Neidio i'r prif gynnwy

Rydym yn atgyweirio’r bont ac yn gwella diogelwch.

Statws:
Yn cael ei adeiladu
Rhanbarth / Sir:
y gogledd-orllewin
Dyddiad dechrau:
Medi 2023
Dyddiad gorffen:
Rhagfyr 2025 (yn amodol ar y tywydd)
Cyhoeddwyd gyntaf:
1 Mehefin 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Trosolwg

Pont Menai oedd pont grog haearn gyntaf y DU. Rydym yn atgyweirio’r bont er mwyn sicrhau ei bod mewn cyflwr da a’i bod yn ddiogel i bawb ei defnyddio. 

Mae’r gwaith yma’n digwydd mewn 2 gam.

Mae cam 1 wedi’i gwblhau a bydd cam 2 yn dechrau ym mis Mawrth 2025.

Ein nod yw cwblhau’r gwaith erbyn pen-blwydd y bont yn 200 oed yn 2026. 

Gweler yr A5 Pont Menai: cwestiynau cyffredin am yr wybodaeth ddiweddaraf.

Beth ydyn ni’n ei wneud

Yn ystod Cam 1 gwnaeth UK Highways A55 Ltd osod crogrodenni newydd, gan sicrhau bod y bont yn ddiogel i yrwyr a cherddwyr. 

Bydd y gwaith ar gam 2 yn cynnwys:

  • peintio'r tanlawr, y parapets a'r berynnau mynediad
  • atgyweirio corbelau concrid
  • ail-raddnodi’r cyfrwy tir
  • uwchraddio goleuadau

Y camau nesaf

Bydd y gwaith ar gam 2 yn cychwyn ym mis Mawrth 2025.

Bydd cyfyngiadau traffig mewn grym gydol cyfnod y gwaith. 

Mae hyn yn cynnwys cyfyngiad pwysau o 7.5t ar gyfer cerbydau, gan gynnwys cerbydau’r gwasanaethau brys. 

Mae’n rhaid i yrwyr gadw at y cyfyngiadau pwysau a dylent gynllunio llwybr gwahanol os bydd angen.

Mae’r manylion llawn ar gael ar A5 Pont Menai: cwestiynau cyffredin.

Cyhoeddiadau a hysbysiadau