Neidio i'r prif gynnwy

Atebion i gwestiynau cyffredin am Bont Menai.

Cyhoeddwyd gyntaf:
21 Hydref 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Beth sy'n digwydd?

Rydym wrthi'n adnewyddu Pont Menai ac yn gwella diogelwch.

Bydd Cam 2 y gwaith hwn yn dechrau ym mis Mawrth 2025. Gan ddibynnu ar y tywydd, bydd y gwaith hwn yn dod i ben erbyn diwedd mis Rhagfyr 2025. Bydd hyn yn sicrhau y bydd y bont yn barod ar gyfer ei phen-blwydd yn 200 oed yn 2026.

Bydd y Cam yma'n cynnwys:

  • peintio'r tanlawr, y parapets a'r berynnau mynediad
  • atgyweirio corbelau concrid
  • ail-raddnodi’r cyfrwy tir
  • uwchraddio goleuadau

A fydd y bont yn aros ar agor yn ystod cam 2?

Bydd. Bydd y bont yn parhau ar agor i gerbydau sy'n pwyso llai na 7.5 tunnell.

I wneud lle ar gyfer yr offer mawr sydd ei angen, bydd un lôn ac un droedffordd ar gau tra bod gwaith yn cael ei wneud. Bydd hyn yn digwydd ar y ddwy ochr yn eu tro.

Bydd rheolaeth traffig ar waith 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos, tra bo'r gwaith hwn yn cael ei wneud. Bydd goleuadau traffig yn cael eu gweithredu â llaw yn ystod yr oriau brig, er mwyn helpu i gadw cerbydau i symud mor effeithlon â phosibl.

Bydd cyfyngiad pwysau 7.5 tunnell llym hefyd yn ei le gydol y Cam. Unwaith y bydd y gwaith wedi'i gwblhau,  bydd y terfyn pwysau yn dod i ben.

Er mwyn cwblhau'r gwaith erbyn y dyddiad cau, bydd angen gwneud gwaith yn ystod gwyliau'r Pasg, hanner tymor yr ysgol a gwyliau'r haf. Ni fydd unrhyw waith yn cael ei wneud yn ystod gwyliau'r Nadolig nac ar wyliau banc.

A all cerbydau brys deithio dros Bont Menai yn ystod gwaith cam 2?

Dim ond cerbydau sy'n pwyso llai na 7.5 tunnell fydd yn gallu croesi'r bont grog yn ystod Cam 2. Pan fydd y gwaith wedi'i gwblhau, bydd y cyfyngiad pwysau yn dod i ben.

Beth sy'n digwydd os bydd Pont Britannia ar gau?

Mae'n anghyffredin iawn i Bont Britannia yr A55 gau. Os bydd yn cau, dim ond am ychydig oriau y mae hynny fel arfer.

Pan fydd gwyntoedd cryfion cynghorir rhai mathau o gerbydau i beidio â chroesi o dan rai amodau.

Yn dilyn adolygiad o'r strategaeth, mae cyfyngiadau cyflymder gwynt wedi'u newid ar gyfer rhai mathau o gerbydau. Felly dylai'r bont aros ar agor i fwy o gerbydau, yn amlach a bydd unrhyw gyfnodau cau mor fyr â phosib. Mae hyn wedi helpu cerbydau nwyddau trwm i barhau i groesi Pont Britannia yr A55 yn ystod tywydd garw.

Yn ystod gwaith Cam 2, bydd Pont Menai yn parhau i ganiatáu i gerbydau sy'n pwyso llai na 7.5 tunnell groesi'r bont.

Rydym yn ymchwilio i safleoedd pentyrru ar y tir mawr ac Ynys Môn a ddylai leddfu'r sefyllfa os bydd Pont Britannia ar gau yn llwyr.

Beth ddigwyddodd yn ystod cam 1?

Dechreuodd gwaith cam 1 i osod crogwyr newydd ar y bont ar 4 Medi 2023 ac fe'i cwblhawyd ym mis Hydref 2024.

Pwy sy’n gwneud y gwaith yma?

Mae'r gwaith yn cael ei wneud gan UK Highways A55 Ltd, sy'n gweithredu ac yn cynnal y bont ar ran Llywodraeth Cymru.

Pam caewyd Pont Menai ym mis Hydref 2022?

Yn dilyn y gwaith cynnal a chadw arfaethedig a'r argymhellion a nodwyd o Adroddiad Prif Arolygu 2019 i adnewyddu'r system baent ar y bont grog, cynhaliwyd dadansoddiad technegol manwl pellach. Nodwyd problem bosibl gyda hongwyr y bont. 

Yn sgil gwaith modelu pellach, nodwyd risgiau difrifol ac argymhellodd peirianwyr strwythurol y dylai'r bont gau ar unwaith i bob traffig.

Pa gymorth sydd ar gael i fusnesau?

Mae busnesau'n cael eu hannog i gael cymorth drwy ein gwasanaeth Busnes Cymru.

Mae llawer o fusnesau llai eisoes yn gymwys i gael rhyddhad ardrethi o 100% ym Mhorthaethwy ac nid ydynt yn talu ardrethi annomestig. Yn ystod gwaith Cam 1, nododd Cyngor Sir Ynys Môn 30 o fusnesau ychwanegol ym Mhorthaethwy a oedd yn gymwys i gael rhyddhad ardrethi o dan y cynllun rhyddhad ardrethi manwerthu, hamdden a lletygarwch. Gwahoddodd y Cyngor y busnesau hynny i wneud cais.

Os ydych yn credu y gallai eich busnes fod yn gymwys i gael rhyddhad ardrethi cysylltwch â Chyngor Sir Ynys Môn i drafod ymhellach. Mae rhagor o wybodaeth, gan gynnwys ffurflenni cais ar gael at wefan Cyngor Sir Ynys Môn.

Gall busnesau sy'n talu ardrethi annomestig fod yn gymwys i wneud cais i Asiantaeth y Swyddfa Brisio am ostyngiad dros dro mewn gwerth ardrethol. Am ragor o wybodaeth, ewch i GOV.UK.