng 14-16 wythnos, gyda'r bont yn ailagor ar ddechrau 2023.

Yn y cyfamser, bydd traffig yn cael ei ddargyfeirio at Bont Britannia.

Yn dilyn trafodaethau gydag UK Highways a’u harbenigwyr strwythurol, mae’r droedffordd ar draws y bont wedi’i hailagor i gerddwyr a beicwyr sy’n dod oddi ar eu beiciau.

Rhaid i bobl aros ar y llwybrau cerdded a bydd niferoedd yn gyfyngedig. Bydd Marshalls yn eu lle o ddydd Gwener, Hydref 21 tan ddydd Llun, Hydref 24 i reoli llif cerddwyr a bydd monitro yn cael ei roi ar waith i sicrhau cydymffurfiaeth wrth symud ymlaen.

Mae cynlluniau wedi’u trafod gyda phartneriaid gan gynnwys Llywodraeth Cymru, UK Highways A55, Asiant Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru, y Gwasanaethau Brys a'r awdurdodau lleol.

Mae Llywodraeth Cymru’n datblygu strategaethau pellach i gynyddu cadernid Pont Britannia i liniaru'r risg o orfod cau’r ddwy bont mewn amgylchiadau eithriadol. Yn ystod y pum mlynedd diwethaf, mae'r bont wedi bod ar gau i gerbydau ochrau uchel ar gyfartaledd saith gwaith y flwyddyn.

Dywedodd llefarydd ar ran UK Highways A55:

"Rydym wedi derbyn argymhelliad gan beirianwyr strwythurol i gau'r bont am resymau diogelwch. Rydym wedi trosglwyddo'r argymhelliad hwn i Lywodraeth Cymru ac yn gweithio'n agos â nhw i sicrhau bod diogelwch ac uniondeb Pont Menai yn cael eu cynnal.

"Er y bydd y mater hwn yn amharu ar bobl, rhaid i ni weithredu er budd diogelwch y cyhoedd. Ar hyn o bryd rydym yn adolygu'r canfyddiadau a arweiniodd at yr argymhelliad i gau ac yn asesu'r holl opsiynau sydd ar gael i ailagor y bont cyn gynted â phosibl fel y gall pobl ddefnyddio’r bont yn rheolaidd unwaith eto.”

Dywedodd Lee Waters, y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, sy'n gyfrifol am drafnidiaeth:

"Mae'r gwaith brys hwn yn cael ei wneud er mwyn diogelwch y cyhoedd. Nid oes modd ei osgoi yn anffodus, ond rydym yn gwbl ymwybodol o'r effaith y bydd yn ei gael ar bobl yn yr ardal leol.

"Rydym yn gweithio'n agos ag UK Highways i sicrhau bod y gwaith hwn yn cael ei wneud yn ddiogel ac mor gyflym â phosibl gyda chyn lleied o darfu â phosibl ar y gymuned leol."

Bydd Traffig Cymru yn rhoi diweddariadau rheolaidd ar Twitter Traffic Wales North & Mid (@TrafficWalesN) / Twitter ac ar eu gwefan Traffig Cymru.